- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
TRAFNIDIAETH GYHOEDDUS I DEITHWYR, CYMRU
Gwnaed
2 Chwefror 2010
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
3 Chwefror 2010
Yn dod i rym
1 Ebrill 2010
Drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 154(5) o Ddeddf Trafnidiaeth 2000(1), mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grant Gweithredwyr Gwasanaethau Bysiau (Cymru) (Diwygio) 2010 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2010.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
2.—(1) Diwygir Rheoliadau Grant Gweithredwyr Gwasanaethau Bysiau (Cymru) 2002(2) yn unol â pharagraff (2).
(2) Yn rheoliad 3(1)(a)(i), yn lle “adran 509 o Ddeddf Addysg 1996” rhodder “adrannau 3, 4 a 6 o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008”.
Ieuan Wyn Jones
Y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru
2 Chwefror 2010
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru, yn diwygio Rheoliadau Grant Gweithredwyr Gwasanaethau Bysiau (Cymru) 2002 (“Rheoliadau 2002”).
Mae Rheoliadau 2002 yn diffinio “gwasanaethau bws cymwys” at ddibenion adran 154 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000. Mae'r adran honno yn gwneud darpariaeth ar gyfer talu grantiau i weithredwyr gwasanaethau bws cymwys. Mae gwasanaeth bws cymwys, mewn amgylchiadau penodedig, yn cynnwys gwasanaeth a ddarperir neu a sicrheir gan awdurdod lleol at ddibenion teithio gan ddysgwyr.
Gosododd adran 509 o Ddeddf Addysg 1996 (“y Ddeddf”) rwymedigaeth ar awdurdodau addysg lleol yng Nghymru i wneud trefniadau ar gyfer darparu cludiant i hwyluso presenoldeb personau sy'n derbyn addysg mewn ysgolion a sefydliadau penodol eraill. Disodlwyd adran 509 o'r Ddeddf yng Nghymru gan Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 (“y Mesur”). Adrannau 3, 4 a 6 o'r Mesur sydd bellach yn gwneud darpariaeth o ran swyddogaethau awdurdod lleol mewn perthynas â threfniadau teithio i ddysgwyr.
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 3(1)(a)(i) o Reoliadau 2002 er mwyn cyfeirio at adrannau 3, 4 a 6 o'r Mesur yn hytrach nag adran 509 o'r Ddeddf.
2000 p.38. Mae swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru bellach wedi'u breinio yng Ngweinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:
The data on this page is available in the alternative data formats listed: