Search Legislation

Gorchymyn Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (Cychwyn Rhif 6) (Cymru) 2010

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Diwrnodau penodedig

2.  Daw darpariaethau canlynol Deddf 2006 i rym ar 31 Hydref 2010—

(a)adran 88;

(b)adran 89 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym;

(c)adrannau 90 a 91;

(ch)adran 92 ac eithrio isadran 8(b):

(d)adrannau 93 i 95;

(dd)adran 96 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym;

(e)adran 97;

(f)adrannau 98 a 99 at ddibenion gwneud rheoliadau o dan yr adrannau newydd 20(2A) a 22A o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003(1);

(ff)adran 102 at ddibenion gwneud rheoliadau;

(g)adran 108:

(ng)adran 167;

(h)adran 184 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r darpariaethau a osodir ym mharagraff (i);

(i)yn Rhan 6 o Atodlen 18, diddymu—

  • yn Neddf 1996, adrannau 550A a 550B,

  • yn Neddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(2), adran 61 (yn llawn),

  • yn Neddf Addysg 1997(3), adrannau 4 a 5,

  • yn Neddf Addysg 2002(4), y diffiniad o “pupil” yn adran 176(3),

  • yn Neddf Gofal Plant 2006(5), paragraff 42 o Atodlen 2.

Back to top

Options/Help