- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
ADDYSG, CYMRU
Gwnaed
26 Chwefror 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
27 Chwefror 2008
Yn dod i rym
19 Mawrth 2008
Mae Gweinidogion Cymru, ar ôl ymgynghori, yn unol ag adran 3(7) o Ddeddf Addysg (Ysgolion) 1997(1), â'r cyrff sy'n ymddangos iddynt yn rhai priodol a chynrychioliadol o ysgolion sydd o dan adran 2(1) o'r Ddeddf honno yn darparu lleoedd drwy gymorth, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 3(1), (2), (5) a (9) o'r Ddeddf honno(2):
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cymorth Lleoedd) (Diwygio) (Cymru) 2008 a deuant i rym ar 19 Mawrth 2008.
(2) Mae rheoliad 3 yn gymwys o ran Cymru mewn cysylltiad â chwestiwn lleddfu perthnasol.
(3) Ym mharagraff (2) uchod, ystyr “cwestiwn lleddfu perthnasol” yw cwestiwn lleddfu o dan Reoliadau Addysg (Cymorth Lleoedd) 1997 ac—
(a)sy'n codi mewn cysylltiad â blwyddyn ysgol sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2007; a
(b)nad yw wedi'i benderfynu ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym.
2. Ar ddiwedd paragraff (3) o reoliad 1 o Reoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Diwygio) (Cymru) 2006(3), mewnosoder “cyhyd ag nad yw'r cwestiwn yn un y cyfeirir ato ym mharagraff (3) rheoliad 1 o Reoliadau Addysg (Cymorth Lleoedd) (Diwygio) (Cymru) 2008”.
3.—(1) Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth Lleoedd) 1997(4) wedi'u diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 10(4) a (6), yn lle “£1,625” ym mhob man y mae'n ymddangos, rhodder “£1,675”.
(3) Ym mharagraff 1 o Atodlen 2, yn lle “£12,470”, rhodder “£12,864”.
(4) Yn lle'r tabl sy'n dilyn paragraff 2(1) o'r Atodlen honno, rhodder y tabl canlynol—
(1) Part of relevant income to which specified percentage applies | (2) Only assisted pupil (%) | (3) Each of two assisted pupils (%) | Each of three assisted pupils (%) |
---|---|---|---|
That part (if any) which exceeds £12,698 but does not exceed £13,808. | 9 | 6.75 | 5.25 |
That part (if any) which exceeds £13,808 but does not exceed £14,935. | 12 | 9 | 7 |
That part (if any) which exceeds £14,935 but does not exceed £17,169. | 15 | 11.25 | 8.75 |
That part (if any) which exceeds £17,169 but does not exceed £20,616. | 21 | 15.75 | 12.25 |
That part (if any) which exceeds £20,616 but does not exceed £25,110. | 24 | 18 | 14 |
That part (if any) which exceeds £25,110 | 33 | 24.75 | 19.25 |
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
26 Chwefror 2008
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau Addysg (Cymorth Lleoedd) 1997 (“Rheoliadau 1997”) .
Mae'r Rheoliadau yn gymwys ynghylch cwestiynau lleddfu sy'n codi mewn cysylltiad â blwyddyn ysgol 2007/08 ac sydd heb eu penderfynu ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym. Mae cwestiwn lleddfu yn gwestiwn sy'n ymwneud â hawl rhiant o dan Reoliadau 1997 i gael lleddfiad ar y ffioedd sy'n daladwy mewn cysylltiad ag addysg plentyn mewn ysgol annibynnol.
Mae'r gostyngiadau sydd i'w gwneud mewn incwm perthnasol rhieni mewn cysylltiad â pherthnasau dibynnol yn unol â rheoliad 10(4) a (6) o Reoliadau 1997 wedi'u cynyddu o £1,625 i £1,675.
Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio'r prawf moddion ar gyfer lleddfu ar ffioedd: £12,864 yn lle £12,470 yw lefel yr incwm sydd wedi'i phennu i ffioedd gael eu lleddfu'n gyfan gwbl neu'n rhannol arni neu islaw iddi, gyda chodiadau cyfatebol o ran graddau'r lleddfu pan fo'r incwm perthnasol yn uwch na'r swm hwnnw.
1997 p. 59. Diwygiwyd adran 3 gan adran 130 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p. 31).
Yr oedd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 3 yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o ran Cymru: gweler erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 a'r cofnod mewn cysylltiad â Deddf Addysg (Ysgolion) 1997 yn Atodlen 1 iddo (O.S. 1999/672). Trosglwyddwyd y swyddogaethau wedi hynny i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).
O.S. 1997/1968. Yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1998/1726, O.S. 1998/1966, O.S. 1999/1505, O.S. 2000/1938 (Cy. 136), O.S. 2001/2680 (Cy. 221), O.S. 2002/1879 (Cy. 188), O.S. 2003/1854 (Cy. 204), O.S. 2004/1812 (Cy. 197), O.S. 2005/2838 (Cy. 202) ac O.S. 2006/3097 (Cy.281).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: