- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
10.—(1) Dynodwyd Gweinidogion Cymru yn awdurdod cymwys at ddiben is-baragraff cyntaf Erthygl 5(2) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008 (awdurdodi ymgymeriadau yn ganolfannau pecynnu i raddio wyau).
(2) Os gwneir cais i Weinidogion Cymru o dan is-baragraff cyntaf Erthygl 5(2) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008 am awdurdodi ymgymeriad yn ganolfan pecynnu i raddio wyau, rhaid i Weinidogion Cymru roi hysbysiad i'r ceisydd i'w hysbysu o'r materion a grybwyllir ym mharagraff (3), o fewn cyfnod o 28 diwrnod sy'n cychwyn ar y diwrnod sy'n dilyn y diwrnod pan fo Gweinidogion Cymru'n cael y cais.
(3) Y materion yw—
(a)penderfyniad Gweinidogion Cymru ar y cais;
(b)y rhesymau dros unrhyw wrthodiad i ganiatáu awdurdodiad; ac
(c)yn achos unrhyw wrthodiad i ganiatáu awdurdodiad, yr hawl i apelio a roddir gan reoliad 23 o'r Rheoliadau hyn.
(4) Os na fodlonir Gweinidogion Cymru y dylid caniatáu'r cais, yna (cyn penderfynu'n derfynol a ddylid gwrthod y cais ai peidio), cânt roi hysbysiad i'r ceisydd i'w hysbysu o'r rhesymau dros hynny, ac–
(a)os nad yw Gweinidogion Cymru'n fodlon bod y data a ddarparwyd i gefnogi'r cais yn ddigonol, cânt ofyn i'r ceisydd ddarparu rhagor o ddata;
(b)os nad yw Gweinidogion Cymru'n fodlon y bodlonwyd y gofynion a grybwyllir yn is-baragraff cyntaf Erthygl 5(2) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008 ac sy'n berthnasol i'r math o ganolfan becynnu sydd i'w hawdurdodi, cânt ofyn i'r ceisydd gydymffurfio ag unrhyw ofyniad nad yw eto wedi ei fodloni; ac
(c)caiff Gweinidogion Cymru roi cyfle i'r ceisydd ddarparu ar eu cyfer esboniadau llafar neu ysgrifenedig mewn cysylltiad â'r cais.
(5) Os bydd Gweinidogion Cymru'n penderfynu tynnu'n ôl awdurdodiad canolfan becynnu i raddio wyau oherwydd methiant i gydymffurfio ag unrhyw un neu rai o'r gofynion a grybwyllir yn is-baragraff cyntaf Erthygl 5(2) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008, rhaid iddynt roi hysbysiad i'r person sy'n cynnal busnes yn y ganolfan becynnu (“P”) i'w hysbysu o'r materion a grybwyllir ym mharagraff (6) o fewn cyfnod o 28 diwrnod, sy'n cychwyn ar y diwrnod y gwneir y penderfyniad.
(6) Y materion yw—
(a)penderfyniad Gweinidogion Cymru i dynnu'n ôl yr awdurdodiad;
(b)y dyddiad y mae tynnu'n ôl yr awdurdodiad i fod yn effeithiol;
(c)y rhesymau dros dynnu'n ôl yr awdurdodiad; ac
(ch)yr hawl i apelio a roddir gan reoliad 23 o'r Rheoliadau hyn.
(7) Os bydd Gweinidogion Cymru â'u bryd ar dynnu'n ôl awdurdodiad canolfan becynnu i raddio wyau oherwydd methiant i gydymffurfio ag unrhyw un neu rai o'r gofynion a grybwyllir yn is-baragraff cyntaf Erthygl 5(2) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008, yna caiff Gweinidogion Cymru (cyn penderfynu'n derfynol a ddylid tynnu'n ôl yr awdurdodiad ai peidio) roi hysbysiad i P i'w hysbysu bod Gweinidogion Cymru â'u bryd ar dynnu'n ôl yr awdurdodiad, gan roi'r rhesymau dros wneud hynny, ac—
(a)os yw'r methiant i gydymffurfio ag unrhyw un neu rai o'r gofynion a grybwyllir yn is-baragraff cyntaf Erthygl 5(2) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008 yn parhau, caiff Gweinidogion Cymru ofyn i P gymryd camau penodedig i sicrhau y cydymffurfir â'r gofynion hynny; a
(b)caiff Gweinidogion Cymru roi cyfle i P ddarparu ar eu cyfer esboniadau llafar neu ysgrifenedig mewn cysylltiad â'r mater.
(8) Pan fo Gweinidogion Cymru'n rhoi hysbysiad i geisydd o dan baragraff (4), neu i P o dan baragraff (7), rhaid iddynt bennu terfyn amser yn yr hysbysiad, erbyn pryd y bydd rhaid cymryd unrhyw gamau a bennir yn yr hysbysiad.
(9) Caniateir estyn unrhyw derfyn amser a bennir gan Weinidogion Cymru o dan y rheoliad hwn, unwaith neu nifer o weithiau.
(10) At y diben o gyfrifo'r terfyn amser o 28 diwrnod a grybwyllir ym mharagraff (2), rhaid peidio â chyfrif unrhyw gyfnod o amser a roddir gan Weinidogion Cymru i'r ceisydd gymryd unrhyw gamau a grybwyllir mewn hysbysiad o dan baragraff (4).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: