Search Legislation

Gorchymyn Compartmentau Dofednod (Ffioedd) (Cymru) 2010

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2010 Rhif 1781 (Cy.170)

ANIFEILIAID, CYMRU

IECHYD ANIFEILIAID

Gorchymyn Compartmentau Dofednod (Ffioedd) (Cymru) 2010

Gwnaed

8 Gorffennaf 2010

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

9 Gorffennaf 2010

Yn dod i rym

30 Gorffennaf 2010

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 84 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981(1).

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.  Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Compartmentau Dofednod (Ffioedd) (Cymru) 2010. Mae'n gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 30 Gorffennaf 2010.

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn:—

  • ystyr “safle cynhyrchu” (“production site”) yw mangre lle mae dofednod yn cael eu cadw at ddibenion bridio, magu, pesgi neu gynhyrchu wyau ac sy'n destun cais o dan Orchymyn Compartmentau Dofednod (Cymru) 2010; ac

  • ystyr “safle gweinyddol” (“administrative site”) yw mangre lle mae dogfennau neu gofnodion sy'n ymwneud â safle cynhyrchu yn cael eu cadw.

Ffioedd

3.  Mae'r ffioedd ar gyfer arolygiadau yn rhinwedd Gorchymyn Compartmentau Dofednod (Cymru) 2010(2) a osodir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn yn daladwy i Weinidogion Cymru gan y ceisydd o fewn 30 o ddiwrnodau o'r arolygiad.

Elin Jones

Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru.

8 Gorffennaf 2010

Erthygl 2

YR ATODLEN

GweithgareddFfi
Y diwrnod cyntaf neu ran o ddiwrnod arolygiad ar safle gweinyddol£1,400 + TAW
Pob diwrnod ychwanegol neu ran o ddiwrnod ar safle gweinyddol£1,000 + TAW
Arolygiad safle cynhyrchu£1,000 + TAW

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn darparu ar gyfer talu ffioedd am arolygiadau o ran ceisiadau ar gyfer cydnabyddiaeth yn gompartment o dan Orchymyn Compartmentau Dofednod (Cymru) 2010. Mae'r Gorchymyn hwnnw yn gweithredu Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 616/2009 sy'n gwneud darpariaeth ar gyfer cydnabod compartmentau dofednod sy'n bodloni safonau uchel mewn bioddiogelwch (OJ Rhif L 181, 14.7.2009, t. 16).

Nid oes asesiad effaith rheoleiddiol wedi'i lunio ar gyfer yr offeryn hwn.

(1)

1981 p. 22. Mae swyddogaethau a roddwyd o dan Ddeddf 1981 i “the Minister” a “the Ministers”, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, wedi eu breinio yng Ngweinidogion Cymru. Trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a gyfansoddwyd gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p. 38) drwy Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), erthygl 2. Yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32), trosglwyddwyd hwy i Weinidogion Cymru.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources