Search Legislation

Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) 2008

Newidiadau dros amser i: Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) 2008 (heb Atodlenni)

 Help about opening options

Alternative versions:

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) 2008. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.

View outstanding changes

Changes and effects yet to be applied to :

Changes and effects yet to be applied to the whole Instrument associated Parts and Chapters:

Whole provisions yet to be inserted into this Instrument (including any effects on those provisions):

Enwi, cychwyn a chymhwysoLL+C

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) 2008 a daw i rym ar 18 Ebrill 2008.

(2Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i bob awdurdod perthnasol yng Nghymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Ergl. 1 mewn grym ar 18.4.2008, gweler ergl. 1(1)

DehongliLL+C

2.  Yn y Gorchymyn hwn —

mae i “aelod” (“member”) yr ystyr a geir yn Rhan 1 o'r cod enghreifftiol yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn;

mae i “aelod cyfetholedig” (“co-opted member”) yr ystyr a geir yn Rhan 1 o'r cod enghreifftiol yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn;

mae i “awdurdod perthnasol” (“relevant authority”) yr ystyr a geir yn Rhan 1 o'r cod enghreifftiol yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn; ac

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 2000.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Ergl. 2 mewn grym ar 18.4.2008, gweler ergl. 1(1)

Cod Ymddygiad EnghreifftiolLL+C

3.—(1Ceir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn god enghreifftiol o ran yr ymddygiad y disgwylir i aelodau o awdurdod perthnasol ei arddel.

(2At ddibenion adran 50(4) o'r Ddeddf, mae darpariaethau'r cod enghreifftiol i'w hystyried yn rhai gorfodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Ergl. 3 mewn grym ar 18.4.2008, gweler ergl. 1(1)

Darpariaethau i'w datgymhwysoLL+C

4.—(1Os bydd awdurdod perthnasol yn gyngor sir, cyngor bwrdeistref sirol neu gyngor cymuned, neu'n awdurdod tân ac achub sydd wedi mabwysiadu cod ymddygiad neu os bydd y cyfryw god yn gymwys iddo, datgymhwysir y canlynol o ran yr awdurdod hwnnw, os ydynt yn gymwys i'r awdurdod perthnasol—

(a)adrannau 94 i 98 a 105 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(1); a

(b)unrhyw reoliadau a wnaed neu god a ddyroddwyd o dan adrannau 19 a 31 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989(2).

(2Os bydd awdurdod perthnasol yn awdurdod Parc Cenedlaethol sydd wedi mabwysiadu cod ymddygiad neu os bydd y cyfryw god yn gymwys iddo, datgymhwysir y canlynol o ran yr awdurdod hwnnw, os yw'n gymwys i'r awdurdod perthnasol —

(a)paragraffau 9 a 10 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Amgylchedd 1995(3); a

(b)unrhyw reoliadau a wnaed neu god a ddyroddwyd o dan adrannau 19 a 31 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989.

(3Bydd adran 16(1) o Ddeddf Dehongli 1978(4) yn gymwys i ddatgymhwysiad o dan baragraff (1) neu baragraff (2) uchod fel pe bai'n ddiddymiad, gan Ddeddf, o ddeddfiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Ergl. 4 mewn grym ar 18.4.2008, gweler ergl. 1(1)

DirymuLL+C

5.  Dirymir y gorchmynion canlynol:

(a)Gorchymyn Ymddygiad Aelodau (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) 2001(5);

(b)Gorchymyn Ymddygiad Aelodau (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Diwygio) (Cymru) 2004(6); ac

(c)Gorchymyn Ymddygiad Aelodau (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2004(7).

Gwybodaeth Cychwyn

I5Ergl. 5 mewn grym ar 18.4.2008, gweler ergl. 1(1)

Darpariaethau Trosiannol ac ArbedionLL+C

6.  Mae'r gorchmynion y cyfeirir atynt yn erthygl 5 yn parhau i fod yn effeithiol at ddibenion y canlynol ac at ddibenion sy'n gysylltiedig â'r canlynol —

(a)ymchwilio i unrhyw honiad ysgrifenedig o dan Ran 3 o'r Ddeddf, pan fo'r honiad hwnnw'n ymwneud ag ymddygiad a ddigwyddodd cyn y dyddiad pryd, yn unol ag adran 51 o'r Ddeddf(8)

(i)y bydd yr awdurdod perthnasol yn mabwysiadu cod ymddygiad sy'n ymgorffori darpariaethau gorfodol y cod ymddygiad enghreifftiol yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn yn lle ei god ymddygiad presennol;

(ii)y bydd yr awdurdod perthnasol yn diwygio'i god ymddygiad presennol i ymgorffori darpariaethau gorfodol y cod ymddygiad enghreifftiol a geir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn; neu

(iii)y bydd darpariaethau gorfodol y cod ymddygiad enghreifftiol a geir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn yn gymwys i aelodau neu aelodau cyfetholedig o'r awdurdod perthnasol o dan adran 51(5)(b) o'r Ddeddf honno;

(b)dyfarnu (neu benderfynu) ar fater a godir mewn honiad o'r fath; ac

(c)apêl yn erbyn penderfyniad pwyllgor safonau, tribiwnlys achos interim neu dribiwnlys achos mewn perthynas â honiad o'r fath.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Ergl. 6 mewn grym ar 18.4.2008, gweler ergl. 1(1)

Brian Gibbons

Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

20 Mawrth 2008

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources