- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
6.—(1) Dynodwyd Gweinidogion Cymru yn asiantaeth gymwys at ddiben Erthygl 2(1) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 617/2008 (cofrestru sefydliadau bridio pedigri, sefydliadau bridio eraill a deorfeydd).
(2) Os gwneir cais i Weinidogion Cymru yn unol ag Erthygl 2(1) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 617/2008, rhaid i Weinidogion Cymru roi hysbysiad i'r ceisydd i'w hysbysu o'r materion a grybwyllir ym mharagraff (3), o fewn cyfnod o 28 diwrnod sy'n cychwyn ar y diwrnod sy'n dilyn y diwrnod pan fo Gweinidogion Cymru'n cael y cais.
(3) Y materion yw—
(a)penderfyniad Gweinidogion Cymru ar y cais;
(b)y rhesymau dros unrhyw wrthodiad i ganiatáu'r cais; ac
(c)yn achos unrhyw wrthodiad i ganiatáu'r cais, yr hawl i apelio a roddir gan reoliad 23 o'r Rheoliadau hyn.
(4) Os na fodlonir Gweinidogion Cymru y dylid caniatáu'r cais, yna (cyn penderfynu'n derfynol a ddylid gwrthod y cais ai peidio), cânt roi hysbysiad i'r ceisydd i'w hysbysu o'r rhesymau dros hynny, ac–
(a)os nad yw Gweinidogion Cymru'n fodlon bod y data a ddarparwyd i gefnogi'r cais yn ddigonol, cânt ofyn i'r ceisydd ddarparu rhagor o ddata;
(b)os nad yw Gweinidogion Cymru'n fodlon y cydymffurfir ar ôl cofrestru'r sefydliad hwnnw â'r holl ddarpariaethau a grybwyllir yn Atodlen 1 ac sy'n berthnasol i'r math o sefydliad sydd i'w gofrestru, caiff Gweinidogion Cymru ofyn i'r ceisydd gymryd camau penodedig i sicrhau y cydymffurfir â'r darpariaethau hynny; ac
(c)caiff Gweinidogion Cymru roi cyfle i'r ceisydd ddarparu ar eu cyfer esboniadau llafar neu ysgrifenedig mewn cysylltiad â'r cais.
(5) Os bydd Gweinidogion Cymru'n penderfynu tynnu'n ôl cofrestriad sefydliad bridio pedigri, sefydliad bridio arall neu ddeorfa oherwydd mynd yn groes i unrhyw ddarpariaeth a grybwyllir yn Atodlen 1 neu oherwydd methiant i gydymffurfio â darpariaeth o'r fath, rhaid iddynt roi hysbysiad i'r person sy'n cynnal busnes yn y sefydliad dan sylw (“P”) i'w hysbysu o'r materion a grybwyllir ym mharagraff (6).
(6) Y materion yw—
(a)penderfyniad Gweinidogion Cymru i dynnu'n ôl y cofrestriad;
(b)y dyddiad y bydd tynnu'n ôl y cofrestriad yn effeithiol;
(c)y rhesymau dros dynnu'n ôl y cofrestriad; ac
(ch)yr hawl i apelio a roddir gan reoliad 23 o'r Rheoliadau hyn.
(7) Os bydd Gweinidogion Cymru â'u bryd ar dynnu'n ôl cofrestriad sefydliad bridio pedigri, sefydliad bridio arall neu ddeorfa, oherwydd mynd yn groes i unrhyw ddarpariaeth a grybwyllir yn Atodlen 1 neu fethiant i gydymffurfio â darpariaeth o'r fath, yna caiff Gweinidogion Cymru (cyn penderfynu'n derfynol a ddylid tynnu'n ôl y cofrestriad ai peidio) roi hysbysiad i P i'w hysbysu bod Gweinidogion Cymru â'u bryd ar dynnu'n ôl y cofrestriad, gan roi'r rhesymau dros wneud hynny, ac—
(a)os yw'r mynd yn groes i unrhyw ddarpariaeth a grybwyllir yn Atodlen 1 neu'r methiant i gydymffurfio â darpariaeth o'r fath, yn parhau, caiff Gweinidogion Cymru ofyn i P gymryd camau penodedig i sicrhau y cydymffurfir â'r ddarpariaeth; a
(b)caiff Gweinidogion Cymru roi cyfle i P ddarparu esboniadau llafar neu ysgrifenedig i Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â'r mater.
(8) Pan fo Gweinidogion Cymru'n rhoi hysbysiad i geisydd o dan baragraff (4), neu i P o dan baragraff (7), rhaid iddynt bennu terfyn amser yn yr hysbysiad, erbyn pryd y bydd rhaid cymryd unrhyw gamau a grybwyllir yn yr hysbysiad.
(9) Caniateir estyn unrhyw derfyn amser a bennir gan Weinidogion Cymru o dan y rheoliad hwn, unwaith neu nifer o weithiau.
(10) At y diben o gyfrifo'r terfyn amser o 28 diwrnod a grybwyllir ym mharagraff (2), rhaid peidio â chyfrif unrhyw gyfnod o amser a ganiateir gan Weinidogion Cymru i'r ceisydd gymryd unrhyw gamau a grybwyllir mewn hysbysiad o dan baragraff (4).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: