Rheoliadau Prisio ar gyfer Ardrethu (Peiriannau a Pheirianwaith) (Cymru) (Diwygio) 2010

Diwygio Rheoliadau Prisio ar gyfer Ardrethu (Peiriannau a Pheirianwaith) (Cymru) 2000

2.  Diwygir Rheoliadau Prisio ar gyfer Ardrethu (Peiriannau a Pheirianwaith) (Cymru) 2000(1) drwy fewnosod, ar ôl rheoliad 2 (tybiaethau rhagnodedig am beiriannau a pheirianwaith), y canlynol—

Tybiaethau rhagnodedig am beiriannau a pheirianwaith: prisio am 1 Ebrill 2010 a diwrnodau dilynol

2A(1) At ddibenion penderfynu gwerth ardrethol hereditament am unrhyw ddiwrnod ar neu ar ôl 1 Ebrill 2010, wrth gymhwyso darpariaethau is-baragraffau (1) i (7) o baragraff 2 o Atodlen 6 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988—

(a)mewn perthynas â hereditament sydd â pheiriannau neu beirianwaith arno neu ynddo sy'n perthyn i unrhyw un o'r dosbarthiadau a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn, y tybiaethau rhagnodedig yw—

(i)bod unrhyw beiriannau neu beirianwaith o'r fath yn rhan o'r hereditament ac eithrio i'r graddau y mae ganddynt allu microgynhyrchu, a

(ii)nad yw gwerth unrhyw beiriannau neu beirianwaith eraill yn cael effaith ar y rhent sydd i'w amcangyfrif yn unol â gofynion paragraff 2(1); a

(b)mewn perthynas ag unrhyw hereditament arall, y dybiaeth ragnodedig yw nad yw gwerth unrhyw beiriannau neu beirianwaith yn cael effaith ar y rhent sydd i'w amcangyfrif felly.

(2) Nid yw'r eithriad ym mharagraff (1)(a)(i) yn gymwys ac eithrio—

(a)mewn perthynas ag unrhyw eitem o beiriannau neu beirianwaith—

(i)a osodir ar neu ar ôl 1 Ebrill 2010, a

(ii)y mae gallu microgynhyrchu ganddi ar y diwrnod y'i gosodir; a

(b)yn ystod y cyfnod—

(i)sy'n cychwyn ar y diwrnod y gosodir yr eitem o beiriannau neu beirianwaith, a

(ii)sy'n dod i ben ar y cynharaf o'r canlynol—

(aa)y diwrnod cyntaf, ar ôl y diwrnod y gosodir yr eitem o beiriannau neu beirianwaith, pan fo rhestrau ardrethu i gael eu llunio at ddibenion adrannau 41(2) a 52(2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, a

(bb)y diwrnod pan fo'r eitem o beiriannau neu beirianwaith yn peidio â bod â gallu microgynhyrchu.

(3) Yn y rheoliad hwn, ystyr “gallu microgynhyrchu” yw gallu peiriannau neu beirianwaith i gael eu defnyddio i gynhyrchu trydan neu gynhyrchu gwres—

(a)gan ddibynnu yn gyfan gwbl neu'n bennaf, wrth gynhyrchu trydan neu (yn ôl fel y digwydd) wrth gynhyrchu gwres, ar ffynhonnell ynni neu ar dechnoleg a grybwyllir yn adran 26(2) (dehongli) o Ddeddf Newid yn yr Hinsawdd ac Ynni Cynaliadwy 2006; a

(b)pan nad yw gallu'r peiriannau neu beirianwaith i gynhyrchu trydan, neu (yn ôl fel y digwydd) i gynhyrchu gwres, yn fwy na'r gallu a grybwyllir yn adran 26(3) o'r Ddeddf honno..

(1)

O.S. 2000/1097 (Cy.75), y gwnaed diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.