Search Legislation

Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) (Diwygio) 2010

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2010 Rhif 2713 (Cy.229)

ANIFEILIAID, CYMRU

LLES ANIFEILIAID

Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) (Diwygio) 2010

Gwnaed

9 Tachwedd 2010

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1

Gweinidogion Cymru yw'r awdurdod cenedlaethol priodol o ran Cymru at ddibenion Deddf Lles Anifeiliaid 2006(1) ac maent wedi'u dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin yr Undeb Ewropeaidd(3).

Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â'r personau y cyfeirir atynt yn adran 12(6) o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006.

Yn unol ag adran 61(2) o'r Ddeddf honno, mae drafft o'r Rheoliadau hyn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 12(1), (2) a (3) o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006 ac adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972.

Enwi a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) (Diwygio) 2010; deuant i rym trannoeth y diwrnod y'u gwneir.

Diwygio Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2007

2.  Diwygir Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2007(4) yn unol â rheoliadau 3 i 8.

Diwygio rheoliad 2 (diffiniadau a dehongli)

3.—(1Yn rheoliad 2(1)—

(a)yn y mannau priodol yn nhrefn yr wyddor, mewnosoder—

  • mae i “gweithredydd busnes bwyd” yr ystyr a roddir i (“food business operator”) gan Erthygl 3 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(5);

  • ystyr “iâr fwyta a fegir yn gonfensiynol” (“conventionally reared meat chicken”) yw anifail o'r rhywogaeth Gallus gallus a gedwir i gynhyrchu cig, ac eithrio—

    (a)

    un sydd ar ddaliad gyda llai na 500 anifail o'r fath neu gyda stoc bridio yn unig o anifeiliaid o'r fath;

    (b)

    un sydd ar ddeorfa;

    (c)

    un y gellir defnyddio'r term “Megir yn helaeth dan do (mewn cytiau)”, (“Extensive indoor (barn-reared)”), “Iâr fuarth” (“Free range”), “Iâr fuarth – dull traddodiadol” (“Traditional free range”) neu “Iâr fuarth – dull hollol rydd” (“Free range – total freedom”) o fewn ystyr pwynt (b), (c), (d) neu (e) o Atodiad V i Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 543/2008 sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007 parthed y safonau marchnata ar gyfer cig dofednod(6); neu

    (ch)

    un a fagwyd yn organig yn unol â Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 834/2007 ar gynhyrchu organig a labelu cynhyrchion organig ac sy'n dirymu Rheoliad (EEC) Rhif 2092/91(7);;

(b)yn y diffiniad o “llaesodr” (“litter”) ar ôl y geiriau “ieir dodwy” mewnosoder “ac ieir bwyta a fegir yn gonfensiynol” ac yn lle'r geiriau “galluogi'r ieir” rhodder y geiriau “galluogi'r adar hynny”;

(c)ar ôl y diffiniad o “ceidwad” (“keeper”), mewnosoder—

  • ystyr “dwysedd stocio” (“stocking density”) mewn perthynas ag unrhyw gwt lle cedwir ieir bwyta a fegir yn gonfensiynol, yw cyfanswm pwysau yn fyw yr ieir sy'n bresennol yn y cwt ar yr un pryd i'r m2 o'r lle y gellir ei ddefnyddio;; ac

(ch)yn y diffiniad o “lle y gellir ei ddefnyddio” (“usable area”)—

(i)ar ôl “(“usable area”)” mewnosoder “, mewn perthynas ag ieir sy'n dodwy, ”,

(ii)ar y diwedd, mewnosoder “, neu, mewn perthynas ag ieir bwyta a fegir yn gonfensiynol, unrhyw le dan laesodr y gall yr ieir gael ato ar unrhyw adeg”.

(2Yn rheoliad 2(2) ar ôl is-baragraff (a), mewnosoder—

(aa)mewn perthynas ag ieir bwyta a fegir yn gonfensiynol, Cyfarwyddeb y Cyngor 2007/43/EC yn gosod rheolau gofynnol ar gyfer diogelu ieir a gedwir i gynhyrchu cig(8)..

Diwygio rheoliad 5 (dyletswyddau ychwanegol ar bersonau sy'n gyfrifol am ddofednod, ieir dodwy, lloi, gwartheg, moch neu gwningod)

4.—(1Yn rheoliad 5(1)(a), ar ôl “Atodlenni 2 i 4”, mewnosoder “ac ieir bwyta a fegir yn gonfensiynol”.

(2Yn rheoliad 5(1), ar ôl is-baragraff (b) mewnosoder—

(ba)ieir bwyta a fegir yn gonfensiynol gydymffurfio â Rhan 2 o Atodlen 5A;.

(3Ar ôl rheoliad 5(3), mewnosoder—

(4) Mae Rhan 1 o Atodlen 5A yn effeithiol..

Mewnosod rheoliad 5A

5.  Ar ôl rheoliad 5 mewnosoder—

Monitro a gwaith dilynol yn y lladd-dy

5A.  Mae Rhan 3 o Atodlen 5A yn effeithiol..

Diwygio rheoliad 7 (tramgwyddau)

6.—(1Yn rheoliad 7 ail rifer y ddarpariaeth bresennol yn baragraff (1).

(2Ar ôl paragraff (1) (wedi ei ail rifo felly) ychwaneger—

(2) Mae gweithredydd busnes bwyd sydd, heb awdurdod cyfreithiol neu esgus cyfreithiol, yn methu â chydymffurfio â dyletswydd ym mharagraff 14(2) o Atodlen 5A, yn cyflawni tramgwydd..

Diwygio Atodlen 1 (amodau cyffredinol y mae'n rhaid cadw anifeiliaid a ffermir odanynt)

7.  Yn Atodlen 1—

(a)ym mharagraff 2(3) ar ôl paragraff (a) mewnosoder—

(aa)yn achos ieir bwyta a fegir yn gonfensiynol, paragraff 11(1) a (2) o Atodlen 5A;;

(b)ym mharagraff 5, cyn y geiriau “Rhaid gofalu” mewnosoder “Heb ragfarnu paragraff 11(3) o Atodlen 5A”;

(c)ym mharagraff 7—

(i)yn is-baragraff (b)(ii), hepgorer “neu” yr ail waith y digwydd;

(ii)yn is-baragraff (b)(iii), hepgorer “neu”;

(iii)ar ôl is-baragraff (b)(iii), mewnosoder—

(iiia)yn achos ieir bwyta a fegir yn gonfensiynol, paragraff 11(1) a (2) o Atodlen 5A; neu.

Mewnosod Atodlen 5A (amodau ychwanegol sy'n gymwys mewn perthynas ag ieir bwyta a fegir yn gonfensiynol)

8.  Ar ôl Atodlen 5 i Reoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2007, mewnosoder yr Atodlen a osodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.

Elin Jones

Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

9 Tachwedd 2010

Rheoliad 8

YR ATODLENMewnosod Atodlen 5A i Reoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2007

Ar ôl Atodlen 5, mewnosoder—

Rheoliadau 5 a 5A

ATODLEN 5AAmodau ychwanegol sy'n gymwys mewn perthynas ag ieir bwyta a fegir yn gonfensiynol

RHAN 1Dehongli

Dehongli

1.  Yn yr Atodlen hon—

  • ystyr “ceidwad” (“keeper”) yw unrhyw berson sy'n gyfrifol am ieir neu sydd â gofal dros ieir yn nhermau contract neu yn ôl y gyfraith p'un ai ar sail barhaol yntau dros dro;

  • ystyr “iâr” (“chicken”) yw iâr fwyta a fegir yn gonfensiynol;

  • mae i “milfeddyg swyddogol” yr un ystyr ag sydd i (“official veterinarian”) yn Rheoliad 854/2004;

  • ystyr “Rheoliad 853/2004” (“Regulation 853/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy'n dod o anifeiliaid(9);

  • ystyr “Rheoliad 854/2004” (“Regulation 854/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau penodol ar gyfer trefnu rheolaethau swyddogol ar gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid ac a fwriedir i'w bwyta gan bob(10)).

RHAN 2Amodau ychwanegol cyffredinol

Hyfforddiant

2.(1) Rhaid i geidwad ddal tystysgrif a gydnabyddir gan Weinidogion Cymru at ddibenion Erthygl 4(3) neu (4) o Gyfarwyddeb y Cyngor 2007/43/EC(11) (tystysgrifau cwblhau cyrsiau hyfforddiant neu brofiad cyfatebol).

(2) Rhaid i Weinidogion Cymru, o bryd i'w gilydd ac mewn modd a ystyrir ganddynt yn briodol, gyhoeddi rhestr o dystysgrifau a gydnabyddir gan Weinidogion Cymru at ddibenion is-baragraff (1).

Terfynau dwysedd stocio

3.(1) Oni fo is-baragraff (2) yn gymwys, rhaid i'r dwysedd stocio beidio â bod yn uwch na 33 cilogram i'r m2 o'r lle y gellir ei ddefnyddio.

(2) Caniateir dwysedd stocio uwch na 33 cilogram a hyd at 39 cilogram i'r m2 o'r lle y gellir ei ddefnyddio os cydymffurfir â gofynion paragraff 5.

Hysbysiad o'r dwysedd stocio

4.(1) Rhaid i geidwad sicrhau bod Gweinidogion Cymru yn cael eu hysbysu o'r dwysedd stocio arfaethedig ar gyfer pob cwt y bwriedir cadw ieir ynddo ar ddwysedd uwch na 33 cilogram i'r m2 o'r lle y gellir ei ddefnyddio, ac o unrhyw newid diweddarach i'r dwysedd hysbysedig hwnnw.

(2) Rhaid i'r hysbysiad fod yn y cyfryw ddull a ffurf ag y dichon fod yn ofynnol gan Weinidogion Cymru.

(3) Rhaid rhoi hysbysiad (gan gynnwys hysbysiad o unrhyw newid) o leiaf 15 diwrnod gwaith cyn bod stocio ar y dwysedd hwnnw neu ddwysedd wedi newid yn digwydd.

(4) Yn y paragraff hwn ystyr “diwrnod gwaith” yw diwrnod heblaw dydd Sadwrn neu ddydd Sul, Dydd Nadolig, Dydd Gwener y Groglith neu ddiwrnod sydd yn ŵyl y Banc yng Nghymru a Lloegr o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971(12).

Y gofynion ar gyfer dwyseddau stocio uwch

5.  Gofynion y paragraff hwn yw bod rhaid i'r ceidwad—

(a)cynnal a chadw ac, os gofynnir iddo wneud hynny, peri bod dogfennau ar gael i Weinidogion Cymru yn y cwt yn disgrifio'n fanwl y systemau cynhyrchu, ac yn benodol yn rhoi gwybodaeth ar fanylion technegol y cwt a'r offer ynddo, gan gynnwys—

(i)plan o'r cwt gan gynnwys mesurau'r arwynebeddau y mae'r ieir yn eu meddiannu;

(ii)gwyntylliad ac unrhyw system oeri a chynhesu berthnasol (gan gynnwys eu lleoliad), a phlan gwyntyllu, sy'n dangos paramedrau ansawdd aer yr anelir atynt (megis y llif aer, cyflymder yr aer a thymheredd);

(iii)systemau bwydo a dyfrio (a'u lleoliadau);

(iv)systemau larwm ac wrth gefn os digwydd i unrhyw offer sy'n hanfodol er iechyd a lles yr ieir dorri i lawr;

(v)math y llawr a'r llaesodr a ddefnyddir fel rheol; a

(vi)cofnodion o archwiliadau technegol o'r systemau gwyntyllu a'r systemau larwm;

(b)peri bod y dogfennau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (a) yn cael eu cadw'n gyfredol;

(c)sicrhau bod yna offer gwyntyllu ym mhob cwt ac, os oes angen, systemau gwresogi ac oeri sydd wedi'u dylunio, wedi'u hadeiladu ac yn cael eu gweithredu yn y fath fodd—

(i)fel nad yw'r dwysedd o amonia yn uwch na 20 rhan i'r filiwn ac nad yw dwysedd y carbon deuocsid yn uwch na 3,000 rhan i'r filiwn wrth gael ei fesur ar lefel pennau'r ieir;

(ii)pan fo'r tymheredd y tu allan wrth gael ei fesur yn y cysgod yn uwch na 30°C, nad yw'r tymheredd y tu mewn yn uwch na'r tymheredd y tu allan o fwy na 3°C; a

(iii)pan fo'r tymheredd y tu allan islaw 10°C, nad yw'r lleithder cymharol cyfartaledig pan gaiff ei fesur y tu mewn i'r cwt yn ystod cyfnod parhaus o 48 awr yn uwch na 70%.

Diod a bwyd anifeiliaid

6.(1) Rhaid i ddalwyr diod fod wedi'u lleoli a bod yn cael eu cynnal a'u cadw yn y fath fodd fel mai'r ychydig lleiaf sy'n gorlifo ohonynt.

(2) Rhaid i fwyd anifeiliaid fod ar gael naill ai yn barhaus neu ar adegau bwydo.

(3) Rhaid peidio â rhoi'r gorau i fwydo'r ieir â bwyd anifeiliaid fwy na 12 awr cyn amser disgwyliedig eu cigydda.

Llaesodr

7.  Rhaid i bob iâr fedru cael at laesodr bob amser sy'n sych ac yn hyfriw ar yr wyneb.

Gwyntyllu a gwresogi

8.(1) Rhaid i'r gwyntyllu fod yn ddigonol i osgoi gorboethi.

(2) Rhaid i wyntyllu, o'i gyfuno â'r systemau awyru, fod yn ddigonol i gael gwared â gorleithder.

Sŵn

9.  Ym mhob cwt—

(a)rhaid i lefel y sŵn fod ar ei isaf posibl; a

(b)rhaid i ffaniau gwyntyllu, peirianwaith bwydo neu beirianwaith arall fod wedi eu hadeiladu a'u lleoli, ac yn cael eu gweithredu a'u cynnal a'u cadw yn y fath fodd fel eu bod yn peri cyn lleied o sŵn ag sy'n bosibl.

Golau

10.(1) Rhaid bod golau ym mhob cwt a'i ddwyster yn o leiaf 20 lux yn ystod y cyfnodau goleuo, o'i fesur ar lefel llygad yr adar ac sy'n goleuo o leiaf 80% o'r lle y gellir ei ddefnyddio.

(2) Caniateir gostyngiad dros dro o'r lefel hwnnw o oleuo pan fo angen yn dilyn cyngor milfeddygol.

(3) O fewn 7 diwrnod o'r adeg pan gaiff yr ieir eu rhoi yn y cwt a hyd 3 diwrnod cyn adeg ddisgwyliedig eu cigydda, rhaid i'r golau ddilyn rhythm 24 awr a rhaid iddo gynnwys cyfnodau o dywyllwch sy'n para am gyfanswm o o leiaf 6 awr, gydag o leiaf un cyfnod di-dor o dywyllwch o o leiaf 4 awr, heb gynnwys cyfnodau pylu.

Arolygu

11.(1) Rhaid i geidwad sicrhau bod yr holl ieir a gedwir ar y daliad yn cael eu harolygu o leiaf ddwywaith y dydd.

(2) Rhaid talu sylw arbennig i arwyddion sy'n dynodi gostyngiad yn safon iechyd neu les yr anifeiliaid.

(3) Rhaid i ieir sydd wedi'u hanafu'n ddifrifol neu sy'n dangos arwyddion amlwg o afiechyd (gan gynnwys y rheini sy'n cael anhawster i gerdded, rhai â dropsi'r bol difrifol neu rhai sydd â chamffurfiadau difrifol), ac sy'n debygol o ddioddef, gael triniaeth briodol neu gael eu difa'n syth.

Glanhau

12.  Wedi diboblogi cwt yn derfynol a chyn cyflwyno haid newydd—

(a)rhaid glanhau'n llwyr a diheintio unrhyw ran o gwt, ac unrhyw gyfarpar neu declyn a fu mewn cysylltiad â'r ieir; a

(b)rhaid clirio ymaith bob llaesodr a gosod llaesodr lân.

Cadw cofnodion

13.(1) Rhaid i geidwad gadw cofnod ar gyfer bob cwt—

(a)o nifer yr ieir a gyflwynir iddo;

(b)o'r lle y gellir ei ddefnyddio;

(c)o groesryw neu frîd yr ieir (os yw'n hysbys);

(ch)o nifer yr ieir a gafwyd yn farw, gan nodi achosion y farwolaeth (os yw'n hysbys), ynghyd â nifer yr ieir a gafodd eu difa, gyda'r achos, ar bob arolygiad; a

(d)o nifer yr ieir sydd ar ôl yn yr haid wedi symud ieir ymaith i'w gwerthu neu i'w cigydda.

(2) Rhaid dal gafael ar y cofnod am o leiaf 3 blynedd.

RHAN 3Monitro a gwaith dilynol yn y lladd-dy

Gwybodaeth y gadwyn fwyd ac ieir sy'n farw'n cyrraedd

14.(1) At ddibenion Adran III (gwybodaeth y gadwyn fwyd) o Atodiad II i Reoliad 853/2004, caiff y gyfradd farwolaeth ddyddiol a'r gyfradd farwolaeth ddyddiol gronnus a chroesryw neu frîd yr ieir o haid gyda dwysedd stocio uwch na 33 cilogram i'r m2 o'r lle y gellir ei ddefnyddio eu trin fel gwybodaeth iechyd bwyd berthnasol.

(2) Rhaid i weithredydd busnes bwyd sy'n rhedeg lladd-dy—

(a)o dan arolygiaeth y milfeddyg swyddogol, gofnodi nifer yr ieir o haid o'r fath sy'n farw pan fyddant yn cyrraedd y lladd-dy; a

(b)rhoi'r wybodaeth honno i'r milfeddyg swyddogol os gofynnir amdani.

(3) Yn y paragraff hwn—

  • ystyr “y gyfradd farwolaeth ddyddiol” (“daily mortality rate”) yw nifer yr ieir mewn cwt sydd wedi marw ar yr un diwrnod gan gynnwys y rheini a gafodd eu difa naill ai oherwydd afiechyd neu am resymau eraill, wedi ei rannu wrth nifer yr ieir sydd yn y cwt ar y diwrnod hwnnw, a'i luosi wrth 100;

  • ystyr “y gyfradd farwolaeth ddyddiol gronnus” (“cumulative daily mortality rate”) yw cyfanswm y cyfraddau marwolaeth dyddiol.

Canfod amodau lles gwael a gwaith dilynol

15.(1) Rhaid i filfeddyg swyddogol sy'n cyflawni rheolaethau o dan Reoliad 854/2004 mewn cysylltiad ag ieir werthuso canlyniadau'r arolygiad post-mortem er mwyn canfod arwyddion posibl o amodau lles gwael ar eu daliad neu yn eu cwt gwreiddiol.

(2) Os yw cyfradd marwolaeth yr ieir neu ganlyniadau'r arolygiad post-mortem yn gyson ag amodau lles anifeiliaid gwael, rhaid i'r milfeddyg swyddogol hysbysu'r data hwnnw i geidwad yr ieir hynny ac i Weinidogion Cymru yn ddi-oed..

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2007 (O.S. 2007/3070 (Cy.264)) er mwyn rhoi ei heffaith i Gyfarwyddeb y Cyngor 2007/43/EC sy'n gosod rheolau gofynnol ar gyfer diogelu ieir a gedwir i gynhyrchu cig (OJ Rhif L 182, 12.7.07, t.19).

Dyma'r diwygiadau i Reoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2007.

Diwygir rheoliad 2 (darpariaeth ddiffiniadau a dehongli), gan gynnwys mewnosod diffiniadau o “iâr fwyta a fegir yn gonfensiynol” (sy'n cwmpasu ieir a gedwir i gynhyrchu cig, ac eithrio'r rheini ar ddaliadau o lai na 500 o ieir neu sy'n cadw stoc bridio yn unig, sydd ar ddeorfeydd, neu a fegir mewn cytiau, neu sy'n ieir buarth neu wedi'u cynhyrchu'n organig), “gweithredydd busnes bwyd” a “dwysedd stocio” (rheoliad 3).

Diwygir rheoliad 5 (dyletswyddau ychwanegol ar bersonau sy'n gyfrifol) i ddarparu ei bod yn ofynnol i bersonau sy'n gyfrifol am ieir bwyta a fegir yn gonfensiynol gydymffurfio â Rhan 2 o Atodlen 5A newydd (rheoliad 4).

Fe ychwanegir rheoliad 5A newydd sy'n rhoi ei heffaith i Ran 3 o'r Atodlen 5A newydd (rheoliad 5).

Mae methu â chydymffurfio â gofynion Rhan 2 o Atodlen 5A yn dramgwydd, a diwygir rheoliad 7 (tramgwyddau), i ddarparu ar gyfer tramgwydd mewn perthynas â mynd yn groes i baragraff 14(2) o Atodlen 5A (rheoliad 6).

Diwygir Atodlen 1 (amodau cyffredinol y mae'n rhaid cadw anifeiliaid fferm odanynt) i gynnwys darpariaethau ynghylch ieir bwyta a fegir yn gonfensiynol (rheoliad 7).

Ychwanegir Atodlen 5A, sy'n gosod amodau ychwanegol sy'n ymwneud ag ieir bwyta a fegir yn gonfensiynol (rheoliad 8).

Gwnaed asesiad effaith rheoleiddiol ar yr effaith y bydd yr offeryn hwn yn ei gael ar gostau busnes ac mae ar gael gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

(3)

O.S. 2005/2766. Yn rhinwedd adrannau 59(1) a 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraffau 28 a 30 o Atodlen 11 iddi, mae swyddogaethau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn arferadwy gan Weinidogion Cymru.

(5)

OJ Rhif L 31, 1.2.02, t.1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 596/2009 (OJ Rhif L 188, 18.7.09, t.14).

(6)

OJ Rhif L 157, 17.6.08, t.46, y gwnaed diwygiadau a chywiriadau iddynt nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(7)

OJ Rhif L 189, 20.7.07, t.1, fel y'i diwygiwyd gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 967/2008 (OJ Rhif L 264, 3.10.08, t.1).

(8)

OJ Rhif L 182, 12.7.07, t.19.

(9)

OJ Rhif L 139, 30.4.04, t.55 (y fersiwn a gywirwyd), fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 558/2010 (OJ Rhif L 159, 25.6.10, t 18).

(10)

OJ Rhif L 139, 30.4.04, t.206 (y fersiwn a gywirwyd), fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 505/2010 (OJ Rhif L 149, 15.6.10, t.1).

(11)

OJ Rhif L182, 12.7.07, t.19.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources