Search Legislation

Rheoliadau Wyau a Chywion (Cymru) 2010

Statws

This is the original version (as it was originally made).

RHAN 5Amrywiol Ddarpariaethau

Gorfodi

17.—(1Rhaid i bob awdurdod bwyd—

(a)gorfodi'r darpariaethau a grybwyllir yn Atodlen 2, fel y'i darllenir gyda rheoliad 9, a'r darpariaethau a grybwyllir yn Atodlen 3, fel y'i darllenir gyda rheoliad 16, i'r graddau y maent yn ymwneud ag—

(i)manwerthu wyau o fewn ei ardal;

(ii)gwerthu wyau i arlwywr mawr yn ei ardal; a

(iii)defnyddio wyau o fewn ei ardal;

(b)gorfodi darpariaethau rheoliad 20(3) a (4) yn achos cyfarwyddyd a roddir gan swyddog awdurdodedig a awdurdodir gan yr awdurdod bwyd (“swyddog awdurdod bwyd”);

(c)gorfodi darpariaethau rheoliad 20(6) yn achos pecyn neu gynhwysydd a ddiogelir gan swyddog awdurdod bwyd;

(ch)gorfodi darpariaethau rheoliad 20(11) a (12) yn achos ymyrryd ag unrhyw eitem neu offer cyfrifiadurol, neu eu symud ymaith, yn groes i delerau hysbysiad a roddwyd gan swyddog awdurdod bwyd;

(d)gorfodi darpariaethau rheoliad 22(3) yn achos hysbysiad cydymffurfio a roddir gan swyddog awdurdod bwyd;

(dd)gorfodi darpariaethau rheoliad 22(7) yn achos hysbysiad cydymffurfio a roddir gan swyddog awdurdod bwyd; a

(e)gorfodi darpariaethau rheoliad 26 yn achos rhwystro swyddog awdurdod bwyd.

(2Caiff Gweinidogion Cymru orfodi'r darpariaethau a grybwyllir yn Atodlen 2, fel y'i darllenir gyda rheoliad 9, a'r darpariaethau a grybwyllir yn Atodlen 3, fel y'i darllenir gyda rheoliad 16, i'r graddau y maent yn gymwys i fanwerthu wyau, gwerthu wyau i arlwywr mawr neu ddefnyddio wyau.

(3Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)gorfodi'r darpariaethau a grybwyllir yn Atodlen 1, fel y'i darllenir gyda rheoliad 5;

(b)gorfodi'r darpariaethau a grybwyllir yn Atodlen 2, fel y'i darllenir gyda rheoliad 9, a'r darpariaethau a grybwyllir yn Atodlen 3, fel y'i darllenir gyda rheoliad 16, i'r graddau nad ydynt yn gymwys i fanwerthu wyau, gwerthu wyau i arlwywr mawr neu ddefnyddio wyau;

(c)gorfodi darpariaethau rheoliad 20(3) a (4) yn achos cyfarwyddyd a roddir gan swyddog awdurdodedig a awdurdodir gan Weinidogion Cymru (“swyddog Gweinidogion Cymru”);

(ch)gorfodi darpariaethau rheoliad 20(6) yn achos pecyn neu gynhwysydd a ddiogelir gan swyddog Gweinidogion Cymru;

(d)gorfodi darpariaethau rheoliad 20(11) a (12) yn achos ymyrryd ag unrhyw eitem neu offer cyfrifiadurol, neu eu symud ymaith, yn groes i delerau hysbysiad a roddwyd gan swyddog Gweinidogion Cymru;

(dd)gorfodi darpariaethau rheoliad 22(3) yn achos hysbysiad cydymffurfio a roddir gan swyddog Gweinidogion Cymru;

(e)gorfodi darpariaethau rheoliad 22(7) yn achos hysbysiad cydymffurfio a roddir gan swyddog Gweinidogion Cymru;

(f)gorfodi darpariaethau rheoliad 24(4); ac

(ff)gorfodi darpariaethau rheoliad 26 yn achos rhwystro swyddog Gweinidogion Cymru.

(4Yn y rheoliad hwn—

  • ystyr “manwerthu” (“retail sale”) yw unrhyw werthu ac eithrio gwerthu cynnyrch ar gyfer ei ddefnyddio neu ei ailwerthu wrth fasnachu neu gynnal busnes; ac

  • mae “gwerthu” (“sale”) yn cynnwys meddu ar gynnyrch ar gyfer ei werthu, ei gynnig, ei arddangos a'i hysbysebu ar gyfer gwerthu.

Dyletswydd i roi cymorth a darparu gwybodaeth

18.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru roi i unrhyw awdurdod bwyd pa bynnag gymorth a gwybodaeth y gofynnir amdanynt yn rhesymol at y diben o'i gynorthwyo i gyflawni ei ddyletswyddau o dan y Rheoliadau hyn, a chaiff Gweinidogion Cymru rannu unrhyw wybodaeth arall a ddaw i'w meddiant gydag unrhyw awdurdod bwyd (hyd yn oed os na ofynnir am yr wybodaeth gan yr awdurdod) at y diben o gynorthwyo'r awdurdod i gyflawni'r dyletswyddau hynny.

(2Ym mharagraff (1), ystyr “gwybodaeth” (“information”) yw gwybodaeth a ddaw i feddiant Gweinidogion Cymru fel yr awdurdod cymwys dynodedig o dan reoliad 6(1), yr awdurdod cymwys dynodedig o dan reoliad 10(1) neu fel awdurdod gorfodi.

(3Caiff Gweinidogion Cymru ddefnyddio'r wybodaeth a ddaw i'w meddiant fel yr awdurdod cymwys dynodedig o dan reoliad 6(1), neu fel yr awdurdod cymwys dynodedig o dan reoliad 10(1), at y diben o'u cynorthwyo i gyflawni eu dyletswyddau fel awdurdod gorfodi o dan y Rheoliadau hyn.

(4Caiff Gweinidogion Cymru ddefnyddio'r wybodaeth a ddaw i'w meddiant fel awdurdod gorfodi o dan y Rheoliadau hyn at y diben o'u cynorthwyo i gyflawni eu dyletswyddau fel yr awdurdod cymwys dynodedig o dan reoliad 6(1), neu fel yr awdurdod cymwys dynodedig o dan reoliad 10(1).

(5Rhaid i bob awdurdod bwyd roi i unrhyw awdurdod bwyd arall neu i Weinidogion Cymru pa bynnag gymorth a gwybodaeth y gofynnir amdanynt yn rhesymol at y diben o gynorthwyo gyda chyflawni dyletswyddau'r awdurdod bwyd arall neu Weinidogion Cymru o dan y Rheoliadau hyn, a chaiff pob awdurdod bwyd rannu unrhyw wybodaeth arall a ddaw i'w feddiant fel awdurdod gorfodi gydag unrhyw awdurdod bwyd arall neu gyda Gweinidogion Cymru (hyd yn oed os na ofynnir am yr wybodaeth honno gan yr awdurdod na chan Weinidogion Cymru) at y diben o gynorthwyo i gyflawni eu dyletswyddau o dan y Rheoliadau hyn.

(6Ym mharagraff (5) ystyr “gwybodaeth” (“information”) yw gwybodaeth a ddaw i feddiant awdurdod bwyd fel awdurdod gorfodi.

Pwerau mynediad

19.—(1Caiff swyddog awdurdodedig fynd i mewn i unrhyw fangre ar unrhyw adeg resymol at y diben o sicrhau y cydymffurfir â darpariaethau'r Rheoliadau hyn.

(2Caiff y swyddog awdurdodedig fynd â'r canlynol ag ef—

(a)unrhyw bersonau eraill sydd yn ei farn ef yn angenrheidiol; ac

(b)unrhyw gynrychiolydd y Comisiwn Ewropeaidd.

(3Rhaid i swyddog awdurdodedig beidio ag arfer y pwerau o dan baragraff (1) neu (2) ac eithrio ar ôl cyflwyno, os gofynnir iddo wneud hynny, dogfen a ddilyswyd yn briodol ac sy'n dangos awdurdod y swyddog.

(4Nid oes hawl i fynnu cael mynediad i unrhyw fangre a ddefnyddir yn unig fel tŷ annedd preifat, ac eithrio ar ôl rhoi rhybudd, 24 awr ymlaen llaw, i'r meddiannydd o'r bwriad i fynd i mewn, neu pan eir i mewn yn unol â gwarant a roddwyd o dan y rheoliad hwn.

(5Os yw ynad heddwch, ar sail gwybodaeth ysgrifenedig a roddir ar lw, wedi ei fodloni ynglŷn â'r materion a grybwyllir ym mharagraff (6), caiff lofnodi gwarant sy'n caniatáu i swyddog awdurdodedig fynd i mewn i unrhyw fangre, gan ddefnyddio grym rhesymol pe bai angen.

(6Y materion yw—

(a)bod sail rhesymol i gredu bod Amod A neu B wedi ei fodloni; a

(b)bod Amod C, CH neu D wedi ei fodloni.

(7Amod A yw fod eitemau yn y fangre o'r math a grybwyllir yn rheoliad 20(1)(a) neu ddogfennau a chofnodion o'r math a grybwyllir yn rheoliad 20(1)(d), a bod eu harchwilio'n debygol o ddatgelu tystiolaeth o fynd yn groes i'r Rheoliadau hyn, neu o fethiant i gydymffurfio â hwy.

(8Amod B yw fod mynd yn groes i'r Rheoliadau hyn, neu o fethiant i gydymffurfio â hwy wedi digwydd, yn digwydd neu ar fin digwydd yn y fangre honno.

(9Amod C yw fod mynediad i'r fangre wedi ei wrthod, neu'n debygol o gael ei wrthod a'r meddiannydd wedi ei hysbysu (naill ai ar lafar neu mewn ysgrifen) y gellir gwneud cais am warant.

(10Amod CH yw fod mynediad i'r fangre wedi ei wrthod, neu'n debygol o gael ei wrthod, a phe hysbysid y meddiannydd y gellid gwneud cais am warant o dan y rheoliad hwn, gallai hynny danseilio'r diben o fynd i mewn.

(11Amod D yw fod y fangre heb feddiannydd, neu fod y meddiannydd yn absennol dros dro, ac y gallai aros iddo ddychwelyd danseilio'r diben o fynd i mewn.

(12Mae gwarant a roddir o dan baragraff (5)—

(a)yn ddilys am un mis, sy'n cychwyn gyda'r diwrnod y rhoddir y warant; a

(b)rhaid dangos y warant i'w harchwilio gan y person (os oes un) y mae'n ymddangos i'r swyddog ei fod yn feddiannydd y fangre, neu'r person sy'n gofalu amdani.

(13Rhaid i swyddog awdurdodedig sy'n mynd i mewn i unrhyw fangre sydd heb feddiannydd, neu sydd â'i meddiannydd yn absennol dros dro, adael y fangre wedi ei diogelu mor effeithiol rhag mynediad diawdurdod ag yr oedd cyn i'r swyddog ddod yno.

(14Caiff swyddog awdurdodedig wneud archwiliad ar gais Aelod–wladwriaeth arall neu'r Comisiwn Ewropeaidd.

Pwerau swyddog awdurdodedig

20.—(1Caiff swyddog awdurdodedig (“S”) sy'n mynd i mewn i fangre o dan reoliad 19—

(a)archwilio'r fangre, ac unrhyw offer, peiriannau neu gyfarpar sydd yn y fangre honno, ac unrhyw rai o'r eitemau canlynol a ddarganfyddir yn y fangre honno—

(i)wyau;

(ii)wyau deor;

(iii)pecynnau neu gynwysyddion eraill ar gyfer wyau, wyau deor neu gywion; a

(iv)labeli sy'n ymwneud ag wyau, wyau deor neu gywion;

(b)chwilio'r fangre;

(c)cymryd samplau;

(ch)cynnal unrhyw ymholiadau, archwiliadau neu brofion;

(d)sicrhau mynediad i unrhyw ddogfennau neu gofnodion (ym mha bynnag ffurf y'u cedwir) sy'n ymwneud â materion o fewn cwmpas y Rheoliadau hyn, eu harchwilio a'u copïo, a'u symud oddi yno i alluogi eu copïo;

(dd)sicrhau mynediad i, ac archwilio a gwirio gweithrediad, a'r data a gynhwysir mewn, unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw ddyfais storio electronig neu gyfarpar cysylltiedig (“offer cyfrifiadurol”), a ddefnyddir neu a ddefnyddiwyd mewn cysylltiad â'r dogfennau neu gofnodion a grybwyllir yn is-baragraff (d), gan gynnwys data mewn perthynas â ffeiliau a ddilëwyd a logiau gweithgarwch; ac at y diben hwnnw, caiff S ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw berson sy'n gofalu am yr offer cyfrifiadurol, neu rywfodd arall yn ymwneud â'u gweithredu, yn rhoi i S pa bynnag gymorth (gan gynnwys darparu enwau defnyddwyr a chyfrineiriau) ag a fynnir yn rhesymol gan S, ac yn ystod y gwiriadau, caiff S adfer data a gedwir yn yr offer cyfrifiadurol; ac

(e)pan gedwir dogfen neu gofnod a grybwyllir yn is-baragraff (d) drwy gyfrwng gyfrifiadur, ei gwneud yn ofynnol bod y cofnod yn cael ei baratoi mewn ffurf sy'n caniatáu ei gludo ymaith.

(2Caiff S roi cyfarwyddyd (“cyfarwyddyd rheoliad 20(2)”) i berson (“P”), sy'n ymddangos i S ei fod â gofal o'r eitemau neu'r mangreoedd a grybwyllir isod, bod rhaid gadael y canlynol heb ymyrryd â hwy cyhyd ag y bo'n angenrheidiol yn rhesymol at ddibenion unrhyw archwiliad neu ymchwiliad—

(a)unrhyw un neu ragor o'r eitemau a grybwyllir ym mharagraff (1)(a)(i) i (iv);

(b)unrhyw ddogfen neu gofnod a grybwyllir ym mharagraff (1)(d);

(c)unrhyw offer cyfrifiadurol a grybwyllir ym mharagraff (1)(dd); ac

(ch)unrhyw fangre y darganfyddir unrhyw rai o'r eitemau hynny arni neu ynddi.

(3Mae P yn euog o dramgwydd os yw'n methu â chydymffurfio â chyfarwyddyd rheoliad 20(2) a roddir iddo gan S.

(4Mae person arall, ac eithrio S a P, sy'n gwybod am gyfarwyddyd rheoliad 20(2) yn euog o dramgwydd os yw (er na roddwyd y cyfarwyddyd iddo ef) yn ymyrryd ag unrhyw eitem neu fangre yn groes i delerau'r cyfarwyddyd.

(5Os na chynhelir archwiliad neu ymchwiliad ar unwaith ar ôl rhoi cyfarwyddyd o dan baragraff (2), caiff S osod tâp ar y pecynnau neu gynwysyddion ar gyfer wyau neu wyau deor sy'n destun y cyfarwyddyd hwnnw, neu eu gwneud yn ddiogel rywfodd arall, hyd nes cynnal archwiliad neu ymchwiliad.

(6Mae person sy'n gwybod bod pecynnau neu gynwysyddion ar gyfer wyau neu wyau deor wedi eu tapio neu'u diogelu rhywfodd arall gan S (yn unol â pharagraff (5)) yn euog o dramgwydd os yw'n ymyrryd ag unrhyw un o'r pecynnau neu'r cynwysyddion hynny, oni chaiff ei awdurdodi i wneud hynny, mewn ysgrifen, gan S.

(7Caiff S ymafael mewn, a chadw, unrhyw eitem o'r math a grybwyllir ym mharagraff (1)(a)(i) i (iv), neu ddogfen neu gofnod a grybwyllir ym mharagraff (1)(d), os oes rheswm ganddo i gredu y gallai fod eu hangen fel tystiolaeth mewn achos o dan y Rheoliadau hyn.

(8Caiff S ymafael mewn unrhyw eitem o'r math a ddisgrifir ym mharagraff (1)(a)(i) i (iv) fel un sy'n agored i'w dinistrio, os yw S o'r farn yn rhesymol ei bod yn mynd yn groes i unrhyw ddarpariaeth o'r Rheoliadau hyn.

(9Caiff S ymafael mewn unrhyw offer cyfrifiadurol at y diben o gopïo dogfennau neu gofnodion o'r math a grybwyllir ym mharagraff (1)(d), a gwirio gweithrediad, a'r data a gynhwysir mewn, unrhyw offer cyfrifiadurol a ddefnyddir neu a ddefnyddiwyd mewn cysylltiad â'r dogfennau neu'r cofnodion hynny (ac wrth wneud hynny caiff adfer data), ar yr amod y'u dychwelir cyn gynted ag y bo'n ymarferol, a beth bynnag o fewn cyfnod o 28 diwrnod, sy'n cychwyn gyda'r diwrnod yr ymafaelir yn yr offer.

(10Os na all S symud ymaith eitem neu offer cyfrifiadurol yr ymafaelir ynddi neu ynddynt o dan baragraff (7), (8) neu (9) ar unwaith, caiff—

(a)marcio'r eitem neu offer mewn unrhyw ffordd y tybio'n briodol; a

(b)rhoi i'r person (“P”) sy'n ymddangos iddo ei fod â gofal o'r eitem neu offer cyfrifiadurol hysbysiad (“hysbysiad rheoliad 20(10)”) sy'n—

(i)nodi manylion adnabod yr eitem neu'r offer cyfrifiadurol;

(ii)ei gwneud yn ofynnol nad oes neb yn ymyrryd â'r eitem neu'r offer cyfrifiadurol hyd nes ei chesglir neu eu cesglir gan S; a

(iii)gwahardd symud yr eitem neu'r offer cyfrifiadurol o'r fangre lle ei darganfuwyd neu eu darganfuwyd, hyd nes ei chesglir neu eu cesglir gan S.

(11Mae P yn euog o dramgwydd os yw'n methu â chydymffurfio â hysbysiad rheoliad 20(10) a roddir iddo gan S.

(12Mae person arall, ac eithrio S a P, sy'n gwybod am hysbysiad rheoliad 20(10), yn euog o dramgwydd os yw (er na roddwyd yr hysbysiad iddo ef), yn symud ymaith neu'n ymyrryd ag eitem neu offer cyfrifiadurol, yn groes i delerau'r hysbysiad.

(13Rhaid i S beidio ag arfer y pwerau o dan y rheoliad hwn ac eithrio ar ôl cyflwyno, os gofynnir iddo, dogfen a ddilyswyd yn briodol sy'n dangos ei awdurdod.

(14Yn y rheoliad hwn mae “mangre” yn cynnwys unrhyw le ac unrhyw gerbyd, ôl-gerbyd, stondin neu adeiledd symudol.

Gweithdrefn ar gyfer ymafael

21.—(1Rhaid i swyddog awdurdodedig (“S”) ddilyn y gweithdrefnau a bennir yn y rheoliad hwn os yw'n ymafael mewn unrhyw beth o dan reoliad 20(7), (8) neu (9).

(2Rhaid i S roi i'r person y mae'n ymddangos i S ei fod â gofal o'r fangre yr ymafaelir yn yr eitem neu'r offer cyfrifiadurol ymafaeledig ynddi (“y fangre”), hysbysiad y mae'n rhaid iddo ddatgan—

(a)beth yr ymafaelodd S ynddo;

(b)pa bryd yr ymafaelodd S ynddo;

(c)ar ba sail yr ymafaelwyd yn yr eitem neu'r offer; ac

(ch)i ba gyfeiriad ac yn ystod pa gyfnod y gellir anfon hawliad am ddychwelyd yr eitem neu'r offer.

(3Ond os yw'r fangre heb feddiannydd neu os yw'n ymddangos i S nad oes neb â gofal o'r fangre, rhaid i S osod hysbysiad ynghlwm wrth ran amlwg o'r fangre, neu wrth wrthrych amlwg ar y fangre, sy'n cynnwys yr wybodaeth a grybwyllir yn is-baragraffau (a) i (ch) o baragraff (2).

(4Caiff person sydd â buddiant perchnogol yn yr eitem neu'r offer cyfrifiadurol ymafaeledig (gan gynnwys credydwr sydd â dyled wedi ei sicrhau ar yr eitem neu'r offer cyfrifiadurol) hysbysu'r awdurdod gorfodi o unrhyw hawliad na ddylid bod wedi ymafael yn yr eitem neu'r offer cyfrifiadurol ymafaeledig, gan ddatgan yn llawn y sail dros wneud yr hawliad.

(5Rhaid anfon yr hawliad i'r cyfeiriad a bennir yn yr hysbysiad ymafael, o fewn cyfnod o 28 diwrnod ar ôl yr ymafaeliad, sy'n cychwyn gyda'r diwrnod yr ymafaelwyd yn yr eitem neu'r offer cyfrifiadurol ymafaeledig.

(6Os na cheir hysbysiad o hawliad o fewn 28 diwrnod mewn perthynas ag eitem yr ymafaelwyd ynddi o dan reoliad 20(7), caiff yr awdurdod gorfodi gadw'r eitem ymafaeledig cyhyd â bo angen tra'n ei dal at ddibenion unrhyw ymchwiliad neu achos troseddol, neu i'w defnyddio fel tystiolaeth mewn treial.

(7Os ceir hysbysiad o hawliad o fewn 28 diwrnod mewn perthynas ag eitem yr ymafaelwyd ynddi o dan reoliad 20(7), rhaid i'r awdurdod gorfodi—

(a)dychwelyd yr eitem ymafaeledig o fewn cyfnod o 14 diwrnod, sy'n cychwyn gyda'r diwrnod y cafwyd yr hawliad; neu

(b)cadw'r eitem ymafaeledig cyhyd â bo angen tra'n ei dal at ddibenion unrhyw ymchwiliad neu achos troseddol, neu i'w defnyddio fel tystiolaeth mewn treial, ond rhaid iddo hysbysu'r hawlydd bod yr eitem ymafaeledig yn cael ei chadw, ac o'r rheswm pam y caiff ei chadw, o fewn cyfnod o 14 diwrnod, sy'n cychwyn gyda'r diwrnod y cafwyd yr hawliad.

(8Os na cheir hysbysiad o hawliad o fewn 28 diwrnod mewn perthynas ag eitem yr ymafaelwyd ynddi o dan reoliad 20(8), caiff yr awdurdod gorfodi—

(a)os yw'r awdurdod gorfodi'n penderfynu peidio â dinistrio'r eitem ymafaeledig, ond yn hytrach ei chadw at ddibenion unrhyw ymchwiliad neu achos troseddol, neu i'w defnyddio'n dystiolaeth mewn treial, gadw'r eitem ymafaeledig cyhyd ag y bo angen at un o'r dibenion hynny, ond rhaid i'r awdurdod gorfodi—

(i)hysbysu'r person perthnasol bod yr eitem ymafaeledig yn cael ei chadw, ac o'r rheswm pam y caiff ei chadw, o fewn cyfnod o 14 diwrnod o ddiwedd y cyfnod hawlio, sy'n cychwyn gyda'r diwrnod cyntaf ar ôl diwedd y cyfnod hawlio; neu

(ii)os na ŵyr yr awdurdod gorfodi pwy yw'r person perthnasol, ac os methir â darganfod hynny yn dilyn ymholiadau rhesymol gan yr awdurdod gorfodi, gosod hysbysiad ynghlwm wrth ran amlwg o'r fangre, neu ynghlwm wrth wrthrych amlwg ar y fangre, o fewn cyfnod o 14 diwrnod o ddiwedd y cyfnod hawlio, sy'n cychwyn gyda'r diwrnod cyntaf ar ôl diwedd y cyfnod hawlio, yn datgan bod yr eitem ymafaeledig yn cael ei chadw a'r rheswm pam y mae'n cael ei chadw; neu

(b)dinistrio'r eitem ymafaeledig o fewn cyfnod o 28 diwrnod, sy'n cychwyn gyda'r diwrnod ar ôl diwedd y cyfnod hawlio o 28 diwrnod, os yw'n credu yn rhesymol bod yr eitem yn mynd yn groes i'r Rheoliadau hyn, ac—

(i)hysbysu'r person perthnasol bod yr eitem ymafaeledig wedi ei dinistrio, o fewn cyfnod o 14 diwrnod ar ôl ei dinistrio, sy'n cychwyn ar y diwrnod y dinistrir yr eitem (neu ddiwrnod olaf y dinistrio os yw dinistrio'r eitem yn digwydd ar fwy nag un diwrnod); neu

(ii)os na ŵyr yr awdurdod gorfodi pwy yw'r person perthnasol, ac os methir â darganfod hynny yn dilyn ymholiadau rhesymol gan yr awdurdod gorfodi, gosod hysbysiad ynghlwm wrth ran amlwg o'r fangre, neu ynghlwm wrth wrthrych amlwg ar y fangre, o fewn cyfnod o 14 diwrnod o ddinistrio'r eitem, sy'n cychwyn gyda'r diwrnod y dinistrir yr eitem (neu ddiwrnod olaf y dinistrio os yw dinistrio'r eitem yn digwydd ar fwy nag un diwrnod) yn datgan bod yr eitem ymafaeledig wedi ei dinistrio.

(9Ym mharagraff (8) ystyr “person perthnasol” (“relevant person”) yw—

(a)os yw'r awdurdod gorfodi'n gwybod enw person sydd â buddiant perchnogol yn yr eitem ymafaeledig, y person hwnnw, neu (os gŵyr yr awdurdod enwau mwy nag un person sydd â buddiant perchnogol yn yr eitem ymafaeledig) pob un o'r personau hynny; neu

(b)os na ŵyr yr awdurdod gorfodi enw unrhyw berson sydd â buddiant perchnogol yn yr eitem ymafaeledig, y person sy'n ymddangos i'r awdurdod gorfodi ei fod â gofal o'r fangre.

(10Yn achos unrhyw eitem a ddinistrir o dan baragraff (8)(b), caiff yr awdurdod gorfodi adennill y costau canlynol fel dyled oddi ar unrhyw berson a oedd â buddiant perchnogol yn yr eitem yn union cyn ei dinistrio (ar wahân i gredydwr sydd â dyled wedi ei sicrhau ar yr eitem)—

(a)costau symud a chludo'r eitem o'r fangre i'r storfa lle'i cedwir;

(b)costau storio'r eitem am hyd at 28 diwrnod;

(c)unrhyw gostau ar gyfer symud a chludo'r eitem, os symudir hi o un storfa i storfa arall;

(ch)costau cludo'r eitem o'r storfa i'r man lle'i dinistrir; a

(d)costau dinistrio'r eitem.

(11Os ceir hysbysiad o hawliad o fewn 28 diwrnod mewn perthynas ag eitem yr ymafaelwyd ynddi o dan reoliad 20(8), rhaid i'r awdurdod gorfodi—

(a)dychwelyd yr eitem ymafaeledig o fewn cyfnod o 14 diwrnod, sy'n cychwyn gyda'r diwrnod y cafwyd yr hawliad;

(b)os yw'r awdurdod gorfodi'n penderfynu peidio â dinistrio'r eitem ymafaeledig, ond yn hytrach ei chadw at ddibenion unrhyw ymchwiliad neu achos troseddol, neu i'w defnyddio'n dystiolaeth mewn treial, gadw'r eitem cyhyd ag y bo angen at un o'r dibenion hynny, ond rhaid i'r awdurdod gorfodi hysbysu'r hawlydd bod yr eitem ymafaeledig yn cael ei chadw, ac o'r rheswm pam y caiff ei chadw, o fewn cyfnod o 14 diwrnod o'r hawliad, sy'n cychwyn gyda'r diwrnod y cafwyd yr hawliad; neu

(c)o fewn cyfnod o 14 diwrnod o'r hawliad, sy'n cychwyn gyda'r diwrnod y cafwyd yr hawliad, cychwyn achos (“achos rheoliad 21(11)(c)”) mewn llys ynadon, i geisio gorchymyn i'w awdurdodi i ddinistrio'r eitem.

(12Mewn achos rheoliad 21(11)(c) caiff y llys ynadon—

(a)awdurdodi'r awdurdod gorfodi i ddinistrio'r eitem ymafaeledig;

(b)awdurdodi'r awdurdod gorfodi i gadw'r eitem at ddibenion unrhyw ymchwiliad neu achos troseddol, neu i'w defnyddio'n dystiolaeth mewn treial, am gyhyd ag y bo angen at un o'r dibenion hynny; neu

(c)gwneud yn ofynnol bod yr awdurdod gorfodi'n dychwelyd yr eitem at yr hawlydd, a gosod terfyn amser ar gyfer gwneud hynny.

(13Os yw llys ynadon, mewn achos rheoliad 21(11)(c) yn awdurdodi'r awdurdod gorfodi i ddinistrio'r eitem ymafaeledig, caiff y llys hefyd orchymyn bod yr hawlydd (ond nid hawlydd sydd yn gredydwr â dyled wedi ei sicrhau ar yr eitem) yn talu pa rai bynnag o'r costau canlynol a bennir gan y llys—

(a)costau symud a chludo'r eitem o'r fangre i'r man lle'i storir;

(b)costau storio'r eitem am hyd at 28 diwrnod;

(c)unrhyw gostau ar gyfer symud a chludo'r eitem, os symudir hi o un storfa i storfa arall;

(ch)costau cludo'r eitem o'r storfa i'r man lle'i dinistrir; a

(d)costau dinistrio'r eitem.

(14Os ceir hysbysiad o hawliad o fewn 28 diwrnod, yn achos unrhyw offer cyfrifiadurol yr ymafaelwyd ynddynt o dan reoliad 20(9), rhaid i'r awdurdod gorfodi—

(a)dychwelyd yr offer cyfrifiadurol ymafaeledig o fewn cyfnod o saith niwrnod o'r hawliad, sy'n dechrau ar y diwrnod y ceir yr hawliad neu, os yw'n fyrrach, o fewn gweddill y cyfnod hwyaf o 28 diwrnod y darperir ar ei gyfer yn rheoliad 20(9); neu

(b)cychwyn achos mewn llys ynadon o fewn cyfnod o saith niwrnod o'r hawliad, sy'n dechrau ar y diwrnod y ceir yr hawliad oni fydd saith niwrnod neu lai yn weddill cyn diwedd y cyfnod hwyaf o 28 diwrnod y darperir ar ei gyfer yn rheoliad 20(9), am orchymyn yn awdurdodi'r awdurdod gorfodi i gadw'r offer cyfrifiadurol ymafaeledig, yn unol â'r gofynion a bennir yn rheoliad 20(9).

(15Os yw llys ynadon, yn achos unrhyw offer cyfrifiadurol yr ymafaelir ynddynt o dan reoliad 20(9), yn awdurdodi'r awdurdod gorfodi i gadw'r offer cyfrifiadurol ymafaeledig, caiff y llys osod amodau ynglŷn ag ar ba sail y ceir parhau i gadw'r offer, gan gynnwys pennu terfyn amser gyfer dychwelyd yr offer, sy'n fyrrach na'r cyfnod hwyaf o 28 diwrnod y darperir ar ei gyfer yn rheoliad 20(9).

(16Mae'r weithdrefn mewn llys ynadon o dan y rheoliad hwn ar ffurf achwyniad ac y mae Deddf Llysoedd Ynadon 1980(1) yn gymwys i'r achosion.

Hysbysiadau cydymffurfio

22.—(1Pan fo gan swyddog awdurdodedig (“S”) sail resymol dros gredu bod unrhyw berson (“P”) yn methu â chydymffurfio â'r Rheoliadau hyn, caiff S, drwy hysbysiad (“hysbysiad cydymffurfio rheoliad 22(1)”), ei gwneud yn ofynnol bod P yn cymryd pa bynnag gamau a bennir gan S (neu gamau sydd o leiaf yn gyfwerth â'r rheini), o fewn pa bynnag gyfnod a bennir gan S, i sicrhau nad yw'r methiant i gydymffurfio'n parhau neu'n digwydd drachefn.

(2Rhaid i hysbysiad cydymffurfio rheoliad 22(1)—

(a)datgan y sail dros yr hyn y mae S yn ei gredu;

(b)pennu'r materion sy'n gyfystyr â methiant i gydymffurfio â'r Rheoliadau hyn;

(c)pennu'r hyn y mae'n rhaid i P roi'r gorau i'w wneud, neu'r camau y mae'n rhaid, ym marn S, i P eu cymryd er mwyn cydymffurfio â'r Rheoliadau hyn;

(ch)gwneud yn ofynnol bod P yn rhoi'r gorau i gyflawni'r weithred a bennir yn yr hysbysiad, neu'n cymryd y camau a bennir yn yr hysbysiad, neu gamau sydd o leiaf gyfwerth â'r rheini, o fewn y cyfnod a grybwyllir yn yr hysbysiad;

(d)hysbysu P o'r hawl sydd ganddo, a roddir gan reoliad 23 i apelio i lys ynadon; ac

(dd)hysbysu P o'r cyfnod a ganiateir ar gyfer gwneud apêl o'r fath.

(3Mae person yn euog o dramgwydd os yw'n methu â chydymffurfio â hysbysiad cydymffurfio rheoliad 22(1) a roddir iddo o dan baragraff (1).

(4Os oes sail resymol gan S dros gredu nad yw unrhyw eitem a grybwyllir ym mharagraff (5) yn cydymffurfio, mewn unrhyw un neu ragor o ffyrdd, â'r gofynion a grybwyllir yn Atodlen 1, 2 neu 3, caiff S, drwy hysbysiad (“hysbysiad cydymffurfio rheoliad 22(4)”), roi cyfarwyddyd i'r person (“P”) sy'n ymddangos i S ei fod â gofal o'r fangre lle y darganfyddir yr eitem berthnasol, i beidio â symud yr eitem berthnasol o'r fangre honno, oni roddir cyfarwyddyd fel arall mewn ysgrifen gan S, hyd nes bo'r eitem yn cydymffurfio â'r gofynion hynny.

(5Yr eitemau yw—

(a)wyau;

(b)wyau deor;

(c)pecynnau neu gynwysyddion eraill ar gyfer wyau, wyau deor neu gywion; ac

(ch)labeli sy'n ymwneud ag wyau, wyau deor neu gywion.

(6Rhaid i hysbysiad cydymffurfio rheoliad 22(4)—

(a)ddatgan y sail dros yr hyn y mae S yn ei gredu;

(b)pennu'r materion sy'n gyfystyr â methiant i gydymffurfio;

(c)pennu'r camau y mae'n rhaid, ym marn S, eu cymryd i sicrhau cydymffurfiaeth;

(ch)hysbysu P o'i hawl i apelio i lys ynadon; a

(d)hysbysu P o'r cyfnod a ganiateir ar gyfer gwneud apêl o'r fath.

(7Mae P yn euog o dramgwydd os yw'n symud eitem, y mae hysbysiad cydymffurfio rheoliad 22(4) a roddwyd iddo gan S yn ymwneud â hi, o'r fangre lle'i darganfuwyd gan S, yn groes i delerau'r hysbysiad hwnnw, oni chaiff gyfarwyddyd ysgrifenedig i wneud hynny gan S.

(8Mae person arall, ac eithrio S a P, sy'n gwybod am hysbysiad cydymffurfio rheoliad 22(4) yn euog o dramgwydd (er na roddwyd yr hysbysiad iddo ef) os yw'n symud eitem y mae'r hysbysiad yn ymwneud â hi o'r fangre lle'i darganfuwyd gan S, yn groes i delerau'r hysbysiad hwnnw, oni chaiff gyfarwyddyd ysgrifenedig i wneud hynny gan S.

Apelau

23.—(1Caiff unrhyw berson y mae penderfyniad a bennir ym mharagraff (2) yn ei dramgwyddo apelio i lys ynadon yn erbyn y penderfyniad hwnnw.

(2Mae'r canlynol yn benderfyniad penodedig at ddiben paragraff (1)—

(a)penderfyniad gan Weinidogion Cymru i wrthod cofrestru sefydliad yn sefydliad bridio pedigri, yn sefydliad bridio arall neu'n ddeorfa o dan Erthygl 2(1) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 617/2008, neu i dynnu'n ôl y cyfryw gofrestriad;

(b)penderfyniad gan Weinidogion Cymru i wrthod awdurdodi ymgymeriad yn ganolfan becynnu i raddio wyau o dan is-baragraff cyntaf Erthygl 5(2) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008, neu i dynnu'n ôl y cyfryw awdurdodiad;

(c)penderfyniad gan swyddog awdurdodedig i osod hysbysiad cydymffurfio rheoliad 22(1); neu

(ch)penderfyniad gan swyddog awdurdodedig i osod hysbysiad cydymffurfio rheoliad 22(4).

(3Mae adran 37(3), (5) a (6) o'r Ddeddf yn effeithiol mewn perthynas ag apêl o dan y rheoliad hwn fel y mae'n effeithiol mewn perthynas ag apêl o dan yr adran honno, ond gan hepgor—

(a)yn is-adran (3), y geiriau “, or an appeal to such a court for which provision is made by regulations under Part II of this Act,”;

(b)is-adran (5)(b), a'r gair “or” sy'n dod yn union o'i blaen; ac

(c)yn is-adran (6)(a), y geiriau “or to the sheriff”.

(4Nid yw tynnu cofrestriad neu awdurdodiad yn ôl fel y cyfeirir ato ym mharagraff (2) yn cael effaith hyd nes daw'r amser ar gyfer apelio yn ei erbyn i ben, ac os cyflwynir apêl, hyd nes penderfynir yr apêl yn derfynol neu y'i tynnir yn ôl.

Gofynion cadw cofnodion

24.—(1Caiff Gweinidogion Cymru, drwy hysbysiad, gyfarwyddo unrhyw berson, sy'n ymgymryd ag unrhyw weithgarwch a reoleiddir gan ddarpariaeth a grybwyllir yn Atodlen 1, 2 neu 3, i gydymffurfio ag unrhyw un neu rai o'r gofynion a grybwyllir ym mharagraff (2).

(2Y gofynion yw—

(a)cadw pa bynnag gofnodion ag y bo'n ofynnol yn rhesymol gan Weinidogion Cymru at ddibenion gorfodi unrhyw ddarpariaeth o'r fath, neu beri eu bod yn cael eu cadw;

(b)darparu ar gyfer Gweinidogion Cymru pa bynnag wybodaeth sy'n deillio o'r cyfryw gofnodion ag y bo'n ofynnol gan Weinidogion Cymru, erbyn yr adegau a grybwyllir yn yr hysbysiad; ac

(c)dal gafael yn y cyfryw gofnodion am ba bynnag gyfnod y bo'n ofynnol yn rhesymol gan Weinidogion Cymru.

(3Ond rhaid i Weinidogion Cymru beidio â rhoi cyfarwyddyd o dan baragraff (1) onid yw'r cofnodion y mae'r cyfarwyddyd yn ymwneud â hwy yn rhai o'r math a gedwir yn arferol yng nghwrs eu busnes gan bersonau sy'n ymgymryd ag unrhyw weithgarwch a reoleiddir gan ddarpariaeth a grybwyllir yn Atodlen 1, 2 neu 3 ac—

(a)oni roddir y cyfarwyddyd ar neu cyn 16 Ionawr 2010, a Gweinidogion Cymru yn rhesymol yn amau bod y person y rhoddir y cyfarwyddyd iddo wedi mynd yn groes i unrhyw ddarpariaeth a grybwyllir yn Atodlen 1, 2 neu 3, neu wedi methu â chydymffurfio â'r ddarpariaeth honno, ers i'r Rheoliadau hyn ddod i rym;

(b)oni roddir y cyfarwyddyd ar neu cyn 16 Ionawr 2010, a'r person y rhoddir y cyfarwyddyd iddo wedi ei gollfarnu o dramgwydd o dan reoliad 5, 9 neu 16 o'r Rheoliadau hyn, a Gweinidogion Cymru yn amau yn rhesymol bod y person hwnnw, ers iddo gael ei gollfarnu—

(i)wedi parhau i fynd yn groes i'r ddarpariaeth a grybwyllir yn Atodlen 1, 2 neu 3 y mae collfarn y person hwnnw yn ymwneud â hi, neu'n parhau i fethu â chydymffurfio â hi; neu

(ii)wedi mynd yn groes i ryw ddarpariaeth arall a grybwyllir yn Atodlen 1, 2 neu 3, neu wedi methu â chydymffurfio â hi;

(c)oni roddir y cyfarwyddyd ar neu ar ôl 17 Ionawr 2010, a Gweinidogion Cymru yn rhesymol yn amau bod y person y rhoddir y cyfarwyddyd iddo wedi mynd yn groes i unrhyw ddarpariaeth a grybwyllir yn Atodlen 1, 2 neu 3, neu wedi methu â chydymffurfio â hi o fewn y cyfnod o chwe mis yn union cyn i'r cyfarwyddyd gael ei roi; neu

(ch)oni roddir y cyfarwyddyd ar neu ar ôl 17 Ionawr 2010, a'r person y rhoddir y cyfarwyddyd iddo wedi ei gollfarnu o dramgwydd o dan reoliad 5, 9 neu 16 o'r Rheoliadau hyn o fewn y cyfnod o chwe mis yn union cyn i'r cyfarwyddyd gael ei roi, a Gweinidogion Cymru yn amau yn rhesymol bod y person hwnnw, ers iddo gael ei gollfarnu—

(i)wedi parhau i fynd yn groes i'r ddarpariaeth a grybwyllir yn Atodlen 1, 2 neu 3 y mae collfarn y person hwnnw yn ymwneud â hi, neu'n parhau i fethu â chydymffurfio â hi; neu

(ii)wedi mynd yn groes i ryw ddarpariaeth arall a grybwyllir yn Atodlen 1, 2 neu 3, neu wedi methu â chydymffurfio â hi.

(4Mae person yn euog o dramgwydd os nad yw'n cydymffurfio ag unrhyw ofyniad a osodir arno gan gyfarwyddyd a roddir gan Weinidogion Cymru o dan baragraff (1).

Cyhoeddi gwybodaeth ynghylch gorfodi

25.—(1Rhaid i awdurdod gorfodi roi cyhoeddusrwydd i achosion pan fo eitemau yr ymafaelwyd ynddynt o dan reoliad 20(8) wedi eu dinistrio, a rhaid iddo wneud hynny ym mha bynnag fodd y gwêl yn briodol.

(2Ond rhaid i'r awdurdod gorfodi beidio â rhoi cyhoeddusrwydd i ddinistrio unrhyw eitem yr ymafaelir ynddi o dan reoliad 20(8) os yw o'r farn y byddai'n amhriodol gwneud hynny.

(3Rhaid i awdurdod gorfodi roi cyhoeddusrwydd i achosion pan roddir hysbysiadau cydymffurfio ganddo o dan reoliad 22, a rhaid iddo wneud hynny ym mha bynnag fodd y gwêl yn briodol.

(4Ond rhaid i'r awdurdod gorfodi beidio â rhoi cyhoeddusrwydd i hysbysiad cydymffurfio a roddir ganddo o dan reoliad 22—

(a)cyn bo'r cyfnod ar gyfer apelio yn erbyn gosod yr hysbysiad cydymffurfio wedi dod i ben;

(b)yn ystod y cyfnod pan fo unrhyw apêl yn erbyn gosod yr hysbysiad cydymffurfio yn parhau;

(c)pan fo apêl yn erbyn gosod yr hysbysiad cydymffurfio wedi llwyddo; neu

(ch)mewn unrhyw achos arall pan fo'r awdurdod gorfodi o'r farn y byddai'n amhriodol gwneud hynny.

Rhwystro

26.  Mae person (“P”) yn euog o dramgwydd os yw—

(a)yn rhwystro unrhyw berson (“S”) sy'n gweithredu i roi'r Rheoliadau hyn ar waith;

(b)yn methu â rhoi i S unrhyw gymorth neu wybodaeth y mae'n rhesymol i S ofyn amdano neu amdani gan P, ar gyfer cyflawni swyddogaethau S o dan y Rheoliadau hyn;

(c)yn rhoi unrhyw wybodaeth ffug neu gamarweiniol i S; neu

(ch)yn methu â dangos unrhyw gofnod pan ofynnir iddo wneud hynny gan S.

Dirwy

27.  Mae person sy'n euog o dramgwydd o dan reoliad 5, 9, 16, 20(3), (4), (6), (11) neu (12), 22(3), (7) neu (8), 24(4) neu 26 yn atebol ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.

Estyn y cyfnod ar gyfer dwyn erlyniad

28.—(1Caniateir cychwyn achos am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn o fewn y cyfnod o un flwyddyn o'r dyddiad pryd y daeth tystiolaeth sy'n ddigonol ym marn yr erlynydd i gyfiawnhau dwyn yr achos i sylw'r erlynydd.

(2Ond ni chaniateir cychwyn achos o'r fath yn rhinwedd paragraff (1) fwy na thair blynedd ar ôl cyflawni'r tramgwydd.

(3At ddibenion y rheoliad hwn—

(a)mae tystysgrif a lofnodwyd gan yr erlynydd neu ar ei ran ac y nodir arni'r dyddiad pryd y daeth tystiolaeth sy'n ddigonol ym marn yr erlynydd i gyfiawnhau dwyn achos i sylw'r erlynydd yn dystiolaeth ddigamsyniol o'r ffaith honno; a

(b)rhaid barnu bod tystysgrif sy'n datgan y mater hwnnw ac yr honnir iddi gael ei llofnodi felly wedi ei llofnodi felly oni cheir prawf i'r gwrthwyneb.

Tramgwyddau gan gyrff corfforaethol etc.

29.—(1Os profir bod tramgwydd a gyflawnir gan gorff corfforaethol (ac eithrio partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig neu bartneriaeth Albanaidd) wedi'i gyflawni drwy gydsyniad neu ymoddefiad, neu i'w briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran, swyddog o'r corff corfforaethol, neu berson sy'n honni gweithredu mewn swydd o'r fath, mae'r swyddog neu'r person hwnnw (yn ogystal â'r corff corfforaethol) yn euog o'r tramgwydd ac yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.

(2Pan fo materion corff corfforaethol yn cael eu rheoli gan ei aelodau, mae paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â gweithredoedd a diffyg gweithredoedd aelod, a pherson sy'n honni gweithredu mewn swydd o'r fath, mewn cysylltiad â swyddogaethau'r aelod o reoli, fel y mae'n gymwys i swyddog corff corfforaethol.

(3Os profir bod tramgwydd a gyflawnir gan gorff anghorfforedig (ac eithrio partneriaeth anghorfforedig) wedi'i gyflawni drwy gydsyniad neu ymoddefiad, neu i'w briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran, unrhyw swyddog neu berson sy'n honni gweithredu mewn swydd o'r fath, mae'r swyddog neu'r person hwnnw (yn ogystal â'r corff anghorfforedig) yn euog o'r tramgwydd ac yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.

(4Os profir bod tramgwydd a gyflawnir gan bartneriaeth (gan gynnwys partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig neu bartneriaeth Albanaidd) wedi'i gyflawni drwy gydsyniad neu ymoddefiad, neu i'w briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran partner, neu berson sy'n honni gweithredu mewn swydd o'r fath, mae'r partner neu'r person (yn ogystal â'r bartneriaeth) yn euog o'r tramgwydd ac yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.

(5Yn y rheoliad hwn, ystyr “tramgwydd” (“offence”) yw tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn.

Rhoi hysbysiad cosb am dramgwydd cosb

30.  Caiff awdurdod gorfodi roi hysbysiad cosb i berson (“P”) os oes rheswm gan yr awdurdod i gredu bod P wedi cyflawni tramgwydd o dan reoliad 16 drwy fynd yn groes i ddarpariaeth o Reoliad (EC) Rhif 2160/2003 a grybwyllir yng ngholofn 1 o Atodlen 3, neu fethu â chydymffurfio â hi.

Cynnwys yr hysbysiad cosb

31.  Rhaid i hysbysiad cosb a roddir gan awdurdod gorfodi—

(a)rhoi pa a bynnag fanylion sy'n angenrheidiol am yr amgylchiadau, yr honnir eu bod yn ffurfio'r tramgwydd cosb, i gyfleu gwybodaeth resymol am y tramgwydd;

(b)datgan swm y gosb;

(c)datgan yn ystod pa gyfnod, yn rhinwedd rheoliad 33, na chychwynnir achos ynglŷn â'r tramgwydd;

(ch)datgan i ba berson ac ym mha gyfeiriad y gellir talu'r gosb; a

(d)datgan rhaid peidio â thalu mewn arian parod.

Swm y gosb

32.—(1Mae swm y gosb i'w benderfynu gan yr awdurdod gorfodi, a rhaid iddo beidio â bod yn llai na £100 nac yn fwy na £4,500.

(2Caiff y ffactorau sydd i'w cymryd i ystyriaeth gan yr awdurdod gorfodi wrth benderfynu swm y gosb gynnwys un neu ragor o'r ffactorau a grybwyllir yn Atodlen 4 (ond nid ydynt yn gyfyngedig i'r ffactorau hynny).

Cyfyngiad ar ddwyn achos am dramgwydd cosb

33.—(1Pan roddir hysbysiad cosb i berson (“P”)–

(a)ni chaniateir dwyn achos yn erbyn P am y tramgwydd cosb y mae'r hysbysiad hwnnw'n ymwneud ag ef cyn diwedd y cyfnod o 28 diwrnod sy'n cychwyn gyda'r diwrnod y rhoddir yr hysbysiad iddo; a

(b)ni chaniateir collfarnu P am y tramgwydd os telir y gosb yn unol â rheoliad 34 cyn diwedd y cyfnod hwnnw.

(2Nid yw paragraff (1) yn gymwys os tynnir y rhybudd cosb yn ôl yn unol â rheoliad 37.

Talu'r gosb

34.—(1Rhaid talu unrhyw gosb i'r person a grybwyllir yn yr hysbysiad cosb drwy anfon y tâl drwy'r post neu drwy ba bynnag ddull a grybwyllir yn yr hysbysiad.

(2Rhaid i unrhyw gosb beidio â chael ei thalu mewn arian parod.

Tystysgrif o dalu neu o beidio â thalu cosb

35.  Mewn unrhyw achos, mae tystysgrif, yr honnir ei bod wedi ei llofnodi gan neu ar ran yr awdurdod gorfodi, sy'n datgan bod taliad mewn perthynas â hysbysiad cosb wedi ei gael neu heb ei gael ar neu cyn dyddiad a grybwyllir yn y dystysgrif,yn dystiolaeth o'r ffeithiau a ddatgenir.

Derbyniadau cosbau

36.  Rhaid i unrhyw gosbau a delir i awdurdod gorfodi gael eu talu i Gronfa Gyfunol Cymru.

Tynnu hysbysiad cosb yn ôl

37.—(1Caiff awdurdod gorfodi dynnu hysbysiad cosb yn ôl os oes rheswm gan yr awdurdod gorfodi i gredu na ddylid bod wedi ei roi (pa un ai i'r person a enwir yn yr hysbysiad cosb neu fel arall).

(2Caiff awdurdod gorfodi dynnu hysbysiad cosb yn ôl drwy roi hysbysiad i'r person a enwir yn yr hysbysiad cosb, cyn neu ar ôl talu'r gosb.

(3Pan fo awdurdod gorfodi yn tynnu hysbysiad cosb yn ôl, rhaid iddo ad-dalu unrhyw gosb a dalwyd o dan yr hysbysiad cosb, i'r person a enwir yn yr hysbysiad cosb, o fewn cyfnod o 28 diwrnod, sy'n cychwyn gyda'r diwrnod y rhoddir yr hysbysiad o dynnu'n ôl yr hysbysiad cosb.

Rhoi hysbysiadau

38.—(1Rhaid i unrhyw hysbysiad y mae'n ofynnol ei roi o dan y Rheoliadau hyn, i unrhyw berson, fod mewn ysgrifen, a gellir ei roi iddo—

(a)drwy ei ddanfon i'r person hwnnw;

(b)ei adael yn ei gyfeiriad priodol;

(c)ei anfon ato yn y cyfeiriad hwnnw drwy'r post rhagdaledig; neu

(ch)yn ddarostyngedig i baragraff (9), drwy ei anfon ato mewn cyfathrebiad electronig.

(2Caniateir rhoi'r hysbysiad i gorff corfforaethol drwy ei roi i swyddog o'r corff hwnnw.

(3Caniateir rhoi'r hysbysiad i bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig, partneriaeth Albanaidd neu bartneriaeth anghorfforedig drwy ei roi i bartner neu i berson sydd â rheolaeth ar, neu sy'n rheoli, busnes y bartneriaeth.

(4Caniateir rhoi'r hysbysiad i unrhyw gorff anghorfforedig arall drwy ei roi i swyddog y corff anghorfforedig.

(5At ddibenion y rheoliad hwn, ac adran 7 o Ddeddf Dehongli 1978(2) (cyflwyno dogfennau drwy'r post) o ran y modd y'i cymhwysir i'r rheoliad hwn, cyfeiriad priodol unrhyw berson y rhoddir hysbysiad iddo yw—

(a)yn achos corff corfforaethol, cyfeiriad swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa'r corff;

(b)yn achos partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig neu bartneriaeth Albanaidd, cyfeiriad swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa'r bartneriaeth;

(c)yn achos partneriaeth anghorfforedig neu unrhyw gorff anghorfforedig arall, cyfeiriad prif swyddfa'r bartneriaeth neu'r corff;

(ch)yn achos person y rhoddir yr hysbysiad iddo gan ddibynnu ar unrhyw un o baragraffau (2), (3) neu (4), cyfeiriad priodol y corff corfforaethol, partneriaeth neu gorff anghorfforedig arall dan sylw; a

(d)mewn unrhyw achos arall, cyfeiriad hysbys diwethaf y person dan sylw.

(6At ddibenion paragraff (5) mae'r cyfeiriadau at “y brif swyddfa” mewn perthynas â chwmni a gofrestrwyd y tu allan i'r Deyrnas Unedig, partneriaeth sy'n cynnal busnes y tu allan i'r Deyrnas Unedig, ac unrhyw gorff anghorfforedig arall sydd â'i brif swyddfa y tu allan i'r Deyrnas Unedig, yn cynnwys cyfeiriad, ym mhob achos, i'w prif swyddfa (os oes un) o fewn y Deyrnas Unedig.

(7Mae paragraff (8) yn gymwys os yw person, sydd i gael hysbysiad o dan y Rheoliadau hyn, wedi pennu mai cyfeiriad o fewn y Deyrnas Unedig (“y cyfeiriad penodedig”) sy'n wahanol i'w gyfeiriad priodol (fel y'i penderfynir o dan baragraff (5)) fydd y cyfeiriad lle y bydd ef, neu rywun ar ei ran, yn derbyn dogfennau o'r un disgrifiad â hysbysiad a roddir o dan y Rheoliadau hyn.

(8Rhaid trin y cyfeiriad penodedig hefyd, at ddibenion y rheoliad hwn ac adran 7 o Ddeddf Dehongli 1978 yn y modd y'i cymhwysir i'r rheoliad hwn, fel cyfeiriad priodol y person.

(9Os anfonir hysbysiad, sydd i'w roi i berson o dan y Rheoliadau hyn, mewn cyfathrebiad electronig gan awdurdod gorfodi, nid yw'r hysbysiad i'w drin fel pe bai wedi ei roi—

(a)onid yw'r person y rhoddir yr hysbysiad iddo wedi dynodi wrth yr awdurdod gorfodi ei fod yn fodlon cael hysbysiadau mewn cyfathrebiadau electronig ac wedi darparu cyfeiriad addas at y diben hwnnw; a

(b)onid anfonir yr hysbysiad i'r cyfeiriad a ddarparwyd gan y person hwnnw.

(10Yn y rheoliad hwn—

  • nid yw “corff corfforaethol” (“body corporate”) yn cynnwys partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig na phartneriaeth Albanaidd; ac

  • mae i “cyfathrebiad electronig” yr ystyr a roddir i “electronic communication” yn adran 15(1) o Ddeddf Cyfathrebiadau Electronig 2000(3).

Cymhwyso amrywiol ddarpariaethau o'r Ddeddf

39.—(1Mae'r darpariaethau canlynol o'r Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiadau a grybwyllir ym mharagraff (2)—

  • adran 3 (rhagdybiaethau y bwriedir bwyd i'w fwyta gan bobl);

  • adran 20 (tramgwyddau oherwydd bai person arall);

  • adran 21(4) (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy);

  • adran 29 (caffael samplau);

  • adran 30(8) (tystiolaeth ddogfennol);

  • adran 44 (diogelu swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll); ac

  • adran 46(1) (treuliau swyddogion awdurdodedig).

(2Yr addasiadau yw—

(a)rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau a bennir ym mharagraff (1) at y Ddeddf (neu Ran o'r Ddeddf) fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn;

(b)rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau a bennir ym mharagraff (1) at swyddog awdurdodedig, swyddog awdurdod gorfodi, neu swyddog awdurdod bwyd fel cyfeiriad at swyddog awdurdodedig fel y'i diffinnir yn rheoliad 3(1) o'r Rheoliadau hyn;

(c)o ran adran 20, rhaid dehongli'r cyfeiriad at yr adran honno fel pe bai'n cynnwys cyfeiriad at yr adran honno fel y'i cymhwysir i'r Rheoliadau hyn gan baragraff (1);

(ch)o ran adran 21(2), yn lle'r geiriau “section 14 or 15 above” rhodder y geiriau “these Regulations”;

(d)o ran adran 29—

(i)ym mharagraff (b)(ii), rhaid dehongli'r cyfeiriad at adran 32 fel pe bai'n cynnwys cyfeiriad at reoliad 20 o'r Rheoliadau hyn; a

(ii)ym mharagraff (d), hepgorer y geiriau “or of regulations or orders made under it”;

(dd)o ran adran 30(8)(a), hepgorer y geiriau “under subsection (6) above”; ac

(e)o ran adran 44, rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad at awdurdod bwyd fel cyfeiriad at awdurdod gorfodi.

Darpariaeth drosiannol

40.  Mae unrhyw awdurdod ysgrifenedig a roddwyd i unrhyw berson i weithredu mewn materion sy'n deillio o dan neu mewn perthynas â Rheoliadau Wyau (Safonau Marchnata) 1995(5) neu Reoliadau Wyau a Chywion (Cymru) 2009(6) yn effeithiol fel pe bai'n cyfeirio at y Rheoliadau hyn.

(2)

1978 p. 30. Diwygiwyd adran 15(1) gan baragraff 158 o Atodlen 17 i Ddeddf Cyfathrebiadau 2003 (p. 21).

(4)

Diwygiwyd adran 21(2) gan O.S. 2004/3279.

(5)

O.S. 1995/1544, dirymwyd gan O.S.A 2005/332 o ran yr Alban, O.S. 2007/2245 o ran Lloegr ac O.S. 2009/793 (Cy. 71) o ran Cymru.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources