Fersiwn wedi'i ddisodliFersiwn wedi ei ddisodli: 31/01/2020
Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 14/12/2019.
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009, deuant i rym ar 25 Ionawr 2010 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 1 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1
2. Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “yr Asiantaeth” (“the Agency”) yw'r Asiantaeth Safonau Bwyd;
mae i “awdurdod bwyd” (“food authority”) yr ystyr sydd iddo yn rhinwedd adran 5(1A) o'r Ddeddf;
ystyr “awdurdod bwyd anifeiliaid” (“feed authority”) yw'r awdurdod y mae'n ofynnol o dan adran 67(1A) o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970(1) iddo orfodi'r Ddeddf honno o fewn ei ardal neu ei ddosbarth yn ôl fel y digwydd;
ystyr “awdurdod cymwys” (“competent authority”) ac eithrio yn rheoliadau 23 a 24, yw awdurdod sydd, yn rhinwedd rheoliad 3, yn cael ei ddynodi at ddibenion unrhyw un neu rai o ddarpariaethau [F1Rheoliad 2017/625];
ystyr “awdurdod gorfodi perthnasol” (“relevant enforcement authority”) yw corff sydd, yn rhinwedd rheoliad 17, yn cael ei wneud yn gyfrifol am weithredu a gorfodi unrhyw ddarpariaeth yn Rhan 2 o'r Rheoliadau hyn;
[F2mae i “Cyfarwyddeb 2004/41” (“Directive 2004/41”), “Penderfyniad 2007/275” (“Decision 2007/275”), “Rheoliad 999/2001” (“Regulation 999/2001”), “Rheoliad 178/2002” (“Regulation 178/2002”), “Rheoliad 852/2004” (“Regulation 852/2004”), “Rheoliad 853/2004” (“Regulation 853/2004”), “Rheoliad 1688/2005” (“Regulation 1668/2005”), “Rheoliad 2073/2005” (“Regulation 2073/2005”), “Rheoliad 2074/2005” (“Regulation 2074/2005”), “Rheoliad 2017/185” (“Regulation 2017/185”), “Rheoliad 2017/625” (“Regulation 2017/625”), “Rheoliad 2018/329” (“Regulation 2018/329”), “Rheoliad 2018/631” (“Regulation 2018/631”), “Rheoliad 2019/66” (“Regulation 2019/66”), “Rheoliad 2019/478” (“Regulation 2019/478”), “Rheoliad 2019/530” (“Regulation 2019/530”), “Rheoliad 2019/624” (“Regulation 2019/624”), “Rheoliad 2019/625” (“Regulation 2019/625”), “Rheoliad 2019/626” (“Regulation 2019/626”), “Rheoliad 2019/627” (“Regulation 2019/627”), “Rheoliad 2019/628” (“Regulation 2019/628”), “Rheoliad 2019/723” (“Regulation 2019/723”), “Rheoliad 2019/1012” (“Regulation 2019/1012”), “Rheoliad 2019/1013” (“Regulation 2019/1013”), “Rheoliad 2019/1014” (“Regulation 2019/1014”), “Rheoliad 2019/1081” (“Regulation 2019/1081”), “Rheoliad 2019/1602” (“Regulation 2019/1602”), “Rheoliad 2019/1666” (“Regulation 2019/1666”), “Rheoliad 2019/1715” (“Regulation 2019/1715”), “Rheoliad 2019/1793” (“Regulation 2019/1793”) a “Rheoliad 2019/1873” (“Regulation 2019/1873”), yr ystyron a roddir iddynt yn ôl eu trefn yn Atodlen 1;]
mae i “cyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol” (“relevant feed law”) yr ystyr a roddir iddo yn Atodlen 2;
mae i “cyfraith bwyd berthnasol” (“relevant food law”) yr ystyr a roddir iddo yn Atodlen 3;
mae i “cynhyrchu sylfaenol” yr ystyr sydd i “primary production” yn Rheoliad 852/2004;
[F3ystyr “y Darpariaethau Mewnforio” (“the Import Provisions”) yw Rhan 3 o’r Rheoliadau hyn, Pennod 5 o Deitl 2 o Reoliad 2017/625 a phecyn Rheoliad 2017/625 i’r graddau y mae ef ac y maent hwy yn gymwys i gynnyrch fel y’i diffinnir yn rheoliad 22;]
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990(2);
mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys unrhyw sefydliad, unrhyw le, cerbyd, stondin neu adeiladwaith symudol ac unrhyw long neu awyren;
[F4ystyr “pecyn Rheoliad 2017/625” (“the Regulation 2017/625 package”) yw “Rheoliad 2018/329”, “Rheoliad 2018/631”, “Rheoliad 2019/66”, “Rheoliad 2019/478”, “Rheoliad 2019/530”, “Rheoliad 2019/624”, “Rheoliad 2019/625”, “Rheoliad 2019/626”, “Rheoliad 2019/627”, “Rheoliad 2019/628”, “Rheoliad 2019/723”, “Rheoliad 2019/1012”, “Rheoliad 2019/1013”, “Rheoliad 2019/1014”, “Rheoliad 2019/1081”, “Rheoliad 2019/1602”, “Rheoliad 2019/1666”, “Rheoliad 2019/1715”, “Rheoliad 2019/1793” a “Rheoliad 2019/1873”;]
ystyr “y Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol” (“the Offici l Control Regulations”) yw'r Rheoliadau hyn a [F5Rheoliad 2017/625 neu becyn Rheoliad 2017/625]; ac
ystyr “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”)—
o ran awdurdod cymwys, yw unrhyw berson (boed yn swyddog i'r awdurdod neu beidio) sydd wedi'i awdurdodi'n ysgrifenedig gan yr awdurdod at ddibenion rheoliad 14; a
o ran awdurdod gorfodi perthnasol, yw unrhyw berson (boed yn swyddog i'r awdurdod neu beidio) sydd wedi'i awdurdodi'n ysgrifenedig gan yr awdurdod, naill ai'n gyffredinol neu'n arbennig, i weithredu mewn materion sy'n codi o dan Ran 2 o'r Rheoliadau hyn mewn perthynas â'i gyfrifoldebau gorfodi o dan reoliad 17.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae i unrhyw ymadrodd heblaw ymadrodd a ddiffiniwyd ym mharagraff (1), ac y defnyddir yr ymadrodd Saesneg cyfatebol yn y Rheoliadau hyn ac yn y Ddeddf yr ystyr a roddir i'r ymadrodd Saesneg cyfatebol hwnnw yn y Ddeddf.
(3) Onid yw'n ymddangos bod bwriad i'r gwrthwyneb, mae i unrhyw ymadrodd a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac y defnyddir yr ymadrodd Saesneg cyfatebol yn y Rheoliadau hyn ac yn Rheoliad 178/2002, [F6Rheoliad 2017/625 neu unrhyw un o’r Rheoliadau UE ym mhecyn Rheoliad 2017/625] yr ystyr a roddir i'r ymadrodd Saesneg cyfatebol hwnnw yn Rheoliad 178/2002, [F6Rheoliad 2017/625 neu unrhyw un o’r Rheoliadau UE ym mhecyn Rheoliad 2017/625] yn ôl fel y digwydd.
(4) Pan ddyrennir unrhyw swyddogaethau o dan y Ddeddf—
(a)drwy orchymyn o dan adran 2F7...o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(3), i awdurdod iechyd porthladd; neu
(b)drwy orchymyn o dan adran 6 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1936(4), i gyd-fwrdd ar gyfer dosbarth unedig,
dehonglir unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at awdurdod bwyd, i'r graddau y mae'n ymwneud â'r swyddogaethau hynny, fel cyfeiriad at yr awdurdod y'u dyrennir iddo.
(5) Yn y Rheoliadau hyn, mae unrhyw gyfeiriad at un o offerynnau'r UE a ddiffinnir yn Atodlen 1 yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y'i diwygiwyd o dro i dro.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn rhl. 2(1) wedi eu hamnewid (14.12.2019) gan Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2019 (O.S. 2019/1482), rhlau. 1(1), 9(a)(i)
F2Geiriau yn rhl. 2(1) wedi eu hamnewid (14.12.2019) gan Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2019 (O.S. 2019/1482), rhlau. 1(1), 9(a)(ii)
F3Geiriau yn rhl. 2(1) wedi eu hamnewid (14.12.2019) gan Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2019 (O.S. 2019/1482), rhlau. 1(1), 9(a)(iii)
F4Geiriau yn rhl. 2(1) wedi eu mewnosod (14.12.2019) gan Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2019 (O.S. 2019/1482), rhlau. 1(1), 9(a)(v)
F5Geiriau yn rhl. 2(1) wedi eu hamnewid (14.12.2019) gan Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2019 (O.S. 2019/1482), rhlau. 1(1), 9(a)(iv)
F6Geiriau yn rhl. 2(3) wedi eu hamnewid (C.) (14.12.2019) gan Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2019 (O.S. 2019/1482), rhlau. 1(1), 9(b)
F7Geiriau yn rhl. 2(4)(a) wedi eu hepgor (C.) (23.11.2010) yn rhinwedd Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Cymru) 2010 (O.S. 2010/2652), rhlau. 1, 16(2)
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 2 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1
3.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (5), dynodir unrhyw gorff a bennir yng Ngholofn 1 o Atodlen 4 yn awdurdod cymwys at ddibenion darpariaethau [F8Rheoliad 2017/625] a nodir yn y cofnod cyfatebol yng Ngholofn 2 o'r Atodlen honno i'r graddau y mae'r darpariaethau hynny'n gymwys o ran cyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol.
(2) Pan fo'r awdurdod bwyd anifeiliaid wedi'i ddynodi'n awdurdod cymwys yn unol â pharagraff (1) mae'r dynodiad yn ymestyn i'w ardal neu ei ddosbarth yn unig, yn ôl fel y digwydd.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraffau (4) i (6), dynodir unrhyw gorff a bennir yng Ngholofn 1 o Atodlen 5 yn awdurdod cymwys at ddibenion darpariaethau [F9Rheoliad 2017/625] a nodir yn y cofnod cyfatebol yng Ngholofn 2 o'r Atodlen honno i'r graddau y mae'r darpariaethau hynny'n gymwys o ran cyfraith bwyd berthnasol.
(4) Pan fo'r awdurdod bwyd wedi'i ddynodi'n awdurdod cymwys yn unol â pharagraff (3) mae'r dynodiad yn ymestyn i'w ardal yn unig.
F10(5) . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(6) Pan fo'r Asiantaeth wedi'i dynodi'n awdurdod cymwys yn unol â pharagraff (3) at ddibenion [F11Erthygl 148 o Reoliad 2017/625, mae’r dynodiad yn ymestyn] dim ond i'r gweithrediadau hynny y mae'r Asiantaeth yn gweithredu ac yn gorfodi Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006 mewn perthynas â hwy yn rhinwedd rheoliad 5(2) o'r Rheoliadau hynny.
Diwygiadau Testunol
F8Geiriau yn rhl. 3(1) wedi eu hamnewid (C.) (14.12.2019) gan Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2019 (O.S. 2019/1482), rhlau. 1(1), 10(a)
F9Geiriau yn rhl. 3(3) wedi eu hamnewid (C.) (14.12.2019) gan Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2019 (O.S. 2019/1482), rhlau. 1(1), 10(b)
F10Rhl. 3(5) wedi ei hepgor (C.) (14.12.2019) yn rhinwedd Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2019 (O.S. 2019/1482), rhlau. 1(1), 10(c)
F11Geiriau yn rhl. 3(6) wedi eu hamnewid (C.) (14.12.2019) gan Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2019 (O.S. 2019/1482), rhlau. 1(1), 10(d)
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 3 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1
4.—(1) Er mwyn galluogi awdurdodau cymwys, awdurdodau OFFC eraill ac Aelod-wladwriaethau i gyflawni'r rhwymedigaethau a osodwyd arnynt gan [F12Reoliad 2017/625] caiff yr awdurdodau cymwys gyfnewid ymhlith ei gilydd neu ddarparu i awdurdodau OFFC eraill unrhyw wybodaeth y maent wedi'i chael wrth weithredu a gorfodi cyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol neu gyfraith bwyd berthnasol.
(2) Er mwyn gweithredu a gorfodi cyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol neu gyfraith bwyd berthnasol, caiff awdurdodau cymwys gyfnewid ymhlith ei gilydd unrhyw wybodaeth y maent wedi'i chael wrth weithredu a gorfodi cyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol neu gyfraith bwyd berthnasol.
(3) Caiff awdurdodau cymwys rannu gwybodaeth y maent wedi'i chaelawrth weithredu a gorfodi cyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol neu gyfraith bwyd berthnasol gyda'r cyrff sy'n gweithredu ac yn gorfodi cyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol neu gyfraith bwyd berthnasol yn Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban er mwyn hwyluso gweithredu a gorfodi'r gyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol neu'r gyfraith bwyd berthnasol yn y gwledydd hynny.
(4) Mae paragraffau (1), (2) a (3) heb ragfarn i unrhyw bŵer arall sydd gan awdurdodau cymwys i ddatgelu gwybodaeth drwy ddeddfwriaeth [F13UE] neu odani.
(5) At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “awdurdodau OFFC eraill” yw awdurdodau a ddynodwyd yn y Deyrnas Unedig yn awdurdodau cymwys at ddibenion [F14Rheoliad 2017/625] heblaw'r awdurdodau cymwys a ddynodwyd o dan y Rheoliadau hyn.
Diwygiadau Testunol
F12Geiriau yn rhl. 4(1) wedi eu hamnewid (14.12.2019) gan Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2019 (O.S. 2019/1482), rhlau. 1(1), 11(a)
F13Gair yn rheoliadau a amnewidiwyd (22.4.2011) gan Orchymyn Cytuniad Lisbon (Newidiadau mewn Terminoleg) 2011 (O.S. 2011/1043), ergl. 2, 10 (gyda ergl. 8(3))
F14Geiriau yn rhl. 4(5) wedi eu hamnewid (C.) (14.12.2019) gan Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2019 (O.S. 2019/1482), rhlau. 1(1), 11(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 4 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1
5.—(1) Er mwyn galluogi awdurdodau cymwys ac Aelod-wladwriaethau i gyflawni'r rhwymedigaethau a osodwyd arnynt gan [F15Reoliad 2017/625] ac er mwyn gweithredu a gorfodi cyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol neu gyfraith bwyd berthnasol, caiff awdurdod cymwys ei gwneud yn ofynnol i [F16gorff dirprwyedig]—
(a)darparu i'r awdurdod cymwys unrhyw wybodaeth y mae ganddo achos rhesymol dros gredu bod y [F16corff dirprwyedig] yn gallu ei rhoi; a
(b)trefnu bod unrhyw gofnodion y mae ganddo achos rhesymol dros gredu eu bod gan y [F16corff dirprwyedig] neu eu bod fel arall o dan ei reolaeth ar gael i'r awdurdod cymwys i'w harchwilio ganddo (ac, os ydynt yn cael eu cadw ar ffurf gyfrifiadurol, trefnu eu bod ar gael ar ffurf ddarllenadwy).
(2) Caiff yr awdurdod cymwys gopïo unrhyw gofnodion y trefnir eu bod ar gael iddo o dan baragraff (1)(b).
(3) Mae person sydd—
(a)yn methu heb esgus rhesymol â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad a osodir o dan baragraff (1); neu
(b)gan honni ei fod yn cydymffurfio â gofyniad o'r fath yn rhoi gwybodaeth y mae'n gwybod ei bod yn ffug neu'n gamarweiniol mewn unrhyw fanylyn o bwys neu sydd yn ddi-hid yn rhoi gwybodaeth sy'n ffug neu'n gamarweiniol mewn unrhyw fanylyn o bwys,
yn euog o dramgwydd.
(4) At ddibenion paragraff (1), mae'r term “ [F17corff dirprwyedig] ” yn cynnwys unrhyw aelod, swyddog neu gyflogai i [F17gorff dirprwyedig].
Diwygiadau Testunol
F15Geiriau yn rhl. 5(1) wedi eu hamnewid (14.12.2019) gan Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2019 (O.S. 2019/1482), rhlau. 1(1), 12(a)(ii)
F16Geiriau yn rhl. 5(1) wedi eu hamnewid (14.12.2019) gan Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2019 (O.S. 2019/1482), rhlau. 1(1), 12(a)(i)
F17Geiriau yn rhl. 5(4) wedi eu hamnewid (C.) (14.12.2019) gan Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2019 (O.S. 2019/1482), rhlau. 1(1), 12(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I5Rhl. 5 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1
6.—(1) Er mwyn cyfarwyddo awdurdodau bwyd anifeiliaid ac awdurdodau bwyd caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi codau o arferion a argymhellir o ran y canlynol—
(a)swyddogaethau a roddir i'r awdurdodau hynny yn rhinwedd eu swydd fel awdurdodau cymwys drwy [F18Reoliad 2017/625] neu odano; neu
(b)gweithredu a gorfodi'r Darpariaethau Mewnforio;
a rhaid i unrhyw god o'r fath gael ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar ôl ei ddyroddi.
(2) Caiff yr Asiantaeth, ar ôl ymgynghori â Gweinidogion Cymru, roi cyfarwyddyd i awdurdod bwyd anifeiliaid neu awdurdod bwyd yn ei gwneud yn ofynnol iddynt gymryd unrhyw gamau penodedig er mwyn cydymffurfio â chod a ddyroddir o dan y rheoliad hwn.
(3) Wrth arfer y swyddogaethau a roddwyd arnynt fel awdurdodau cymwys drwy [F19Reoliad 2017/625] neu odano ac wrth iddynt weithredu a gorfodi'r Darpariaethau Mewnforio, rhaid i bob awdurdod bwyd anifeiliaid a phob awdurdod bwyd—
(a)rhoi sylw i unrhyw ddarpariaeth berthnasol mewn unrhyw god o'r fath; a
(b)cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd a roddir o dan y rheoliad hwn ac sy'n ei gwneud yn ofynnol iddynt gymryd unrhyw gamau penodedig er mwyn cydymffurfio â chod o'r fath.
(4) Mae unrhyw gyfarwyddyd o dan baragraff (2), ar gais yr Asiantaeth, yn orfodadwy drwy orchymyn mandadol.
(5) Rhaid i'r Asiantaeth ymgynghori â Gweinidogion Cymru cyn gwneud cais o dan baragraff (4).
(6) Cyn dyroddi unrhyw god o dan y rheoliad hwn, bydd Gweinidogion Cymru yn rhoi sylw i unrhyw gyngor perthnasol a roddir gan yr Asiantaeth.
Diwygiadau Testunol
F18Geiriau yn rhl. 6(1)(a) wedi eu hamnewid (C.) (14.12.2019) gan Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2019 (O.S. 2019/1482), rhlau. 1(1), 13(a)
F19Geiriau yn rhl. 6(3) wedi eu hamnewid (C.) (14.12.2019) gan Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2019 (O.S. 2019/1482), rhlau. 1(1), 13(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I6Rhl. 6 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1
7.—(1) Un o swyddogaethau'r Asiantaeth yw monitro perfformiad awdurdodau gorfodi wrth iddynt orfodi rheoliadau archwilio penodol.
(2) Mae'r swyddogaeth honno'n cynnwys, yn benodol, gosod safonau perfformiad (boed i awdurdodau gorfodi yn gyffredinol ynteu i awdurdodau penodol) o ran gorfodi unrhyw ddeddfwriaeth archwilio berthnasol.
(3) Rhaid i bob un o adroddiadau blynyddol yr Asiantaeth gynnwys adroddiad ar ei gweithgareddau yn ystod y flwyddyn wrth orfodi unrhyw ddeddfwriaeth archwilio berthnasol y mae'n awdurdod gorfodi ar ei chyfer a'i pherfformiad o ran y canlynol—
(a)unrhyw safonau o dan baragraff (2) sy'n gymwys i'r gweithgareddau hynny; a
(b)unrhyw amcanion ynglŷn â'r gweithgareddau hynny a bennir yn y datganiad o amcanion ac arferion o dan adran 22 o Ddeddf Safonau Bwyd 1999(5).
(4) Caiff yr Asiantaeth gyflwyno adroddiad i unrhyw awdurdod gorfodi arall ar ei berfformiad wrth orfodi unrhyw ddeddfwriaeth archwilio berthnasol a chaiff adroddiad o'r fath gynnwys canllawiau o ran camau y mae'r Asiantaeth yn credu y byddent yn gwella'r perfformiad hwnnw.
(5) Caiff yr Asiantaeth gyfarwyddo awdurdod y mae adroddiad o'r fath wedi'i gyflwyno iddo—
(a)i drefnu cyhoeddi'r adroddiad mewn unrhyw fodd a bennir yn y cyfarwyddyd, neu wybodaeth benodedig ynglŷn â'r adroddiad; a
(b)o fewn unrhyw gyfnod a bennir fel hyn i roi gwybod i'r Asiantaeth am y camau y maent wedi'u cymryd neu'n bwriadu eu cymryd mewn ymateb i'r adroddiad.
(6) Mae adran 19 o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 yn gymwys o ran gwybodaeth a sicrheir drwy fonitro o dan y rheoliad hwn fel pe bai'n wybodaeth a sicrheir drwy fonitro o dan adran 12 o'r Ddeddf honno.
Gwybodaeth Cychwyn
I7Rhl. 7 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1
8.—(1) Er mwyn cyflawni ei swyddogaeth o dan reoliad 7 mewn perthynas ag unrhyw awdurdod gorfodi caiff yr Asiantaeth ei gwneud yn ofynnol i berson a grybwyllir ym mharagraff (2)—
(a)darparu i'r Asiantaeth unrhyw wybodaeth y mae ganddi achos rhesymol dros gredu bod y person hwnnw'n gallu ei rhoi; neu
(b)trefnu bod unrhyw gofnodion y mae gan yr Asiantaeth achos rhesymol dros gredu eu bod gan y person hwnnw neu eu bod fel arall o dan reolaeth y person hwnnw ar gael i'r Asiantaeth i'w harchwilio ganddi (ac, os ydynt yn cael eu cadw ar ffurf gyfrifiadurol, trefnu eu bod ar gael ar ffurf ddarllenadwy).
(2) Caniateir i ofyniad o dan baragraff (1) gael ei osod—
(a)ar yr awdurdod gorfodi neu unrhyw aelod, swyddog neu gyflogai i'r awdurdod; neu
(b)ar berson sy'n dod o dan unrhyw ddyletswydd o dan ddeddfwriaeth archwilio berthnasol (sef dyletswydd sy'n orfodadwy gan awdurdod gorfodi) neu unrhyw swyddog neu gyflogai i berson o'r fath.
(3) Caiff yr Asiantaeth gopïo unrhyw gofnodion y trefnir eu bod ar gael iddi yn unol â gofyniad o dan baragraff (1)(b).
Gwybodaeth Cychwyn
I8Rhl. 8 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1
9.—(1) Caiff yr Asiantaeth awdurdodi unrhyw unigolyn (boed yn aelod o'i staff neu beidio) i arfer y pwerau a bennir ym mharagraff (4) er mwyn cyflawni ei swyddogaeth o dan reoliad 7 mewn perthynas ag unrhyw awdurdod gorfodi.
(2) Ni chaniateir i unrhyw awdurdodiad o dan y rheoliad hwn gael ei ddyroddi ac eithrio yn unol â phenderfyniad a gymerir gan yr Asiantaeth ei hun neu gan bwyllgor, is-bwyllgor neu aelod o'r Asiantaeth sy'n gweithredu ar ran yr Asiantaeth.
(3) Rhaid i awdurdodiad o dan y rheoliad hwn fod yn ysgrifenedig a chaniateir iddo gael ei roi yn ddarostyngedig i unrhyw gyfyngiadau neu amodau a bennir yn yr awdurdodiad (gan gynnwys amodau sy'n ymwneud â rhagofalon hylendid sydd i'w cymryd wrth arfer pwerau yn unol â'r awdurdodiad).
(4) Caiff person awdurdodedig—
(a)mynd i mewn i unrhyw fangre a grybwyllir ym mharagraff (5) ar unrhyw adeg resymol er mwyn arolygu'r fangre neu unrhyw beth a geir ynddi;
(b)cymryd samplau o unrhyw eitemau neu sylweddau a geir ar y fangre honno;
(c)arolygu a chopïo unrhyw gofnodion a geir ar y fangre honno (ac, os ydynt yn cael eu cadw ar ffurf gyfrifiadurol, ei gwneud yn ofynnol iddynt gael eu rhoi ar gael ar ffurf ddarllenadwy);
(ch)ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sy'n bresennol ar y fangre honno ddarparu iddo unrhyw gyfleusterau, unrhyw gofnodion neu wybodaeth ac unrhyw gymorth arall y bydd yn gofyn yn rhesymol amdanynt.
(5) Y mangreoedd y caiff person awdurdodedig fynd i mewn iddynt yw—
(a)unrhyw fangre sydd wedi'i meddiannu gan yr awdurdod gorfodi;
(b)unrhyw labordy neu fangre debyg lle mae gwaith sy'n gysylltiedig â gorfodi unrhyw ddeddfwriaeth berthnasolawedi'i gyflawni i'r awdurdod gorfodi; ac
(c)unrhyw fangre arall (nad yw'n dŷ annedd preifat) y mae gan y person awdurdodedig achos rhesymol dros gredu ei bod yn fangre y mae pwerau gorfodi'r awdurdod gorfodi yn arferadwy (neu wedi bod yn arferadwy) ar ei chyfer.
(6) Mae'r pŵer a roddwyd i berson awdurdodedig i fynd i mewn i fangre yn cynnwys pŵer i fynd ag unrhyw berson arall y gall fod y person awdurdodedig o'r farn ei fod yn briodol gydag ef.
(7) Os gofynnir iddo wneud hynny, rhaid i berson awdurdodedig—
(a)dangos ei awdurdodiad cyn arfer unrhyw bwerau o dan baragraff (4); a
(b)darparu dogfen sy'n enwi unrhyw sampl a gymerwyd, neu ddogfennau a gopïwyd, o dan y pwerau hynny.
(8) Os bydd person sy'n mynd i mewn i unrhyw fangre yn rhinwedd y rheoliad hwn yn datgelu i unrhyw berson unrhyw wybodaeth a gafwyd ar y fangre o ran unrhyw gyfrinach fasnachol, bydd y person hwnnw yn euog o dramgwydd, oni bai bod y datgeliad hwnnw wedi'i wneud wrth iddo gyflawni ei ddyletswydd.
(9) Os yr Asiantaeth yw'r awdurdod gorfodi o ran deddfwriaeth archwilio berthnasol, mae'r rheoliad hwn, gan hepgor paragraff (5)(a), yn gymwys o ran yr Asiantaeth mewn perthynas â'i pherfformiad wrth orfodi'r darpariaethau hynny.
(10) Yn y rheoliad hwn ystyr “person awdurdodedig” yw person sydd wedi'i awdurdodi o dan y rheoliad hwn.
Gwybodaeth Cychwyn
I9Rhl. 9 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1
10.—(1) Yn rheoliadau 7 i 9 ystyr “deddfwriaeth archwilio berthnasol” yw cyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol a chyfraith bwyd berthnasol y mae'r Asiantaeth wedi'i dynodi'n awdurdod cymwys ar eu cyfer yn unol â pharagraffau (1) a (3) o reoliad 3 yn y drefn honno ond nid yw'n cynnwys deddfwriaeth berthnasol fel y diffinnir “relevant legislation” yn adran 15 o Ddeddf Safonau Bwyd 1999.
(2) Yn rheoliadau 7 i 9 ystyr “awdurdod gorfodi” yw'r awdurdod y mae deddfwriaeth archwilio berthnasol i'w gorfodi ganddo ac mae'n cynnwys yr Asiantaeth ei hun os hi yw'r awdurdod gorfodi yn rhinwedd y ddeddfwriaeth honno ond nid yw'n cynnwys y Comisiwn Ewropeaidd; ac mae “gorfodi” o ran deddfwriaeth archwilio berthnasol yn cynnwys gweithredu unrhyw ddarpariaethau yn y ddeddfwriaeth honno.
(3) Mae unrhyw gyfeiriad yn rheoliadau 7 i 9 (sut bynnag y mae wedi'i fynegi) at berfformiad awdurdod gorfodi wrth orfodi unrhyw ddeddfwriaeth archwilio berthnasol yn cynnwys cyfeiriad at allu'r awdurdod hwnnw i'w gorfodi.
Gwybodaeth Cychwyn
I10Rhl. 10 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1
11. Bydd person sydd—
(a)yn fwriadol yn rhwystro person sy'n arfer pwerau o dan baragraff (4)(a), (b) neu (c) o reoliad 9;
(b)yn methu heb esgus rhesymol â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad a osodir o dan baragraff (1) o reoliad 8 neu baragraff (4)(ch) o reoliad 9; neu
(c)gan honni ei fod yn cydymffurfio â gofyniad o'r fath yn rhoi gwybodaeth y mae'r person hwnnw yn gwybod ei bod yn ffug neu'n gamarweiniol mewn unrhyw fanylyn o bwys, neu sydd yn ddi-hid yn rhoi gwybodaeth y mae'n gwybod ei bod yn ffug neu'n gamarweiniol mewn unrhyw fanylyn o bwys,
yn euog o dramgwydd.
Gwybodaeth Cychwyn
I11Rhl. 11 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1
12.—(1) Caiff unrhyw berson a dramgwyddir gan benderfyniad gan yr awdurdod cymwys a gymerwyd ynghylch sefydliad sy'n ddarostyngedig i gymeradwyaeth o dan Erthygl 4(2) o Reoliad 853/2004 yn unol ag un o'r Erthyglau canlynol, sef—
(a)[F20Erthygl 148(3) o Reoliad 2017/625 (cymeradwyaeth)];
(b)[F21Erthygl 148(4) o Reoliad 2017/625 (cymeradwyaeth amodol a chymeradwyaeth lawn)]; neu
(c)[F22Erthygl 138(2)(j) o Reoliad 2017/625 (atal cymeradwyaeth neu dynnu cymeradwyaeth yn ôl)], apelio i lys ynadon.
(2) Pan wneir apêl i lys ynadon o dan baragraff (1), y weithdrefn fydd ei gwneud ar ffurf achwyniad i gael gorchymyn, a bydd Deddf Llysoedd Ynadon 1980(6) yn gymwys i'r achosion.
(3) Un mis o'r dyddiad y cyflwynwyd hysbysiad o'r penderfyniad i'r person sy'n dymuno apelio yw'r cyfnod y caniateir dwyn apêl ynddo o dan baragraff (1) a bernir bod gwneud achwyniad i gael gorchymyn yn gyfystyr â dwyn yr apêl at ddibenion y paragraff hwn.
(4) Pan fo llys ynadon yn dyfarnu, yn dilyn apêl o dan baragraff (1), fod penderfyniad yr awdurdod cymwys yn anghywir, rhaid i'r awdurdod roi ei effaith i ddyfarniad y llys.
F23(5) . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
F23(6) . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
F23(7) . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Diwygiadau Testunol
F20Geiriau yn rhl. 12(1)(a) wedi eu hamnewid (C.) (14.12.2019) gan Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2019 (O.S. 2019/1482), rhlau. 1(1), 14(a)
F21Geiriau yn rhl. 12(1)(b) wedi eu hamnewid (C.) (14.12.2019) gan Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2019 (O.S. 2019/1482), rhlau. 1(1), 14(b)
F22Geiriau yn rhl. 12(1)(c) wedi eu hamnewid (C.) (14.12.2019) gan Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2019 (O.S. 2019/1482), rhlau. 1(1), 14(c)
F23Rhl. 12(5)-(7) wedi ei hepgor (C.) (1.4.2011) yn rhinwedd Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2011 (O.S. 2011/626), rhlau. 1, 2(2)
Gwybodaeth Cychwyn
I12Rhl. 12 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1
13. Caiff person a dramgwyddir oherwydd bod llys ynadon wedi gwrthod apêl iddo o dan reoliad 12(1) apelio i Lys y Goron.
Gwybodaeth Cychwyn
I13Rhl. 13 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1
14. Caiff swyddog awdurdodedig i awdurdod cymwys fynd ag aelod o staff awdurdod cymwys Aelod-wladwriaeth arall gydag ef er mwyn cynnal ymchwiliad gweinyddol o dan [F24Erthygl 104(3) o Reoliad 2017/625].
Diwygiadau Testunol
F24Geiriau yn rhl. 14 wedi eu hamnewid (14.12.2019) gan Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2019 (O.S. 2019/1482), rhlau. 1(1), 15
Gwybodaeth Cychwyn
I14Rhl. 14 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1
15.—(1) Pan fo swyddog gorfodi yn mynd i mewn i fangre er mwyn gweithredu a gorfodi rheolaethau swyddogol, caiff y swyddog hwnnw fynd ag arbenigydd o'r Comisiwn gydag ef [F25ac arbenigydd cenedlaethol, a benodwyd at ddibenion Erthygl 116(4) o Reoliad 2017/625, i ddod gydag arbenigydd y Comisiwn, ac er mwyn galluogi’r arbenigydd hwnnw o’r Comisiwn] i gyflawni swyddogaethau o dan [F26Erthygl 116 o Reoliad 2017/625].
(2) Ym mharagraff (1) ac ym mharagraff (5)(b) o reoliad 17 ystyr “swyddog gorfodi” yw swyddog awdurdodedig i unrhyw awdurdod sy'n gyfrifol am weithredu a gorfodi rheolaethau swyddogol er mwyn gwirio cydymffurfedd â chyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol neu gyfraith bwyd berthnasol.
Diwygiadau Testunol
F25Geiriau yn rhl. 15(1) wedi eu hamnewid (C.) (14.12.2019) gan Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2019 (O.S. 2019/1482), rhlau. 1(1), 16(a)
F26Geiriau yn rhl. 15(1) wedi eu hamnewid (C.) (14.12.2019) gan Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2019 (O.S. 2019/1482), rhlau. 1(1), 16(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I15Rhl. 15 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1
16. Os bydd person yn mynd i mewn i unrhyw fangre yn rhinwedd rheoliad 14 neu 15 ac yn datgelu i unrhyw berson unrhyw wybodaeth y mae wedi'i chael ar y fangre o ran unrhyw gyfrinach fasnachol, bydd yn euog o dramgwydd oni bai bod y datgeliad wedi'i wneud wrth gyflawni ei ddyletswydd.
Gwybodaeth Cychwyn
I16Rhl. 16 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1
17.—(1) yr awdurdod sy'n gyfrifol am weithredu a gorfodi paragraff (3) o reoliad 5 yw'r awdurdod cymwys a osododd y gofyniad ar y [F27corff dirprwyedig] o dan sylw o dan baragraff (1) o'r rheoliad hwnnw.
(2) yr awdurdod sy'n gyfrifol am weithredu a gorfodi paragraff (8) o reoliad 9 a rheoliad 11 yw'r Asiantaeth.
(3) yr awdurdod sy'n gyfrifol am weithredu a gorfodi rheoliad 16 yw'r awdurdod y cymerodd ei swyddog y person a wnaeth y datgeliad i'r fangre o dan sylw.
(4) yr awdurdod sy'n gyfrifol am weithredu a gorfodi paragraff (8) o reoliad 18 yw'r awdurdod a awdurdododd y person a aeth i mewn i'r fangre ac a ddatgelodd yr wybodaeth.
(5) yr awdurdod sy'n gyfrifol am weithredu a gorfodi rheoliad 19—
(a)pan fo'r tramgwydd yn ymwneud â gweithredu rheoliad 14, yw'r awdurdod cymwys yr aeth ei swyddog awdurdodedig ag aelod o staff awdurdod cymwys Aelod-wladwriaeth arall gydag ef;
(b)pan fo'r tramgwydd yn ymwneud â gweithredu rheoliad 15, yw'r awdurdod yr aeth ei swyddog gorfodi ag un o arbenigwyr y Comisiwn [F28, a phan fo hynny’n berthnasol, arbenigydd cenedlaethol,] gydag ef; ac
(c)pan fo'r tramgwydd yn ymwneud â gweithredu rheoliad 18, yw'r awdurdod gorfodi perthnasol yr arferodd ei swyddog awdurdodedig bwerau o dan y rheoliad hwnnw.
Diwygiadau Testunol
F27Geiriau yn rhl. 17(1) wedi eu hamnewid (C.) (14.12.2019) gan Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2019 (O.S. 2019/1482), rhlau. 1(1), 17(a)
F28Geiriau yn rhl. 17(5)(b) wedi eu mewnosod (14.12.2019) gan Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2019 (O.S. 2019/1482), rhlau. 1(1), 17(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I17Rhl. 17 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1
18.—(1) Bydd gan swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi perthnasol heblaw'r Asiantaeth, wedi iddo ddangos, os gofynnir iddo wneud hynny, ryw ddogfen a ddilyswyd yn briodol ac sy'n dangos ei awdurdod, hawl ar bob adeg resymol—
(a)i fynd i mewn i unrhyw fangre o fewn ardal yr awdurdod, neu, yn ôl fel y digwydd, dosbarth yr awdurdod er mwyn darganfod a oes unrhyw ddarpariaeth y mae gan yr awdurdod hwnnw gyfrifoldeb ei gorfodi yn y Rhan hon o'r Rheoliadau hyn yn unol â rheoliad 17 yn cael neu wedi cael ei thorri yn y fangre; a
(b)i fynd i mewn i unrhyw fangre, boed honno o fewn ardal yr awdurdod neu, yn ôl fel y digwydd, dosbarth yr awdurdod neu y tu allan iddynt, er mwyn darganfod a oes ar y fangre unrhyw dystiolaeth o unrhyw doriad o'r fath yn yr ardal honno neu'r dosbarth hwnnw,
ond ni chaniateir mynnu cael mynediad fel mater o hawl i unrhyw fangre sy'n cael ei defnyddio'n unig fel tŷ annedd preifat oni bai bod hysbysiad am y bwriad i fynd i mewn i'r fangre wedi'i roi i'r meddiannydd 2 awr ymlaen llaw.
(2) Bydd gan swyddog awdurdodedig i'r Asiantaeth, wedi iddo ddangos, os gofynnir iddo wneud hynny, ryw ddogfen a ddilyswyd yn briodol ac sy'n dangos awdurdod y swyddog hwnnw, hawl ar bob adeg resymol i fynd i mewn i unrhyw fangre er mwyn—
(a)darganfod a oes unrhyw ddarpariaeth y mae gan yr Asiantaeth gyfrifoldeb ei gorfodi yn y Rhan hon o'r Rheoliadau hyn yn unol â rheoliad 17 yn cael neu wedi cael ei thorri yn y fangre; a
(b)darganfod a oes ar y fangre unrhyw dystiolaeth o unrhyw doriad o'r fath,
ond ni chaniateir mynnu cael mynediad fel mater o hawl i unrhyw fangre sy'n cael ei defnyddio'n unig fel tŷ annedd preifat oni bai bod hysbysiad am y bwriad i fynd i mewn i'r fangre wedi'i roi i'r meddiannydd 2 awr ymlaen llaw.
(3) Os bydd ynad heddwch, ar ôl cael gwybodaeth ysgrifenedig ar lw, wedi'i fodloni bod sail resymol dros fynd i unrhyw fangre at unrhyw ddiben o'r fath a grybwyllwyd ym mharagraff (1) neu (2) a naill ai—
(a)bod mynediad i'r fangre wedi'i wrthod, neu y deellir y gall gael ei wrthod, a bod hysbysiad o'r bwriad i wneud cais am warant wedi'i roi i'r meddiannydd; neu
(b)y byddai cais am fynediad, neu roi hysbysiad o'r fath, yn mynd yn groes i'r amcan o fynd i mewn i'r fangre, neu fod yr achos yn achos brys, neu fod y fangre heb ei meddiannu neu fod y meddiannydd yn absennol dros dro,
caiff yr ynad, drwy warant a lofnodir ganddo awdurdodi'r swyddog awdurdodedig i fynd i mewn i'r fangre, gan ddefnyddio grym rhesymol os bydd ei angen.
(4) Bydd pob gwarant a roddir o dan y rheoliad hwn yn parhau mewn grym am gyfnod o un mis.
(5) Caiff swyddog awdurdodedig sy'n mynd i mewn i unrhyw fangre yn rhinwedd y rheoliad hwn, neu yn rhinwedd gwarant a ddyroddwyd odano, fynd â'r personau eraill y mae'n barnu eu bod yn angenrheidiol gydag ef, ac wrth ymadael ag unrhyw fangre sydd heb ei meddiannu ac y mae wedi mynd i mewn iddi yn rhinwedd gwarant o'r fath, rhaid iddo ei gadael yn fangre sydd wedi'i diogelu yr un mor effeithiol rhag mynediad diawdurdod ag yr oedd pan aeth yno yn gyntaf.
(6) Caiff swyddog awdurdodedig sy'n mynd i mewn i fangre yn rhinwedd y rheoliad hwn, neu yn rhinwedd gwarant a ddyroddwyd odano, arolygu unrhyw gofnodion (ar ba ffurf bynnag y maent yn cael eu cadw), a phan fo'r cofnodion hynny yn cael eu storio ar unrhyw ffurf electronig—
(a)caiff fynd at unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw aparatws neu ddeunydd perthynol a ddefnyddir neu a ddefnyddiwyd mewn cysylltiad â'r cofnodion, a'u harolygu a gwirio eu gweithrediad; a
(b)caiff ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sydd â gofal dros y cyfrifiadur, yr aparatws neu'r deunydd, neu sydd fel arall yn ymwneud â'u gweithredu, roi i'r swyddog unrhyw gymorth y mae arno angen rhesymol ei gael.
(7) Caiff unrhyw swyddog sy'n arfer unrhyw bŵer a roddwyd gan baragraff (6)—
(a)cipio a chadw unrhyw gofnodion y mae gan y swyddog reswm dros gredu y gallai fod angen amdanynt fel tystiolaeth mewn achos cyfreithiol o dan unrhyw un o'r darpariaethau yn y Rhan hon o'r Rheoliadau hyn; a
(b)pan fo'r cofnodion wedi'u storio ar unrhyw ffurf electronig, ei gwneud yn ofynnol i'r cofnodion gael eu darparu ar ffurf a fyddai'n caniatáu mynd â hwy oddi yno.
(8) Os bydd unrhyw berson sy'n mynd i mewn i unrhyw fangre yn rhinwedd y rheoliad hwn, neu yn rhinwedd gwarant a ddyroddwyd odano, yn datgelu i unrhyw berson unrhyw wybodaeth y mae wedi'i chael ar y fangre o ran unrhyw gyfrinach fasnachol, bydd yn euog o dramgwydd, oni bai bod y datgeliad wedi'i wneud wrth iddo gyflawni ei ddyletswydd.
(9) Ni fydd dim yn y rheoliad hwn yn awdurdodi unrhyw berson, ac eithrio gyda chaniatâd yr awdurdod lleol o dan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981(7), i fynd i mewn i unrhyw fangre—
(a)lle cedwir anifail neu aderyn, y mae unrhyw glefyd y mae'r Ddeddf honno yn gymwys iddo, wedi effeithio arno; a
(b)sydd wedi'i lleoli mewn man y datganwyd o dan y Ddeddf honno ei fod wedi'i heintio â chlefyd o'r fath.
Gwybodaeth Cychwyn
I18Rhl. 18 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1
19.—(1) Bydd unrhyw berson sydd—
(a)yn fwriadol yn rhwystro unrhyw berson sy'n gweithredu rheoliad 14, 15 neu 18; neu
(b)yn methu, heb achos rhesymol, â rhoi i unrhyw berson sy'n gweithredu rheoliad 14, 15 neu 18 unrhyw gymorth neu wybodaeth y gall y person hwnnw ofyn yn rhesymol amdanynt er mwyn cyflawni ei swyddogaethau o dan y rheoliadau hynny,
yn euog o dramgwydd.
(2) Bydd unrhyw berson sydd, gan honni ei fod yn cydymffurfio ag unrhyw ofyniad a grybwyllwyd ym mharagraff (1)(b)—
(a)yn rhoi gwybodaeth y mae'r person hwnnw'n gwybod ei bod yn ffug neu'n gamarweiniol mewn manylyn o bwys; neu
(b)yn ddi-hid yn darparu gwybodaeth sy'n ffug neu'n gamarweiniol mewn manylyn o bwys, yn euog o dramgwydd.
(3) Rhaid peidio â dehongli dim ym mharagraff (1)(b) fel pe bai'n ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson ateb unrhyw gwestiwn neu roi unrhyw wybodaeth os byddai gwneud hynny yn gallu ei argyhuddo.
Gwybodaeth Cychwyn
I19Rhl. 19 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1
20.—(1) Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan baragraff (8) o reoliad 18 yn agored—
(a)o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n fwy na'r uchafswm statudol; neu
(b)o'i gollfarnu ar dditiad, i garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na dwy flynedd, i ddirwy neu i'rddau.
(2) Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan baragraff (3) o reoliad 5, paragraff (8) o reoliad 9, neu reoliad 11 neu reoliad 16 yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.
(3) Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan reoliad 19 yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol neu i garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na thri mis, neu i'r ddau.
Gwybodaeth Cychwyn
I20Rhl. 20 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1
21. Ni chaniateir cychwyn unrhyw erlyniad am dramgwydd o dan baragraff (8) o reoliad 18 ar ôl i'r naill neu'r llall o'r cyfnodau canlynol ddod i ben—
(a)tair blynedd o ddyddiad cyflawni'r tramgwydd; neu
(b)blwyddyn o ddyddiad ei ddarganfod gan yr erlynydd,
p'un bynnag yw'r cynharaf.
Gwybodaeth Cychwyn
I21Rhl. 21 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1
22. Yn y Rhan hon o'r Rheoliadau hyn—
ystyr “awdurdod gorfodi” (“enforcement authority”) yw'r awdurdod bwyd anifeiliaid neu'r awdurdod bwyd;
ystyr “awdurdod gorfodi y tu allan i Gymru” (“outside Wales enforcement authority”) yw'r corff sy'n gyfrifol am orfodi'r ddeddfwriaeth sydd mewn grym mewn perthynas â chynhyrchion a fewnforiwyd mewn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig ac eithrio Cymru;
nid yw “bwyd anifeiliaid” (“feed”) yn cynnwys ychwanegion o fath a grybwyllir yn Erthygl 6(1)(e) o Reoliad (EC) Rhif 1831/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor neu baragraff 4(d) o Atodiad I iddo ar ychwanegion i'w defnyddio mewn maeth i anifeiliaid(8) neu unrhyw rag-gymysgedd sydd wedi'i ffurfio'n unig o gyfuniad o'r ychwanegion hynny;
ystyr “y Comisiynwyr” (“the Commissioners”) yw Comisiynwyr Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi;
[F29ystyr “cynnyrch” (“product”) yw bwyd anifeiliaid a bwyd y mae eu mewnforio wedi’u rheoleiddio gan Erthygl 44 o Reoliad 2017/625 ac mae’n cynnwys y cynhyrchion a’r bwydydd cyfansawdd hynny nad yw’n ofynnol iddynt fod yn ddarostyngedig i wiriadau milfeddygol fel y darperir ym Mhenderfyniad y Comisiwn 2007/275/EC ynghylch rhestrau o anifeiliaid a chynhyrchion sydd i fod yn ddarostyngedig i reolaethau mewn arolygfeydd ffin o dan Gyfarwyddebau’r Cyngor 91/496/EEC a 97/78/EC;]
[F30ystyr “darpariaeth fewnforio benodedig” (“specified import provision”) yw unrhyw ddarpariaeth yn Rheoliad 2017/625 neu ym mhecyn Rheoliad 2017/625 a bennir yng Ngholofn 1 o Atodlen 6 ac y disgrifir ei chynnwys yng Ngholofn 2 o’r Atodlen honno;]
ystyr “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”), o ran awdurdod gorfodi, yw unrhyw berson (boed yn swyddog i'r awdurdod neu beidio) sydd wedi'i awdurdodi'n ysgrifenedig gan yr awdurdod hwnnw, naill ai'n gyffredinol neu'n arbennig, i weithredu mewn materion sy'n codi o dan y Darpariaethau Mewnforio; ac
ystyr “y tiriogaethau perthnasol” (“the relevant territories”) yw'r tiriogaethau y cyfeirir atynt yn Atodiad I i [F31Reoliad 2017/625] .
Diwygiadau Testunol
F29Geiriau yn rhl. 22 wedi eu hamnewid (14.12.2019) gan Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2019 (O.S. 2019/1482), rhlau. 1(1), 18(a)
F30Geiriau yn rhl. 22 wedi eu hamnewid (14.12.2019) gan Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2019 (O.S. 2019/1482), rhlau. 1(1), 18(c)
F31Geiriau yn rhl. 22 wedi eu hamnewid (14.12.2019) gan Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2019 (O.S. 2019/1482), rhlau. 1(1), 18(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I22Rhl. 22 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1
23.—(1) Cyfrifoldeb pob awdurdod bwyd anifeiliaid yw gweithredu a gorfodi'r Darpariaethau Mewnforio yn ei ardal neu ei ddosbarth, yn ôl fel y digwydd, mewn perthynas â bwyd anifeiliaid.
(2) Mae'r awdurdod bwyd anifeiliaid wedi'i ddynodi'n awdurdod cymwys at ddibenion darpariaethau [F32Rheoliad 2019/1793] i'r graddau y mae'r darpariaethau hynny'n gymwys o ran cyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol.
(3) Mae dynodi awdurdod bwyd anifeiliaid yn awdurdod cymwys yn unol â pharagraff (2) yn ddynodiad sy'n ymestyn i'w ardal neu i'w ddosbarth yn unig, yn ôl fel y digwydd.
F33(4) . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Diwygiadau Testunol
F32Geiriau yn rhl. 23(2) wedi eu hamnewid (C.) (14.12.2019) gan Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2019 (O.S. 2019/1482), rhlau. 1(1), 19(a)
F33Rhl. 23(4) wedi ei hepgor (C.) (14.12.2019) yn rhinwedd Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2019 (O.S. 2019/1482), rhlau. 1(1), 19(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I23Rhl. 23 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1
24.—(1) Cyfrifoldeb pob awdurdod bwyd yw gweithredu a gorfodi'r Darpariaethau Mewnforio yn ei ardal o ran bwyd.
(2) Mae'r awdurdod bwyd wedi'i ddynodi'n awdurdod cymwys at ddibenion darpariaethau [F34Rheoliad 2019/1793] i'r graddau y mae'r darpariaethau hynny'n gymwys o ran cyfraith bwyd berthnasol.
(3) Mae dynodi awdurdod bwyd yn awdurdod cymwys yn unol â pharagraff (2) yn ddynodiad sy'n ymestyn i'w ardal yn unig.
F35(4) . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Diwygiadau Testunol
F34Geiriau yn rhl. 24(2) wedi eu hamnewid (C.) (14.12.2019) gan Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2019 (O.S. 2019/1482), rhlau. 1(1), 20(a)
F35Rhl. 24(4) wedi ei hepgor (C.) (14.12.2019) yn rhinwedd Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2019 (O.S. 2019/1482), rhlau. 1(1), 20(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I24Rhl. 24 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1
25. Bydd y Comisiynwyr yn cyflawni'r swyddogaethau a roddir [F36i awdurdodau tollau o dan Erthyglau 46, 57, 75 ac 76 o Reoliad 2017/625 ac Erthygl 4 o Reoliad 2019/1793] o ran bwyd anifeiliaid a bwyd.
Diwygiadau Testunol
F36Geiriau yn rhl. 25 wedi eu hamnewid (C.) (14.12.2019) gan Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2019 (O.S. 2019/1482), rhlau. 1(1), 21
Gwybodaeth Cychwyn
I25Rhl. 25 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1
26.—(1) Caiff y Comisiynwyr, yr Asiantaeth ac unrhyw awdurdod gorfodi gyfnewid gwybodaeth at ddibenion y Darpariaethau Mewnforio, a chânt ddatgelu gwybodaeth i'r cyrff a ddiffinnir fel awdurdodau gorfodi yn y darpariaethau sy'n cyfateb i Ran 3 o'r Rheoliadau hyn yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon at ddibenion y Darpariaethau Mewnforio neu'r darpariaethau sy'n cyfateb i'r Darpariaethau Mewnforio yn yr awdurdodaethau hynny.
(2) Mae paragraff (1) heb ragfarn i unrhyw bŵer arall sydd gan y Comisiynwyr, yr Asiantaeth neu unrhyw awdurdod gorfodi i ddatgelu gwybodaeth.
(3) Ni chaiff neb, gan gynnwys gwas i'r Goron, ddatgelu unrhyw wybodaeth a gafwyd oddi wrth y Comisiynwyr o dan baragraff (1)—
(a)os yw'r wybodaeth yn ymwneud â pherson y mae ei fanylion adnabod—
(i)wedi'u pennu yn y datgeliad; neu
(ii)yn gallu cael eu casglu o'r datgeliad;
(b)os gwneir y datgeliad at ddiben heblaw'r dibenion a bennwyd ym mharagraff (1); ac
(c)os nad yw'r Comisiynwyr wedi rhoi eu cydsyniad ymlaen llaw i'r datgeliad.
Gwybodaeth Cychwyn
I26Rhl. 26 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1
27.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (6), pan fo—
(a)cynnyrch o drydedd wlad wedi dod i mewn i Gymru;
(b)archwiliad gan yr awdurdod tollau o'r cynnyrch hwnnw wedi'i gwblhau neu wedi'i ohirio hyd nes iddo gyrraedd ei gyrchfan yn rhywle arall yn y Deyrnas Unedig;
(c)swyddog awdurdodedig i'r awdurdod gorfodi ar gyfer y man lle daeth y cynnyrch i mewn wedi dyroddi ar sail resymol awdurdodiad sy'n cadarnhau—
(i)y dylid gohirio archwilio'r cynnyrch at ddibenion y Darpariaethau Mewnforio hyd nes y bydd y cynnyrch yn cyrraedd ei gyrchfan yn rhywle arall yng Nghymru, neu
(ii)y dylai'r archwiliad hwnnw ddigwydd pan fydd y cynnyrch yn cyrraedd ei gyrchfan yn rhywle arall yn y Deyrnas Unedig o dan ddeddfwriaeth sydd mewn grym yno ynghylch cynhyrchion a fewnforir; ac
(ch)person sy'n mewnforio'r cynnyrch yn rhoi i'r swyddog awdurdodedig hwnnw ymrwymiad ysgrifenedig o ran y materion a bennir ym mharagraff (2),
daw'r awdurdod gorfodi ar gyfer y man lle mae'r gyrchfan, os yw yng Nghymru, yn gyfrifol am orfodi a gweithredu'r Darpariaethau Mewnforio ar gyfer y cynnyrch hwnnw pan fydd yn cyrraedd yno.
(2) Rhaid i'r ymgymeriad—
(a)datgan cyrchfan y cynnyrch; a
(b)cadarnhau—
(i)bod y cynhwysydd sy'n cynnwys y cynnyrch wedi'i selio ac na fydd yn cael ei agor nes iddo gyrraedd y gyrchfan,
(ii)bod agor y cynhwysydd wedi'i awdurdodi gan yr awdurdod gorfodi ar gyfer y man lle mae'r gyrchfan, os yw yng Nghymru neu'r awdurdod gorfodi y tu allan i Gymru os nad yw'r gyrchfan yng Nghymru, a
(iii)y bydd y cynhwysydd ar gael yn y gyrchfan honno i'w archwilio o dan y Darpariaethau Mewnforio neu, yn ôl fel y digwydd, deddfwriaeth ynghylch cynhyrchion a fewnforir sydd mewn grym yn rhywle arall yn y Deyrnas Unedig.
(3) Pan fo swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi yn dyroddi awdurdodiad yn unol â pharagraff (1)(c), rhaid iddo—
(a)(os yw cyrchfan y cynnyrch yng Nghymru) hysbysu'r awdurdod gorfodi ar gyfer y man hwnnw neu (os yw cyrchfan y cynnyrch mewn unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig) hysbysu'r awdurdod gorfodi y tu allan i Gymru—
(i)nad yw'r cynnyrch (a ddisgrifir yn y fath fodd ag i ganiatáu iddo gael ei adnabod) wedi'i archwilio o dan y Darpariaethau Mewnforio, a
(ii)os yw archwiliad gan yr awdurdod tollau wedi'i ohirio, o'r ffaith honno; a
(b)anfon at yr awdurdod perthnasol gopi o unrhyw ymrwymiad a roddwyd yn unol â pharagraff (1)(ch).
(4) Pan fo cynnyrch wedi'i anfon at gyrchfan yng Nghymru o ran arall o Ynysoedd Prydain a bod archwiliad o'r cynnyrch hwnnw wedi'i ohirio o dan ddeddfwriaeth ynghylch cynhyrchion a fewnforir sydd mewn grym yno, daw'r awdurdod gorfodi ar gyfer y gyrchfan yn gyfrifol am orfodi a gweithredu'r Darpariaethau Mewnforio ar gyfer y cynnyrch hwnnw pan fydd yn cyrraedd Cymru.
(5) Ni chaiff neb dorri ymrwymiad a roddir o dan baragraff 1(ch).
(6) Bydd y darpariaethau ar ohirio gweithredu a gorfodi a nodir yn y rheoliad hwn yn ddarostyngedig i unrhyw reolaethau swyddogol sy'n digwydd yn unol ag [F37Erthygl 47(1)(d) a (2)(b) ac Erthygl 54(4) o Reoliad 2017/625].
Diwygiadau Testunol
F37Geiriau yn rhl. 27(6) wedi eu hamnewid (C.) (14.12.2019) gan Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2019 (O.S. 2019/1482), rhlau. 1(1), 22
Gwybodaeth Cychwyn
I27Rhl. 27 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1
28.—(1) Gwaherddir y canlynol—
(a)cyflwyno i Gymru o drydedd wlad fwyd anifeiliaid penodedig sy'n methu â chydymffurfio â gofynion diogelwch bwyd anifeiliaid;
(b)cyflwyno i Gymru o rywle arall yn y tiriogaethau perthnasol fwyd anifeiliaid penodedig sy'n tarddu o drydedd wlad ac sy'n methu â chydymffurfio â gofynion diogelwch bwyd anifeiliaid;
(c)cyflwyno i Gymru o drydedd wlad fwyd penodedig sy'n methu â chydymffurfio—
(i)â gofynion diogelwch bwyd; neu
(ii)â gofynion Erthyglau 3 i 6 o Reoliad 852/2004; ac
(ch)cyflwyno i Gymru o rywle arall yn y tiriogaethau perthnasol fwyd penodedig sy'n tarddu o drydedd wlad ac sy'n methu â chydymffurfio—
(i)â gofynion diogelwch bwyd; neu
(ii)â gofynion Erthyglau 3 i 6 o Reoliad 852/2004.
(2) Yn y rheoliad hwn—
(a)ystyr “bwyd anifeiliaid penodedig” yw bwyd anifeiliaid sy'n gynnyrch; a
(b)ystyr “bwyd penodedig” yw bwyd sy'n gynnyrch.
Gwybodaeth Cychwyn
I28Rhl. 28 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1
29.—(1) Rhaid i'r person sy'n gyfrifol am gyflwyno unrhyw gynnyrch i Gymru ganiatáu i swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi gyflawni gwiriadau mewn perthynas â'r cynnyrch yn unol ag [F38Erthyglau 34(5) a (6), 44(2) a 45(1), (2) a (4) o Reoliad 2017/625].
(2) Pan fo swyddog awdurdodedig yn cyflawni gwiriadau mewn perthynas â chynnyrch yn unol ag [F38Erthyglau 34(5) a (6), 44(2) a 45(1), (2) a (4) o Reoliad 2017/625], rhaid i'r person sy'n cyflwyno'r cynnyrch ddarparu'r cyfleusterau a'r cymorth y mae ar y swyddog awdurdodedig angen rhesymol amdanynt er mwyn eu cyflawni.
(3) Pan fo swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi yn cyflawni gwiriad adnabod neu wiriad ffisegol ar gynnyrch yn unol ag [F38Erthyglau 34(5) a (6), 44(2) a 45(1), (2) a (4) o Reoliad 2017/625], bydd gan y swyddog hawl i'w gwneud yn ofynnol bod y gwiriad yn digwydd mewn man penodedig.
Diwygiadau Testunol
F38Geiriau yn rhl. 29 wedi eu hamnewid (C.) (14.12.2019) gan Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2019 (O.S. 2019/1482), rhlau. 1(1), 23
Gwybodaeth Cychwyn
I29Rhl. 29 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1
30.—(1) Pan fo’r Asiantaeth wedi’i bodloni bod safle rheoli ar y ffin wedi peidio â chydymffurfio â’r gofynion y cyfeirir atynt yn Erthygl 64 o Reoliad 2017/625 a Rheoliad 2019/1014 caiff dynnu dynodiad y safle rheoli ar y ffin yn ôl ar gyfer pob categori o anifeiliaid a nwyddau y gwnaed y dynodiad ar eu cyfer, neu ar gyfer categorïau penodol ohonynt, drwy gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i’r perwyl hwnnw i weithredydd y safle rheoli ar y ffin.
(2) Pan fo’r Asiantaeth wedi’i bodloni bod yr amodau y cyfeirir atynt yn Erthygl 63(1) o Reoliad 2017/625 yn gymwys caiff atal dynodiad y safle rheoli ar y ffin ar gyfer pob categori o anifeiliaid a nwyddau y gwnaed y dynodiad ar eu cyfer, neu ar gyfer categorïau penodol ohonynt, drwy gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i’r perwyl hwnnw i weithredydd y safle rheoli ar y ffin ac os oes risg ddifrifol i iechyd pobl neu i iechyd anifeiliaid bydd atal y dynodiad yn cael effaith ar unwaith.
(3) Pan gyflwynir hysbysiad o dan baragraff (2), mae’r safle rheoli ar y ffin yn peidio â bod yn safle rheoli ar y ffin dynodedig i’r graddau a bennir yn yr hysbysiad hwnnw hyd nes y caiff yr ataliad ei ddiddymu drwy hysbysiad ysgrifenedig i’r perwyl hwnnw a gyflwynir gan yr Asiantaeth i weithredydd y safle rheoli ar y ffin.
(4) Pan fo’r Asiantaeth wedi’i bodloni ei bod yn rhesymol tynnu’r dynodiad yn ôl neu ei atal am resymau heblaw’r rhai y cyfeirir atynt ym mharagraffau (1) a (2) caiff wneud hynny ar gyfer pob categori o anifeiliaid a nwyddau y gwnaed y dynodiad ar eu cyfer, neu ar gyfer categorïau penodol ohonynt, drwy gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i’r perwyl hwnnw i weithredydd y safle rheoli ar y ffin.]
Diwygiadau Testunol
F39Rhl. 30 wedi ei amnewid (14.12.2019) gan Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2019 (O.S. 2019/1482), rhlau. 1(1), 24
Gwybodaeth Cychwyn
I30Rhl. 30 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1
31.—(1) Mae gan awdurdod gorfodi bŵer i wneud unrhyw beth y caiff awdurdod cymwys ei wneud o dan [F40Erthyglau 46, 65 i 69, 71, a 72 o Reoliad 2017/625] os bydd yr amodau sydd wedi'u nodi yn yr Erthyglau hynny wedi'u bodloni.
[F41(2) Mae’r mesurau a gymerir gan yr awdurdod gorfodi o dan Erthyglau 66, 67 a 69 o Reoliad 2017/625 yn unol â pharagraff (1) i’w cymryd ar draul y gweithredydd sy’n gyfrifol am y llwyth.]
Diwygiadau Testunol
F40Geiriau yn rhl. 31(1) wedi eu hamnewid (C.) (14.12.2019) gan Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2019 (O.S. 2019/1482), rhlau. 1(1), 25(a)
F41Rhl. 31(2) wedi ei amnewid (14.12.2019) gan Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2019 (O.S. 2019/1482), rhlau. 1(1), 25(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I31Rhl. 31 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1
32.—(1) Os bydd swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi yn bwriadu gosod llwyth o fwyd anifeiliaid neu fwyd yng nghadw yn swyddogol o dan Erthygl 65, 66 neu 67 o Reoliad 2017/625 rhaid i’r swyddog gyflwyno hysbysiad i’r perwyl hwnnw i’r gweithredydd sy’n gyfrifol am y llwyth.
(2) Cyn rhoi gorchymyn i’r gweithredydd i weithredu yn unol ag Erthygl 66(3)(a), (b) neu (c), rhaid i’r swyddog gorfodi wrando ar y gweithredydd hwnnw fel y darperir ym mhedwerydd is-baragraff Erthygl 66(3) o Reoliad 2017/625 oni bai bod angen gweithredu ar unwaith.
(3) Os bydd swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi yn bwriadu cymryd unrhyw rai o’r mesurau y cyfeirir atynt yn Erthygl 66 neu 67 o Reoliad 2017/625 mewn cysylltiad â llwyth o fwyd anifeiliaid neu fwyd, rhaid i’r swyddog gyflwyno hysbysiad i’r perwyl hwnnw i’r gweithredydd sy’n gyfrifol am y llwyth.]
Diwygiadau Testunol
F42Rhl. 32 wedi ei amnewid (14.12.2019) gan Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2019 (O.S. 2019/1482), rhlau. 1(1), 26
Gwybodaeth Cychwyn
I32Rhl. 32 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1
33.—(1) Caiff unrhyw berson a dramgwyddir gan benderfyniad swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi i gyflwyno hysbysiad o dan reoliad 32 apelio i lys ynadon.
(2) Pan wneir apêl i lys ynadon o dan baragraff (1), y weithdrefn fydd ei gwneud ar ffurf achwyniad i gael gorchymyn, a bydd Deddf Llysoedd Ynadon 1980 yn gymwys i'r achosion.
(3) Un mis o'r dyddiad y cyflwynwyd hysbysiad i'r person sy'n dymuno apelio yw'r cyfnod y caniateir dwyn apêl ynddo o dan baragraff (1) a bernir bod gwneud achwyniad i gael gorchymyn yn gyfystyr â dwyn yr apêl at ddibenion y paragraff hwn.
(4) Pan fo llys ynadon yn dyfarnu, yn dilyn apêl o dan baragraff (1), fod penderfyniad swyddog awdurdodedig yr awdurdod gorfodi yn anghywir, rhaid i'r awdurdod roi ei effaith i ddyfarniad y llys.
Gwybodaeth Cychwyn
I33Rhl. 33 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1
34. Caiff person a dramgwyddir oherwydd bod llys ynadon wedi gwrthod apêl iddo o dan reoliad 33(1) apelio i Lys y Goron.
Gwybodaeth Cychwyn
I34Rhl. 34 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1
35.—(1) Pan fo Gweinidogion Cymru neu'r Asiantaeth yn cael ar ddeall, neu pan fo ganddynt sail resymol dros amau, fod unrhyw fwyd neu fwyd anifeiliaid wedi'i gyflwyno neu y gall gael ei gyflwyno i Gymru o drydedd wlad a'i fod yn debyg o fod yn risg ddifrifol i iechyd anifeiliaid neu iechyd y cyhoedd, bydd gan y naill neu'r llall ohonynt bŵer i ddyroddi datganiad ysgrifenedig yn atal unrhyw gynnyrch rhag cael ei gyflwyno i Gymru o'r drydedd wlad gyfan honno neu unrhyw ran ohoni, neu yn gosod amodau ar ei gyflwyno i Gymru.
(2) Rhaid i ddatganiad o'r fath gael ei gyhoeddi yn y modd y gwêl y person a'i dyroddodd yn dda a rhaid pennu'r cynnyrch a'r drydedd wlad neu'r rhan ohoni sydd o dan sylw.
(3) Rhaid i ddatganiad sy'n gosod amodau ar gyflwyno unrhyw gynnyrch o drydedd wlad neu ran ohoni bennu'r amodau hynny.
(4) Pan fo datganiad mewn grym sy'n atal unrhyw gynnyrch rhag cael ei gyflwyno, ni chaiff neb gyflwyno'r cynnyrch hwnnw i Gymru os yw'n tarddu o'r drydedd wlad neu'r rhan ohoni a bennir yn y datganiad.
(5) Pan fo datganiad mewn grym sy'n gosod amodau ar gyflwyno unrhyw gynnyrch, ni chaiff neb gyflwyno'r cynnyrch hwnnw i Gymru os yw'n tarddu o'r drydedd wlad neu'r rhan ohoni a bennir yn y datganiad oni bai bod y cynnyrch yn cydymffurfio â'r amodau a bennir yn y datganiad.
(6) Caiff datganiad gael ei addasu, ei atal neu ei ddirymu gan ddatganiad ysgrifenedig pellach a gyhoeddir, cyhyd ag y bo'n ymarferol, yn yr un modd ac i'r un graddau â'r datganiad gwreiddiol.
Gwybodaeth Cychwyn
I35Rhl. 35 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1
36.—(1) Mae’r costau a dynnir gan yr awdurdod gorfodi wrth gymryd y mesurau y mae’r gweithredydd yn atebol amdanynt o dan Erthyglau 66, 67 a 69 o Reoliad 2017/625 yn daladwy gan y gweithredydd ar archiad ysgrifenedig yr awdurdod gorfodi.
(2) Mae’r costau rheolaethau swyddogol a gweithgareddau eraill y cyfeirir atynt yn Erthygl 80 o Reoliad 2017/625 yn daladwy gan y gweithredydd ar archiad ysgrifenedig yr awdurdod gorfodi.]
Diwygiadau Testunol
F43Rhl. 36 wedi ei amnewid (14.12.2019) gan Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2019 (O.S. 2019/1482), rhlau. 1(1), 27
Gwybodaeth Cychwyn
I36Rhl. 36 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1
37. Caiff swyddog awdurdodedig i awdurdod bwyd, at ddibenion gweithredu a gorfodi'r Darpariaethau Mewnforio gan yr awdurdod hwnnw—
(a)prynu sampl o unrhyw fwyd, neu unrhyw sylwedd y gellir ei ddefnyddio i baratoi bwyd;
(b)cymryd sampl o unrhyw fwyd, neu unrhyw sylwedd—
(i)y mae'n ymddangos i'r swyddog ei fod wedi'i fwriadu i'w roi ar y farchnad neu ei fod wedi'i roi ar y farchnad, i'w fwyta gan bobl, neu
(ii)y mae'r swyddog yn dod o hyd iddo ar unrhyw fangre neu mewn unrhyw fangre y mae'r swyddog wedi'i awdurdodi i fynd i mewn iddi gan reoliad 39 neu odano;
(c)cymryd sampl o unrhyw ffynhonnell fwyd, neu sampl o unrhyw ddeunydd sydd mewn cysylltiad â'r ffynhonnell fwyd, y mae'r swyddog yn dod o hyd iddi neu iddo ar unrhyw fangre o'r fath neu mewn unrhyw fangre o'r fath; ac
(ch)cymryd sampl o unrhyw eitem neu sylwedd y mae'r swyddog yn dod o hyd iddi neu iddo ar neu mewn unrhyw fangre o'r fath ac y mae gan y swyddog reswm dros gredu y gallai fod angen amdani neu amdano fel tystiolaeth mewn achos cyfreithiol o dan unrhyw un o'r darpariaethau yn y Darpariaethau Mewnforio.
Gwybodaeth Cychwyn
I37Rhl. 37 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1
38.—(1) Rhaid i swyddog awdurdodedig i awdurdod bwyd sydd wedi caffael sampl o dan reoliad 37—
(a)ei chyflwyno i gael ei dadansoddi gan ddadansoddydd cyhoeddus, os yw'r swyddog o'r farn y dylai'r sampl gael ei dadansoddi;
(b)ei chyflwyno i gael ei harchwilio gan archwilydd bwyd, os yw'r swyddog o'r farn y dylai'r sampl gael ei harchwilio.
(2) Caiff person, heblaw swyddog o'r fath, ac sydd wedi prynu unrhyw fwyd, neu unrhyw sylwedd y gellir ei ddefnyddio i baratoi bwyd, gyflwyno sampl ohono—
(a)i gael ei dadansoddi gan y dadansoddydd cyhoeddus ar gyfer yr ardal lle cafodd y bwyd neu'r sylwedd ei brynu; neu
(b)i gael ei harchwilio gan archwilydd bwyd.
(3) Mewn unrhyw achos lle bwriedir cyflwyno sampl i'w dadansoddi o dan y rheoliad hwn, os yw swydd y dadansoddydd cyhoeddus ar gyfer yr ardal o dan sylw yn wag, rhaid i'r sampl gael ei chyflwyno i'r dadansoddydd cyhoeddus ar gyfer rhyw ardal arall.
(4) Mewn unrhyw achos lle bwriedir cyflwyno neu lle cyflwynir sampl i'w dadansoddi neu i'w harchwilio o dan y rheoliad hwn, os yw'r dadansoddydd bwyd neu'r archwilydd bwyd yn penderfynu nad yw'n gallu cyflawni'r dadansoddiad neu'r archwiliad am unrhyw reswm, rhaid iddo gyflwyno neu, yn ôl fel y digwydd, anfon y sampl at unrhyw ddadansoddydd bwyd neu archwilydd bwyd arall y bydd yn penderfynu arno.
(5) Rhaid i ddadansoddydd bwyd neu archwilydd bwyd ddadansoddi neu archwilio cyn gynted ag y bo'n ymarferol unrhyw sampl a gyflwynwyd iddo neu a anfonwyd ato o dan y rheoliad hwn, ond ac eithrio—
(a)os ef yw'r dadansoddydd cyhoeddus ar gyfer yr ardal o dan sylw; a
(b)os yw'r samplawedi'i chyflwyno iddo ar gyfer dadansoddiad gan swyddog awdurdodedig i awdurdod bwyd,
caiff fynnu ymlaen llaw fod unrhyw ffi resymol y bydd yn gofyn amdani yn cael ei thalu.
(6) Rhaid i unrhyw ddadansoddydd bwyd neu archwilydd bwyd sydd wedi dadansoddi neu wedi archwilio sampl roi i'r person y cafodd ei chyflwyno ganddo dystysgrif sy'n nodi canlyniad y dadansoddiad neu'r archwiliad.
(7) Rhaid i unrhyw dystysgrif a roddir gan ddadansoddydd bwyd neu archwilydd bwyd o dan baragraff (6) gael ei llofnodi ganddo, ond caniateir i'r dadansoddiad neu'r archwiliad gael ei wneud gan unrhyw berson sy'n gweithredu o dan ei gyfarwyddyd.
(8) Mewn unrhyw achos cyfreithiol o dan y Darpariaethau Mewnforio, bydd y ffaith bod un o'r partïon yn dangos—
(a)dogfen sy'n honni ei bod yn dystysgrif a roddwyd gan ddadansoddydd bwyd neu archwilydd bwyd o dan baragraff (6); neu
(b)dogfen a ddarparwyd i'r parti hwnnw gan y parti arall fel un a oedd yn gopi o'r dystysgrif honno,
yn dystiolaeth ddigonol o'r ffeithiau a nodir ynddi oni bai, mewn achos sy'n dod o dan is-baragraff (a), bod y parti arall yn ei gwneud yn ofynnol i'r dadansoddydd bwyd neu'r archwilydd bwyd gael ei alw i fod yn dyst.
(9) Dehonglir unrhyw gyfeiriad yn y rheoliad hwn at ddadansoddydd cyhoeddus ar gyfer ardal benodedig, pan fo dau neu ragor o ddadansoddwyr cyhoeddus wedi'u penodi ar gyfer yr ardal honno, fel cyfeiriad at y naill neu'r llall ohonynt neu at unrhyw un ohonynt.
(10) Mae'r Rheoliadau [F44Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) 2013] (9) yn gymwys i sampl a gaffaelwyd gan swyddog awdurdodedig i awdurdod bwyd o dan reoliad 37 fel petai'n sampl a gaffaelwyd gan swyddog awdurdodedig o dan adran 29 o'r Ddeddf.
(11) Rhaid i'r dystysgrif a roddir gan ddadansoddydd bwyd neu archwilydd bwyd o dan baragraff (6) fod ar y ffurf a nodir yn Atodlen 3 i Reoliadau [F44Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) 2013] .
Diwygiadau Testunol
F44Geiriau yn rhl. 38(10)(11) wedi eu hamnewid (C.) (6.4.2013) gan Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) (Cymru) 2013 (O.S. 2013/479), rhlau. 1, 11(b) (ynghyd ag ergl. 3, Atod. 1)
Gwybodaeth Cychwyn
I38Rhl. 38 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1
39.—(1) Bydd gan swyddog awdurdodedig i awdurdod bwyd, wedi iddo ddangos, os gofynnir iddo wneud hynny, ryw ddogfen a ddilyswyd yn briodol ac sy'n dangos ei awdurdod, hawl ar bob adeg resymol—
(a)i fynd i mewn i unrhyw fangre o fewn ardal yr awdurdod er mwyn darganfod a oes unrhyw un o'r darpariaethau yn y Darpariaethau Mewnforio o ran bwyd yn cael neu wedi cael ei thorri ar y fangre;
(b)i fynd i mewn i unrhyw fangre, boed o fewn ardal yr awdurdod neu y tu allan iddi, er mwyn darganfod a oes ar y fangre unrhyw dystiolaeth am unrhyw doriad o'r fath yn yr ardal honno; ac
(c)i fynd i mewn i unrhyw fangre er mwyn i'r awdurdod gyflawni ei swyddogaethau o dan y Darpariaethau Mewnforio,
ond ni chaniateir mynnu cael mynediad fel mater o hawl i unrhyw fangre sy'n cael ei defnyddio'n unig fel tŷ annedd preifat oni bai bod hysbysiad am y bwriad i fynd i mewn i'r fangre wedi'u rhoi i'r meddiannydd 2 awr ymlaen llaw.
(2) Os bydd ynad heddwch, ar ôl cael gwybodaeth ysgrifenedig ar lw, wedi'i fodloni bod sail resymol dros fynd ar unrhyw fangre at unrhyw ddiben a grybwyllwyd ym mharagraff (1) a naill ai—
(a)bod mynediad i'r fangre wedi'i wrthod, neu y deellir y gall gael ei wrthod, a bod hysbysiad o'r bwriad i wneud cais am warant wedi'i roi i'r meddiannydd; neu
(b)y byddai cais am fynediad, neu roi hysbysiad o'r fath, yn mynd yn groes i'r amcan o fynd i mewn i'r fangre, neu fod yr achos yn achos brys, neu fod y fangre heb ei meddiannu neu fod y meddiannydd yn absennol dros dro,
caiff yr ynad drwy warant a lofnodir ganddo awdurdodi'r swyddog awdurdodedig i fynd i mewn i'r fangre, gan ddefnyddio grym rhesymol os bydd ei angen.
(3) Bydd pob gwarant a roddir o dan y rheoliad hwn yn parhau mewn grym am gyfnod o un mis.
(4) Caiff swyddog awdurdodedig sy'n mynd i mewn i unrhyw fangre yn rhinwedd y rheoliad hwn, neu yn rhinwedd gwarant a ddyroddwyd odano, fynd ag unrhyw bersonau eraill y mae'n barnu eu bod yn angenrheidiol gydag ef, ac wrth ymadael ag unrhyw fangre sydd heb ei meddiannu ac y mae'r swyddog wedi mynd i mewn iddi yn rhinwedd gwarant o'r fath, rhaid iddo ei gadael yn fangre sydd wedi'i diogelu yr un mor effeithiol rhag mynediad diawdurdod ag yr oedd pan aeth yno yn gyntaf.
(5) Caiff swyddog awdurdodedig sy'n mynd i mewn i fangre yn rhinwedd y rheoliad hwn, neu yn rhinwedd gwarant a ddyroddwyd odano, arolygu unrhyw gofnodion (ar ba ffurf bynnag y maent yn cael eu cadw) sy'n ymwneud â busnes bwyd, a phan fo'r cofnodion hynny yn cael eu storio ar unrhyw ffurf electronig—
(a)caiff fynd at unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw aparatws neu ddeunydd perthynol a ddefnyddir neu a ddefnyddiwyd mewn cysylltiad â'r cofnodion, a'u harolygu a gwirio eu gweithrediad; a
(b)caiff ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sydd â gofal dros y cyfrifiadur, yr aparatws neu'r deunydd, neu sydd fel arall yn ymwneud â'u gweithredu, roi iddo unrhyw gymorth y mae arno angen rhesymol amdano.
(6) Caiff unrhyw swyddog sy'n arfer unrhyw bŵer a roddwyd gan baragraff (5)—
(a)cymryd i'w feddiant a chadw unrhyw gofnodion y mae ganddo reswm dros gredu y gallai fod angen amdanynt fel tystiolaeth mewn achos cyfreithiol o dan unrhyw un o'r darpariaethau yn y Darpariaethau Mewnforio; a
(b)pan fo'r cofnodion wedi'u storio ar unrhyw ffurf electronig, ei gwneud yn ofynnol i'r cofnodion gael eu darparu ar ffurf a fyddai'n caniatáu mynd â hwy oddi yno.
(7) Os bydd unrhyw berson sy'n mynd i unrhyw fangre yn rhinwedd y rheoliad hwn, neu yn rhinwedd gwarant a roddwyd odano, yn datgelu i unrhyw berson arall unrhyw wybodaeth y mae wedi'i chael ar y fangre o ran unrhyw gyfrinach fasnachol, bydd yn euog o dramgwydd, oni bai bod y datgeliad wedi'i wneud wrth iddo gyflawni ei ddyletswydd.
(8) Ni fydd dim yn y rheoliad hwn yn awdurdodi neb, ac eithrio gyda chaniatâd yr awdurdod lleol o dan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981, i fynd i mewn i unrhyw fangre—
(a)lle cedwir anifail neu aderyn y mae unrhyw glefyd y mae'r Ddeddf honno yn gymwys iddo wedi effeithio arno; a
(b)sydd wedi'i leoli mewn man y datganwyd ei fod wedi'i heintio â chlefyd o'r fath o dan y Ddeddf honno.
Gwybodaeth Cychwyn
I39Rhl. 39 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1
40.—(1) Bydd unrhyw berson sydd—
(a)yn fwriadol yn rhwystro unrhyw berson sy'n gweithredu i roi'r Darpariaethau Mewnforio ar waith; neu
(b)yn methu, heb achos rhesymol, â rhoi i unrhyw berson sy'n gweithredu i roi'r Darpariaethau Mewnforio ar waith unrhyw gymorth neu wybodaeth y gall y person hwnnw ofyn yn rhesymol amdano neu amdani er mwyn cyflawni ei swyddogaethau o dan y Darpariaethau Mewnforio,
yn euog o dramgwydd.
(2) Bydd unrhyw berson sydd, gan honni ei fod yn cydymffurfio ag unrhyw ofyniad a grybwyllwyd ym mharagraff (1)(b)—
(a)yn rhoi gwybodaeth y mae'n gwybod ei bod yn ffug neu'n gamarweiniol mewn manylyn o bwys; neu
(b)yn ddi-hid yn rhoi gwybodaeth sy'n ffug neu'n gamarweiniol mewn manylyn o bwys,
yn euog o dramgwydd.
(3) Ni chaniateir dehongli dim ym mharagraff (1)(b) fel pe bai'n ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson ateb unrhyw gwestiwn neu roi unrhyw wybodaeth os byddai gwneud hynny yn gallu ei argyhuddo.
Gwybodaeth Cychwyn
I40Rhl. 40 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1
41.—(1) Bydd unrhyw berson sydd—
(a)yn mynd yn groes i unrhyw rai o'r darpariaethau [F45mewnforio] penodedig neu yn methu â chydymffurfio â hwy;
(b)yn mynd yn groes i baragraff (3) o reoliad 26, paragraff (5) o reoliad 27 neu baragraff (4) neu (5) o reoliad 35 neu yn methu â chydymffurfio â hwy;
(c)yn mynd yn groes i unrhyw rai o'r gwaharddiadau ym mharagraff (1) o reoliad 28;
(ch)i'r graddau na fydd mynd yn groes i reoliad 29 neu fethu â chydymffurfio ag ef yn dramgwydd o dan reoliad 40, yn mynd yn groes i reoliad 29 neu'n methu â chydymffurfio ag ef; neu
(d)yn methu â chydymffurfio â hysbysiad a gyflwynir iddo o dan y Darpariaethau Mewnforio,
yn euog o dramgwydd.
[F46(1A) Bydd unrhyw berson sy’n mewnforio i Gymru neu’n rhoi ar y farchnad unrhyw egin neu hadau sydd wedi eu bwriadu ar gyfer egino nad ydynt yn cydymffurfio â gofynion ardystio Erthygl 3 o Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 211/2013 ar ofynion ardystio mewnforion egin a hadau i’r Undeb sydd wedi eu bwriadu ar gyfer cynhyrchu egin yn euog o dramgwydd.]
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan y Rhan hon o'r Rheoliadau hyn yn agored—
(a)o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n fwy na'r uchafswm statudol; neu
(b)o'i gollfarnu ar dditiad, i garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na dwy flynedd, i ddirwy neu i'r ddau.
(3) Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan reoliad 0 yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol neu i garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na thri mis, neu i'r ddau.
Diwygiadau Testunol
F45Gair yn rhl. 41(1)(a) wedi ei fewnosod (C.) (23.11.2010) gan Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Cymru) 2010 (O.S. 2010/2652), rhlau. 1, 16(4)
F46Rhl. 41(1A) wedi ei fewnosod (C.) (31.12.2013) gan Rheoliadau Diogelwch Bwyd, Hylendid Bwyd a Rheolaethau Swyddogol (Hadau Egino) (Cymru) 2013 (O.S. 2013/3007), rhlau. 1(2), 4(3)
Gwybodaeth Cychwyn
I41Rhl. 41 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1
42. Ni chaniateir cychwyn unrhyw erlyniad am dramgwydd o dan y Rhan hon o'r Rheoliadau hyn sy'n dramgwydd y gellir ei gosbi o dan reoliad 1(2), ar ôl i'r naill neu'r llall o'r cyfnodau canlynol ddod i ben—
(a)tair blynedd o ddyddiad cyflawni'r tramgwydd; neu
(b)blwyddyn o ddyddiad ei ddarganfod gan yr erlynydd,
p'un bynnag yw'r cynharaf.
Gwybodaeth Cychwyn
I42Rhl. 42 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1
F4743. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Diwygiadau Testunol
F47Rhl. 43 wedi ei hepgor (C.) (14.12.2019) yn rhinwedd Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2019 (O.S. 2019/1482), rhlau. 1(1), 28
F4844. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Diwygiadau Testunol
F48Rhl. 44 wedi ei hepgor (C.) (14.12.2019) yn rhinwedd Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2019 (O.S. 2019/1482), rhlau. 1(1), 29
45. Pan fo tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn yn cael ei gyflawni gan unrhyw berson oherwydd gweithred neu ddiffyg gweithred rhyw berson arall, bydd y person arall hwnnw yn euog o'r tramgwydd; a chaniateir i berson gael ei gollfarnu o'r tramgwydd yn rhinwedd y rheoliad hwn p'un a ddygir achos cyfreithiol yn erbyn y person a grybwyllwyd yn gyntaf neu beidio.
Gwybodaeth Cychwyn
I43Rhl. 45 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1
46.—(1) Mewn unrhyw achos cyfreithiol am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, bydd yn amddiffyniad, yn ddarostyngedig i baragraff (2), i'r sawl a gyhuddir brofi ei fod wedi cymryd pob rhagofal rhesymol ac wedi arfer pob diwydrwydd dyladwy i osgoi cyflawni'r tramgwydd ei hun neu i osgoi iddo gael ei gyflawni gan berson sydd o dan ei reolaeth.
(2) Os yw'r amddiffyniad sy'n cael ei ddarparu gan baragraff (1) yn cynnwys mewn unrhyw achos, yr honiad bod y tramgwydd wedi'i gyflawni oherwydd gweithred neu ddiffyg gweithred person arall, neu drwy ddibynnu ar wybodaeth a ddarparwyd gan berson arall, ni fydd gan y sawl a gyhuddir, heb ganiatâd y llys, hawl i ddibynnu ar yr amddiffyniad hwnnw, oni bai bod y sawl a gyhuddir—
(a)o leiaf saith niwrnod clir cyn y gwrandawiad; a
(b)pan fo wedi ymddangos o'r blaen gerbron llys mewn cysylltiad â'r tramgwydd honedig, o fewn un mis i'w ymddangosiad cyntaf hwnnw,
wedi cyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i'r erlynydd yn rhoi unrhyw wybodaeth a fyddai'n fodd i adnabod neu i helpu i adnabod y person arall hwnnw a honno'n wybodaeth a oedd ar y pryd ym meddiant y sawl a gyhuddir.
Gwybodaeth Cychwyn
I44Rhl. 46 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1
47.—(1) Os profir bod tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn a gyflawnwyd gan gorff corfforaethol wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad unrhyw un o'r canlynol, neu y gellir priodoli'r tramgwydd hwnnw i unrhyw esgeulustod ar ran unrhyw un o'r canlynol—
(a)unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall i'r corff corfforaethol; neu
(b)unrhyw berson a oedd yn honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd unrhywswydd o'r fath,
bernir bod y person hwnnw, yn ogystal â'r corff corfforaethol, yn euog o'r tramgwydd hwnnw a bydd yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.
(2) Ym mharagraff (1)(a) ystyr “cyfarwyddwr”, mewn perthynas ag unrhyw gorff corfforaethol a sefydlwyd gan neu o dan unrhyw ddeddfiad er mwyn rhedeg o dan berchenogaeth genedlaethol unrhyw ddiwydiant, neu ran o ddiwydiant neu ymgymeriad, a hwnnw'n gorff corfforaethol y mae ei faterion yn cael eu rheoli gan ei aelodau, yw aelod o'r corff corfforaethol hwnnw.
Gwybodaeth Cychwyn
I45Rhl. 47 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1
48. Os profir bod tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn a gyflawnwyd gan bartneriaeth Albanaidd wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad partner, neu y gellir priodoli'r tramgwydd hwnnw i unrhyw esgeulustod ar ran partner, bernir bod y partner hwnnw, yn ogystal â'r bartneriaeth, yn euog o'r tramgwydd hwnnw a bydd yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.
Gwybodaeth Cychwyn
I46Rhl. 48 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1
49.—(1) Ni fydd swyddog i gorff perthnasol yn atebol yn bersonol am unrhyw weithred a gyflawnir ganddo—
(a)wrth iddo weithredu neu honni ei fod yn gweithredu'r Rheoliadau Rheolaeth Swyddogol; a
(b)o fewn cwmpas ei gyflogaeth,
os gwnaeth y swyddog y weithred honno gan gredu'n onest bod ei ddyletswydd o dan y Rheoliadau Rheolaeth Swyddogol yn ei gwneud yn ofynnol iddo wneud hynny neu'n rhoi hawl iddo wneud hynny.
(2) Nid oes dim ym mharagraff (1) i'w ddehongli fel pe bai'n rhyddhau unrhyw gorff perthnasol rhag unrhyw rwymedigaeth mewn perthynas â gweithredoedd ei swyddogion.
(3) Pan fo achos cyfreithiolawedi'i ddwyn yn erbyn swyddog i gorff perthnasol mewn perthynas â gweithred a wnaed gan y swyddog—
(a)wrth iddo weithredu neu honni ei fod yn gweithredu'r Rheoliadau Rheolaeth Swyddogol; ond
(b)y tu allan i gwmpas ei gyflogaeth,
caiff y corff indemnio'r swyddog yn erbyn y cyfan neu ran o unrhyw iawndal y gorchmynnwyd i'r swyddog ei dalu neu unrhyw gostau y gall y swyddog fod wedi'u tynnu, os yw'r corff hwnnw wedi'i fodloni bod y swyddog yn credu'n onest bod y weithred y cwynir amdani o fewn cwmpas ei gyflogaeth.
(4) I'r graddau y mae awdurdod bwyd yn gorff perthnasol at ddibenion y rheoliad hwn, rhaid ymdrin â dadansoddydd cyhoeddus a benodwyd gan awdurdod bwyd at ddibenion y rheoliad hwn fel swyddog i'r awdurdod, p'un a yw penodiad y dadansoddydd yn benodiad amser-cyfan neu beidio.
(5) Yn y rheoliad hwn ystyr “corff perthnasol” yw corff sy'n gweithredu—
(a)fel awdurdod cymwys;
(b)fel awdurdod gorfodi fel y'i diffinnir yn rheoliad 22; neu
(c)fel awdurdod gorfodi perthnasol.
Gwybodaeth Cychwyn
I47Rhl. 49 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1
50.—(1) Caniateir i unrhyw ddogfen y mae'n ofynnol neu yr awdurdodir ei chyflwyno i berson o dan y Rheoliadau hyn gael ei chyflwyno i'r person o dan sylw—
(a)drwy ei thraddodi i'r person hwnnw;
(b)yn achos person sy'n gorff corfforaethol ac eithrio partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig, drwy ei thraddodi i'w ysgrifennydd yn swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa'r corff corfforaethol, neu drwy ei hanfon mewn llythyr rhagdaledig a gyfeirir at yr ysgrifennydd yn y swyddfa honno;
(c)yn achos person sy'n bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig, drwy ei thraddodi i aelod dynodedig o'r bartneriaeth yn swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa'r bartneriaeth neu drwy ei hanfon mewn llythyr rhagdaledig a gyfeirir at aelod dynodedig o'r bartneriaeth yn y swyddfa honno;
(ch)yn achos person sy'n bartneriaeth ac eithrio partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig, drwy ei thraddodi i brif fan busnes y bartneriaeth; neu
(d)yn achos unrhyw berson arall, drwy ei gadael neu ei hanfon mewn llythyr rhagdaledig sydd wedi'i gyfeirio at y person hwnnw yn ei breswylfan arferol neu ei breswylfan hysbys ddiwethaf.
(2) Pan fo dogfen i'w chyflwyno i feddiannydd unrhyw fangre o dan y Rheoliadau hyn ac nad yw'n rhesymol ymarferol darganfod enw a chyfeiriad y person y dylid ei chyflwyno iddo, neu pan fo'r fangre heb ei meddiannu, caniateir i'r ddogfen gael ei chyflwyno drwy ei chyfeirio at y person o dan sylw yn rhinwedd ei swyddogaeth fel “meddiannydd” y fangre (gan enwi'r meddiannydd), ac—
(a)drwy ei thraddodi i ryw berson arall yn y fangre; a
(b)os nad oes unrhyw berson arall yn y fangre y gellir ei thraddodi iddo, drwy osod y ddogfen neu gopi ohoni ar ryw ran amlwg o'r fangre.
Gwybodaeth Cychwyn
I48Rhl. 50 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1
F4951. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Diwygiadau Testunol
F49Rhl. 51 wedi ei dirymu (C.) (12.5.2016) gan Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Hylendid, Samplu etc. a Gorfodi) (Cymru) 2016 (O.S. 2016/387), rhl. 1(2), Atod. 5
Gwybodaeth Cychwyn
I49Rhl. 51 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1
52. Mae'r Rheoliadau canlynolawedi'u dirymu—
(a)Rheoliadau Bwyd (Tsilis, Cynhyrchion Tsilis, Cwrcwma ac Olew Palmwydd) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2005(10);
(b)Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd 2007(11).
Gwybodaeth Cychwyn
I50Rhl. 52 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1
Gwenda Thomas
Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
21 Rhagfyr 2009
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: