
Print Options
PrintThe Whole
Instrument
PrintThis
Testun rhagarweiniol
only
Statws
This is the original version (as it was originally made).
Offerynnau Statudol Cymru
2010 Rhif 2652 (Cy.220)
AMAETHYDDIAETH, CYMRU
Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Cymru) 2010
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
2 Tachwedd 2010
Yn dod i rym
23 Tachwedd 2010
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 66(1), 68(1), 74A(1), (2) a (4) a 84 o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970(); a chan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972() o ran polisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd(), mesurau yn y meysydd milfeddygol a ffytoiechydol i warchod iechyd y cyhoedd() a mesurau sy'n ymwneud â bwyd anifeiliaid a gynhyrchir ar gyfer anifeiliaid sy'n cynhyrchu bwyd neu a borthir iddynt(), fel y'i darllenir gyda pharagraff 1A o Atodlen 2 i'r Ddeddf honno.
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer diben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972, ac ymddengys i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i gyfeiriadau at yr Atodiadau i'r offerynnau UE a grybwyllir yn rheoliad 2(3) gael eu dehongli fel cyfeiriadau at yr Atodiadau hynny fel y'u diwygir o bryd i'w gilydd.
Cafwyd ymgynghoriad cyhoeddus agored a thryloyw yn ystod paratoi'r Rheoliadau hyn yn unol â gofynion Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd() neu, yn achos darpariaethau sy'n ymwneud â bwyd anifeiliaid ar gyfer anifeiliaid nad ydynt yn cynhyrchu bwyd, yn unol â gofynion adran 84(1) o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970.
Back to top