- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU
Gwnaed
21 Hydref 2010
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
25 Hydref 2010
Yn dod i rym
1 Rhagfyr 2010
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynlluniau Lleoli Oedolion (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2010 a deuant i rym ar 1 Rhagfyr 2010.
(2) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “y Prif Reoliadau” yw Rheoliadau Cynlluniau Lleoli Oedolion (Cymru) 2004(3).
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2. Yn y Rheoliadau hyn, oni fo'r cyd-destun yn mynnu fel arall, mae unrhyw gyfeiriad at reoliad â rhif yn gyfeiriad at y rheoliad sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y Prif Reoliadau ac mae unrhyw gyfeiriad mewn rheoliad at baragraff â rhif yn gyfeiriad at y paragraff yn y rheoliad hwnnw sy'n dwyn y rhif hwnnw.
3.—(1) Mae'r Prif Reoliadau wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2 (Dehongli) paragraff (1)—
(a)yn lle'r diffiniad o “cynllun lleoli oedolion” rhodder—
ystyr “cynllun lleoli oedolion” (“adult placement scheme”) yw cynllun y gwneir trefniadau oddi tano, neu y bwriedir gwneud trefniadau oddi tano, i ddim mwy na thri oedolyn gael llety a chael gofal personol yng nghartref person nad yw'n berthynas iddynt;”;
yn y diffiniad o “perthynas”, hepgorer is-baragraff (ch).
4. Mae rheoliadau 46 a 47 o Reoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002(4) wedi eu hepgor.
Gwenda Thomas
Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
21 Hydref 2010
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud dau ddiwygiad i Reoliadau Cynlluniau Lleoli Oedolion (Cymru) 2004 (“y Prif Reoliadau”).
Yn gyntaf, mae'r diffiniad o “cynllun lleoli oedolion” wedi ei ddiwygio i godi nifer mwyaf yr oedolion y caniateir eu lleoli gyda gofalwr lleoliad oedolion o dan gynllun lleoli oedolion o ddau i dri.
Yn ail, mae'r diffiniad o “perthynas” yng nghyswllt oedolyn a leolir o dan y cynllun wedi ei ddiwygio er mwyn tynnu ohono gyn ofalwr maeth a roddodd lety i'r oedolyn hwnnw. Effaith y diwygiad hwn yw dod â lleoliadau gyda chyn ofalwyr maeth o fewn cwmpas cynlluniau lleoli oedolion.
Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002 drwy hepgor rheoliadau 46 a 47. Effaith y diwygiad hwn yw na fydd cartrefi gofal bychain lle y mae'r darparwr yn “ofalwr lleoliad oedolion” (fel y diffinnir yr ymadrodd yn rheoliad 46 o Reoliadau 2002) yn ddarostyngedig mwyach i'r gyfundrefn reoleiddiol “ysgafn ei chyffwrdd” (fel y'i disgrifir yn rheoliad 47 o Reoliadau 2002) ac y byddant yn ddarostyngedig i'r un rheoliadau â chartrefi gofal eraill, onid ydynt wedi eu heithrio rhag cofrestru drwy ddwyn eu hunain o fewn cwmpas y Prif Reoliadau.
Gweler adran 22(9) o Ddeddf Safonau Gofal 2000 am y gofyniad i ymgynghori.
2000 p.14. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan yr adrannau hyn o Ddeddf Safonau Gofal 2000 i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: