- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu a Diddymu) (Cymru) 2009.
(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Mehefin 2009.
2. Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “ardal Bwrdd Iechyd Lleol” (“Local Health Board area”) yw'r ardal o Gymru y sefydlir Bwrdd Iechyd Lleol o dan erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn ar ei chyfer;
ystyr “dyddiad diddymu” (“dissolution date”) yw 1 Hydref 2009;
mae i'r ymadrodd “dyddiad gweithredol” yr ystyr a roddir i “operational date” ym mharagraff 11(2) o Atodlen 2 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;
ystyr “dyddiad sefydlu” (“establishment date”) yw 1 Mehefin 2009; ac
ystyr “prif ardal llywodraeth leol” (“principal local government area”) yw prif ardal llywodraeth leol yng Nghymru fel y'i disgrifir yn Rhannau I a II o Atodlen 4 i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(1).
3. Yn effeithiol o'r dyddiad sefydlu, sefydlir y chwe Bwrdd Iechyd Lleol a restrir yng ngholofn 1 yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn ac fe'u gelwir wrth yr enwau a bennir ar eu cyfer yn yr Atodlen honno.
4.—(1) Mae pob ardal Bwrdd Iechyd Lleol yn cyfateb i'r prif ardaloedd llywodraeth leol a bennir ar ei gyfer yng ngholofn 2 o Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn.
(2) Os yw'r prif ardaloedd llywodraeth leol a bennir ar gyfer Bwrdd Iechyd Lleol o dan baragraff (1) uchod yn cael eu hamrywio, yna mae ardal y Bwrdd Iechyd Lleol i gael ei hamrywio yn unol â hynny.
(3) Nid yw paragraff (2) uchod yn gymwys i'r weithred o greu prif ardal newydd llywodraeth leol, o ddiddymu prif ardal bresennol llywodraeth leol neu o uno dwy brif ardal llywodraeth leol neu fwy.
5.—(1) Dyddiad gweithredol pob Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlir o dan erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn yw 1 Hydref 2009.
(2) Dyddiad cyfrifyddu pob Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlir o dan erthygl 3 i'r Gorchymyn hwn yw 31 Mawrth.
6. Rhwng dyddiad ei sefydlu a'i ddyddiad gweithredol, bydd gan bob Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlir o dan erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn y swyddogaethau a ganlyn—
(a)ymrwymo i gontractau'r GIG;
(b)ymrwymo i gontractau eraill gan gynnwys contractau cyflogaeth; ac
(c)gwneud y cyfryw bethau eraill ag sy'n rhesymol angenrheidiol i'w alluogi i ddechrau gweithredu'n foddhaol yn effeithiol o'r dyddiad gweithredol ymlaen.
7. Diddymir, yn effeithiol o'r dyddiad diddymu, yr un ar hugain o Fyrddau Iechyd Lleol a restrir yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn ac a sefydlwyd gan Orchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu) (Cymru) 2003(2).
8. Diwygir Gorchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu) (Cymru) 2003 yn unol ag erthygl 9.
9. Yn effeithiol o'r dyddiad diddymu, dileer yr Atodlen i Orchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu) (Cymru) 2003 (enwau byrddau iechyd lleol a phrif ardaloedd llywodraeth leol y maent yn cael eu sefydlu ar eu cyfer) a rhodder yn ei lle'r Atodlen yn Atodlen 3 i'r Gorchymyn hwn.
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
24 Mawrth 2009
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: