Offerynnau Statudol Cymru
2010 Rhif 2543 (Cy.212) (C.122)
ADDYSG, CYMRU
Gorchymyn Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (Cychwyn Rhif 6) (Cymru) 2010
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 181 a 188(3) o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006() ac sydd bellach wedi eu breinio ynddynt hwy(), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi a dehongli
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (Cychwyn Rhif 6) (Cymru) 2010.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “Deddf 2006” (“the 2006 Act”) yw Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006,
ystyr “Deddf 1996” (“the EA 1996”) yw Deddf Addysg 1996.
Diwrnodau penodedig
2. Daw darpariaethau canlynol Deddf 2006 i rym ar 31 Hydref 2010—
(a)adran 88;
(b)adran 89 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(c)adrannau 90 a 91;
(ch)adran 92 ac eithrio isadran 8(b):
(d)adrannau 93 i 95;
(dd)adran 96 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(e)adran 97;
(f)adrannau 98 a 99 at ddibenion gwneud rheoliadau o dan yr adrannau newydd 20(2A) a 22A o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003();
(ff)adran 102 at ddibenion gwneud rheoliadau;
(g)adran 108:
(ng)adran 167;
(h)adran 184 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r darpariaethau a osodir ym mharagraff (i);
(i)yn Rhan 6 o Atodlen 18, diddymu—
yn Neddf 1996, adrannau 550A a 550B,
yn Neddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(), adran 61 (yn llawn),
yn Neddf Addysg 1997(), adrannau 4 a 5,
yn Neddf Addysg 2002(), y diffiniad o “pupil” yn adran 176(3),
yn Neddf Gofal Plant 2006(), paragraff 42 o Atodlen 2.
3. Mae darpariaethau canlynol Deddf 2006 yn dod i rym ar 5 Ionawr 2011 i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym—
(a)adrannau 98 a 99; a
(b)adran 102.
Leighton Andrews
Y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru
18 Hydref 2010
Nodyn Esboniadol
Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn adrannau 88 i 99, 102, 108 a 167 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 i rym ar 31 Hydref 2010. Mae adrannau 98, 99 a 102 yn cael eu dwyn i rym at ddibenion gwneud rheoliadau ar 31 Hydref 2010 ac yn cychwyn yn llawn ar 5 Ionawr 2011.
Mae adran 88 i 96 yn ymwneud â disgyblaeth ac ymddygiad mewn ysgol a gwaharddiad o'r ysgol. Maent yn sefydlu pŵer statudol i orfodi disgyblaeth ysgol a mesurau mwy penodedig sy'n ymwneud â disgyblion a waharddwyd a chyfrifoldeb rhieni am ymddygiad plant. Mae'r darpariaethau hyn hefyd yn ailddeddfu darpariaethau cyfreithiol eraill ar gyfrifoldebau cyrff llywodraethu am ddisgyblu a phenderfyniad y pennaeth ar bolisi ymddygiad.
Mae adrannau 97 i 99 yn ymestyn argaeledd contractau rhianta a gorchmynion rhianta mewn perthynas â chamymddwyn mewn ysgol.
Mae adran 102 yn caniatáu ar gyfer rheoliadau a all ei gwneud yn ofynnol i benaethiaid drefnu cyfweliadau ailintegreiddio ar gyfer disgyblion a waharddwyd.
Mae adran 108 yn ymestyn pwerau'r heddlu i symud triwantiaid o fannau cyhoeddus yn ystod oriau ysgol yn adran 16 o Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998 (p. 37) i gynnwys disgyblion a waharddwyd.
Mae adran 167 yn diwygio adran 176 o Ddeddf Addysg 2002 fel bod y gofyniad i ymgynghori â disgyblion a osodwyd ar awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu yn gymwys mewn perthynas â disgyblion sy'n cael addysg feithrin.
Nodyn Orchymyn Cychwyn Blaenorol
Mae darpariaethau canlynol Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006 wedi eu dwyn i rym o ran Cymru drwy Orchmynion Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:
Mae amryw o ddarpariaethau Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006 wedi eu dwyn i rym mewn perthynas â Lloegr gan yr Offerynnau Statudol canlynol: O.S. 2006/2990 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2008/54, O.S. 2006/3400, O.S. 2007/935 (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2007/1271), O.S. 2007/1271, O.S. 2007/1801, O.S. 2007/3074 ac O.S. 2008/1971.
Gweler hefyd adran 188(1) a (2) ar gyfer y darpariaethau a ddaeth i rym ar 8 Tachwedd 2006 (dyddiad y Cydsyniad Brenhinol) ac 8 Ionawr 2007 (ddeufis yn ddiweddarach).