- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
9.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), os oes gan ymgymerydd le i gredu y bydd hyd y gwaith yn fwy na'r cyfnod rhagnodedig, rhaid i'r ymgymerydd hwnnw gyflwyno i'r awdurdod priffyrdd hysbysiad sy'n cynnwys amcangyfrif o hyd tebygol y gwaith—
(a)yn achos gwaith mewn cysylltiad â gosodiad dechreuol cyfarpar yn y stryd yn unol â thrwydded gwaith stryd, ynghyd â'r cais am y drwydded;
(b)yn achos gwaith (nad yw'n waith argyfwng) ynghyd ag—
(i)yr hysbysiad o dan adran 55 o Ddeddf 1991 (hysbysiad o ddyddiad cychwyn), neu
(ii)yr hysbysiad o dan baragraff 2(1)(d) o Atodlen 3A i'r Ddeddf honno (hysbysiad o waith arfaethedig)(1); neu
(c)yn achos gwaith argyfwng, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol wedi i'r gwaith gychwyn.
(2) Cymerir bod yr awdurdod wedi cytuno bod cyfnod yr hyd a gynhwysir mewn hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (1) yn un rhesymol oni bai eu bod yn cyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i'r ymgymerydd, o fewn y cyfnod perthnasol a nodir ym mharagraff (3), i'r perwyl eu bod yn gwrthwynebu'r amcangyfrif.
(3) Y cyfnod perthnasol y cyfeirir ato ym mharagraff (2) yw—
(a)5 niwrnod, yn achos gwaith mawr neu waith safonol, a
(b)2 ddiwrnod, yn achos mân waith neu waith di-oed,
gan gychwyn ar y dyddiad y mae'r awdurdod yn derbyn yr hysbysiad sy'n cynnwys yr amcangyfrif.
(4) Rhaid i hysbysiad o wrthwynebiad a gyflwynir gan awdurdod o dan baragraff (2) gynnwys eu hamcangyfrif eu hunain o gyfnod rhesymol ar gyfer hyd y gwaith.
(5) Ni fydd y rheoliad hwn yn gymwys pan fo ymgymerydd yn bwriadu cyflawni gwaith stryd y mae'n rhaid sicrhau trwydded gan Awdurdod Trwyddedau mewn perthynas ag ef.
1991 p.22. Cafodd Atodlen 3A ei mewnosod gan Ddeddf Rheoli Traffig 2004 (p.18), adran 52(2).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: