Search Legislation

Rheoliadau Timau Integredig Cymorth i Deuluoedd (Adolygu Achosion) (Cymru) 2010

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2010 Rhif 1700 (Cy.161)

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU

Rheoliadau Timau Integredig Cymorth i Deuluoedd (Adolygu Achosion) (Cymru) 2010

Gwnaed

24 Mehefin 2010

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

29 Mehefin 2010

Yn dod i rym

1 Medi 2010

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 63(a) a 74(2) o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010(1) ac adrannau 26(1), (2), 104(4), 104A (1) a (2) o Ddeddf Plant 1989(2) yn gwneud y rheoliadau a ganlyn.

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Timau Integredig Cymorth i Deuluoedd (Adolygu Achosion) (Cymru) 2010 a deuant i rym ar 1 Medi 2010.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “Mesur 2010” (“the 2010 Measure”) yw Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010;

  • ystyr “y Rheoliadau Adolygu” (“Review Regulations”) yw Rheoliadau Adolygu Achosion Plant (Cymru) 2007(3);

  • ystyr “teulu” (“a family”) yw teulu y mae wedi ei atgyfeirio gan awdurdod lleol i'w dîm integredig cymorth i deuluoedd ac yr hysbyswyd ei aelodau y byddant yn cael eu cefnogi gan y tîm;

  • ystyr “tîm integredig cymorth i deuluoedd” (“IFS team”) yw tîm integredig cymorth i deuluoedd a sefydlwyd gan awdurdod lleol a bwrdd iechyd lleol yn cymryd rhan yn ei sefydlu yn unol ag a.57 o Fesur 2010.

Dyletswydd i adolygu achosion

2.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i awdurdod lleol adolygu achos pob teulu yn unol â'r Rheoliadau hyn tra bo'r teulu yn cael ei gefnogi gan ei dîm integredig cymorth i deuluoedd.

(2Pan fo tîm integredig cymorth i deuluoedd yn cael ei sefydlu ar y cyd gan ragor nag un awdurdod lleol, yna mae'r ddyletswydd ym mharagraff (1) yn gymwys i'r awdurdod lleol lle y mae'r plentyn yn byw ac mae unrhyw drefniadau dros dro i'r plentyn fyw i ffwrdd i'w diystyried at y diben hwn.

(3Nid yw'r ddyletswydd ym mharagraff (1) o'r rheoliad hwn yn gymwys o ran achos teulu pan fo un neu ragor o'r plant yn y teulu yn derbyn gofal gan yr awdurdod lleol neu'n cael ei letya neu eu lletya gan yr awdurdod lleol ac y mae achos y plentyn hwnnw (neu'r plant hynny) yn ddarostyngedig i adolygiad o dan Reoliadau Adolygu.

Pryd y mae pob achos i'w adolygu

3.—(1Rhaid i bob achos gael ei adolygu am y tro cyntaf cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad pryd y caiff y teulu ei hysbysu y bydd ei achos yn cael ei gefnogi gan y tîm integredig cymorth i deuluoedd.

(2Rhaid cynnal yr ail adolygiad cyn pen tri mis ar ôl yr adolygiad cyntaf ac ar ôl hynny rhaid cynnal adolygiadau dilynol cyn pen chwe mis ar ôl dyddiad yr adolygiad blaenorol.

(3Nid oes dim yn y rheoliad hwn yn rhwystro awdurdod lleol rhag adolygu'r achos cyn pen yr amseroedd a bennir ym mharagraff (1) neu (2).

Sut y mae achosion i'w hadolygu

4.—(1Rhaid i awdurdod lleol nodi yn ysgrifenedig sut y mae achos pob teulu i'w adolygu a rhaid iddo drefnu bod hyn ar gael i'r personau a bennir yn rheoliad 6(1).

(2Rhaid i awdurdod lleol y mae ei dîm integredig cymorth i deuluoedd yn cefnogi teulu wneud trefniadau i gyd-drefnu gweithrediad pob agwedd ar yr adolygiad.

(3Rhaid i'r awdurdod lleol benodi un o'i swyddogion i gyd-drefnu pob agwedd ar yr adolygiad.

(4Rhaid i'r materion i ymdrin â hwy ym mhob adolygiad achos, i'r graddau y mae'n ymarferol, gynnwys yr elfennau a bennir yn Atodlen 1.

(5Nid oes dim yn y Rheoliadau hyn yn atal cynnal unrhyw adolygiad o dan y Rheoliadau hyn ac unrhyw adolygiad, asesiad neu ystyriaeth arall o dan unrhyw ddarpariaeth arall ar yr un pryd.

Ystyriaethau y mae'n rhaid i awdurdodau lleol dalu sylw iddynt

5.  Yr ystyriaethau y mae'n rhaid i awdurdod lleol, i'r graddau y mae'n rhesymol ymarferol, dalu sylw iddynt wrth adolygu pob achos yw'r ystyriaethau cyffredinol a bennir yn Atodlen 2.

Ymgynghori, cymryd rhan a hysbysu

6.—(1Cyn cynnal unrhyw adolygiad, rhaid i awdurdod lleol, oni bai nad yw'n rhesymol ymarferol i wneud hynny, geisio barn ac ystyried barn—

(a)plant y teulu;

(b)y rhieni;

(c)unrhyw berson nad yw'n rhiant i'r plentyn ond sydd â chyfrifoldeb rhiant amdano;

(ch)aelodau'r tîm integredig cymorth i deuluoedd; a

(d)unrhyw berson arall y mae'r awdurdod yn ystyried bod ei farn yn berthnasol;

yn enwedig, o ran y materion sydd i ymdrin â hwy yn ystod yr adolygiad.

(2Rhaid i awdurdod lleol, i'r graddau y mae'n rhesymol ymarferol, gynnwys y personau y ceisir eu barn o dan baragraff (1) yn yr adolygiad, a phan fo'r awdurdod yn ystyried bod hynny'n briodol, eu gwahodd i fod yn bresennol mewn rhan neu'r cyfan ohono.

(3Rhaid i awdurdod lleol, i'r graddau y mae'n rhesymol ymarferol, wneud canlyniad yr adolygiad ac unrhyw benderfyniad a gymerwyd ganddo o ganlyniad i'r adolygiad yn hysbys i—

(a)plant y teulu;

(b)y rhieni;

(c)unrhyw berson nad yw'n rhiant i'r plentyn ond sydd â chyfrifoldeb rhiant amdano;

(ch)y tîm integredig cymorth i deuluoedd; ac

(d)unrhyw berson arall y mae'r awdurdod yn ystyried y dylai gael ei hysbysu.

Trefniadau i weithredu penderfyniadau sy'n codi o adolygiadau

7.  Rhaid i awdurdod lleol gymryd pob cam rhesymol i weithredu unrhyw benderfyniad y mae'n ei gymryd o ganlyniad i adolygiad, p'un ai drwy wneud trefniadau ei hun neu drwy wneud trefniadau â bwrdd iechyd lleol neu ag unrhyw berson arall.

Cofnodi gwybodaeth adolygiad

8.  Rhaid i awdurdod lleol gadw cofnod ysgrifenedig o—

(a)gwybodaeth a geir at ddibenion adolygiad;

(b)unrhyw gyfarfod a drefnir gan yr awdurdod o flaen neu o ganlyniad i unrhyw agwedd ar adolygiad yr achos hwnnw; ac

(c)manylion canlyniad yr adolygiad ac unrhyw benderfyniadau a wneir gan yr awdurdod o ganlyniad i'r adolygiad.

Diwygio Rheoliadau Adolygu Achosion Plant (Cymru) 2007

9.—(1Ym mharagraff (2) o reoliad 1 o'r Rheoliadau Adolygu (Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso) mewnosoder y diffiniad a ganlyn —

  • ystyr “tîm integredig cymorth i deuluoedd” (“IFS team”) yw tîm integredig cymorth i deuluoedd a sefydlwyd gan awdurdod lleol a bwrdd iechyd lleol yn cymryd rhan yn ei sefydlu yn unol ag adran 57 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010;.

(2Yn rheoliad 4 o'r Rheoliadau Adolygu (Amser pan fo'n rhaid adolygu pob achos), ym mharagraff (3) dileer y geiriau “swyddog adolygu annibynnol yn cyfarwyddo hynny” a mewnosoder yr is-baragraffau a ganlyn—

(a)swyddog adolygu annibynnol yn cyfarwyddo hynny, neu,

(b)os yw'r plentyn wedi ei gynnwys mewn grŵp teulu y mae ei achos wedi ei atgyfeirio at dîm integredig cymorth i deuluoedd ac os yw'r teulu wedi ei hysbysu y bydd ei achos yn cael ei gefnogi gan y tîm.

(3) (aAr ôl rheoliad 6 o'r Rheoliadau Adolygu mewnosoder y rheoliad a ganlyn—

Ystyriaethau ychwanegol y mae awdurdodau cyfrifol i roi sylw iddynt pan fo tîm integredig cymorth i deuluoedd yn ymgysylltu

6A  Yr ystyriaethau a bennir yn Atodlen 4 yw'r ystyriaethau ychwanegol y mae awdurdodau cyfrifol i roi sylw iddynt wrth adolygu achos plentyn sy'n rhan o deulu a gefnogir gan dîm integredig cymorth i deuluoedd.

(b)Bydd gan Atodlen 3 (sy'n mewnosod Atodlen 4 newydd yn y Rheoliadau Adolygu) yn effeithiol.

(4Yn rheoliad 8 o'r Rheoliadau Adolygu (Ymgynghori, cymryd rhan a hysbysu), ym mharagraff (1), ar ddiwedd is-baragraff (ch) dileer y gair “a” ac ychwaneger yr is-baragraff a ganlyn—

(chch)yn achos plentyn y mae ei deulu yn cael ei gefnogi gan dîm integredig cymorth i deuluoedd, aelod o'r tîm hwnnw; a.

(5Yn rheoliad 8 o'r Rheoliadau Adolygu, ym mharagraff (3), ar ddiwedd is-baragraff (ch), dileer y gair “a” ac ychwaneger yr is-baragraff a ganlyn–

(chch)yn achos plentyn y mae ei deulu yn cael ei gefnogi gan dîm integredig cymorth i deuluoedd, aelod o'r tîm hwnnw; a.

Gwenda Thomas

Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

24 Mehefin 2010

Rheoliad 4(4)

ATODLEN 1Materion i ymdrin â hwy mewn adolygiad achos

1.  Unrhyw newid yn amgylchiadau unrhyw blant neu oedolion yn y teulu.

2.  Effeithiolrwydd y cynllun i fynd i'r afael ag anghenion y plentyn, boed mewn perthynas ag anghenion iechyd, neu anghenion cymdeithasol, emosiynol neu ymddygiadol.

3.  Effeithiolrwydd cynlluniau i fynd i'r afael ag anghenion oedolion, boed mewn perthynas ag anghenion iechyd neu anghenion gofal cymdeithasol.

4.  Barn yr oedolion a'r plant yn y teulu.

5.  P'un a ddylid addasu'r cynlluniau ar gyfer y plentyn (y plant) neu'r oedolyn (oedolion) i gefnogi ei gilydd yn well.

Rheoliad 5

ATODLEN 2Ystyriaethau y mae awdurdodau lleol i roi sylw iddynt

RHAN 1Y plentyn

1.  Unrhyw newid yn statws cyfreithiol y plentyn.

2.  Unrhyw risgiau i'r plentyn.

3.  P'un a yw'r trefniadau presennol ar gyfer gofal y plentyn yn foddhaol ai peidio.

4.  Cynnydd datblygol y plentyn a p'un a oes angen i'r plentyn fod yn destun unrhyw asesiad pellach mewn perthynas ag anghenion iechyd, neu anghenion cymdeithasol, emosiynol, ymddygiadol neu addysgol.

RHAN 2Y teulu

5.  Unrhyw newidiadau yn amgylchiadau'r teulu ers yr adolygiad diwethaf.

6.  Unrhyw ddigwyddiadau arwyddocaol y tu allan i'r teulu sy'n berthnasol gan gynnwys rhoi camau gweithredu ar waith o adolygiadau blaenorol.

7.  Unrhyw newid yng ngallu'r rhieni i gyflawni rôl rhieni o ganlyniad i wasanaethau iechyd neu ofal cymdeithasol a ddarparwyd neu o ganlyniad i ffactorau eraill.

8.  Unrhyw anawsterau a brofodd y teulu o bosibl wrth ymwneud â'r tîm integredig cymorth i deuluoedd.

9.  P'un a oes unrhyw wrthdaro rhwng anghenion y plentyn ac anghenion yr oedolion a sut y gellir ei ddatrys.

10.  Yr angen i baratoi am ddod ag ymgysylltiad y tîm integredig cymorth i deuluoedd i ben.

Rheoliad 9(3)(b)

ATODLEN 3Rheoliadau Adolygu Achosion Plant (Cymru) 2007

Mewnosoder y canlynol yn y Rheoliadau Adolygu ar ôl Atodlen 3 —

Rheoliad 6A

ATODLEN 4Ystyriaethau ychwanegol y mae awdurdodau lleol i roi sylw iddynt pan fo tîm integredig cymorth i deuluoedd yn ymgysylltu

1.  Cynllun gofal neu gynllun triniaeth iechyd y rhiant neu rieni.

2.  Unrhyw newidiadau yn amgylchiadau'r teulu ers yr adolygiad diwethaf.

3.  Unrhyw newid yng ngallu'r rhieni i gyflawni rôl rhieni o ganlyniad i wasanaethau iechyd neu wasanaethau gofal cymdeithasol a ddarparwyd neu o ganlyniad i ffactorau eraill.

4.  Unrhyw ddigwyddiadau arwyddocaol y tu allan i'r teulu sy'n berthnasol.

5.  Unrhyw anawsterau a brofodd y teulu o bosibl wrth ymwneud â'r tîm integredig cymorth i deuluoedd.

6.  P'un a oes unrhyw wrthdaro rhwng anghenion y plentyn ac anghenion yr oedolion a sut y gellir ei ddatrys.

7.  Yr angen i baratoi am ddod ag ymgysylltiad y tîm integredig cymorth i deuluoedd i ben.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn sefydlu gofynion am sut y mae'n rhaid i awdurdodau lleol adolygu achosion teuluoedd sy'n cael eu cefnogi gan dimau integredig cymorth i deuluoedd. Nid yw'r gofynion i'r awdurdod lleol adolygu achos yn gymwys o ran plentyn y mae ei achos eisoes yn ddarostyngedig i adolygiad o dan Reoliadau Adolygu Achosion Plant (Cymru) 2007 (O.S. 2007/307) (“y Rheoliadau Adolygu”) yn rhinwedd eu bod “yn derbyn gofal” yn unol â'r diffiniad o “looked after” yn adran 22(1) o Ddeddf Plant 1989.

Ar ben hynny, mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i'r Rheoliadau Adolygu fel bod y gofynion i adolygu achosion plant sy'n derbyn gofal yn ystyried y rhan y mae timau integredig cymorth i deuluoedd wedi ei chwarae mewn nifer o ffyrdd penodedig.

Mae rheoliad 2 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol adolygu achosion teuluoedd y mae eu hachosion yn cael eu cefnogi gan dîm integredig cymorth i deuluoedd ond mae'n eithrio achosion plant sy'n derbyn gofal.

Mae rheoliad 3 yn nodi pryd y mae'n rhaid adolygu achos am y tro cyntaf a pha mor aml y mae'n rhaid cynnal adolygiadau wedyn. Mae rheoliad 4 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol nodi yn ysgrifenedig ei drefniadau i adolygu achosion ac mae'n ei gwneud yn ofynnol bod yr awdurdod lleol yn cyd-drefnu'r adolygiad. Ymdrinnir â'r materion i ymdrin â hwy yn ar adolygiad yn Atodlen 1.

Mae rheoliad 5 ac Atodlen 2 yn nodi pob mater y mae'n rhaid i awdurdod lleol ei ystyried wrth adolygu achosion. Mae rheoliad 6 yn nodi'r gofynion ynglŷn â phwy y mae'n rhaid ymgynghori cyn adolygiad, pwy y mae'n rhaid iddo gymryd rhan ynddo a phwy y dylid ei hysbysu wedyn.

Mae rheoliad 7 yn creu dyletswydd i awdurdod lleol weithredu'r penderfyniadau a gymerwyd mewn adolygiad. Mae rheoliad 8 yn ei gwneud yn ofynnol bod gwybodaeth a ddarperir ar gyfer adolygiad, ynghyd â chofnodion, ac unrhyw benderfyniadau gan adolygiad, yn cael eu cofnodi yn ysgrifenedig.

Mae rheoliad 9 yn gwneud diwygiadau i'r Rheoliadau Adolygu i gynnwys gofyniad bod aelod o dîm integredig cymorth i deuluoedd yn cael ei gynnwys yn adolygiad achos plentyn sy'n derbyn gofal y mae achos ei deulu yn cael ei gefnogi gan dîm o'r fath. Mae hefyd yn diwygio'r Rheoliadau Adolygu fel bod y weithred o hysbysu bod achos wedi cael ei atgyfeirio i dîm integredig cymorth i deuluoedd yn sbardun i adolygu achos plentyn sy'n derbyn gofal. Mae'r Rheoliadau hyn yn mewnosod Atodlen 4 yn y Rheoliadau Adolygu sy'n nodi materion ychwanegol sydd i'w cymryd i ystyriaeth mewn adolygiad o blentyn sy'n derbyn gofal y mae ei deulu yn cael ei gefnogi gan dîm integredig cymorth i deuluoedd.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources