- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
TAI, CYMRU
Gwnaed
26 Chwefror 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
27 Chwefror 2009
Yn dod i rym
20 Mawrth 2009
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) 2009 a deuant i rym ar 20 Mawrth 2009.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2.—(1) Diwygir Rheoliadau Dyrannu Tai (Cymru) 2003(3) fel a ganlyn—
(2) Yn rheoliad 5(c) yn lle “.” rhodder “;”.
(3) Ar ôl rheoliad 5(c) mewnosoder—
“(ch)person—
(i)a gyrhaeddodd Brydain Fawr ar 28 Chwefror 2009 neu ar ôl hynny ond cyn 18 Mawrth 2011;
(ii)oedd yn union cyn iddo gyrraedd Prydain Fawr wedi bod yn preswylio yn Zimbabwe; a
(iii)oedd yn union cyn gadael Zimbabwe, wedi derbyn cynnig, a wnaed gan Lywodraeth Ei Mawrhydi, i'w gynorthwyo i ymsefydlu yn y Deyrnas Unedig.”.
3.—(1) Diwygir Rheoliadau Digartrefedd (Cymru) 2006(4) fel a ganlyn—
(2) Yn rheoliad 4 (2) (ch) yn lle “.” rhodder “;”.
(3) Ar ôl rheoliad 4 (2) (ch) mewnosoder—
“(d)person—
(i)a gyrhaeddodd Brydain Fawr ar 28 Chwefror 2009 neu ar ôl hynny ond cyn 18 Mawrth 2011;
(ii)oedd yn union cyn iddo gyrraedd Prydain Fawr yn preswylio yn Zimbabwe; a
(iii)oedd yn union cyn gadael Zimbabwe, wedi derbyn cynnig, a wnaed gan Lywodraeth Ei Mawrhydi, i'w gynorthwyo i ymsefydlu yn y Deyrnas Unedig.”.
Jocelyn Davies
O dan awdurdod y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru
26 Chwefror 2009
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio darpariaethau Rheoliadau Dyrannu Tai (Cymru) 2003 (“y Rheoliadau Dyrannu”) a Rheoliadau Digartrefedd (Cymru) 2006 (“y Rheoliadau Digartrefedd”) sy'n pennu pa bersonau o dramor, ac eithrio personau sy'n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo, nad ydynt yn gymwys ar gyfer dyraniad o lety tai o dan Ran VI o Ddeddf Tai 1996 nac ar gyfer cymorth tai o dan Ran VII o'r Ddeddf honno.
Mae rheoliad 5 o'r Rheoliadau Dyrannu yn pennu nad yw person sydd heb fod yn ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo yn gymwys ar gyfer dyraniad os nad yw'n preswylio'n feunyddiol yn yr Ardal Deithio Gyffredin onid yw wedi'i eithrio'n benodol rhag y gofyniad hwnnw. Mae rheoliad 4 o'r Rheoliadau Digartrefedd yn pennu nad yw person sydd heb fod yn ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo yn gymwys ar gyfer cymorth tai os nad yw'n preswylio'n feunyddiol yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon, onid yw wedi'i eithrio'n benodol rhag y gofyniad hwnnw. Mae rheoliadau 2 a 3 yn diwygio'r Rheoliadau Dyrannu a'r Rheoliadau Digartrefedd i greu eithriadau o'r fath. Effaith y darpariaethau yw y bydd person sydd heb fod yn ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo nad yw'n preswylio'n feunyddiol, ac sydd wedi gadael Zimbabwe ac wedi cyrraedd Prydain Fawr ar 28 Chwefror 2009 neu ar ôl hynny wedi iddo dderbyn cynnig gan Lywodraeth Ei Mawrhydi am gymorth i ymsefydlu yn y Deyrnas Unedig, yn gymwys ar gyfer dyraniad o lety tai ac ar gyfer cymorth tai. Dim ond hyd 17 Mawrth 2011 y bydd yr eithriadau yn cael eu heffaith fodd bynnag.
1996 p.52. Mewnosodwyd adran 160A gan adran 149 o Ddeddf Digartrefedd 2002 (p.7).
Cafodd y swyddogaethau o dan Ran VI a VII o Ddeddf Tai 1996 (ac eithrio adrannau 186 a 187), i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), sy'n cynnwys diwygiadau nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn ac adran 17(1) o Ddeddf Digartrefedd 2002. Yn rhinwedd paragraffau 30 a 32 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) mae'r swyddogaethau oedd gynt yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru bellach wedi'u breinio yng Ngweinidogion Cymru. Mae'r swyddogaethau o dan adran 185 yn arferadwy yn gydredol â'r Ysgrifennydd Gwladol.
O.S. 2003/239 (Cy.36) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2006/2645 (Cy.226).
O.S. 2006/2646 (Cy.227) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2008/1879.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:
The data on this page is available in the alternative data formats listed: