Search Legislation

Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2010

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

2010 Rhif 2394 (Cy.206)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2010

Gwnaed

28 Medi 2010

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

30 Medi 2010

Yn dod i rym

22 Hydref 2010

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(a), (e) ac (f), 17(2), 26(1)(a) a (3), a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1), ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2), fel y'u darllenir ynghyd â pharagraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(3).

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i gyfeiriadau at yr Atodiad i'r offeryn UE fel y pennir yn rheoliad 2(4) gael eu dehongli fel cyfeiriadau at yr Atodiad hwnnw fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd.

Yn unol ag adran 48(4A) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n pennu egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac sy'n pennu gweithdrefnau ynghylch materion diogelwch bwyd(4), cafwyd ymgynghoriad cyhoeddus agored a thryloyw yn ystod cyfnod paratoi a gwerthuso'r Rheoliadau hyn.

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2010, maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 22 Hydref 2010.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

  • nid yw “awdurdod bwyd” (“food authority”) yn cynnwys awdurdod iechyd porthladd;

  • ystyr “awdurdod iechyd porthladd” (“port health authority”), o ran unrhyw ddosbarth iechyd porthladd a sefydlwyd drwy orchymyn o dan adran 2(3) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(5), yw awdurdod iechyd porthladd ar gyfer y dosbarth hwnnw a sefydlwyd drwy orchymyn o dan adran 2(4) o'r Ddeddf honno;

  • mae i “bwyd anifeiliaid ar gyfer anifeiliaid nad ydynt yn darged” yr ystyr a roddir i (“'non-target feed'”) gan Reoliad y Comisiwn 124/2009;

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;

  • ystyr “Rheoliad y Comisiwn” (“the Commission Regulation”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1881/2006 sy'n pennu lefelau uchaf ar gyfer halogion penodol mewn deunyddiau bwyd(6);

  • ystyr “Rheoliad y Comisiwn 629/2008” (“Commission Regulation 629/2008”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 629/2008 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 1881/2006 sy'n pennu lefelau uchaf ar gyfer halogion penodol mewn deunyddiau bwyd(7);

  • ystyr “Rheoliad y Comisiwn 124/2009” (“Commission Regulation 124/2009”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 124/2009 sy'n pennu lefelau uchaf ar gyfer presenoldeb cocsidiostatau neu histomonostatau mewn bwyd o ganlyniad i drosglwyddiad anochel y sylweddau hyn mewn bwyd anifeiliaid ar gyfer anifeiliaid nad ydynt yn darged(8);

  • ystyr “Rheoliad y Comisiwn” 165/2010” (“Commission Regulation 165/2010”) yw Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 165/2010 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 1881/2006 sy'n pennu lefelau uchaf ar gyfer halogion penodol mewn deunyddiau bwyd o ran afflatocsinau (9);

  • ystyr “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”) yw unrhyw berson sydd wedi ei awdurdodi'n ysgrifenedig, naill ai'n gyffredinol neu'n benodol, gan awdurdod bwyd neu awdurdod iechyd porthladd, yn ôl y digwydd, i weithredu mewn materion sy'n codi o dan y Rheoliadau hyn.

(2Mae i unrhyw ymadrodd arall a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac y mae'r ymadrodd Saesneg sy'n cyfateb iddo'n cael ei ddefnyddio yn Rheoliad y Comisiwn neu yn Rheoliad y Comisiwn 124/2009 yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag sydd i'r ymadrodd Saesneg cyfatebol yn y Rheoliadau hynny.

(3Oni nodir fel arall, mae unrhyw gyfeiriad at Erthygl â rhif yn gyfeiriad at yr Erthygl sy'n dwyn y rhif hwnnw yn Rheoliad y Comisiwn.

(4Mae unrhyw gyfeiriad at “yr Atodiad” yn gyfeiriad at yr Atodiad i Reoliad y Comisiwn fel y diwygir yr Atodiad hwnnw o bryd i'w gilydd, ac mae unrhyw gyfeiriad at Reoliad y Comisiwn i'w ddehongli'n unol â hynny.

Tramgwyddau a chosbau

3.—(1Yn ddarostyngedig i'r trefniadau trosiannol a gynhwysir—

(a)yn Erthygl 11;

(b)yn Erthygl 2 o Reoliad y Comisiwn 629/2008; neu

(c)yn Erthygl 2 o Reoliad y Comisiwn 165/2010,

mae person sy'n mynd yn groes i unrhyw un o'r darpariaethau UE a bennir ym mharagraff (2), neu sy'n methu â chydymffurfio ag unrhyw un ohonynt, yn euog o dramgwydd.

(2Y darpariaethau UE a grybwyllwyd ym mharagraff (1) yw—

(a)Erthygl 1(1), (gwahardd rhag rhoi ar y farchnad ddeunyddiau bwyd sy'n cynnwys halogion y tu hwnt i derfynau rhagnodedig sydd wedi eu cynnwys yn yr Atodiad), fel y'i darllenir gyda'r Atodiad ac, yn achos cnau daear, hadau olew eraill, cnau coed, ffrwythau sych, reis ac indrawn, gydag Erthygl 4;

(b)Erthygl 3 (gwahardd rhag defnyddio, cymysgu a dadwenwyno);

(c)Erthygl 1(1) o Reoliad y Comisiwn 124/2009 (gwaharddiadau ar farchnata neu gymysgu bwydydd sy'n cynnwys cocsidiostatau neu histomonostatau ar lefelau y tu hwnt i derfynau rhagnodedig).

(3Mae unrhyw un a gollfernir o dramgwydd o dan baragraff (1) yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.

Gorfodi ac awdurdodau cymwys

4.—(1Mae'n ddyletswydd ar bob awdurdod bwyd o fewn ei ardal a phob awdurdod iechyd porthladd o fewn ei ddosbarth i weithredu a gorfodi'r Rheoliadau hyn, Rheoliad y Comisiwn a Rheoliad y Comisiwn 124/2009.

(2Yr awdurdod cymwys at ddibenion—

(a)Erthygl 2(2) (cyfiawnhau gan weithredwyr busnes bwyd ffactorau crynodi neu wanedu), a

(b)Erthygl 1(1) o Reoliad y Comisiwn 124/2009 (sy'n ymwneud â'r ddyletswydd i ymchwilio i'r rhesymau dros yr halogiad),

yw'r awdurdod y mae dyletswydd arno i orfodi o dan baragraff (1).

Cymhwyso amryw adrannau o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990

5.—(1Mae darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad bod unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu at Ran ohoni i'w ddehongli fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn—

(a)adran 3 (rhagdybiaethau bod bwyd wedi ei fwriadu ar gyfer ei fwyta gan bobl);

(b)adran 20 (tramgwyddau oherwydd bai person arall);

(c)adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy)(10), gyda'r addasiad bod—

(i)is-adrannau (2) i (4) i fod yn gymwys mewn perthynas â thramgwydd o dan reoliad 3 fel y maent yn gymwys mewn perthynas â thramgwydd o dan adran 14 neu 15, a

(ii)yn is-adran (4) bernir bod y cyfeiriadau at “sale” yn cynnwys cyfeiriadau at “placing on the market”;

(ch)adran 30(8) (sy'n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol);

(d)adran 33(1) (rhwystro etc. swyddogion);

(dd)adran 33(2), gyda'r addasiad bod y cyfeiriad at “any such requirement as is mentioned in subsection (1)(b) above” i'w ystyried yn gyfeiriad at unrhyw ofyniad o'r fath a grybwyllir yn adran 33(1)(b) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (d);

(e)adran 35(1)(11) (cosbi tramgwyddau) i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(1) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (d);

(f)adran 35(2) a (3)(12), i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(2) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (dd);

(ff)adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol);

(g)adran 36A (tramgwyddau gan bartneriaethau Albanaidd)(13); ac

(ng)adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll).

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae adran 9 o'r Ddeddf (arolygu bwyd dan amheuaeth ac ymafael ynddo) yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn fel pe bai'n darllen fel a ganlyn—

9.(1) An authorised officer of a food authority may at all reasonable times inspect any food intended for human consumption which has been placed on the market and subsections (2) to (7) below are to apply where, on such an inspection, it appears to the authorised officer that the placing on the market of any food fails to comply with the requirements specified in regulation 3(2)(a) and (c) of the Contaminants in Food (Wales) Regulations 2010, (“the EU requirements”).

(2) The authorised officer may either—

(a)give notice to the person in charge of the food that, until the notice is withdrawn, the food or any specified portion of it—

(i)is not to be used for human consumption, and

(ii)either is not to be removed or is to be removed to a place at which there are facilities to carry out sampling in the manner required by law; or

(b)seize the food and remove it in order to have it dealt with by a justice of the peace.

(3) Where the authorised officer exercises the power conferred by subsection (2)(a) above, that officer must, as soon as is reasonably practicable and in any event within 21 days, determine whether or not the food complies with the EU requirements and—

(a)if satisfied that it does comply, must forthwith withdraw the notice;

(b)if not so satisfied, must seize the food and remove it in order to have it dealt with by a justice of the peace.

(4) Where an authorised officer exercises the powers conferred by subsection (2)(b) or (3)(b) above, that officer must inform the person in charge of the food of his or her intention to have it dealt with by a justice of the peace and—

(a)any person who in connection with regulation 3(2)(a) or (c) of the above Regulations might be liable to a prosecution in respect of the food must, if he or she attends before the justice of the peace by whom the food falls to be dealt with, be entitled to be heard and to call witnesses; and

(b)that justice of the peace may, but need not, be a member of the court before which any person is proceeded against for an offence in connection with regulation 3(2)(a) or (c) of the above Regulations in relation to that food.

(5) If it appears to a justice of the peace, on the basis of such evidence as the justice considers appropriate in the circumstances, that any food falling to be dealt with under this section fails to comply with the EU requirements the justice must condemn the food and order—

(a)the food to be destroyed or to be so disposed of as to prevent it from being used for human consumption; and

(b)any expenses reasonably incurred in connection with the destruction or disposal to be defrayed by the owner of the food.

(6) If a notice under subsection (2)(a) above is withdrawn, or the justice of the peace by whom any food falls to be dealt with under this section refuses to condemn it, the food authority must compensate the owner of the food for any depreciation in its value resulting from the action taken by the authorised officer.

(7) Any disputed question as to the right to or the amount of any compensation payable under subsection (6) above is to be determined by arbitration.

(8) Any person who knowingly contravenes the requirements of a notice under subsection (2)(a) above is guilty of an offence and liable on summary conviction to a fine not exceeding level 5 on the standard scale..

(3Mae'r ymadroddion Cymraeg “swyddog awdurdodedig” ac “awdurdod bwyd” sy'n cyfateb i'r ymadroddion Saesneg “authorised officer” a “food authority” sy'n cael eu defnyddio yn adran 9 o'r Ddeddf i'r graddau y mae'n gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn yn rhinwedd paragraff (2), i ddwyn, at y dibenion hynny, yr ystyron sy'n cael eu dwyn gan yr ymadroddion hynny yn ôl eu trefn yn y Rheoliadau hyn.

Diwygiad canlyniadol

6.  Yn Atodlen 1 (darpariaethau nad yw'r Rheoliadau hynny'n gymwys iddynt) i Reoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) 1990(14) i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru, yn lle'r cofnod sy'n ymwneud â Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2009(15), rhoddir y cofnod a ganlyn—

The Contaminants in Food (Wales) Regulations 2010 (to the extent that a sample falls to be prepared and analysed in accordance with the Commission Regulation as that expression is defined in those Regulations)S.I. 2010/2394 (Cy.206).

Dirymu

7.  Dirymir Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2009.

Gwenda Thomas

Y Dirprwy Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

28 Medi 2010

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

1.  Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn dirymu ac yn ailddeddfu gyda newidiadau Reoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2009 (O.S. 2009/1386 (Cy.142), (fel y'i diwygiwyd)). Maent yn gwneud darpariaeth ar gyfer parhau i weithredu a gorfodi Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1881/2006 sy'n pennu'r lefelau uchaf ar gyfer halogion mewn deunyddiau bwyd (OJ Rhif L364, 20.12.2006, t.5) (“Rheoliad y Comisiwn”).

2.  Mae Rheoliad y Comisiwn, a gydgrynhodd y darpariaethau a oedd wedi eu cynnwys yn flaenorol yn Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 466/2001 ac a wnaeth ddiwygiadau pellach iddynt, wedi ei ddiwygio'n ddiweddar gan Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 165/2010, sy'n ymwneud â lefelau uchaf ar gyfer afflatocsinau ac â thrin bwydydd penodol y cafwyd eu bod yn cynnwys lefelau uwch o afflatocsinau na'r lefelau hynny (OJ Rhif L150, 27.2.2010, t.8). Mae Rheoliad y Comisiwn wedi ei ddiwygio'n flaenorol gan—

(a)Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1126/2007 (OJ Rhif L255, 29.9.2007, t.14), sy'n ymwneud â lefelau uchaf a ganiateir ar gyfer tocsinau Fusarium mewn indrawn a chynnyrch indrawn;

(b)Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 565/2008 (OJ Rhif L160, 19.6.2008, t.20), sy'n ymwneud â lefelau uchaf a ganiateir ar gyfer deuocsinau a biffenylau polyclorinedig (PCBs) mewn afu pysgod;

(c)Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 629/2008 (OJ Rhif L173, 3.7.2008, t.6), sy'n ymwneud â lefelau uchaf a ganiateir ar gyfer metelau trwm penodol; a

(ch)Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 105/2010 (OJ Rhif L35, 6.2.2010, t.7), sy'n ymwneud â lefelau uchaf a ganiateir ar gyfer ochratocsin A.

3.  Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu hefyd ar gyfer gweithredu a gorfodi Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 124/2009 (OJ Rhif L40, 11.2.2009, t.7) (“Rheoliad 124/2009”), sy'n ymwneud â lefelau uchaf a ganiateir ar gyfer ychwanegion penodol at fwyd anifeiliaid y gellir eu cael o dan amgylchiadau penodedig mewn bwyd.

4.  Mae'r Rheoliadau hyn—

(a)yn darparu bod y canlynol yn dramgwydd, (ac eithrio mewn achosion penodol sy'n ymwneud â bwyd a roddwyd ar y farchnad cyn dyddiad a roddwyd mewn deddfwriaeth EU benodedig)—

(i)rhoi ar y farchnad fwydydd penodol os ydynt yn cynnwys halogion o unrhyw fath a bennir yn Rheoliad y Comisiwn neu yn Rheoliad 124/2009 ar lefelau sy'n uwch na'r rhai a bennir,

(ii)defnyddio bwyd sy'n cynnwys halogion ar lefelau sy'n uwch na'r rhai a ganiateir gan Reoliad y Comisiwn yn gynwysyddion wrth gynhyrchu bwydydd penodol,

(iii)cymysgu bwydydd nad ydynt yn cydymffurfio â'r lefelau uchaf a ragnodir gan Reoliad y Comisiwn neu Reoliad 124/2009 â bwydydd sy'n cydymffurfio,

(iv)cymysgu bwydydd y mae Rheoliad y Comisiwn yn ymwneud â hwy ac sydd wedi eu bwriadu i'w bwyta'n uniongyrchol neu fel cynwysyddion bwyd gyda bwydydd y mae Rheoliad y Comisiwn yn ymwneud â hwy ac sydd wedi eu bwriadu i'w didoli neu i'w trin fel arall cyn cael eu bwyta, neu

(v)dadwenwyno drwy ei drin yn gemegol fwyd sy'n cynnwys lefelau mycotocsinau y tu hwnt i'r terfynau a bennir yn Rheoliad y Comisiwn (rheoliad 3);

(b)yn pennu'r awdurdodau gorfodi (rheoliad 4);

(c)yn darparu ar gyfer cymhwyso darpariaethau penodedig Deddf Diogelwch Bwyd 1990 at ddibenion y Rheoliadau hyn (rheoliad 5);

(ch)yn gwneud diwygiad canlyniadol i Reoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) 1990 i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru (rheoliad 6), ac effaith y diwygiad hwnnw yw datgymhwyso'r darpariaethau yn y Rheoliadau hynny ynghylch samplu a dadansoddi ddim ond i'r graddau y mae'r materion hynny'n cael eu rheoleiddio gan yr offerynnau UE a grybwyllir ym mharagraff 5(a) i (ch) isod.

5.  Mae Rheoliad y Comisiwn yn pennu dulliau'r Undeb Ewropeaidd o samplu a dadansoddi y mae'n ofynnol eu defnyddio i reoli'n swyddogol lefelau'r sylweddau y mae'n eu cwmpasu. Mae'r dulliau hynny wedi eu nodi yn y canlynol—

(a)Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 401/2006 sy'n pennu'r dulliau samplu a dadansoddi ar gyfer rheoli'n swyddogol y lefelau mycotocsinau mewn deunyddiau bwyd (OJ Rhif L70, 9.3.2006, t.12), fel y'i diwygiwyd gan Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 178/2010 (OJ Rhif L52, 3.3.2010, t.32);

(b)Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1882/2006 sy'n pennu dulliau samplu a dadansoddi ar gyfer rheoli'n swyddogol lefelau nitradau mewn deunyddiau bwyd penodol (OJ Rhif L364, 20.12.2006, t.25);

(c)Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1883/2006 sy'n pennu dulliau samplu a dadansoddi ar gyfer rheoli'n swyddogol lefelau deuocsinau a biffenylau polyclorinedig (PCBs) tebyg i ddeuocsinau sydd mewn deunyddiau bwyd penodol (OJ Rhif L364, 20.12.2006, t.32);

(ch)Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 333/2007 sy'n pennu'r dulliau samplu a dadansoddi ar gyfer rheoli'n swyddogol y lefelau plwm, cadmiwm, mercwri, tun inorganig, 3-MCPD a benso(a)pyren mewn deunyddiau bwyd (OJ Rhif L88, 29.3.2007, t.29).

6.  Mae asesiad rheoleiddiol o effaith cydymffurfio â'r Rheoliadau hyn o ran costau a manteision tebygol wedi ei baratoi ac mae ar gael gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EW.

(1)

1990 p.16. Amnewidiwyd adran 1(1) a (2) (y diffiniad o “food” ) gan O.S. 2004/2990. Diwygiwyd adrannau 17 a 48 gan baragraffau 12 a 21 yn eu trefn o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28), “Deddf 1999”. Diwygiwyd adran 48 hefyd gan O.S. 2004/2990. Diwygiwyd adran 26(3) gan Atodlen 6 i Ddeddf 1999. Diwygiwyd adran 53(2) gan baragraff 19 o Atodlen 16 i Ddeddf Dadreoleiddio a Chontractio Allan 1994 (1994 p.40), Atodlen 6 i Ddeddf 1999, O.S. 2004/2990 ac O.S. 2004/3279.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S.1999/672) fel y'i darllenir ynghyd ag adran 40(3) o Ddeddf 1999 ac fe'u trosglwyddwyd wedyn i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (2006 p.32).

(3)

1972 p.68. Mewnosodwyd paragraff 1A o Atodlen 2 gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (2006 p.51) ac fe'i diwygiwyd gan Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (2008 p.7).

(4)

OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. Diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 596/2009 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n addasu nifer o offerynnau'n ddarostyngedig i'r weithdrefn y cyfeirir ati yn Erthygl 251 o'r cytuniad i Benderfyniad y Cyngor 1999/468/EC o ran y weithdrefn reoleiddiol gyda chraffu: Addasu'r weithdrefn reoleiddiol gyda chraffu — Rhan Pedwar (OJ Rhif L188, 18.7.2009, t.14).

(6)

OJ Rhif L364, 20.12.2006, t.5. Mae'r Rheoliad hwn wedi ei ddiwygio gan Reoliadau'r Comisiwn (EC) Rhifau 1126/2007 (OJ Rhif L255, 29.9.2007, t.14), 565/2008 (OJ Rhif L160, 19.6.2008, t.20), 629/2008 (OJ Rhif L173, 3.7.2008, t.6), 105/2010 (OJ Rhif L35, 6.2.2010, t.7) a 165/2010 (OJ Rhif L50, 27.2.2010, t.8).

(7)

OJ Rhif L173, 3.7.2008, t.6.

(8)

OJ Rhif L40, 11.2.2009, t.7.

(9)

OJ Rhif L50, 27.2.2010, t.8.

(10)

Diwygiwyd adran 21 gan O.S. 2004/3279.

(11)

Diwygir adran 35(1) gan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 (2003 p.44), Atodlen 26, paragraff 42, o ddyddiad i'w benodi ymlaen.

(12)

Diwygiwyd adran 35(3) gan O.S. 2004/3279.

(13)

Mewnosodwyd adran 36A gan Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28), Atodlen 5, paragraff 16.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources