Search Legislation

Rheoliadau Addysg (Diwygiadau ynglŷn â'r Ysbeidiau rhwng Arolygiadau Addysg a Hyfforddiant) (Cymru) 2010

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2010 Rhif 1436 (Cy.127)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Diwygiadau ynglŷn â'r Ysbeidiau rhwng Arolygiadau Addysg a Hyfforddiant) (Cymru) 2010

Gwnaed

17 Mai 2010

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

19 Mai 2010

Yn dod i rym

1 Medi 2010

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 122(1) ac adran 138(7) ac (8) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(1) a pharagraff 6B(1)(a) o Atodlen 26 iddi, a thrwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 77(2) a (9), adran 150 ac adran 152 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000(2), a thrwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 28(1), adran 50(4) ac (8) ac adran 120(2) o Ddeddf Addysg 2005(3) a pharagraff 2(1) o Atodlen 6 iddi, ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Diwygiadau ynglŷn â'r Ysbeidiau rhwng Arolygiadau Addysg a Hyfforddiant) (Cymru) 2010 a deuant i rym ar 1 Medi 2010.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau Addysg (Arolygu Addysg Feithrin) (Cymru) 1999

2.—(1Diwygir Rheoliadau Addysg (Arolygu Addysg Feithrin) (Cymru) 1999(4) fel a ganlyn.

(2Yn lle rheoliad 4, rhodder—

4(1) The Chief Inspector must secure that relevant nursery education is inspected under paragraph 6B(1)(a) of Schedule 26 to the Act—

(a)where there has been no previous inspection under that paragraph, within six years of the date on which relevant nursery education was first provided at the premises concerned, and

(b)in all other cases within six years of the date on which the last inspection was completed.

(2) For the purposes of this regulation the date on which the last inspection was completed is the date of the report of the last inspection under paragraph 6B of Schedule 26 to the Act..

Diwygio Rheoliadau Arolygu Addysg a Hyfforddiant (Cymru) 2001

3.—(1Diwygir Rheoliadau Arolygu Addysg a Hyfforddiant (Cymru) 2001(5) fel a ganlyn.

(2Yn lle rheoliad 2, rhodder—

2(1) Rhaid cynnal arolygiadau—

(a)os nad oes arolygiad blaenorol wedi ei gynnal, o fewn chwe blynedd i ddyddiad sefydlu'r sefydliad sy'n darparu addysg a hyfforddiant ac sydd i'w arolygu, a

(b)ym mhob achos arall, o fewn chwe blynedd i'r dyddiad y cwblhawyd yr arolygiad diwethaf.

(2) At ddiben y rheoliad hwn dyddiad yr adroddiad arolygu diwethaf yw'r dyddiad y cwblhawyd yr arolygiad diwethaf..

Diwygio Rheoliadau Addysg (Arolygu Ysgolion) (Cymru) 2006

4.—(1Diwygir Rheoliadau Addysg (Arolygu Ysgolion) (Cymru) 2006(6) fel a ganlyn.

(2Yn lle rheoliad 6, rhodder—

6(1) Rhaid i'r Prif Arolygydd sicrhau bod pob ysgol y mae adran 28 o Ddeddf 2005 yn gymwys iddi yn cael ei harolygu—

(a)yn achos ysgol nad yw wedi ei harolygu'n flaenorol, o fewn chwe blynedd i'r dyddiad y derbyniwyd disgyblion gyntaf i'r ysgol, a

(b)ym mhob achos arall, o fewn chwe blynedd i'r dyddiad y cwblhawyd yr arolygiad diwethaf.

(2) At ddiben y rheoliad hwn dyddiad yr arolygiad diwethaf o dan adran 28 o Ddeddf 2005 yw'r dyddiad y cwblhawyd yr arolygiad diwethaf..

Diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Gwasanaethau Cysylltiedig (Cymru) 2006

5.—(1Diwygir Rheoliadau'r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Gwasanaethau Cysylltiedig (Cymru) 2006(7) fel a ganlyn.

(2Yn lle rheoliad 3, rhodder—

3(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys yn achos darparydd gwasanaeth neu ddarparydd perthnasol na chafodd ei arolygu o'r blaen o dan adrannau 55 neu 56 o Ddeddf 2005.

(2) Rhaid i'r Prif Arolygydd arolygu'r darparydd gwasanaeth neu'r darparydd perthnasol o dan adrannau 55 neu 56 o Ddeddf 2005 (yn ôl y digwydd), o fewn chwe blynedd i'r dyddiad pryd y daeth y darparydd gwasanaeth neu'r darparydd perthnasol yn ddarparydd o'r fath am y tro cyntaf..

(3Yn lle rheoliad 4, rhodder—

4(1) Ac eithrio pan fo rheoliad 3 yn gymwys, rhaid i'r Prif Arolygydd arolygu pob darparydd gwasanaeth o dan adran 55 o Ddeddf 2005 a phob darparydd perthnasol o dan adran 56 o Ddeddf 2005 o fewn chwe blynedd i'r dyddiad y cwblhawyd yr arolygiad diwethaf.

(2) At ddibenion y rheoliad hwn dyddiad yr adroddiad o'r arolygiad diwethaf yw'r dyddiad y cwblhawyd yr arolygiad diwethaf..

Carwyn Jones

Prif Weinidog Cymru, un o Weinidogion Cymru

17 Mai 2010

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio—

(a)Rheoliadau Addysg (Arolygu Addysg Feithrin) (Cymru) 1999,

(b)Rheoliadau Arolygu Addysg a Hyfforddiant (Cymru) 2001,

(c)Rheoliadau Addysg (Arolygu Ysgolion) (Cymru) 2006, ac

(ch)Rheoliadau'r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Gwasanaethau Cysylltiedig (Cymru) 2006,

er mwyn ei gwneud yn ofynnol i Brif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru neu Her Majesty’s Chief Inspector of Education and Training in Wales sicrhau bod arolygiadau'n cael eu cynnal o fewn chwe blynedd i ddyddiad yr arolygiad diwethaf.

(1)

1998 p.31.Diwygiwyd adran 122(1) gan baragraff 33(1) a (3) o Atodlen 2 i Ddeddf Gofal Plant 2006 (p.21), ac yn lle paragraff 6, fel y'i deddfwyd yn wreiddiol, o Atodlen 26 rhoddwyd paragraff 6B gan baragraffau 8 a 12 o Ran II o Atodlen 7 i Ddeddf Addysg 2005 (p.18). Cafodd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 138 ac Atodlen 26 eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac yna i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).

(2)

2000 p.21. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan yr adrannau hyn i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

(3)

2005 p.18. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan yr adrannau hyn i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

(4)

O.S. 1999/1441 fel y'i diwygiwyd gan Reoliadau Deddf Addysg 2002 (Darpariaethau Trosiannol a Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2004 (O.S. 2004/1743 (Cy.182)), a chan Ddeddf Addysg 2002 (Darpariaethau Trosiannol a Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/2913 (Cy.210)).

(5)

O.S. 2001/2501 (Cy.204) fel y'i diwygiwyd gan Reoliadau Arolygu Addysg a Hyfforddiant (Diwygio) (Cymru) 2004 (O.S. 2004/783 (Cy.80)), a Gorchymyn Cyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant (Trosglwyddo Swyddogaethau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Diddymu'r Cyngor) 2005 (O.S. 2005/3238 (Cy.243)).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources