Search Legislation

Gorchymyn Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Cychwyn) 2010

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2010 Rhif 1699 (Cy.160) (C.87)

GOFAL CYMDEITHASOL CYMRU

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU

Gorchymyn Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Cychwyn) 2010

Gwnaed

24 Mehefin 2010

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 74(2) a 75(3) o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

Enwi, dehongli a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Cychwyn) 2010.

(2Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

(3Yn y Gorchymyn hwn —

  • ystyr “Mesur 2010” (“the 2010 Measure”) yw Mesur Pant a Theuluoedd (Cymru) 2010.

Y diwrnod penodedig ar gyfer ardaloedd a bennir

2.—(1Mae paragraff (2) o'r erthygl hon yn gymwys o ran yr ardaloedd awdurdod lleol a bennir yn erthygl 3.

(2Daw'r darpariaethau hynny yn Rhan 3 o Fesur 2010 a nodir yn yr Atodlen i rym ar 1 Medi 2010.

Ardaloedd a bennir

3.  Ardaloedd yr awdurdodau lleol a bennir at ddibenion erthygl 2 yw —

(a)Merthyr Tudful(2);

(b)Casnewydd;

(c)Rhondda Cynon Taf; ac

(ch)Wrecsam.

Gwenda Thomas

Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

24 Mehefin 2010

Darpariaethau Rhan 3

YR ATODLEN 1

1.  Adran 57 (sefydlu timau integredig cymorth i deuluoedd)

2.  Adran 58 ac eithrio is-baragraffau (b), (c) a (d) o is-adran (6) (swyddogaethau timau integredig cymorth i deuluoedd)

3.  Adran 59 (adnoddau ar gyfer timau integredig cymorth i deuluoedd)

4.  Adran 60 (cyfansoddiad timau integredig cymorth i deuluoedd)

5.  Adran 61 (sefydlu byrddau integredig cymorth i deuluoedd)

6.  Adran 62 (swyddogaethau byrddau integredig cymorth i deuluoedd)

7.  Adran 63 (rheoliadau ynghylch timau a byrddau integredig cymorth i deuluoedd)

8.  Adran 64 (adroddiadau blynyddol ar dimau integredig cymorth i deuluoedd)

9.  Adran 65 (canllawiau ynghylch timau integredig cymorth i deuluoedd).

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn Rhan 3 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (“y Mesur”) i effaith ar 1 Medi 2010 yn yr ardaloedd penodedig. Yr ardaloedd penodedig yw ardaloedd awdurdodau lleol Merthyr Tudful, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf a Wrecsam.

Mae Rhan 3 o'r Mesur yn gwneud yn ofynnol bod awdurdodau lleol sefydlu un neu ragor o dimau integredig cymorth i deuluoedd (“ICiD”) yn eu hardal. Rhaid i Fwrdd Iechyd Leol y mae ei ardal yn cyfateb i ardal awdurdod lleol gymryd rhan mewn sefydlu'r tîm. Mae adran 58 o'r Mesur yn nodi'r mathau o achosion y gellir eu hatgyfeirio at dîm integredig cymorth i deuluoedd ac y mae adran 58(6) yn pennu'r categorïau o oedolion a all fod yn ddarostyngedig i atgyfeiriad teuluol. Paragraff (a) yn unig o adran 58(6) a gychwynnir. Hynny yw, ni chaiff tîm ICiD dderbyn atgyfeiriadau mewn perthynas â theulu ac eithrio pan fo rhiant yn ddibynnol ar alcohol neu gyffuriau.

Mae Rhan 3 yn cynnwys darpariaeth arall ynglŷn â chyllido timau ICiD (a.59) a chyfansoddiad y timau ICiD (a. 60). Mae adrannau 61 a 62 yn darparu am sefydlu byrddau ICiD i oruchwylio'r timau. Mae adran 63 yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau am amrywiol agweddau o weithrediad y timau a'r byrddau ICiD. Mae adran 64 yn gwneud yn ofynnol bod bwrdd yn paratoi adroddiad blynyddol ar y tîm. Mae adran 65 yn gwneud yn ofynnol bod awdurdodau lleol, byrddau iechyd lleol, a thimau a byrddau ICiD yn rhoi roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru.

(2)

Yr ardaloedd awdurdod lleol a ddynodir yn ardaloedd a bennir yw'r rhai a restrir yn Rhan 2 o Atodlen 4 i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p.70)

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources