Search Legislation

Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009

Statws

This is the original version (as it was originally made).

RHAN 1Darpariaethau rhagarweiniol

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009. Maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 6 Mai 2009.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru a'r ardaloedd a bennir yn rheoliad 6.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “adnoddyn naturiol” (“natural resource”) yw—

    (a)

    rhywogaethau a warchodir;

    (b)

    cynefinoedd naturiol;

    (c)

    rhywogaethau neu gynefinoedd ar safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig yr hysbyswyd o'r safle o dan adran 28 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981(1);

    (ch)

    dŵr; a

    (d)

    tir;

  • ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol;

  • mae i “Cymru” yr ystyr a roddir i “Wales” o dan adran 158 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006(2);

  • ystyr “cynefin naturiol” (“natural habitat”) yw—

    (a)

    cynefinoedd rhywogaethau a grybwyllir yn Erthygl 4(2) o Gyfarwyddeb y Cyngor 79/409/EEC ar warchod adar gwyllt, neu Atodiad I iddi(3) neu a restrir yn Atodiad II i Gyfarwyddeb y Cyngor 92/43/EEC ar warchod cynefinoedd naturiol a ffawna a fflora gwyllt(4);

    (b)

    y cynefinoedd naturiol a restrir yn Atodiad I i Gyfarwyddeb y Cyngor 92/43/EEC; ac

    (c)

    safleoedd bridio neu orffwysfannau'r rhywogaethau a restrir yn Atodiad IV i Gyfarwyddeb y Cyngor 92/43/EEC;

  • ystyr “dŵr daear” (“groundwater”) yw'r holl ddŵr sydd o dan wyneb y ddaear yn y parth dirlawnder ac sydd mewn cysylltiad uniongyrchol â'r ddaear neu'r isbridd;

  • ystyr “gwasanaethau” (“services”) yw'r swyddogaethau a gyflawnir gan adnoddyn naturiol er budd adnoddyn naturiol arall neu'r cyhoedd;

  • ystyr “gweithgaredd” (“activity”) yw unrhyw weithgaredd economaidd, p'un ai'n gyhoeddus neu'n breifat a ph'un a yw'n cael ei gyflawni er elw ai peidio;

  • ystyr “gweithredwr” (“operator”) yw person sy'n gweithredu neu'n rheoli gweithgaredd, deiliad trwydded neu awdurdodiad sy'n ymwneud â'r gweithgaredd hwnnw neu'r person sy'n cofrestru gweithgaredd o'r fath neu'n hysbysu ohono;

  • ystyr “rhywogaethau a warchodir” (“protected species”) yw'r rhywogaethau a grybwyllir yn Erthygl 4(2) o Gyfarwyddeb y Cyngor 79/409/EEC neu a restrir yn Atodiad I i'r Gyfarwyddeb honno neu Atodiadau II a IV i Gyfarwyddeb y Cyngor 92/43/EEC.

(2Onid ydynt wedi'u diffinio fel arall yn y Rheoliadau hyn, mae i ymadroddion Saesneg a ddefnyddir yng Nghyfarwyddeb 2004/35/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar atebolrwydd amgylcheddol parthed atal a chywiro difrod amgylcheddol(5) yr un ystyr â'r ymadroddion Cymraeg cyfatebol a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn.

(3Mewn perthynas â gollwng organeddau a addaswyd yn enetig yn fwriadol a'u rhoi ar y farchnad, mae “gweithredwr” (“operator”) a “gweithredwr cyfrifol” (“responsible operator”) yn cynnwys—

(a)deiliad cydsyniad perthnasol a ddyroddwyd o dan Gyfarwyddeb 2001/18/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar ollwng yn fwriadol i'r amgylchedd organeddau a addaswyd yn enetig(6);

(b)deiliad cydsyniad perthnasol ar gyfer gollwng yn fwriadol organeddau a addaswyd yn enetig a ddyroddwyd gan Weinidogion Cymru o dan adran 111(1) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990(7); neu

(c)deiliad awdurdodiad perthnasol a ddyroddwyd o dan Reoliad (EC) Rhif 1829/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar fwyd a bwyd anifeiliaid a addaswyd yn enetig(8).

Cyfeiriadau at offerynnau Cymunedol

3.  Mae cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at offerynnau Cymunedol yn gyfeiriadau at yr offerynnau hynny fel y'u diwygir o dro i dro.

Ystyr “difrod amgylcheddol”

4.—(1Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag atal difrod amgylcheddol ac adfer i gywiro'r difrod hwnnw; ac mae “difrod amgylcheddol” (“environmental damage”) yn ddifrod i'r canlynol—

(a)rhywogaethau a warchodir neu gynefinoedd naturiol, neu safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig,

(b)dŵr wyneb neu ddŵr daear, neu

(c)tir,

fel a bennir yn y rheoliad hwn.

(2Mae difrod amgylcheddol i rywogaethau a warchodir neu gynefinoedd naturiol neu safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig yn golygu difrod o fath a bennir yn Atodlen 1.

(3Mae difrod amgylcheddol i ddŵr wyneb yn golygu difrod i grynofa dŵr wyneb sydd wedi'i dosbarthu fel y cyfryw yn unol â Chyfarwyddeb 2000/60/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n sefydlu fframwaith ar gyfer camau Cymunedol ym maes polisi dŵr(9) fel bod—

(a)elfen ansawdd biolegol a restrir yn Atodiad V i'r Gyfarwyddeb honno,

(b)lefel cemegyn a restrir yn y ddeddfwriaeth yn Atodiad IX neu gemegyn sydd wedi'i restru yn Atodiad X i'r Gyfarwyddeb honno, neu

(c)elfen ansawdd ffisiogemegol a restrir yn Atodiad V i'r Gyfarwyddeb honno,

yn newid digon i leihau statws y grynofa ddŵr yn unol â Chyfarwyddeb 2000/60/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor (p'un a yw'r grynofa ddŵr wedi'i hailddosbarthu mewn gwirionedd fel un y mae ei statws yn is ai peidio).

(4Mae difrod amgylcheddol i ddŵr daear yn golygu unrhyw ddifrod i grynofa dŵr daear fel bod ei ddargludedd, lefel neu grynodiad y llygryddion yn newid digon i leihau ei statws yn unol â Chyfarwyddeb 2000/60/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor (ac ar gyfer llygryddion Cyfarwyddeb 2006/118/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar ddiogelu dŵr daear rhag llygredd a dirywiad(10)) (p'un a yw'r grynofa dŵr daear wedi'i hailddosbarthu mewn gwirionedd fel un y mae ei statws yn is ai peidio).

(5Mae difrod amgylcheddol i dir yn golygu halogi tir â sylweddau, paratoadau, organeddau neu ficro-organeddau sy'n arwain at risg sylweddol o effeithiau andwyol ar iechyd dynol.

Difrod amgylcheddol y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddo

5.—(1Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â difrod amgylcheddol os yw wedi'i achosi gan weithgaredd yn Atodlen 2.

(2Yn achos difrod amgylcheddol i rywogaethau a warchodir neu gynefinoedd naturiol neu safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig, mae'r Rheoliadau yn gymwys hefyd o ran difrod amgylcheddol a achosir gan unrhyw weithgaredd arall os oedd y gweithredwr—

(a)yn bwriadu achosi difrod amgylcheddol; neu

(b)yn esgeulus ynghylch a fyddai difrod amgylcheddol yn cael ei achosi.

Yr ardaloedd lle'r mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys

6.—(1Rhaid i'r difrod fod mewn ardal a bennir yn y tabl canlynol—

Y math o ddifrodYr ardal lle mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys
Difrod i ddŵrCymru a'r holl ddyfroedd hyd at un filltir fôr tua'r môr o'r gwaelodlin yng Nghymru
Difrod mewn safle o ddiddordeb gwyddonol arbennigCymru
Difrod i rywogaethau a warchodir neu gynefinoedd naturiolCymru
Difrod i dirCymru

(2Yn y rheoliad hwn, ystyr “y gwaelodlin” (“the baseline”) yw'r gwaelodlinau y mesurir lled y môr tiriogaethol ohonynt at ddibenion Deddf Moroedd Tiriogaethol 1987(11)

Deddfwriaeth arall

7.—(1Nid yw'r Rheoliadau hyn yn lleihau effaith unrhyw ddeddfiad arall ynghylch difrod i'r amgylchedd.

(2Nid ydynt yn lleihau hawl gweithredwr i gyfyngu atebolrwydd yn unol â Chonfensiwn ar Gyfyngu Atebolrwydd am Hawliadau Morol 1976(12).

Esemptiadau

8.—(1Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran—

(a)difrod a ddigwyddodd cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym;

(b)difrod sy'n digwydd ar ôl y dyddiad hwnnw, neu y mae bygythiad y bydd yn digwydd ar ôl y dyddiad hwnnw, ond bod y difrod hwnnw wedi'i achosi gan ddigwyddiad, achlysur neu allyriad a ddigwyddodd cyn y dyddiad hwnnw; neu

(c)difrod sy'n cael ei achosi gan ddigwyddiad, achlysur neu allyriad sy'n digwydd ar ôl y dyddiad hwnnw os yw'n deillio o weithgaredd a ddigwyddodd ac a ddaeth i ben cyn y dyddiad hwnnw.

(2Nid ydynt yn gymwys o ran difrod amgylcheddol sy'n cael ei achosi gan—

(a)gweithred frawychiaeth;

(b)ffenomenon naturiol eithriadol, ar yr amod bod gweithredwr y gweithgaredd o dan sylw wedi cymryd pob rhagofal rhesymol i ddiogelu rhag bod difrod yn cael ei achosi gan achlysur o'r fath;

(c)gweithgareddau a'u hunig bwrpas yw diogelu rhag trychinebau naturiol;

(ch)digwyddiad y mae atebolrwydd neu iawndal amdano yn dod o fewn cwmpas—

(i)Confensiwn Rhyngwladol 27 Tachwedd 1992 ar Atebolrwydd Sifil am Ddifrod drwy Lygredd Olew;

(ii) Confensiwn Rhyngwladol 27 Tachwedd 1992 ar Sefydlu Cronfa Ryngwladol ar gyfer Iawndal am Ddifrod drwy Lygredd Olew(13); neu

(iii) Confensiwn Rhyngwladol ar Atebolrwydd Sifil am Ddifrod drwy Lygredd Olew Byncer 2001(14);

(d)gweithgareddau a'u prif bwrpas yw gwasanaethu dibenion amddiffyn gwladol neu ddiogelwch rhyngwladol;

(dd)ymbelydredd o weithgaredd y mae'r Cytuniad a sefydlodd Gymuned Ynni Atomig Ewrop yn ei gwmpasu neu ymbelydredd a achoswyd gan ddigwyddiad neu weithgaredd y mae atebolrwydd neu iawndal amdano yn dod o fewn cwmpas Confensiwn Paris dyddiedig 29 Gorffennaf 1960 ar Atebolrwydd Trydydd Partïon ym Maes Ynni Niwclear a Chonfensiwn Atodol Brwsel dyddiedig 31 Ionawr 1963; neu

(e)difrod a achoswyd wrth ymgymryd â physgota môr masnachol os cydymffurfiwyd â phob deddfwriaeth sy'n ymwneud â'r pysgota hwnnw.

(3Dim ond os yw'n bosibl cadarnhau cysylltiad achosol rhwng y difrod a gweithgareddau penodol y maent yn gymwys i ddifrod amgylcheddol a achoswyd gan lygredd gwasgarog ei natur.

Esemptiad rhag difrod i ddŵr

9.—(1Nid yw difrod i ddŵr yn cynnwys—

(a)difrod a achosir gan addasiadau newydd i nodweddion ffisegol crynofa dŵr wyneb,

(b)newid i lefel crynofa dŵr daear yn unol â Chyfarwyddeb 2000/60/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor, neu

(c)dirywio o statws uchel i statws da crynofa dŵr wyneb sy'n ganlyniad i weithgareddau newydd o ran datblygiadau dynol cynaliadwy yn unol â'r Gyfarwyddeb honno,

os caiff pob amod ym mharagraff (2) ei gyflawni.

(2Yr amodau yw—

(a)bod pob cam ymarferol yn cael ei gymryd i leddfu ar yr effaith andwyol ar statws y grynofa ddŵr;

(b)bod y rhesymau dros yr addasiadau neu'r newidiadau wedi'u gosod a'u hesbonio yn benodol yn y cynllun rheoli basn afon sy'n ofynnol o dan Erthygl 13 o Gyfarwyddeb 2000/60/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor a bod yr amcanion yn cael eu hadolygu bob chwe mlynedd;

(c)bod y rhesymau dros yr addasiadau neu'r newidiadau o ddiddordeb cyhoeddus hollbwysig, neu fod manteision yr addasiadau newydd neu'r newidiadau newydd i iechyd dynol, i waith cadw pobl yn ddiogel neu i ddatblygu cynaliadwy yn drech na chanlyniad y difrod; ac

(ch)nad oes modd i'r amcanion buddiol, y mae'r addasiadau neu'r newidiadau hynny i'r grynofa ddŵr yn gyfrwng i'w cyflawni, gael eu sicrhau drwy ddulliau eraill oherwydd dichonolrwydd technegol neu gostau anghymesur.

Yr awdurdodau gorfodi o dan Reoliadau Caniatáu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2007

10.—(1Bydd y Rheoliadau hyn yn cael eu gorfodi yn unol â'r rheoliad hwn os bydd y difrod wedi'i achosi gan weithfa, gweithred wastraff neu offer symudol y mae trwydded neu gofrestriad yn ofynnol ar ei chyfer neu ar eu cyfer o dan Reoliadau Caniatáu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2007(15).

(2Os Asiantaeth yr Amgylchedd sy'n gyfrifol am roi'r drwydded, caiff y Rheoliadau hyn eu gorfodi gan Asiantaeth yr Amgylchedd ym mhob achos.

(3Os yr awdurdod lleol sy'n gyfrifol am roi'r drwydded—

(a)gorfodir Rhan 2 gan yr awdurdod lleol;

(b)gorfodir Rhan 3 gan—

(i)yr awdurdod lleol os yw'r difrod yn ddifrod i dir;

(ii)Asiantaeth yr Amgylchedd os yw'r difrod yn ddifrod i ddŵr;

(iii)Cyngor Cefn Gwlad Cymru os yw'r difrod yn ddifrod i gynefinoedd naturiol neu rywogaethau a warchodir neu safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig.

Yr awdurdodau gorfodi mewn achosion eraill

11.—(1Os yw'r difrod wedi'i achosi gan weithgaredd nad yw'n ofynnol cael trwydded neu gofrestriad ar ei gyfer o dan Reoliadau Caniatáu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2007, gorfodir y Rheoliadau hyn yn unol â'r tabl canlynol.

Y math o ddifrod amgylcheddolMan y difrodYr awdurdod gorfodi
Difrod i ddŵr—Asiantaeth yr Amgylchedd
Difrod i r ywogaethau a warchodir neu gynefinoedd naturiol neu safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig—tirCyngor Cefn Gwlad Cymru
dŵr ond nid yn y môr(1)Asiantaeth yr Amgylchedd
y môr— os yw'r difrod oherwydd gweithgaredd a awdurdodwyd gan Asiantaeth yr Amgylchedd, Asiantaeth yr Amgylchedd;
— fel arall, Gweinidogion Cymru
Niwed i dir—Yr awdurdod lleol

(1Mae “môr” yn cynnwys—

(a)unrhyw fan sydd dan y dŵr adeg llanw uchaf cymedrig y gorllanw; a

(b)pob un o'r canlynol, i'r graddau y mae'r llanw'n llifo adeg llanw uchaf cymedrig y gorllanw—

(i)pob aber neu forgainc; a

(ii)dyfroedd unrhyw sianel, cilfach, bae neu afon.

(2Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddiadau cyffredinol neu benodol eu natur i awdurdod gorfodi ynghylch cyflawni ei swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn.

(3Rhaid i awdurdod gorfodi gydymffurfio â chyfarwyddyd a roddir iddo o dan y Rheoliadau hyn.

Gorfodi

12.—(1Os oes mwy nag un math o ddifrod, fel bod mwy nag un awdurdod gorfodi, gorfodir y Rheoliadau hyn gan unrhyw un neu gan bob un o'r awdurdodau gorfodi penodedig.

(2Caiff awdurdod gorfodi ymrwymo i drefniant gydag unrhyw awdurdod gorfodi arall i weithredu ar ei ran.

RHAN 2Atal difrod amgylcheddol

Atal difrod amgylcheddol

13.—(1Rhaid i weithredwr gweithgaredd sy'n peri bod bygythiad agos o ddifrod amgylcheddol, neu fygythiad agos o ddifrod y mae seiliau rhesymol dros gredu y bydd yn datblygu i fod yn ddifrod amgylcheddol, wneud y canlynol ar unwaith—

(a)cymryd pob cam ymarferol i atal y difrod; a

(b)(onid yw'r bygythiad wedi'i ddileu) hysbysu'r awdurdod gorfodi y mae'n ymddangos mai hwnnw yw'r un priodol o'r holl fanylion perthnasol.

(2Caiff yr awdurdod gorfodi gyflwyno hysbysiad i'r gweithredwr hwnnw sydd—

(a)yn disgrifio'r bygythiad;

(b)yn pennu'r mesurau sy'n ofynnol i atal y difrod; ac

(c)yn ei gwneud yn ofynnol i'r gweithredwr gymryd y mesurau hynny, neu'r mesurau sydd o leiaf yn gyfwerth â hwy, o fewn y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad.

(3Mae methu â chydymffurfio â pharagraff (1) neu hysbysiad a gyflwynwyd o dan baragraff (2) yn dramgwydd.

Atal difrod amgylcheddol pellach

14.—(1Rhaid i weithredwr gweithgaredd sydd wedi achosi difrod amgylcheddol, neu sydd wedi achosi difrod pan fo seiliau rhesymol dros gredu bod y difrod yn ddifrod amgylcheddol neu y bydd yn datblygu i fod yn ddifrod o'r fath, wneud y canlynol ar unwaith—

(a)cymryd pob cam ymarferol i atal difrod pellach; a

(b)hysbysu'r awdurdod gorfodi, y mae'n ymddangos mai hwnnw yw'r un priodol, o'r holl fanylion perthnasol.

(2Caiff yr awdurdod gorfodi gyflwyno hysbysiad i'r gweithredwr hwnnw sydd—

(a)yn disgrifio'r difrod;

(b)yn ei gwneud yn ofynnol i'r gweithredwr ddarparu gwybodaeth ychwanegol am unrhyw ddifrod sydd wedi digwydd;

(c)yn pennu'r mesurau sy'n ofynnol i atal difrod pellach; ac

(ch)yn ei gwneud yn ofynnol i'r gweithredwr gymryd y mesurau hynny, neu fesurau sydd o leiaf yn gyfwerth â hwy, o fewn y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad.

(3Mae methu â chydymffurfio â pharagraff (1) neu hysbysiad a gyflwynwyd o dan baragraff (2) yn dramgwydd.

Camau gan yr awdurdod gorfodi

15.  Caniateir i unrhyw ddyletswydd yn y Rhan hon sydd ar weithredwr gweithgaredd gael ei chyflawni gan yr awdurdod gorfodi yn lle'r gweithredwr—

(a)mewn argyfwng;

(b)os nad oes modd darganfod pwy yw'r gweithredwr; neu

(c)os yw'r gweithredwr yn methu â chydymffurfio â hysbysiad.

Dilyn cyfarwyddiadau gan awdurdod cyhoeddus

16.  Pan fo gweithredwr yn gweithredu'n unol â chyfarwyddiadau awdurdod cyhoeddus, ac o ganlyniad yn achosi neu'n bygwth achosi difrod amgylcheddol, ac felly bod camau yn cael eu cymryd o dan reoliadau 13, 14 neu 15 yna, oni bai bod y cyfarwyddiadau yn ymwneud ag allyriad neu ddigwyddiad a achoswyd gan weithgareddau'r gweithredwr ei hun, caiff y gweithredwr adennill costau gweithredoedd o dan y rheoliadau hynny oddi wrth yr awdurdod cyhoeddus hwnnw.

RHAN 3Adfer

Asesu difrod

17.  Pan fo difrod wedi'i achosi, a bod seiliau rhesymol dros gredu ei fod, neu y gall fod, yn ddifrod amgylcheddol, rhaid i'r awdurdod gorfodi gadarnhau a yw'n ddifrod amgylcheddol ai peidio.

Penderfynu atebolrwydd i adfer

18.—(1Os bydd yr awdurdod gorfodi'n penderfynu bod y difrod yn ddifrod amgylcheddol, rhaid iddo hysbysu gweithredwr neu weithredwyr unrhyw weithgaredd neu weithgareddau a achosodd y difrod (gweithredwr y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel “y gweithredwr cyfrifol” (“the responsible operator”))—

(a)bod y difrod yn ddifrod amgylcheddol;

(b)bod gweithgaredd y gweithredwr cyfrifol yn un o achosion y difrod amgylcheddol;

(c)bod rhaid i'r gweithredwr cyfrifol gyflwyno cynigion, o fewn amser a bennir gan yr awdurdod gorfodi, ar gyfer mesurau a fyddai'n sicrhau adferiad i gywiro'r difrod amgylcheddol yn unol ag Atodlen 4; ac

(ch)bod gan y gweithredwr cyfrifol hawl i apelio.

(2Caiff yr awdurdod gorfodi dynnu'r hysbysiad yn ôl neu ei amrywio os yw wedi'i fodloni na ddylai'r hysbysiad fod wedi'i gyflwyno neu fod apêl yn erbyn yr hysbysiad yn debyg o lwyddo.

Apelau yn erbyn atebolrwydd i adfer

19.—(1Caiff person y cyflwynwyd hysbysiad iddo o dan reoliad 18 hysbysu Gweinidogion Cymru bod y person hwnnw'n bwriadu apelio yn erbyn yr hysbysiad hwnnw.

(2Rhaid i hysbysiad o apêl gael ei gyflwyno i Weinidogion Cymru o fewn 28 niwrnod i gyflwyno hysbysiad o dan reoliad 18 oni chaiff y terfyn amser ei estyn gan Weinidogion Cymru.

(3Y seiliau dros apelio yw—

(a)nad oedd gweithgaredd y gweithredwr yn un o achosion y difrod amgylcheddol;

(b)bod yr awdurdod gorfodi wedi gweithredu'n afresymol drwy benderfynu bod y difrod yn ddifrod amgylcheddol;

(c)bod y difrod amgylcheddol wedi bod yn ganlyniad i gydymffurfio â chyfarwyddyd gan awdurdod cyhoeddus (ac eithrio cyfarwyddyd sy'n ymwneud ag allyriad neu ddigwyddiad a achoswyd gan weithgareddau'r gweithredwr ei hun);

(ch)nad oedd y gweithredwr cyfrifol ar fai nac yn esgeulus a bod y difrod amgylcheddol wedi'i achosi gan allyriad neu ddigwyddiad a awdurdodwyd yn bendant gan drwydded a restrir yn Atodlen 3 ac a oedd yn cydymffurfio'n llawn ag amodau'r drwydded honno;

(d)nad oedd y gweithredwr cyfrifol ar fai nac yn esgeulus a bod y difrod amgylcheddol wedi'i achosi gan allyriad neu weithgaredd neu unrhyw ddull o ddefnyddio cynnyrch yn ystod gweithgaredd y mae'r gweithredwr yn dangos nad oedd yn cael ei ystyried yn debyg o achosi difrod amgylcheddol yn ôl cyflwr gwybodaeth wyddonol a thechnegol pan gafodd yr allyriad ei ollwng neu pan ddigwyddodd y gweithgaredd;

(dd)bod y difrod amgylcheddol yn ganlyniad i weithred trydydd parti a'i fod wedi digwydd er gwaethaf y ffaith bod y gweithredwr cyfrifol wedi cymryd pob mesur diogelwch priodol.

(4Nid yw paragraff 3(d) yn gymwys mewn perthynas â gollwng yn fwriadol organeddau a addaswyd yn enetig.

(5Mae Atodlen 5 yn cynnwys gweithdrefnau ar gyfer yr apêl.

(6Caiff y person sy'n penderfynu'r apêl gadarnhau neu ddiddymu'r hysbysiad.

Hysbysiadau adfer

20.—(1Pan fydd yn cael y cynigion oddi wrth y gweithredwr cyfrifol (neu, os na cheir cynnig o fewn terfyn amser penodedig, unrhyw bryd ar ôl i'r terfyn amser ddirwyn i ben), rhaid i'r awdurdod gorfodi, i'r graddau y mae'n ymarferol, ymgynghori â'r canlynol—

(a)unrhyw un sydd wedi hysbysu awdurdod gorfodi o dan reoliad 29, a

(b)unrhyw berson y bydd y mesurau adfer yn cael eu cyflawni ar ei dir,

a chaiff ymgynghori ag unrhyw berson arall y mae'n ymddangos yn angenrheidiol ymgynghori ag ef.

(2Ar ôl ymgynghori rhaid i'r awdurdod gorfodi gyflwyno i'r gweithredwr cyfrifol hysbysiad adfer sy'n rhoi manylion—

(a)y difrod;

(b)y mesurau sy'n angenrheidiol ar gyfer adfer i gywiro'r difrod, ynghyd â'r rhesymau;

(c)y cyfnod pryd y mae'n rhaid cymryd y mesurau hynny ynddo;

(ch)unrhyw fesurau ychwanegol i fonitro neu i ymchwilio y mae'n rhaid i'r gweithredwr cyfrifol eu cyflawni yn ystod adferiad; a

(d)yr hawl i apelio yn erbyn yr hysbysiad adfer.

(3Caiff yr awdurdod gorfodi dynnu'r hysbysiad adfer yn ôl neu ei amrywio os yw wedi'i fodloni na ddylai'r hysbysiad adfer fod wedi'i gyflwyno neu y byddai apêl yn erbyn yr hysbysiad adfer yn debyg o lwyddo.

(4Mae methu â chydymffurfio â hysbysiad adfer yn dramgwydd.

Apelio yn erbyn yr hysbysiad adfer

21.—(1Caiff y gweithredwr cyfrifol hysbysu Gweinidogion Cymru fod y person hwnnw'n bwriadu apelio yn erbyn yr hysbysiad adfer ar y sail bod cynnwys yr hysbysiad hwnnw'n afresymol.

(2Dim ond yn erbyn y rhannau hynny o'r hysbysiad adfer sy'n wahanol i'r cynigion a wnaed gan y gweithredwr cyfrifol y caniateir i apêl gael ei dwyn.

(3Rhaid i hysbysiad o apêl gael ei gyflwyno i Weinidogion Cymru o fewn 28 niwrnod i ddyddiad cyflwyno'r hysbysiad adfer oni chaiff y terfyn amser gael ei estyn gan Weinidogion Cymru.

(4Mae Atodlen 5 yn cynnwys gweithdrefnau ar gyfer yr apêl.

(5Caiff Gweinidogion Cymru neu'r person penodedig gadarnhau, amrywio neu ddiddymu'r hysbysiad, a rhaid i'r Gweinidogion neu'r person hwnnw roi hysbysiad ysgrifenedig o'r penderfyniad terfynol a'r rhesymau drosto, a chaniateir iddynt neu iddo ychwanegu, os yw'n briodol, gofynion adfer cydadferol pellach y mae'r treiglad amser ers i'r hysbysiad adfer gael ei gyflwyno yn eu gwneud yn angenrheidiol.

(6Nid oes angen cydymffurfio â hysbysiad adfer tra'n aros i apêl gael ei phenderfynu onid yw'r person sy'n gwrando'r apêl yn cyfarwyddo fel arall.

Darpariaethau pellach am hysbysiadau adfer

22.  Caiff awdurdod gorfodi gyflwyno hysbysiadau adfer pellach ar unrhyw bryd tra bo gwaith adfer yn cael ei wneud, neu os na fydd y gwaith adfer wedi'i gyflawni, ar ddiwedd y cyfnod adfer, yn ei gwneud yn ofynnol bod gwaith adfer pellach neu wahanol yn cael ei wneud.

Camau gan yr awdurdod gorfodi

23.  Pan fo wedi'i gadarnhau bod y difrod yn ei farn ef yn ddifrod amgylcheddol, caiff yr awdurdod gorfodi wneud unrhyw waith rhesymol—

(a)ar unrhyw bryd os na ellir darganfod pwy yw'r gweithredwr cyfrifol;

(b)os bydd gweithredwr cyfrifol yn methu â chydymffurfio â hysbysiad adfer, p'un a oes apêl yn yr arfaeth ai peidio; neu

(c)os nad yw'n ofynnol i'r gweithredwr cyfrifol adfer o dan y Rheoliadau hyn.

RHAN 4Gweinyddu a gorfodi

Costau pan fo'r awdurdod gorfodi yn gweithredu'n lle'r gweithredwr

24.—(1Mae gweithredwr sy'n atebol i wneud gwaith o dan Ran 2 yn atebol am unrhyw gostau rhesymol a dynnir gan yr awdurdod gorfodi wrth gymryd unrhyw gamau rhesymol o dan reoliad 15.

(2Mae'r gweithredwr cyfrifol yn atebol am gostau rhesymol yr awdurdod gorfodi am unrhyw gamau a gymerwyd o dan reoliad 23 onid oedd y gweithredwr cyfrifol yn atebol am y camau a gymerwyd.

Costau sy'n ymwneud â gweinyddu

25.—(1Mae gweithredwr sy'n atebol am wneud gwaith o dan Ran 2 yn atebol am gostau rhesymol a dynnir gan yr awdurdod gorfodi wrth baratoi unrhyw hysbysiad o dan Ran 2, neu wrth sicrhau cydymffurfedd â'r Rhan honno.

(2Mae'r gweithredwr cyfrifol yn gyfrifol am y costau a dynnir gan yr awdurdod gorfodi o dan Ran 3, sef costau—

(a)asesu a yw'r difrod yn ddifrod amgylcheddol;

(b)darganfod pwy yw'r gweithredwr cyfrifol;

(c)darganfod pa waith adfer sy'n briodol;

(ch)gwneud unrhyw ymgynghori sy'n angenrheidiol; a

(d)monitro'r adferiad, yn ystod y gwaith ac ar ei ôl.

(3Mae costau'n golygu costau, y mae'r angen i sicrhau bod y Rheoliadau hyn yn cael eu gorfodi'n briodol ac yn effeithiol, yn eu cyfiawnhau.

Achosion cyfreithiol am gostau gan awdurdod gorfodi

26.  Ni chaniateir i unrhyw achos cyfreithiol i adennill costau gael ei gychwyn gan yr awdurdod gorfodi o dan y Rheoliadau hyn ar ôl i gyfnod o 5 mlynedd fynd heibio ers dyddiad—

(a)cwblhau'r mesurau y mae'r achos yn ymwneud â hwy, neu

(b)canfod p'un yw'r gweithredwr sy'n atebol am gyflawni'r mesurau,

p'un bynnag yw'r diweddaraf.

Costau y gellir eu hadennill oddi wrth berchennog i fod yn arwystl ar fangre

27.—(1Pan ellir adennill unrhyw gostau o dan y Rheoliadau hyn gan awdurdod gorfodi oddi wrth berson sy'n berchennog ar fangre a bod yr awdurdod gorfodi yn cyflwyno hysbysiad i'r person hwnnw o dan y rheoliad hwn—

(a)mae'r costau yn dwyn llog, yn ôl unrhyw gyfradd resymol y bydd yr awdurdod yn penderfynu arni, o ddyddiad cyflwyno'r hysbysiad hyd nes y caiff y swm cyfan ei dalu; a

(b)yn ddarostyngedig i'r canlynol, mae'r costau a'r llog cronedig yn arwystl ar y fangre.

(2Rhaid i hysbysiad a gyflwynir o dan y rheoliad hwn—

(a)pennu swm y costau y mae'r awdurdod gorfodi yn hawlio y gellir eu hadennill;

(b)datgan effaith paragraff (1) a chyfradd y llog a benderfynwyd gan yr awdurdod gorfodi o dan y paragraff hwnnw; ac

(c)datgan effaith paragraffau (4) i (6).

(3Ar y dyddiad y bydd awdurdod gorfodi yn cyflwyno hysbysiad i berson o dan y rheoliad hwn, rhaid i'r awdurdod gyflwyno copi o'r hysbysiad hefyd i bob person arall sydd, yn ôl gwybodaeth yr awdurdod, â buddiant yn y fangre a hwnnw'n fuddiant y gallai'r arwystl effeithio arno.

(4Yn ddarostyngedig i unrhyw orchymyn o dan baragraff (7)(b) neu (c) isod, mae swm unrhyw gostau a bennir mewn hysbysiad o dan y rheoliad hwn a'r llog cronedig yn arwystl ar y fangre—

(a)o ddiwedd y cyfnod o 21 o ddiwrnodau gan ddechrau ar ddyddiad cyflwyno'r hysbysiad, neu

(b)pan fo apêl yn cael ei dwyn o dan baragraff (6), o ddyddiad penderfynu'r apêl yn derfynol,

hyd nes y caiff y costau a'r llog eu hadennill.

(5At ddibenion paragraff (4), mae tynnu apêl yn ôl yn cael yr un effaith â phenderfynu apêl yn derfynol.

(6Caiff person y cyflwynwyd hysbysiad neu gopi o hysbysiad iddo o dan y rheoliad hwn apelio yn erbyn yr hysbysiad i'r llys sirol cyn pen y cyfnod o 21 o ddiwrnodau sy'n dechrau ar y dyddiad cyflwyno.

(7Ar apêl o'r fath caiff y llys—

(a)cadarnhau'r hysbysiad heb ei addasu;

(b)gorchymyn bod yr hysbysiad i gael effaith drwy roi swm gwahanol yn lle'r swm a bennwyd ynddo yn wreiddiol; neu

(c)gorchymyn na fydd unrhyw effaith i'r hysbysiad.

(8Mae gan awdurdod gorfodi, at ddibenion gorfodi arwystl o dan y rheoliad hwn, bob un o'r un pwerau a rhwymedïau o dan Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925(16), ac fel arall, fel petai'n forgeisai drwy weithred a chanddo bwerau gwerthu a lesio, derbyn ildiadau lesoedd a phenodi derbynnydd.

(9Yn y rheoliad hwn, ystyr “perchennog” (“owner”), mewn perthynas ag unrhyw fangre, yw person (ac eithrio morgeisai nad yw mewn meddiant) y mae ganddo, p'un ai yn hawl ei hun neu fel ymddiriedolwr i unrhyw berson arall, hawlogaeth i gael crogrent y fangre neu, pan na fo'r fangre wedi'i lesio ar grogrent, y byddai ganddo'r hawlogaeth honno pe bai'r fangre'n cael ei lesio felly.

Adennill costau oddi wrth bersonau eraill

28.  Caiff gweithredwr sy'n dod yn atebol i'r awdurdod gorfodi o dan y Rheoliadau hyn (p'un ai wrth gyflawni'r gwaith neu wrth dalu i'r awdurdod gorfodi) adennill y cyfan neu rywfaint o'r costau hynny oddi wrth unrhyw berson arall a achosodd y difrod hefyd.

Ceisiadau am gamau gan bartïon sydd â buddiant

29.—(1Caiff unrhyw berson—

(a)y mae difrod amgylcheddol yn effeithio arno neu y mae'n debyg o effeithio arno, neu

(b)y mae ganddo fuddiant digonol fel arall,

hysbysu'r awdurdod gorfodi priodol o unrhyw ddifrod amgylcheddol sy'n cael ei achosi, neu sydd wedi'i achosi neu y mae bygythiad agos y byddai'n cael ei achosi.

(2Rhaid bod y canlynol yn mynd gyda'r hysbysiad—

(a)datganiad yn esbonio'r ffordd y bydd y difrod yn effeithio ar yr hysbysydd, neu'r rheswm bod gan yr hysbysydd fuddiant digonol; a

(b)gwybodaeth sy'n ddigon i alluogi'r awdurdod gorfodi i ganfod lleoliad a natur y digwyddiad.

(3Rhaid i'r awdurdod gorfodi ystyried yr hysbysiad a rhoi gwybod i'r hysbysydd am y camau, os oes rhai, y mae'n bwriadu eu cymryd.

(4Cyn cymryd unrhyw benderfyniad, rhaid i'r awdurdod gorfodi, os yw'n ymarferol—

(a)hysbysu'r gweithredwr o dan sylw o'r hysbysiad a'r wybodaeth sy'n dod gyda'r hysbysiad; a

(b)gwahodd y gweithredwr hwnnw i gyflwyno sylwadau arnynt.

(5Ni fydd paragraffau (3) a (4) yn gymwys—

(a)os nad yw'r hysbysydd yn debyg o gael ei effeithio neu os nad oes ganddo fuddiant digonol;

(b)os nad yw'r wybodaeth a ddarperir, ym marn yr awdurdod gorfodi, yn datgelu unrhyw ddifrod amgylcheddol neu fygythiad o ddifrod amgylcheddol; neu

(c)os nad yw'n ymarferol, oherwydd natur frys y sefyllfa, i'r awdurdod gorfodi gydymffurfio â'r paragraffau hynny.

Rhoi hawliau mynediad etc. ac iawndal amdanynt

30.—(1Rhaid i unrhyw berson y mae'n ofynnol cael ei gydsyniad cyn bod unrhyw waith sy'n ofynnol gan y Rheoliadau hyn yn cael ei wneud, roi, neu ymuno i roi, hawliau o'r fath mewn perthynas ag unrhyw dir neu ddŵr a fyddai'n galluogi'r gweithredwr, neu berson sy'n gweithredu ar ran y gweithredwr, wneud y gwaith hwnnw.

(2Mae gan berson sy'n rhoi, neu sy'n ymuno i roi, unrhyw hawliau sy'n ofynnol gan baragraff (1) hawlogaeth i gael gan y gweithredwr iawndal a benderfynir yn unol ag Atodlen 6.

Pwerau personau awdurdodedig

31.—(1Caiff awdurdodau gorfodi awdurdodi personau at ddibenion gorfodi'r Rheoliadau hyn.

(2Mae'r pwerau yn adran 108 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995(17) yn gymwys o ran y Rheoliadau hyn, ac mae pwerau personau a awdurdodwyd gan Asiantaeth yr Amgylchedd yn yr adran honno'n arferadwy gan bersonau a awdurdodwyd gan unrhyw awdurdod gorfodi.

(3Mae'r pwerau hynny wedi'u hestyn i bob ardal y mae'r Rheoliadau hynny'n gymwys iddi.

(4Yn ychwanegol, caiff person a awdurdodwyd gan Weinidogion Cymru sy'n gorfodi'r Rheoliadau hyn mewn perthynas â'r môr fynd ar fwrdd llong neu weithfa forol ar unrhyw bryd a'i harolygu.

(5At ddibenion arfer y pwerau yn y rheoliad hwn, caiff y person awdurdodedig ei gwneud yn ofynnol i long neu weithfa forol—

(a)stopio; neu

(b)gwneud unrhyw beth arall a fyddai'n hwyluso mynd ar fwrdd y llong neu weithfa forol honno neu unrhyw long neu weithfa forol arall.

(6Caiff person awdurdodedig sydd wedi mynd ar fwrdd llong neu weithfa forol, er mwyn glanio o'r llong neu'r weithfa, ei gwneud yn ofynnol i'r llong neu weithfa forol honno neu unrhyw long neu weithfa forol arall—

(a)stopio; neu

(b)gwneud unrhyw beth arall a fyddai'n galluogi'r person awdurdodedig, ac unrhyw berson sydd gydag ef, i lanio.

(7Caiff person awdurdodedig ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sydd ar fwrdd llestr neu weithfa forol roi unrhyw gyfleusterau a chymorth ynghylch materion sydd o dan reolaeth y person hwnnw y byddai'r person awdurdodedig yn barnu y byddent yn hwyluso'r broses o arfer unrhyw bŵer a roddwyd gan y rheoliad hwn.

(8Mae'n dramgwydd peidio â chydymffurfio â chyfarwyddiadau a roddir o dan y rheoliad hwn, neu ddarparu'n fwriadol wybodaeth anwir neu gamarweiniol.

Darparu gwybodaeth i'r awdurdod gorfodi

32.  Caiff awdurdod gorfodi ei gwneud yn ofynnol i weithredwr ddarparu unrhyw wybodaeth y bydd ar yr awdurdod gorfodi angen rhesymol amdani i gyflawni ei swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn, a bydd methiant i ddarparu'r wybodaeth honno yn dramgwydd.

Gorfodi

33.  Ni chaniateir i unrhyw gamau gorfodi gael eu cymryd o dan y Rheoliadau hyn 30 o flynyddoedd neu fwy ar ôl yr allyriad, yr achlysur neu'r digwyddiad o dan sylw.

Cosbau

34.—(1Mae person sy'n euog o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn yn agored—

(a)ar gollfarn ddiannod, i ddirwy nad yw'n fwy na'r uchafswm statudol neu garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na thri mis, neu'r ddau; neu

(b)ar gollfarn ar dditiad, i ddirwy neu garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na dwy flynedd, neu'r ddau.

(2Os yw corff corfforaethol yn euog o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, ac os profir bod y tramgwydd wedi'i gyflawni drwy gydsyniad neu ymoddefiad, neu wedi'i briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran—

(a)unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu berson arall tebyg yn y corff corfforaethol, neu

(b)unrhyw berson a oedd yn honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd unrhyw swyddogaeth o'r fath,

mae'r person hwnnw yn euog o'r tramgwydd yn ogystal â'r corff corfforaethol.

(3At ddibenion paragraff (2) , ystyr “cyfarwyddwr” (“director”), mewn perthynas â chorff corfforaethol y mae ei faterion yn cael eu rheoli gan ei aelodau, yw aelod o'r corff corfforaethol.

Jane Davidson

Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru

11 Ebrill 2009

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources