- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
20.—(1) Os yw lefel sylffwr deuocsid, nitrogen deuocsid, bensen, carbon monocsid, plwm neu PM10 mewn aer amgylchynol yn uwch mewn unrhyw barth nag unrhyw un neu ragor o'r gwerthoedd terfyn yn Atodlen 1, neu os yw lefel PM2·5 mewn aer amgylchynol yn uwch mewn unrhyw barth na'r gwerth targed perthnasol yn Atodlen 2, yna, yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i Weinidogion Cymru lunio a gweithredu cynllun ansawdd aer er mwyn cyrraedd y gwerth terfyn neu'r gwerth targed perthnasol yn y parth hwnnw.
(2) Os yw Gweinidogion Cymru wedi dynodi parthau lle y mae gwerthoedd yn uwch na'r gwerthoedd terfyn ar gyfer PM10 oherwydd ail-ddaliant gronynnau yn sgil gwasgaru tywod neu halen yn y gaeaf, yn unol ag Erthygl 21 o Gyfarwyddeb 2008/50/EC, dim ond i'r graddau y mae gwerthoedd uwch na'r gwerthoedd terfyn hynny i'w priodoli i ffynonellau PM10 ac eithrio gwasgaru tywod neu halen yn y gaeaf y mae dyletswydd Gweinidogion Cymru o dan baragraff (1) yn gymwys i'r parthau hynny.
(3) Os yw lefel yr osôn mewn aer amgylchynol yn uwch mewn unrhyw barth nag unrhyw un neu ragor o'r gwerthoedd targed ar gyfer osôn yn Atodlen 2, rhaid i Weinidogion Cymru, os yw'n briodol, lunio a gweithredu cynllun ansawdd aer i gyrraedd y gwerth targed perthnasol oni fyddai'r camau angenrheidiol ar gyfer cyrraedd y gwerth targed hwnnw'n arwain at gost anghymesur.
(4) Rhaid i gynllun ansawdd aer o dan baragraff (1) neu (3) gynnwys camau y bwriedir iddynt sicrhau cydymffurfedd ag unrhyw werth terfyn perthnasol o fewn yr amser byrraf posibl.
(5) Os yw lefel PM2·5 mewn aer amgylchynol mewn unrhyw barth, ar unrhyw adeg cyn 31 Rhagfyr 2014, yn uwch na'r lefel a gyfrifwyd drwy gymhwyso'r ffin goddefiant ar gyfer y llygrydd hwnnw yn Atodlen 1 i'r gwerth terfyn perthnasol yn yr Atodlen honno, rhaid i Weinidogion Cymru lunio a gweithredu cynllun ansawdd aer i gyrraedd y gwerth terfyn hwnnw yn y parth hwnnw.
(6) Rhaid i gynllun ansawdd aer gynnwys yr wybodaeth a restrir yn Atodlen 6.
(7) Pan fo hynny'n bosibl, rhaid i gynllun ansawdd aer fod yn gyson â chynlluniau eraill a lunnir yn unol ag ymrwymiadau a osodir o dan—
(a)Cyfarwyddeb 2001/80/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar gyfyngu ar allyriadau llygryddion penodol i'r aer o weithfeydd hylosgi mawr(1),
(b)Cyfarwyddeb 2001/81/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar derfynau cenedlaethol uchaf ar allyriadau ar gyfer llygryddion atmosfferig penodol, a
(c)Cyfarwyddeb 2002/49/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar asesu a rheoli sŵ n amgylcheddol(2).
(8) Os bydd cynllun ansawdd aer yn ofynnol mewn perthynas â mwy nag un llygrydd mewn unrhyw barth, rhaid i Weinidogion Cymru, pan fo hynny'n briodol, lunio a gweithredu cynllun integredig ar gyfer y parth hwnnw mewn perthynas â phob llygrydd o dan sylw.
OJ Rhif L 309, 27.11.01, t.1, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb 2009/31/EC (OJ Rhif L 140, 5.6.09, t.114).
OJ Rhif L 189, 18.7.02, t.12, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1137/2008 (OJ Rhif L 311, 21.11.08, t.1).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: