- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
1.—(1) Enw' r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Cymru) 2010.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru, ac yn dod i rym ar 16 Awst 2010.
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “Rheoliad y Comisiwn” (“the Commission Regulation”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1120/2009 dyddiedig 29 Hydref 2009 sy'n pennu rheolau manwl ar gyfer gweithredu'r cynllun taliad sengl y darperir ar ei gyfer yn Nheitl III o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 73/2009(1); ac
ystyr “Rheoliad y Cyngor” (“the Council Regulation”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 73/2009 dyddiedig 19 Ionawr 2009 sy'n sefydlu rheolau cyffredin ar gyfer cynlluniau cymorth uniongyrchol i ffermwyr o dan y polisi amaethyddol cyffredin ac yn sefydlu cynlluniau cymorth penodol i ffermwyr(2).
(2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at offeryn yr UE yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd.
3. Mae Cymru yn rhanbarth sengl at ddibenion Erthygl 46(2) o Reoliad y Cyngor.
4. At ddibenion Erthygl 25(4) o Reoliad y Comisiwn maint lleiaf daliad y ceir gwneud cais am sefydlu hawlogaethau i daliad ar ei gyfer yw 0.3 hectar.
5. At ddibenion Erthygl 28(1) o Reoliad y Cyngor y lleiafswm sy'n ofynnol ar gyfer hawliad yw un hectar yn achos ffermwyr nad ydynt yn dal hawlogaethau arbennig yn unol â'r Erthygl honno, a 100 yn achos ffermwyr sy'n dal hawlogaethau arbennig.
6. Mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn pan fo'r ffermwr yn gwneud datganiad ynglŷn â pharseli yn unol ag Erthygl 35(1) o Reoliad y Cyngor, y dyddiad pan fo rhaid i'r parseli hynny fod ar gael at ddefnydd y ffermwr yw 15 Mai yn y flwyddyn honno.
7. Y cyfraddau yn nhrydedd golofn yr Atodlen yw'r modiwleiddio gwirfoddol y cyfeirir ato yn Erthygl 1 o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 378/2007 dyddiedig 27 Mawrth 2007 sy'n pennu rheolau ar gyfer modiwleiddio yn wirfoddol y taliadau uniongyrchol(3).
8. At ddibenion Erthygl 2(n) o Reoliad y Comisiwn—
(a)y rhestr o rywogaethau coed yw—
Gwern (Alnus spp.);
Bedw (Betula spp.);
Cyll (Corylus avellana);
Ynn (Fraxinus excelsior);
Pisgwydd (Tilia cordata);
Castanwydd (Castanea sativa);
Masarn (Acer pseudoplatanus);
Helyg (Salix spp.);
Poplys (Populus spp.);
Oestrwydd (Carpinus spp.); a
(b)y cylchdro cynaeafu hwyaf yw 20 mlynedd.
9. Yn unol â'r trydydd is-baragraff o Erthygl 43(1) o Reoliad y Cyngor, ni cheir defnyddio na throsglwyddo hawlogaethau i daliad o dan y cynllun taliad sengl, sydd i' w priodoli i Gymru ac a sefydlwyd yng Nghymru, ac eithrio o fewn Cymru.
10. Dirymir y Rheoliadau canlynol—
(a)Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Cymru) 2005(4);
(b)Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Cymru) (Diwygio) 2006(5);
(c)Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Cymru) (Diwygio) 2008(6);
(ch)Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Cymru) (Diwygio) 2009(7);
(d)Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Neilltir) (Cymru) 2005(8);
(dd)Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Neilltir) (Cymru) (Diwygio) 2006(9).
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
22 Gorffennaf 2010
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: