- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
15.—(1) Rhaid i swyddog atebol—
(a)sefydlu a gweithredu, neu sicrhau bod ei gorff dynodedig yn sefydlu a gweithredu, trefniadau priodol i gofnodi pryderon a fynegwyd ynghylch digwyddiadau a oedd yn ymwneud â, neu a allai fod wedi ymwneud â rheoli neu ddefnyddio cyffuriau a reolir yn amhriodol gan berson sydd, o ran ei gorff dynodedig, yn unigolyn perthnasol; a
(b)sicrhau bod unrhyw gorff neu berson sy'n gweithredu ar ran ei gorff dynodedig, neu'n darparu gwasanaethau o dan drefniadau a wneir gydag ef, yn sefydlu ac yn gweithredu trefniadau priodol i gofnodi pryderon a fynegwyd ynghylch digwyddiadau a oedd yn ymwneud â, neu a allai fod wedi ymwneud â rheoli neu ddefnyddio cyffuriau a reolir yn amhriodol gan berson sydd, o ran ei gorff dynodedig, yn unigolyn perthnasol.
(2) Rhaid i'r swyddog atebol sicrhau, fel rhan o'r trefniadau o dan baragraff (1), bod cofnodion digonol yn cael eu llunio, a rhaid iddynt gynnwys (ond heb gael eu cyfyngu i hynny), fel y bo'n briodol—
(a)y dyddiad pan roddwyd gwybod am y pryder i'r swyddog atebol;
(b)unrhyw ddyddiadau pan ddigwyddodd y materion a arweiniodd ar y pryder hwnnw;
(c)manylion ynghylch natur y pryder;
(ch)manylion am yr unigolyn perthnasol y mynegwyd y pryder amdano;
(d)manylion am y person, neu'r corff, a roes wybod am y pryder;
(dd)manylion o unrhyw gamau a gymrwyd gan y corff dynodedig (neu unrhyw gorff neu berson sy'n gweithredu ar ran y corff dynodedig, neu'n darparu gwasanaethau o dan drefniadau a wneir gyda'r corff dynodedig) ynghylch y pryder;
(e)asesiad a ddylid datgelu gwybodaeth ynghylch y pryder i gorff cyfrifol arall o dan reoliad 25 neu 26; a
(f)os yw gwybodaeth ynghylch y pryder yn cael ei ddatgelu i gorff cyfrifol arall o dan reoliad 25 neu 26, manylion unrhyw ddatgeliad o'r fath, gan gynnwys enw'r corff cyfrifol y gwnaed y datgeliad iddo a natur yr wybodaeth a ddatgelwyd i'r corff.
(3) Ceir cadw unrhyw gofnod o bryder mewn fformat ar bapur neu'n electronig.
(4) Rhaid i'r trefniadau o dan baragraff (1) gynnwys trefniadau sy'n cyfyngu mynediad at y cofnodion—
(a)i'r swyddog atebol a'i staff; a
(b)i eraill y mae angen iddynt gael mynediad at ddibenion sicrhau rheoli neu ddefnyddio cyffuriau a reolir yn ddiogel.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: