Search Legislation

Rheoliadau Arbelydru Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2010

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2010 Rhif 2289 (Cy.201)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Arbelydru Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2010

Gwnaed

15 Medi 2010

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

17 Medi 2010

Yn dod i rym

20 Hydref 2010

Mae Gweinidogion Cymru'n gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1), 16(3), 17(1), 18(1)(c), 19(1)(b), 26 a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1) a pharagraffau 1 a 4(b) o Atodlen 1 iddi, ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2).

Yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, maent wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(3), cafwyd ymgynghori agored a thryloyw â'r cyhoedd yn ystod cyfnod paratoi a gwerthuso'r Rheoliadau hyn.

Enwi a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Arbelydru Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2010 a deuant i rym ar 20 Hydref 2010.

Diwygio Rheoliadau Arbelydru Bwyd (Cymru) 2009

2.  Diwygir Rheoliadau Arbelydru Bwyd (Cymru) 2009(4) yn unol â rheoliadau 3 i 6.

3.  Yn nhestun Cymraeg Atodlen 2 (trwyddedau) yn lle'r geiriau “risg sylweddol” ym mharagraff 2(i) o Ran 1 rhoddir “risg o bwys”.

4.  Yn Atodlen 2 (trwyddedau) yn lle is-baragraff (1)(b) o baragraff 9 o Ran 3 (y gofynion a'r gwaharddiadau sydd i'w dilyn gan drwyddedai)—

(1yn y testun Saesneg rhoddir yr is-baragraff a ganlyn—

(b)its batch number;, a

(2yn y testun Cymraeg rhoddir yr is-baragraff a ganlyn—

(b) Rhif y swp;.

5.  Yn lle Atodlen 3 (rhestr o gyfleusterau a gymeradwywyd mewn Aelod-wladwriaethau) rhoddir yr Atodlen a geir yn Atodlen 1.

6.  Yn lle Atodlen 4 (rhestr o gyfleusterau mewn gwlad y tu allan i'r Gymuned Ewropeaidd) rhoddir yr Atodlen a geir yn Atodlen 2.

Gwenda Thomas

Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

15 Medi 2010

Rheoliad 5

ATODLEN 1ATODLEN A RODDIR YN LLE ATODLEN 3 I REOLIADAU ARBELYDRU BWYD (CYMRU) 2009

Rheoliadau 3(1) a 5(1)(b)(i)

ATODLEN 3RHESTR O GYFLEUSTERAU A GYMERADWYWYD MEWN AELOD-WLADWRIAETHAU

Rhif cyfeirnod swyddogolEnw a chyfeiriad
2110/91/0004

Sterigenics

SA Zoning Industriel

B-6220 Fleurus

Gwlad Belg

01/23.05.2008

BULGAMMA SOPHARMA Ltd

Iliensko Shosse Str.16

Sofia

Bwlgaria

IR-02-CZ

BIOSTER a.s.

Tejny 621

664-71 Veverska Bityska

Y Weriniaeth Tsiec

SN 01

Gamma-Service

Produktbestrahlung GmbH

Juri-Gagarin Strasse 15

D-01454 Radeberg

Yr Almaen

BY FS 01/2001

Isotron Deutschland GmbH

Kesselbodenstrasse 7

D-85391 Allershausen

Yr Almaen

NRW-GM 01 ac NRW-GM 02

BSG Beta-Gamma-Service GmbH & Co. KG

Fritz-Kotz-Str.16

D-51674 Wiehl

Yr Almaen

D-BW-X-01

Beta-Gamma-Service GmbH & Co. KG

John-Deere-Strasse 3

D-76646 Bruchsal

Yr Almaen

500001/CU

Ionmed Esterilización, SA

Santiago Rusiñol 12. Madrid

Antigua Cntra Madrid-Valencia KM 83.7.

Tarancón

Cuenca

Sbaen

5.00002/B

ARAGOGAMMA S.A.

Salvador Mundi 11, bajo.

08017 Barcelona

Carretera Granoolers a Cardedeu km 3,5.

08520 Les Franqueses dêsVallés

Barcelona

Sbaen

13055 F

Isotron France SAS

Rue Jean Queillau Marché des Arnavaux

F-13014 Marseille Cedex 14

Ffrainc

01 142 F

Ionisos SA

Zone Industrielle les Chartinières

F-01120 Dagneux

Ffrainc

72 264 F

Ionisos SA

Zone Industrielle de l'Aubrée

F-72300 Sablé-sur-Sarthe

Ffrainc

85 182 F

Ionisos SA

ZI Montifaud

F-85700 Pouzauges

Ffrainc

10 093 F

Ionisos SA

Zone Industrielle

F-10500 Chaumesnil

Ffrainc

EU-AIF-04-2002

AGROSTER Besugárzó Részvénytársaság

Budapest X

Jászberényi út 5

H-1106

Hwngari

RAD 1/04 IT

GAMMARAD ITALIA SPA

Via Marzabotto, 4

Minerbio (BO)

Yr Eidal

GZB/VVB-991393 Ede

Isotron Nederland BV

Morsestraat 3

6716AH Ede

Yr Iseldiroedd

GZB/VVB-991393 Etten-Leur

Isotron Nederland BV Soevereinsestraat 2

4879NN Etten-Leur

Yr Iseldiroedd

GIS-HZ-4434-W.-3/MR/03

Institute of Nuclear Chemistry and Technology

16 Dorodna Str.

03-195 Warsaw

Gwlad Pwyl

GIS-HZ-4434-W.-2/MR/03

Institute of Applied Radiation Chemistry

Technical University of Lodz

15 Wróblewskiego Str.

39-590 Lodz

Gwlad Pwyl

RG016/2008

Multipurpose Irradiation Facility

IRASM Technological Irradiations Department

Horia Hulubei National Institute for Research and Development of Physics and Nuclear Engineering

Atomistilor Street No. 407

PO Box MG-6

Magurele. Ilfov County

Rwmania

EW/04

Isotron Limited

Moray Road

Elgin Industrial Estate

Swindon

Wilts SN2 8XS

Y Deyrnas Unedig.

Rheoliad 6

ATODLEN 2ATODLEN A RODDIR YN LLE ATODLEN 4 I REOLIADAU ARBELYDRU BWYD (CYMRU) 2009

Rheoliad 5(1)(b)(ii)

ATODLEN 4RHESTR O GYFLEUSTERAU MEWN GWLEDYDD Y TU ALLAN I'R UNDEB EWROPEAIDD

Rhif cyfeirnod swyddogolEnw a chyfeiriad
EU-AIF 01-2002

HEPRO Cape (Pty) Ltd

6 Ferrule Avenue

Montague Gardens

Milnerton 7441

Western Cape

Gweriniaeth De Affrica

EU-AIF 02-2002

Gammaster South Africa (Pty) Ltd

PO Box 3219

5 Waterpas Street

Isando Extension 3

Kempton Park 1620

Johannesburg

Gweriniaeth De Affrica

EU-AIF 03-2002

Gamwave (Pty) Ltd

PO Box 26406

Isipingo Beach

Durban 4115

Kwazulu-Natal

Gweriniaeth De Affrica

EU-AIF 05-2004

Gamma-Pak As

Yünsa Yolu N: 4 0SB

Cerkezköy/TEKIRDAG

TR-59500

Twrci

EU-AIF 06-2004

Studer Agg Werk Hard

Hogenweidstrasse 2

Däniken

CH-4658

Y Swistir

EU-AIF 07-2006

Thai Irradiation Centre

Thailand Institute of Nuclear Technology

(Public Organisation)

37 Moo 3, TECHNOPOLIS

Klong 5, Klong Luang

Pathumthani 12120

Gwlad Thai

EU-AIF 08-2006

Isotron (Thailand) Ltd

Bangpakong Industrial Park (Amata Nakorn)

700/465 Moo 7, Tambon Donhuaroh,

Amphur Muang,

Chonburi 20000

Gwlad Thai

EU-AIF 09-2010

Board of Radiation and Isotope Technology

Department of Atomic Energy

BRIT/BARC Vashi Complex

Sector 20, Vashi

Navi Mumbai — 400 705 (Maharashtra)

India

EU-AIF 10-2010

Board of Radiation and Isotope Technology

ISOMED

Bhabha Atomic Research Centre

South Site Gate, Refinery Road

Next to TATA Power Station, Trombay

Mumbai — 400 085 (Maharashtra)

India

EU-AIF 11-2010

Microtrol Sterilisation Services Pvt. Ltd

Plot No. 14

Bommasandra-Jigani Link Road

Industrial Area

KIADB, Off Hosur Road

Hennagarra Post

Bengalooru — 562 106 (Karnataka)

India.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

1.  Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Arbelydru Bwyd (Cymru) 2009 (O.S. 2009/1795) (Cy.162).

2.  Mae'r Rheoliadau hyn yn rhoi effaith i ddarpariaethau—

(a)Penderfyniad y Comisiwn 2010/172/EU sy'n diwygio Penderfyniad 2002/840/EC o ran y rhestr o gyfleusterau a gymeradwywyd mewn trydydd gwledydd ar gyfer arbelydru bwydydd (OJ Rhif L75, 23.3.2010, t.33); a

(b)rhestr heb ei dyddio gan y Comisiwn o gyfleusterau a gymeradwywyd ar gyfer trin bwydydd a chynhwysion bwyd ag ymbelydredd ïoneiddio yn yr Aelod-wladwriaethau(5) sy'n disodli rhestr y Comisiwn o gyfleusterau o'r fath ar 3 Medi 2004.

3.  Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Arbelydru Bwyd (Cymru) 2009 drwy—

(a)rhoi “risg o bwys” yn lle “risg sylweddol” yn nhestun Cymraeg paragraff 2(i) o Ran 1 (rhoi trwyddedau) o Atodlen 2 (trwyddedau) (rheoliad 3);

(b)yn lle is-baragraff (1)(b) o baragraff 9 o Ran 3 (y gofynion a'r gwaharddiadau sydd i'w dilyn gan drwyddedai) o Atodlen 2 (trwyddedau) rhoi is-baragraff (1)(b) diwygiedig (rheoliad 4);

(c) yn lle Atodlen 3 (rhestr o gyfleusterau a gymeradwywyd mewn Aelod-wladwriaethau) rhoi Atodlen 3 ddiwygiedig sy'n cynnwys rhestr a addaswyd o gyfleusterau a gymeradwywyd mewn Aelod-wladwriaethau (rheoliad 5); ac

(ch)yn lle Atodlen 4 (rhestr o gyfleusterau mewn gwlad y tu allan i'r Gymuned Ewropeaidd) rhoi Atodlen 4 ddiwygiedig sy'n ychwanegu tri chyfleuster newydd at y rhestr o gyfleusterau a gymeradwywyd mewn gwledydd y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd (rheoliad 6).

(1)

1990 p.16; disodlwyd adran 1(1) a (2) (y diffiniad o “food”) gan O.S. 2004/2990. Diwygiwyd adrannau 17, 19 a 48 gan baragraffau 12, 14 a 21 yn eu trefn o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28), “Deddf 1999”. Diwygiwyd adran 48 hefyd gan O.S. 2004/2990. Diwygiwyd adran 26(3) gan Atodlen 6 i Ddeddf 1999. Diwygiwyd adran 53(2) gan baragraff 19 o Atodlen 16 i Ddeddf Dadreoleiddio a Chontractio Allan 1994 (1994 p.40), Atodlen 6 i Ddeddf 1999, O.S. 2004/2990 ac O.S. 2004/3279.

(2)

Mae'r swyddogaethau a oedd gynt yn arferadwy gan “the Ministers” (sef, o ran Cymru a Lloegr ac yn gweithredu ar y cyd, y Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd a'r Ysgrifenyddion Gwladol a oedd yn eu trefn yn ymwneud ag iechyd yn Lloegr a bwyd ac iechyd yng Nghymru ac, o ran yr Alban, yr Ysgrifennydd Gwladol) bellach yn arferadwy o ran Lloegr gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn unol â pharagraff 8 o Atodlen 5 i Ddeddf 1999. Trosglwyddwyd swyddogaethau “the Ministers” i'r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) fel y'i darllenir gydag adran 40(3) o Ddeddf 1999 ac wedyn fe'u trosglwyddwyd i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (2006 p.32).

(3)

OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 596/2009 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n addasu nifer o offerynnau'n ddarostyngedig i'r weithdrefn y cyfeirir ati yn Erthygl 251 o'r Cytuniad i Benderfyniad y Cyngor 1999/468/EC mewn perthynas â'r weithdrefn reoleiddiol ynghyd â chraffu: Addasiad i'r weithdrefn reoleiddiol ynghyd â chraffu — Rhan Pedwar (OJ Rhif L188, 18.7.2009, t.14).

(5)

Cyhoeddwyd ar wefan y Comisiwn yn http://ec.europa.eu/food/food/biosafety/irradiation/comm_legisl_en.htm. Gellir cael copi caled gan y Comisiwn Ewropeaidd, Y Gyfarwyddiaeth Gyffredinol dros Iechyd a Defnyddwyr, B-1049 Brwsel, Gwlad Belg.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources