- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
Rheoliadau 3, 6, 8, 20 a 28
1. Yn yr Atodlen hon, ystyr “ceisydd” yw—
(a)person sy'n gwneud cais am gofrestriad fel gwarchodwr plant neu ddarparydd gofal dydd o dan Ran 2 o'r Mesur; a
(b)pan fo'r cyd-destun yn mynnu, person a gofrestrwyd o dan Ran 2 o'r Mesur fel gwarchodwr plant neu ddarparydd gofal dydd.
2. Bod y ceisydd yn addas o ran uniondeb a chymeriad da i ofalu am blant o dan wyth mlwydd oed.
3. Nad yw'r ceisydd wedi ei anghymhwyso.
4. Bod gan y ceisydd y cymwysterau, y sgiliau a'r profiad angenrheidiol i ofalu am blant o dan wyth mlwydd oed.
5. Bod y ceisydd yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i ofalu am blant o dan wyth mlwydd oed.
6. Bod y ceisydd wedi darparu i Weinidogion Cymru—
(a)tystysgrif cofnod troseddol fanylach; a
(b)y cais am y dystysgrif honno, a oedd wedi ei gydlofnodi gan Weinidogion Cymru.
7. Pan fo'n briodol(1), bod y ceisydd wedi ei gofrestru gydag ADA a'r ceisydd wedi darparu ei rif cofrestru ADA i Weinidogion Cymru.
8. Bod pob person (ac eithrio'r ceisydd) sy'n gofalu, neu sydd i ofalu, am blant perthnasol, yn addas o ran uniondeb a chymeriad da i ofalu am blant o dan wyth mlwydd oed.
9. Bod gan bob person a grybwyllir ym mharagraff 8 y cymwysterau, y sgiliau a'r profiad angenrheidiol i ofalu am blant o dan wyth mlwydd oed.
10. Bod pob person a grybwyllir ym mharagraff 8 yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i ofalu am blant o dan wyth mlwydd oed.
11. Bod tystysgrif cofnod troseddol fanylach wedi ei chael mewn perthynas â phob person a grybwyllir ym mharagraff 8.
12. Pan fo'n briodol, bod pob person a grybwyllir ym mharagraff 8 wedi ei gofrestru gydag ADA a phob person o'r fath wedi darparu ei rif cofrestru ADA i'r ceisydd.
13.—(1) Bod pob person (ac eithrio'r ceisydd neu berson a grybwyllir ym mharagraff 8) sydd wedi cyrraedd 16 mlwydd oed ac—
(a)yn byw yn y fangre berthnasol,
(b)yn gweithio yn y fangre berthnasol, neu
(c)yn bresennol rywfodd arall yn y fangre berthnasol, ac yn dod,
neu'n debygol o ddod, i gysylltiad yn rheolaidd â phlant perthnasol, yn addas o ran uniondeb a chymeriad da i fod mewn cysylltiad rheolaidd â phlant.
(2) At ddibenion is-baragraff (1)(b), mae person sy'n gweithio yn y fangre berthnasol yn cynnwys person sy'n gweithio ar sail wirfoddol.
(3) Pan fo'n briodol, bod tystysgrif cofnod troseddol fanylach wedi ei chael mewn perthynas â phob person a grybwyllir yn is-baragraff (1).
(4) Pan fo'n briodol, bod pob person a grybwyllir yn is-baragraff (1) wedi ei gofrestru gydag ADA a phob person o'r fath wedi darparu ei rif cofrestru ADA i'r ceisydd.
14. Mae'r paragraff hwn a pharagraffau 15 i 20 yn gymwys pan fo'r ceisydd yn unigolyn.
15. Bod y ceisydd yn addas o ran uniondeb a chymeriad da i ofalu am blant o dan wyth mlwydd oed.
16. Nad yw'r ceisydd wedi ei anghymhwyso.
17. Bod gan y ceisydd y cymwysterau, y sgiliau a'r profiad angenrheidiol i ofalu am blant o dan wyth mlwydd oed.
18. Bod y ceisydd yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i ofalu am blant o dan wyth mlwydd oed.
19. Bod y ceisydd wedi darparu i Weinidogion Cymru —
(a)tystysgrif cofnod troseddol fanylach; a
(b)y cais am y dystysgrif honno, a oedd wedi ei gydlofnodi gan Weinidogion Cymru.
20. Pan fo'n briodol, bod y ceisydd wedi ei gofrestru gydag ADA a'r ceisydd wedi darparu ei rif cofrestru ADA i Weinidogion Cymru.
21. Pan fo'r ceisydd yn sefydliad ac wedi penodi unigolyn i fod yn unigolyn cyfrifol–
(a)bod yr unigolyn cyfrifol yn addas o ran uniondeb a chymeriad da i ofalu am blant o dan wyth mlwydd oed; neu
(b)pan fo person â chyfrifoldeb wedi ei benodi, bod y person â chyfrifoldeb yn addas o ran uniondeb a chymeriad da i fod mewn cysylltiad rheolaidd â phlant o dan wyth mlwydd oed.
22. Bod gan yr unigolyn cyfrifol y cymwysterau, y sgiliau a'r profiad angenrheidiol ar gyfer y rôl y mae'n ei chyflawni mewn perthynas â gofalu am blant o dan wyth mlwydd oed.
23. Bod y ceisydd yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i ymgymryd â'i rôl mewn perthynas â gofalu am blant o dan wyth mlwydd oed.
24. Bod y ceisydd wedi darparu i Weinidogion Cymru —
(a)tystysgrif cofnod troseddol fanylach mewn perthynas â'r unigolyn cyfrifol; a
(b)y cais am y dystysgrif honno, a oedd wedi ei gydlofnodi gan Weinidogion Cymru.
25. Pan fo'n briodol, bod yr unigolyn cyfrifol wedi cofrestru gydag ADA, a'r ceisydd wedi darparu rhif cofrestru ADA yr unigolyn cyfrifol i Weinidogion Cymru.
26. Mae'r paragraff hwn a pharagraffau 27 i 31 yn gymwys pan fo'r ceisydd wedi penodi neu'n bwriadu penodi person i ymgymryd â'r cyfrifoldeb beunyddiol llawn am ddarparu gofal dydd yn y fangre (“y person â chyfrifoldeb”).
27. Bod y person â chyfrifoldeb yn addas o ran uniondeb a chymeriad da i ofalu am blant o dan wyth mlwydd oed.
28. Bod gan y person â chyfrifoldeb y cymwysterau, y sgiliau a'r profiad angenrheidiol i ofalu am blant o dan wyth mlwydd oed.
29. Bod y person â chyfrifoldeb yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i ofalu am blant o dan wyth mlwydd oed.
30. Bod y ceisydd wedi darparu i Weinidogion Cymru —
(a)tystysgrif cofnod troseddol fanylach mewn perthynas â'r person â chyfrifoldeb; a
(b)y cais am y dystysgrif honno, a oedd wedi ei gydlofnodi gan Weinidogion Cymru.
31. Pan fo'n briodol, bod y person â chyfrifoldeb wedi cofrestru gydag ADA, a'r ceisydd wedi darparu rhif cofrestru ADA person â chyfrifoldeb i Weinidogion Cymru.
32. Bod pob person (ac eithrio'r ceisydd neu berson a grybwyllir ym mharagraffau 21 neu 26) sy'n gofalu, neu sydd i ofalu, am blant perthnasol yn addas o ran uniondeb a chymeriad da i ofalu am blant o dan wyth mlwydd oed.
33. Bod gan bob person a grybwyllir ym mharagraff 32 y cymwysterau, y sgiliau a'r profiad angenrheidiol i ofalu am blant o dan wyth mlwydd oed.
34. Bod pob person a grybwyllir ym mharagraff 32 yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i ofalu am blant o dan wyth mlwydd oed.
35. Bod tystysgrif cofnod troseddol fanylach wedi ei chael mewn perthynas â phob person a grybwyllir ym mharagraff 32.
36. Pan fo'n briodol, bod pob person a grybwyllir ym mharagraff 32 wedi ei gofrestru gydag ADA a phob person o'r fath wedi darparu ei rif cofrestru ADA i'r ceisydd.
37.—(1) Bod pob person (ac eithrio'r ceisydd neu berson a grybwyllir ym mharagraff 21, 26 neu 32) sydd wedi cyrraedd 16 mlwydd oed ac —
(a)yn byw yn y fangre berthnasol,
(b)yn gweithio yn y fangre berthnasol, neu
(c)yn bresennol rywfodd arall yn y fangre berthnasol, ac
yn dod, neu'n debygol o ddod, i gysylltiad yn rheolaidd â phlant perthnasol, yn addas o ran uniondeb a chymeriad da i fod mewn cysylltiad rheolaidd â phlant.
(2) At ddibenion is-baragraff (1)(b), mae person sy'n gweithio yn y fangre berthnasol yn cynnwys person sy'n gweithio ar sail wirfoddol.
(3) Pan fo'n briodol, bod tystysgrif cofnod troseddol fanylach wedi ei chael mewn perthynas â phob person a grybwyllir yn is-baragraff (1).
(4) Pan fo'n briodol, bod pob person a grybwyllir yn is-baragraff (1) wedi ei gofrestru gydag ADA a phob person o'r fath wedi darparu ei rif cofrestru ADA i'r ceisydd.
Rheoliadau 4, 6, 8, 20 a 28
1. Yn yr Atodlen hon, ystyr “ceisydd” yw—
(a)person sy'n gwneud cais am gofrestriad fel gwarchodwr plant neu ddarparydd gofal dydd o dan Ran 2 o'r Mesur; a
(b)pan fo'r cyd-destun yn mynnu, person a gofrestrwyd o dan Ran 2 o'r Mesur fel gwarchodwr plant neu ddarparydd gofal dydd.
2.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i unigolyn sy'n gwneud cais i gofrestru fel gwarchodwr plant.
(2) Enw llawn y ceisydd (ac unrhyw enw arall neu enw blaenorol), ei ddyddiad geni, ei gyfeiriad a'i rif teleffon.
(3) Manylion cymwysterau proffesiynol neu dechnegol a phrofiad y ceisydd, i'r graddau y mae'r cyfryw gymwysterau a phrofiad yn berthnasol i ofalu am blant o dan wyth mlwydd oed.
(4) Manylion hanes cyflogaeth y ceisydd, gan gynnwys—
(a)hanes cyflogaeth llawn, ynghyd ag esboniad ysgrifenedig boddhaol o unrhyw fylchau mewn cyflogaeth;
(b)os oedd unrhyw gyflogaeth neu swydd flaenorol yn cynnwys gweithio gyda phlant, cadarnhad, i'r graddau y bo'n rhesymol ymarferol, o'r rheswm pam y daeth y gyflogaeth neu'r swydd honno i ben;
(c)enw a chyfeiriad unrhyw gyflogwr presennol, a phan fo'n berthnasol, unrhyw gyflogwyr blaenorol.
(5) Enwau a chyfeiriadau dau ganolwr—
(a)nad ydynt yn berthnasau i'r ceisydd;
(b)sydd ill dau yn alluog i ddarparu geirda mewn perthynas â chymhwysedd y ceisydd i ofalu am blant o dan wyth mlwydd oed; ac
(c)un ohonynt, os yw'n bosibl, yn gyflogwr diweddaraf y ceisydd.
(6) Manylion unrhyw fusnes a gynhelir, neu a gynhaliwyd, gan y ceisydd.
3. Enw, cyfeiriad, rhif teleffon, rhif ffacsimile (os oes un), a chyfeiriad post electronig (os oes un) y fangre lle y bwriedir gofalu am y plant (“y fangre”), ynghyd â disgrifiad o'r fangre a'r cyfleusterau a ddarperir, neu sydd i'w darparu, ar gyfer plant perthnasol.
4. Y datganid o ddiben.
5. Yr oriau arfaethedig y dymuna'r ceisydd gael ei gofrestru ar eu cyfer fel gwarchodwr plant.
6. Disgrifiad o'r ardal y lleolir y fangre ynddi, a manylion ynghylch mynediad i'r fangre.
7. Datganiad ynglŷn â'r trefniadau diogelwch, gan gynnwys trefniadau at ddibenion—
(a)diogelu mynediad at wybodaeth a gedwir yn y fangre; a
(b)cyfyngu ar fynediad i mewn i'r fangre o fangreoedd cyfagos, neu os yw'r fangre yn rhan o adeilad, o rannau eraill o'r adeilad.
8. Pa un a oes busnes neu weithgarwch arall a gynhelir, neu a fydd yn cael ei gynnal, yn y fangre yr un pryd ag y gofelir am blant yno o dan y cofrestriad arfaethedig, ac os felly, manylion y cyfryw fusnes neu weithgarwch.
9. Nifer y plant y gofelir amdanynt, a'u hoedrannau.
10. Mewn perthynas ag unrhyw berson, ac eithrio'r ceisydd, sy'n gofalu neu sydd i ofalu am blant neu blentyn perthnasol—
(a)enw'r person (ac unrhyw enw arall ac enw blaenorol) a'i ddyddiad geni;
(b)dyletswyddau a chyfrifoldebau'r person mewn perthynas â gwaith y person hwnnw.
11. Mewn perthynas ag unrhyw berson, ac eithrio'r ceisydd, sy'n gofalu neu sydd i ofalu am blant perthnasol—
(a)pa un a yw'r person yn preswylio, neu a fwriedir iddo breswylio yn y fangre ai peidio;
(b)os yw'r person yn berthynas i'r ceisydd, natur y berthynas honno;
(c)pa un a yw'r person yn gweithio, neu a fwriedir iddo weithio, ar sail amser llawn ynteu ar sail ran-amser, ac os ar sail ran-amser, y nifer o oriau bob wythnos y bwriedir i'r person hwnnw weithio;
(ch)y dyddiad y dechreuodd y person weithio, neu y bwriedir iddo ddechrau gweithio;
(d)gwybodaeth ynghylch cymwysterau, profiad a sgiliau'r person hwnnw, i'r graddau y mae'n berthnasol i'r gwaith sydd i'w gyflawni gan y person hwnnw;
(dd)datganiad gan y ceisydd i'r perwyl ei fod wedi ei fodloni ynghylch dilysrwydd y cymwysterau ac wedi gwirio'r profiad a'r sgiliau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (d);
(e)datganiad gan y ceisydd ynghylch—
(i)addasrwydd cymwysterau'r person ar gyfer y gwaith y bwriedir i'r person ei gyflawni,
(ii)pa un a oes gan y person y sgiliau angenrheidiol ai peidio ar gyfer gwaith o'r fath, a
(iii)addasrwydd y person i weithio gyda phlant o dan wyth mlwydd oed a bod mewn cysylltiad â phlant o'r fath yn rheolaidd;
(f)datganiad gan y person ynglŷn â chyflwr ei iechyd corfforol a meddyliol;
(ff)datganiad gan y ceisydd i'r perwyl bod y person yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol ar gyfer y gwaith y bwriedir i'r person hwnnw ei gyflawni;
(g)datganiad gan y ceisydd i gadarnhau pa un a fodlonwyd ef ai peidio ynghylch dilysrwydd hunaniaeth y person, ac yn nodi'r dull a ddefnyddiodd y ceisydd i fodloni ei hunan ynglŷn â hynny, a pha un a yw'r ceisydd wedi cael copi o dystysgrif geni'r person ai peidio;
(ng)cadarnhad gan y ceisydd bod ganddo ffotograff diweddar o'r person;
(h)datganiad gan y ceisydd i'r perwyl ei fod wedi cael—
(i)dau eirda mewn perthynas â'r person, a bod y ceisydd wedi ei fodloni ynghylch dilysrwydd y geirdaon hynny,
(ii)hanes cyflogaeth llawn, ynghyd ag esboniad boddhaol o unrhyw fylchau yng nghyflogaeth y person, a
(iii)os oedd cyflogaeth neu swydd flaenorol y person yn ymwneud â phlant, cadarnhad, i'r graddau y bo'n rhesymol ymarferol, o'r rheswm pam y daeth y gyflogaeth neu'r swydd honno i ben
12.—(1) Enw llawn (ac unrhyw enw arall ac enw blaenorol), dyddiad geni a chyfeiriad pob person (ac eithrio'r ceisydd a pherson a grybwyllir ym mharagraffau 10 ac 11) sydd wedi cyrraedd 16 mlwydd oed, yn gweithio yn y fangre berthnasol ac yn dod, neu'n debygol o ddod, i gysylltiad rheolaidd â phlant perthnasol.
(2) At ddibenion is-baragraff (1), mae person sy'n gweithio yn y fangre berthnasol yn cynnwys person sy'n gweithio ar sail wirfoddol.
13. Enw llawn (ac unrhyw enw arall ac enw blaenorol) a, dyddiad geni pob person sydd wedi cyrraedd 16 mlwydd oed, yn byw yn y fangre berthnasol, ac yn dod, neu'n debygol o ddod, i gysylltiad rheolaidd â phlant perthnasol.
14. Enw llawn (ac unrhyw enw arall ac enw blaenorol), dyddiad geni a chyfeiriad pob person sydd wedi cyrraedd 16 mlwydd oed ac sydd rywfodd arall yn bresennol yn y fangre berthnasol ac yn dod, neu'n debygol o ddod, i gysylltiad yn rheolaidd â phlant perthnasol.
15. Tystysgrif geni'r ceisydd.
16. Prawf o hunaniaeth y ceisydd, gan gynnwys ffotograff diweddar.
17. Tystysgrifau neu dystiolaeth addas arall o gymwysterau proffesiynol neu dechnegol y ceisydd, i'r graddau y mae cymwysterau o'r fath yn berthnasol i ofalu am blant sydd o dan wyth mlwydd oed.
18. Tystysgrif o yswiriant yr ymgeisydd rhag atebolrwydd y gellid ei achosi i'r person hwnnw mewn perthynas â marwolaeth, anaf, atebolrwydd cyhoeddus, difrod neu golled arall mewn cysylltiad â'r gwarchod plant arfaethedig.
19.—(1) Datganiad ysgrifenedig gan y ceisydd yn cadarnhau—
(a)mewn perthynas â phob person, ac eithrio'r ceisydd, sy'n gofalu, neu y bwriedir iddo ofalu, am y plant a warchodir, bod–
(i)tystysgrif cofnod troseddol fanylach wedi ei dyroddi; a
(ii)pan fo'n briodol(2), cofrestriad gydag ADA wedi ei gwblhau a bod y ceisydd wedi cael rhif cofrestru ADA y person hwnnw; a
(b)y bydd y ceisydd yn rhoi'r tystysgrifau a ddyroddwyd felly, a'r rhifau cofrestru a ddyrannwyd, ar gael i'w harchwilio gan Weinidogion Cymru os gofynnir amdanynt gan Weinidogion Cymru.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), datganiad ysgrifenedig gan y ceisydd yn cadarnhau–—
(a)mewn perthynas â phob person a grybwyllir ym mharagraffau 12 i 14, bod—
(i)tystysgrif cofnod troseddol fanylach wedi ei dyroddi; a
(ii)pan fo'n briodol, cofrestriad gydag ADA wedi ei gwblhau a bod y ceisydd wedi cael rhif cofrestru ADA y person hwnnw; a
(b)y bydd y ceisydd yn rhoi'r tystysgrifau a ddyroddwyd felly, a'r rhifau cofrestru a ddyrannwyd, ar gael i'w harchwilio gan Weinidogion Cymru os gofynnir amdanynt gan Weinidogion Cymru.
(3) Pan fo rheoliad 20(5) yn gymwys, ac nad oes awdurdod gan y ceisydd i gael y cyfryw wybodaeth neu ddogfen, datganiad ysgrifenedig gan y ceisydd y caiff y personau a grybwyllir ym mharagraffau 12 i 14 eu goruchwylio'n briodol ar bob achlysur pan fo unrhyw berson o'r fath yn dod i gysylltiad â phlentyn neu blant perthnasol.
20.—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), adroddiad gan ymarferydd meddygol cofrestredig ynglŷn â pha un a yw'r ceisydd yn ffit ai peidio yn gorfforol ac yn feddyliol i ofalu am blant o dan wyth mlwydd oed.
(2) Os nad oes modd i'r ceisydd gael yr adroddiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (1), datganiad gan y ceisydd ynglŷn â chyflwr ei iechyd corfforol a meddyliol.
21. Yn Rhan hon—
ystyr “perthynas” (“relative”) mewn perthynas ag unrhyw berson yw—
priod neu bartner sifil y person hwnnw;
unrhyw riant, taid, nain, plentyn, ŵyr, wyres, brawd, chwaer, ewythr, modryb, nai neu nith y person neu briod neu bartner sifil y person;
priod neu bartner sifil unrhyw berthynas y cyfeirir ato yn is-baragraff (b),
ac at y diben o benderfynu ynghylch unrhyw berthynas o'r fath, rhaid trin llysblentyn person fel plentyn y person, ac y mae cyfeiriadau at “briod” mewn perthynas ag unrhyw berson yn cynnwys cyn–briod a pherson sy'n byw gyda'r person fel gŵr neu wraig, ac y mae cyfeiriadau at “bartner sifil” yn cynnwys cyn-bartner sifil.
22.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fo'r ceisydd yn unigolyn.
(2) Enw llawn y ceisydd (ac unrhyw enw arall neu enw blaenorol), ei ddyddiad geni, ei gyfeiriad a'i rif teleffon.
(3) Manylion cymwysterau proffesiynol neu dechnegol a phrofiad y ceisydd, i'r graddau y mae'r cyfryw gymwysterau a phrofiad yn berthnasol i ofalu am blant o dan wyth mlwydd oed.
(4) Manylion unrhyw fusnes a gynhelir neu a gynhaliwyd gan y ceisydd.
(5) Manylion hanes cyflogaeth y ceisydd, gan gynnwys—
(a)hanes cyflogaeth llawn, ynghyd ag esboniad ysgrifenedig boddhaol o unrhyw fylchau mewn cyflogaeth;
(b)os oedd unrhyw gyflogaeth neu swydd flaenorol yn cynnwys gweithio gyda phlant, cadarnhad, i'r graddau y bo'n rhesymol ymarferol, o'r rheswm pam y daeth y gyflogaeth neu'r swydd honno i ben;
(c)enw a chyfeiriad unrhyw gyflogwr presennol, a phan fo'n berthnasol, unrhyw gyflogwyr blaenorol;
(ch)enwau a chyfeiriadau dau ganolwr—
(i)nad ydynt yn berthnasau i'r ceisydd,
(ii)sydd ill dau yn alluog i ddarparu geirda mewn perthynas â chymhwysedd y ceisydd i ofalu am blant o dan wyth mlwydd oed; a
(iii)un ohonynt, os yw'n bosibl, yn gyflogwr diweddaraf y ceisydd.
23.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fo'r ceisydd yn sefydliad.
(2) Enw, cyfeiriad a rhif teleffon y ceisydd.
(3) Yn achos ceisydd sefydliadol sy'n gwmni, ei swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa'r cwmni, ei rif cofrestru ac, yn achos ceisydd sefydliadol sy'n elusen gofrestredig, ei rif elusen gofrestredig.
(4) Os yw'r sefydliad yn is-gwmni cwmni daliannol, enw a chyfeiriad y cwmni daliannol, ei swyddfa gofrestredig neu'i brif swyddfa ac unrhyw is-gwmni arall y cwmni daliannol hwnnw.
(5) Yn yr Atodlen hon rhaid dehongli'r geiriau “cwmni daliannol” (“holding company”) ac “is–gwmni” (“subsidiary”) yn unol â'r dehongliad o “subsidiary” a “holding company” yn adran 1159 o Ddeddf Cwmnïau 2006(3).
24.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fo'r ceisydd yn sefydliad ac, fel y cyfryw, wedi penodi unigolyn cyfrifol.
(2) Enw llawn (ac unrhyw enw arall ac enw blaenorol) yr unigolyn cyfrifol, ei ddyddiad geni, ei gyfeiriad a'i rif teleffon.
(3) Manylion am gymwysterau proffesiynol neu dechnegol yr unigolyn gyfrifol a'i brofiad, i'r graddau y mae'r cyfryw gymwysterau a phrofiad yn berthnasol i—
(a)darparu gofal dydd i blant o dan wyth mlwydd oed,
(b)pan fo paragraff 25 yn gymwys, goruchwylio'r ddarpariaeth o ofal dydd i blant o dan wyth mlwydd oed.
(4) Ac eithrio pan fo paragraff 25 yn gymwys, manylion am hanes cyflogaeth yr unigolyn cyfrifol–
(a)hanes cyflogaeth llawn, ynghyd ag esboniad ysgrifenedig boddhaol o unrhyw fylchau mewn cyflogaeth;
(b)os oedd unrhyw gyflogaeth neu swydd flaenorol yn cynnwys gweithio gyda phlant, cadarnhad, i'r graddau y bo'n rhesymol ymarferol, o'r rheswm pam y daeth y gyflogaeth neu'r swydd honno i ben;
(c)enw a chyfeiriad unrhyw gyflogwr presennol, a phan fo'n berthnasol, unrhyw gyflogwyr blaenorol;
(ch)enwau a chyfeiriadau dau ganolwr —
(i)nad ydynt yn berthnasau i'r unigolyn cyfrifol,
(ii)sydd ill dau yn alluog i ddarparu geirda mewn perthynas â chymhwysedd yr unigolyn cyfrifol i ofalu am blant o dan wyth mlwydd oed; ac
(iii)un ohonynt, os yw'n bosibl, yn gyflogwr diweddaraf yr unigolyn cyfrifol.
25.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fo person â chyfrifoldeb wedi ei benodi.
(2) Enw llawn (ac unrhyw enw arall neu enw blaenorol) y person â chyfrifoldeb, ac os nad y person hwnnw hefyd yw'r ceisydd neu'r unigolyn cyfrifol, ei ddyddiad geni, ei gyfeiriad a'i rif teleffon.
(3) Manylion cymwysterau proffesiynol neu dechnegol y person â chyfrifoldeb a'i brofiad, i'r graddau y mae'r cyfryw gymwysterau a phrofiad yn berthnasol i ddarparu gofal dydd i blant o dan wyth mlwydd oed.
(4) Manylion hanes cyflogaeth y ceisydd, gan gynnwys—
(a)hanes cyflogaeth llawn, ynghyd ag esboniad ysgrifenedig boddhaol o unrhyw fylchau mewn cyflogaeth;
(b)os oedd unrhyw gyflogaeth neu swydd flaenorol yn cynnwys gweithio gyda phlant, cadarnhad, i'r graddau y bo'n rhesymol ymarferol, o'r rheswm pam y daeth y gyflogaeth neu'r swydd honno i ben;
(c)enw a chyfeiriad unrhyw gyflogwr presennol, a phan fo'n berthnasol, unrhyw gyflogwyr blaenorol;
(ch)enwau a chyfeiriadau dau ganolwr —
(i)nad ydynt yn berthnasau i'r person,
(ii)sydd ill dau yn alluog i ddarparu geirda mewn perthynas â chymhwysedd y person i ofalu am blant o dan wyth mlwydd oed; ac
(iii)un ohonynt, os yw'n bosibl, yn gyflogwr diweddaraf y person.
26. Enw, cyfeiriad, rhif teleffon, rhif ffacsimile (os oes un), a chyfeiriad post electronig (os oes un) y fangre lle y bwriedir gofalu am y plant (“y fangre”) ynghyd â disgrifiad o'r cyfleusterau a ddarperir neu sydd i'w darparu i blant y gofelir amdanynt, gan gynnwys datganiad pa un a yw'r fangre wedi ei hadeiladu'n bwrpasol neu wedi ei throsi i'w defnyddio fel mangre lle y gofelir am blant.
27. Y datganiad o ddiben.
28. Yr oriau arfaethedig y dymuna'r ceisydd gael ei gofrestru ar eu cyfer fel darparydd gofal dydd i blant.
29. Disgrifiad o'r ardal y lleolir y fangre ynddi, a manylion ynghylch mynediad i'r fangre.
30. Datganiad ynglŷn â'r trefniadau diogelwch, gan gynnwys trefniadau at ddibenion —
(a)diogelu mynediad at wybodaeth a gedwir yn y fangre; a
(b)cyfyngu ar fynediad i mewn i'r fangre o fangreoedd cyfagos, neu os yw'r fangre yn rhan o adeilad, o rannau eraill o'r adeilad.
31. Pa un a oes busnes neu weithgarwch arall a gynhelir, neu a fydd yn cael ei gynnal, yn y fangre yr un pryd ag y gofelir am blant yno o dan y cofrestriad arfaethedig, ac os felly, manylion y cyfryw fusnes neu weithgarwch.
32. Nifer y plant y bwriedir darparu gofal iddynt, a'u hoedrannau.
33. Mewn perthynas ag unrhyw berson, ac eithrio'r unigolyn cyfrifol neu, os yw'n berthnasol, y person â chyfrifoldeb, sy'n gofalu neu sydd i ofalu am y plant y darperir neu y bwriedir darparu gofal dydd iddynt—
(a)enw'r person (ac unrhyw enw arall ac enw blaenorol) a'i ddyddiad geni;
(b)dyletswyddau a chyfrifoldebau'r person mewn perthynas â gwaith y person hwnnw.
34. Mewn perthynas ag unrhyw berson, ac eithrio'r unigolyn cyfrifol neu, os yw'n berthnasol, y person â chyfrifoldeb, sy'n gofalu neu sydd i ofalu am y plant y darperir neu y bwriedir darparu gofal dydd iddynt—
(a)pa un a yw'r person yn preswylio, neu a fwriedir iddo breswylio yn y fangre ai peidio;
(b)os yw'r person yn berthynas i'r ceisydd, natur y berthynas honno gyda'r ceisydd;
(c)pa un a yw'r person yn gweithio, neu a fwriedir iddo weithio, ar sail amser llawn ynteu ar sail ran-amser, ac os ar sail ran-amser, y nifer o oriau bob wythnos y bwriedir i'r person hwnnw weithio;
(ch)y dyddiad y dechreuodd y person weithio, neu y bwriedir iddo ddechrau gweithio;
(d)gwybodaeth ynghylch cymwysterau, profiad a sgiliau'r person hwnnw, i'r graddau y mae'n berthnasol i'r gwaith sydd i'w gyflawni gan y person hwnnw;
(dd)datganiad gan y ceisydd i'r perwyl ei fod wedi ei fodloni ynghylch dilysrwydd y cymwysterau ac wedi gwirio'r profiad a'r sgiliau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (d);
(e)datganiad gan y ceisydd ynghylch—
(i)addasrwydd cymwysterau'r person ar gyfer y gwaith y bwriedir i'r person ei gyflawni,
(ii)pa un a oes gan y person y sgiliau angenrheidiol ai peidio ar gyfer gwaith o'r fath,
(iii)addasrwydd y person i weithio gyda phlant o dan wyth mlwydd oed a bod mewn cysylltiad â phlant o'r fath yn rheolaidd;
(f)datganiad gan y person ynglŷn â chyflwr ei iechyd corfforol a meddyliol;
(ff)datganiad gan y ceisydd i'r perwyl bod y person yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol ar gyfer y gwaith y bwriedir i'r person hwnnw ei gyflawni;
(g)datganiad gan y ceisydd i gadarnhau pa un a fodlonwyd ef ai peidio ynghylch dilysrwydd hunaniaeth y person, ac yn nodi'r dull a ddefnyddiodd y ceisydd i fodloni ei hunan ynglŷn â hynny, a pha un a yw'r ceisydd wedi cael copi o dystysgrif geni'r person ai peidio;
(ng)cadarnhad gan y ceisydd bod ganddo ffotograff diweddar o'r person;
(h)datganiad gan y ceisydd i'r perwyl ei fod wedi cael—
(i)dau eirda mewn perthynas â'r person, a bod y ceisydd wedi ei fodloni ynghylch dilysrwydd y geirdaon hynny,
(ii)hanes cyflogaeth llawn, ynghyd ag esboniad ysgrifenedig boddhaol o unrhyw fylchau yng nghyflogaeth y person;
(iii)os oedd cyflogaeth neu swydd flaenorol y person yn cynnwys gweithio gyda phlant, cadarnhad, i'r graddau y bo'n rhesymol ymarferol, o'r rheswm pam y daeth y gyflogaeth neu'r swydd honno i ben.
35. Enw llawn (ac unrhyw enw arall ac enw blaenorol), dyddiad geni a chyfeiriad pob person (ac eithrio'r ceisydd a pherson a grybwyllir ym mharagraffau 24, 25 a 33) sydd wedi cyrraedd 16 mlwydd oed, yn gweithio yn y fangre berthnasol ac yn dod, neu'n debygol o ddod, i gysylltiad rheolaidd â phlant perthnasol.
36. At ddibenion paragraff 35 mae person sy'n gweithio yn y fangre berthnasol yn cynnwys person sy'n gweithio ar sail wirfoddol.
37. Enw llawn (ac unrhyw enw arall ac enw blaenorol), a dyddiad geni pob person sydd wedi cyrraedd 16 mlwydd oed, yn byw yn y fangre berthnasol ac yn dod, neu'n debygol o ddod, i gysylltiad rheolaidd â phlant perthnasol.
38. Tystysgrif geni'r ceisydd, a phan fo'n berthnasol tystysgrifau geni'r unigolyn cyfrifol a'r person â chyfrifoldeb.
39. Prawf o hunaniaeth y ceisydd, a phan fo'n briodol, o hunaniaeth yr unigolyn cyfrifol a'r person â chyfrifoldeb gan gynnwys ffotograffau diweddar.
40. Tystysgrifau neu dystiolaeth addas arall o gymwysterau proffesiynol neu dechnegol y ceisydd, a phan fo'n briodol, yr unigolyn cyfrifol a'r person â chyfrifoldeb, i'r graddau y mae cymwysterau o'r fath yn berthnasol i ofalu am blant sydd o dan wyth mlwydd oed.
41. Tystysgrif o yswiriant yr ymgeisydd rhag atebolrwydd y gellid ei achosi i'r person hwnnw mewn perthynas â marwolaeth, anaf, atebolrwydd cyhoeddus, difrod neu golled arall mewn cysylltiad â'r ddarpariaeth arfaethedig o ofal dydd.
42.—(1) Datganiad ysgrifenedig gan y ceisydd yn cadarnhau—
(a)mewn perthynas â phob person, ac eithrio'r ceisydd, sy'n gofalu, neu y bwriedir iddo ofalu, am y plant y darperir gofal dydd iddynt, bod–
(i)tystysgrif cofnod troseddol fanylach wedi ei dyroddi; a
(ii)cofrestriad gydag ADA wedi ei gwblhau a bod y ceisydd wedi cael rhif cofrestru ADA y person hwnnw; a
(b)y bydd y ceisydd yn rhoi'r tystysgrifau a ddyroddwyd felly, a'r rhifau cofrestru a ddyrannwyd, ar gael i'w harchwilio gan Weinidogion Cymru os gofynnir amdanynt gan Weinidogion Cymru.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), datganiad ysgrifenedig gan y ceisydd yn cadarnhau—
(a)mewn perthynas â phob person a grybwyllir ym mharagraffau 35 i 37, bod—
(i)tystysgrif cofnod troseddol fanylach wedi ei dyroddi; a
(ii)pan fo'n briodol, cofrestriad gydag ADA wedi ei gwblhau a bod y ceisydd wedi cael rhif cofrestru ADA y person hwnnw; a
(b)y bydd y ceisydd yn rhoi'r tystysgrifau a ddyroddwyd felly, a'r rhifau cofrestru a ddyrannwyd, ar gael i'w harchwilio gan Weinidogion Cymru os gofynnir amdanynt gan Weinidogion Cymru.
(3) Pan fo rheoliad 20(5) yn gymwys, ac nad oes awdurdod gan y ceisydd i gael y cyfryw wybodaeth neu ddogfen, datganiad ysgrifenedig gan y ceisydd y caiff y personau a grybwyllir ym mharagraffau 35 i 37 eu goruchwylio'n briodol ar bob achlysur pan fo unrhyw berson o'r fath yn dod i gysylltiad â phlentyn neu blant perthnasol.
43. Os yw'r ceisydd yn sefydliad, copïau o'r ddau adroddiad blynyddol diwethaf yr oedd yn ofynnol eu paratoi.
44. Pan fo'r sefydliad yn is-gwmni i gwmni daliannol, y ddau adroddiad blynyddol diwethaf (os oes rhai) ar gyfer y cwmni daliannol ac unrhyw is-gwmni arall y cwmni daliannol hwnnw.
45. Cyfrifon blynyddol diwethaf y sefydliad, os oes rhai.
46.—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), adroddiad gan ymarferydd meddygol cofrestredig ynglŷn â pha un a yw'r ceisydd, a phan fo'n briodol, yr unigolyn cyfrifol a'r person â chyfrifoldeb yn ffit ai peidio yn gorfforol ac yn feddyliol i ofalu am blant o dan wyth mlwydd oed.
(2) Os nad oes modd i berson a grybwyllir yn is-baragraff (1) gael yr adroddiad y cyfeirir ato yn yr is-baragraff hwnnw, datganiad gan y person hwnnw ynglŷn â chyflwr ei iechyd corfforol a meddyliol.
Rheoliad 30
1. Enw, cyfeiriad a rhif teleffon y person cofrestredig, yr unigolyn cyfrifol a phob person arall sy'n byw, yn gweithio neu a gyflogir yn y fangre berthnasol .
2. Enw, cyfeiriad cartref a rhif teleffon unrhyw berson arall a ddaw i gysylltiad â'r plant perthnasol yn rheolaidd heb oruchwyliaeth.
3. Enw, cyfeiriad cartref, dyddiad geni a rhyw pob plentyn perthnasol.
4. Mewn perthynas â phob plentyn perthnasol, enw, cyfeiriad a rhif teleffon rhiant.
5. Mewn perthynas â phob plentyn perthnasol, enw a chyfeiriad yr ymarferydd meddygol cofrestredig y cofrestrwyd y plentyn gydag ef.
6. Cofnod dyddiol o enwau'r plant perthnasol, oriau eu presenoldeb ac enwau'r personau a fu'n gofalu amdanynt.
7. Cofnod o ddamweiniau, salwch difrifol a digwyddiadau arwyddocaol eraill a ddigwyddodd yn fangre berthnasol ac a effeithiodd ar les plant perthnasol.
8. Cofnod o unrhyw gynnyrch meddyginiaethol a gafodd ei weini i blentyn perthnasol ar y fangre berthnasol, gan gynnwys y dyddiad a'r amgylchiadau a chan bwy y cafodd y feddyginiaeth ei gweini, a chan gynnwys unrhyw gynhyrchion meddyginiaethol y caniateir i'r plentyn eu gweini ei hunan, ynghyd â chofnod o ganiatâd y rhiant.
9. Unrhyw anghenion dietegol arbennig, neu anghenion iechyd arbennig neu alergedd unrhyw blentyn perthnasol.
10. Datganiad o'r weithdrefn sydd i'w dilyn os digwydd tân neu ddamwain.
11. Datganiad o'r weithdrefn sydd i'w dilyn os oes gan riant gwyn ynglŷn â'r gwasanaeth a ddarperir gan y person cofrestredig.
12. Datganiad o'r trefniadau sydd yn eu lle ar gyfer amddiffyn plant perthnasol, gan gynnwys trefniadau i'w diogelu rhag eu cam-drin neu'u hesgeuluso a'r gweithdrefnau sydd i'w dilyn os gwneir honiadau o gam-drin neu esgeuluso.
13. Datganiad o'r weithdrefn sydd i'w dilyn os digwydd i blentyn perthnasol fynd ar goll neu beidio â chael ei gasglu.
14. Enw, cyfeiriad cartref a rhif teleffon pob aelod cyfredol o'r pwyllgor neu gorff llywodraethu ceisydd sy'n gymdeithas anghorfforedig.
Rheoliad 31
1.—(1) Yn achos gwarchod plant, newid yn y personau canlynol—
(a)unrhyw berson sy'n gofalu am blant yn y fangre berthnasol, neu
(b)unrhyw berson sy'n byw neu a gyflogir yn y fangre honno.
(2) Yr wybodaeth sydd i'w darparu yw enw llawn y person newydd ynghyd ag unrhyw enwau blaenorol neu enwau eraill, cyfeiriad ei gartref a'i ddyddiad geni.
2.—(1) Yn achos gofal dydd, newid yn y personau canlynol—
(a)unrhyw berson â chyfrifoldeb,
(b)unrhyw un sy'n gofalu am blant yn y fangre berthnasol,
(c)unrhyw un sy'n byw neu'n gweithio yn y fangre honno (ar yr amod nad yw personau i'w trin fel pe baent yn gweithio yn y fangre at ddibenion y paragraff hwn os na wnânt ddim o'u gwaith yn y rhan o'r fangre lle y gofelir am blant, neu os nad ydynt yn gweithio yn y fangre ar yr adeg y gofelir am blant yno), ac
(ch)pan ddarperir y gofal dydd gan bwyllgor neu gorff corfforaethol neu anghorfforedig, y Cadeirydd, yr Ysgrifennydd neu'r Trysorydd (neu berson sy'n dal swydd gymaradwy yn y sefydliad).
(2) Yr wybodaeth sydd i'w darparu yw enw llawn y person newydd ynghyd ag unrhyw enwau blaenorol neu enwau eraill, cyfeiriad ei gartref a'i ddyddiad geni.
3. Unrhyw newid—
(a)yn enw neu gyfeiriad cartref y person cofrestredig neu'r personau hynny a ddisgrifir ym mharagraff 1(1) neu baragraff 2(1)(a) i (c); neu
(b)yn enw neu gyfeiriad y swyddfa gofrestredig neu'r brif swyddfa, pan fo'r person cofrestredig yn sefydliad.
4. Unrhyw newid yn y math o ofal a ddarperir gan y person cofrestredig.
5. Yn achos gofal dydd, unrhyw newid yn y cyfleusterau sydd i'w defnyddio ar gyfer gofal dydd yn y fangre berthnasol, gan gynnwys newidiadau yn nifer yr ystafelloedd, eu swyddogaethau, nifer y toiledau a'r basnau ymolchi, unrhyw gyfleusterau ar wahân ar gyfer gweithwyr sy'n oedolion a mynediad i'r fangre ar gyfer ceir.
6. Unrhyw newid yn yr oriau pan ddarperir gofal dydd neu pan warchodir plant.
7. Unrhyw achos yn y fangre berthnasol o glefyd heintus sydd, ym marn unrhyw ymarferydd meddygol cofrestredig sy'n gweld plentyn neu berson arall yn y fangre, yn ddigon difrifol i adrodd amdano felly, neu anaf difrifol, neu salwch difrifol neu farwolaeth unrhyw blentyn neu berson arall yn y fangre.
8. Unrhyw honiadau o niwed difrifol a wnaed i blentyn, gan unrhyw berson sy'n gofalu am blant perthnasol yn y fangre, neu gan unrhyw berson sy'n byw neu'n gweithio, neu a gyflogir, yn y fangre, neu unrhyw gamdriniaeth yr honnir iddi ddigwydd yn y fangre.
9. Unrhyw ddigwyddiad arall a allai effeithio ar addasrwydd y person cofrestredig i ofalu am blant, neu addasrwydd unrhyw berson sy'n byw neu'n gweithio neu a gyflogir yn y fangre, i fod mewn cysylltiad rheolaidd â phlant.
10. Unrhyw ddigwyddiad arwyddocaol arall sy'n debygol o effeithio ar les unrhyw blentyn yn y fangre.
Rheoliad 47
1. Yn rheoliad 2(1) (dehongli) o Reoliadau 2002–
(a)hepgorer y diffiniad o “the 1989 Act”;
(b)yn y diffiniad o “appropriate office of the National Assembly” hepgorer paragraff (d);
(c)yn y diffiniad o “organisation” hepgorer y geiriau “and” ymlaen i'r diwedd;
(ch)hepgorer y diffiniad o “the Part XA Regulations”;
(d)hepgorer y diffiniad o “person in charge”;
(dd)yn y diffiniad o “registration” hepgorer y geiriau “or Part XA” ymlaen i'r diwedd;
(e)yn y diffiniad o “statement of purpose” hepgorer paragraff (d).
Rheoliad 48
Colofn 1 | Colofn 2 | Colofn 3 |
---|---|---|
Offeryn a ddirymwyd | Cyfeirnod | Maint y dirymiad |
Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2002 | OS 2002/812 (Cy.92) | Y cyfan o'r Rheoliadau |
Rheoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002 | OS 2002/919 (Cy. 107) | Rheoliadau 16, 17 ac 18 ac Atodlenni 7 ac 8. |
Rheoliadau Deddf Plant 1989 a Deddf Safonau Gofal 2000 (Rheoliadau Amrywiol) (Diwygio) (Cymru) 2002 | OS 2002/2622 (Cy.254) | Rheoliad 6 |
Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Diwygio) (Cymru) 2003 | OS 2003/2708 (Cy.259) | Y cyfan o'r Rheoliadau |
Rheoliadau Atal Dros Dro Ddarparwyr Gofal Dydd a Gwarchodwyr Plant (Cymru) 2004 | OS 2004/3282 ( Cy.285) | Y cyfan o'r Rheoliadau (gydag arbedion) |
Rheoliadau Deddf Safonau Gofal 2000 a Deddf Plant 1989 (Diwygio Rheoliadau Amrywiol) (Cymru) 2004 | OS 2004/2414 (Cy.222) | Rheoliad 7 |
Rheoliadau Gofal Dydd (Eu Cymhwyso i Ysgolion) (Cymru) 2005 | OS 2005/118 (Cy.10) | Y cyfan o'r Rheoliadau |
Rheoliadau Deddf Safonau Gofal 2000 a Deddf Plant 1989 (Diwygio Rheoleiddiol a Chwynion) (Cymru) 2006 | OS 2006/3251 (Cy.295) | Rheoliad 4 |
Rheoliadau Atal Dros Dro Ddarparwyr Gofal Dydd a Gwarchodwyr Plant (Cymru) (Diwygio) 2008 | OS 2008/2689 (Cy.238) | Y cyfan o'r Rheoliadau |
Rheoliadau Deddf Plant 1989, Deddf Safonau Gofal 2000 a Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2009 | OS 2009/2541 (Cy.205) | Rheoliad 2 |
Rheoliadau Deddf Plant 1989 (Diwygio Rheoliadau Amrywiol) (Rhif 2) (Cymru) 2009 | OS 2009/3265 (Cy.286) | Rheoliad 2 |
Mae'r gofyniad ar i bersonau sy'n ymgymryd â gweithgarwch a reoleiddir mewn lleoliadau gofal plant gofrestru gydag ADA o dan y Cynllun Fetio a Gwahardd yn cael ei weithredu fesul cam, yn unol â Rheoliadau a wnaed o dan Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 (p.47). Mewn perthynas â hyn, rhaid dehongli'r ymadrodd “pan fo'n briodol” yn unol â'r gofyniad sydd ar y person i gofrestru gydag ADA, fel a esbonnir yn y Vetting and Barring Scheme Guidance (ISBN - 978 - 1 - 84987 - 2020 7) a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Gartref ym Mawrth 2010.

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: