Search Legislation

Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) (Diwygio) 2010

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

2010 Rhif 1796 (Cy.172)

HADAU, CYMRU

Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) (Diwygio) 2010

Gwnaed

12 Gorffennaf 2010

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

13 Gorffennaf 2010

Yn dod i rym

17 Awst 2010

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1) ac (1A) a 36(a) o Ddeddf Amrywogethau a Hadau Planhigion 1964(1) sydd bellach wedi eu breinio ynddynt hwy(2).

Mae Gweinidogion Cymru wedi cyflawni ymgynghoriad yn unol ag adran 16(1) o'r Ddeddf honno.

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) (Diwygio) 2010. Deuant i rym ar 17 Awst 2010 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 2006

2.—(1Diwygir Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 2006(3) fel a ganlyn.

(2Yn lle paragraff 4 o Atodlen 1, rhodder—

4.(1) Ni cheir dyroddi tystysgrif cnwd sy'n tyfu sy'n cynnwys datganiad bod modd marchnata tatws hadyd fel tatws hadyd cyn-sylfaenol o unrhyw ddosbarth oni fydd y swyddog awdurdodedig wedi'i fodloni bod y tir y tyfir, neu y tyfwyd, y tatws hadyd arno yn dir—

(a)y canfuwyd, o ganlyniad i brawf pridd a wnaed gan Weinidogion Cymru cyn plannu'r cnwd, nad yw wedi ei halogi â'r Llyngyr Tatws (rhywogaeth Globodera sy'n heintio tatws);

(b)nad yw wedi ei ddynodi o dan Atodlen 15 i Orchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006 fel tir wedi ei halogi â phoblogaeth Ewropeaidd o Lyngyr Tatws; ac

(c)nas defnyddiwyd ar gyfer tyfu tatws ar unrhyw adeg yn ystod y 7 mlynedd yn union cyn plannu'r cnwd.

(2) Ond nid yw is-baragraff (1)(a) yn gymwys yn achos tatws hadyd a dyfir mewn cyfrwng di-bridd..

(3Yn lle paragraff 7 o Atodlen 1, rhodder—

7.(1) Ni cheir dyroddi tystysgrif cnwd sy'n tyfu sy'n cynnwys datganiad bod modd marchnata tatws hadyd fel tatws hadyd sylfaenol o unrhyw ddosbarth, oni fydd y swyddog awdurdodedig wedi'i fodloni bod y tir y tyfir, neu y tyfwyd, y tatws hadyd arno yn dir—

(a)y canfuwyd, o ganlyniad i brawf pridd a wnaed gan Weinidogion Cymru cyn plannu'r cnwd, nad yw wedi ei halogi â'r Llyngyr Tatws (rhywogaeth Globodera sy'n heintio tatws);

(b)nad yw wedi ei ddynodi o dan Atodlen 15 i Orchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006 fel tir wedi ei halogi â phoblogaeth Ewropeaidd o Lyngyr Tatws; ac

(c)nas defnyddiwyd ar gyfer tyfu tatws ar unrhyw adeg yn ystod y 5 mlynedd yn union cyn plannu'r cnwd.

(2) Ond nid yw is-baragraff (1)(a) yn gymwys yn achos tatws hadyd a dyfir mewn cyfrwng di-bridd..

(4Yn lle paragraff 10 o Atodlen 1, rhodder—

10.(1) Ni cheir dyroddi tystysgrif cnwd sy'n tyfu sy'n cynnwys datganiad bod modd marchnata tatws hadyd fel tatws hadyd ardystiedig oni fydd y swyddog awdurdodedig wedi'i fodloni bod y tir y tyfir, neu y tyfwyd, y tatws hadyd arno yn dir–

(a)y canfuwyd, o ganlyniad i brawf pridd a wnaed gan Weinidogion Cymru cyn plannu'r cnwd, nad yw wedi ei halogi â'r Llyngyr Tatws (rhywogaeth Globodera sy'n heintio tatws);

(b)nad yw wedi ei ddynodi o dan Atodlen 15 i Orchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006 fel tir wedi ei halogi â phoblogaeth Ewropeaidd o Lyngyr Tatws; ac

(c)nas defnyddiwyd ar gyfer tyfu tatws ar unrhyw adeg yn ystod y 4 mlynedd yn union cyn plannu'r cnwd.

(2) Ond nid yw is-baragraff (1)(a) yn gymwys yn achos tatws hadyd a dyfir mewn cyfrwng di-bridd..

(5Yn Atodlen 3, Rhan II—

(a)yng ngholofnau 3 a 4, yn lle'r symbol “–” gyferbyn ag “Y Clwy Tatws (Phytophthora infestans (Mont.) de Bary)”, rhodder y symbol “)”;

(b)yng ngholofn 3, yn lle “3.0%” mewn perthynas â Grwpiau III, IV a V yng ngholofn 1, rhodder “5.0%”; ac

(c)yng ngholofn 4, yn lle “4.0%” mewn perthynas â Grwpiau II, III, IV a V yng ngholofn 1, rhodder “5.0%”.

(6Yn Atodlen 3, Rhan III—

(a)yng ngholofn 3, yn lle “4.0%” mewn perthynas â Grwpiau III a IV yng ngholofn 1, rhodder “5.0%”; a

(b)yng ngholofn 4, yn lle “4.0%” mewn perthynas â Grwpiau II, III, IV a V yng ngholofn 1, rhodder “5.0%”.

Elin Jones

Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

12 Gorffennaf 2010

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 2006 (O.S. 2006/2929 (Cy.264) drwy amnewid paragraffau 4, 7 a 10 o Atodlen 1. Maent yn darparu na cheir dyroddi tystysgrif cnwd sy'n tyfu ynghyd â datganiad bod modd marchnata tatws hadyd fel tatws hadyd cyn-sylfaenol, sylfaenol neu ardystiedig oni fydd y tir y'u tyfir ynddo yn rhydd o'r Llyngyr Tatws, a heb ei ddynodi o dan Atodlen 15 i Orchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006 nac wedi ei ddefnyddio i dyfu tatws am gyfnod penodedig.

Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn gwneud diwygiadau bach yn y tablau yn Rhannau II a III o Atodlen 3.

Ni pharatowyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol ar gyfer yr offeryn hwn, gan na ragwelir unrhyw effaith ar y sectorau preifat na gwirfoddol.

(1)

1964 p.14; diwygiwyd adran 16(1), a mewnosodwyd adran 16(1A), gan adran 4 o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (p.68) a pharagraff 5 o Atodlen 4 i'r Ddeddf honno. Gweler adran 38(1) am ddiffiniad “the Minister”.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Gweinidog, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i'r Ysgrifennydd Gwladol gan erthygl 2 o Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Cymru) (Rhif 1) 1978 (O.S. 1978/272) ac Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwnnw. Trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny wedyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwnnw. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru gan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 i'r Ddeddf honno.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources