- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
2. Diwygir Rheoliadau Prisio ar gyfer Ardrethu (Peiriannau a Pheirianwaith) (Cymru) 2000(1) drwy fewnosod, ar ôl rheoliad 2 (tybiaethau rhagnodedig am beiriannau a pheirianwaith), y canlynol—
2A—(1) At ddibenion penderfynu gwerth ardrethol hereditament am unrhyw ddiwrnod ar neu ar ôl 1 Ebrill 2010, wrth gymhwyso darpariaethau is-baragraffau (1) i (7) o baragraff 2 o Atodlen 6 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988—
(a)mewn perthynas â hereditament sydd â pheiriannau neu beirianwaith arno neu ynddo sy'n perthyn i unrhyw un o'r dosbarthiadau a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn, y tybiaethau rhagnodedig yw—
(i)bod unrhyw beiriannau neu beirianwaith o'r fath yn rhan o'r hereditament ac eithrio i'r graddau y mae ganddynt allu microgynhyrchu, a
(ii)nad yw gwerth unrhyw beiriannau neu beirianwaith eraill yn cael effaith ar y rhent sydd i'w amcangyfrif yn unol â gofynion paragraff 2(1); a
(b)mewn perthynas ag unrhyw hereditament arall, y dybiaeth ragnodedig yw nad yw gwerth unrhyw beiriannau neu beirianwaith yn cael effaith ar y rhent sydd i'w amcangyfrif felly.
(2) Nid yw'r eithriad ym mharagraff (1)(a)(i) yn gymwys ac eithrio—
(a)mewn perthynas ag unrhyw eitem o beiriannau neu beirianwaith—
(i)a osodir ar neu ar ôl 1 Ebrill 2010, a
(ii)y mae gallu microgynhyrchu ganddi ar y diwrnod y'i gosodir; a
(b)yn ystod y cyfnod—
(i)sy'n cychwyn ar y diwrnod y gosodir yr eitem o beiriannau neu beirianwaith, a
(ii)sy'n dod i ben ar y cynharaf o'r canlynol—
(aa)y diwrnod cyntaf, ar ôl y diwrnod y gosodir yr eitem o beiriannau neu beirianwaith, pan fo rhestrau ardrethu i gael eu llunio at ddibenion adrannau 41(2) a 52(2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, a
(bb)y diwrnod pan fo'r eitem o beiriannau neu beirianwaith yn peidio â bod â gallu microgynhyrchu.
(3) Yn y rheoliad hwn, ystyr “gallu microgynhyrchu” yw gallu peiriannau neu beirianwaith i gael eu defnyddio i gynhyrchu trydan neu gynhyrchu gwres—
(a)gan ddibynnu yn gyfan gwbl neu'n bennaf, wrth gynhyrchu trydan neu (yn ôl fel y digwydd) wrth gynhyrchu gwres, ar ffynhonnell ynni neu ar dechnoleg a grybwyllir yn adran 26(2) (dehongli) o Ddeddf Newid yn yr Hinsawdd ac Ynni Cynaliadwy 2006; a
(b)pan nad yw gallu'r peiriannau neu beirianwaith i gynhyrchu trydan, neu (yn ôl fel y digwydd) i gynhyrchu gwres, yn fwy na'r gallu a grybwyllir yn adran 26(3) o'r Ddeddf honno.”.
O.S. 2000/1097 (Cy.75), y gwnaed diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: