Search Legislation

Gorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening Options

Newidiadau dros amser i: Gorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010

 Help about opening options

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Gorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

Offerynnau Statudol Cymru

2010 Rhif 2839 (Cy.233)

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU

Gorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010

Gwnaed

25 Tachwedd 2010

Yn dod i rym

1 Ebrill 2011

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pŵer yn adran 19(4) a (5) ac adran 74(2) o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010(1).

RHAN 1LL+C

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwysoLL+C

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010, a daw i rym ar 1 Ebrill 2011.

(2Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

(3Yn y Gorchymyn hwn—

  • mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys unrhyw le ac unrhyw gerbyd;

  • ystyr “mangre ddomestig” (“domestic premises”) yw unrhyw fangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu'n bennaf fel annedd breifat;

  • ystyr “Mesur 2010” (“the 2010 Measure”) yw Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010;

  • ystyr “perthynas” (“relative”) yw taid, nain, brawd, chwaer, ewythr neu fodryb (naill ai o waed cyfan neu o hanner gwaed neu drwy briodas neu bartneriaeth sifil) neu lys-riant;

  • mae “rhiant” (“parent”) yn cynnwys person nad yw'n rhiant, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn.

(4Onid yw'n ymddangos bod bwriad i'r gwrthwyneb, mae geiriau yn y ffurf unigol yn cynnwys y ffurf luosog, a geiriau yn y ffurf luosog yn cynnwys y ffurf unigol.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Ergl. 1 mewn grym ar 1.4.2011, gweler ergl. 1(1)

RHAN 2LL+CEithriadau gwarchod plant

2.  Nid yw person sy'n gofalu am blentyn [F1o dan ddeuddeng oed] mewn mangre ddomestig er mwyn gwobr yn gweithredu fel gwarchodwr plant at ddibenion Rhan 2 o Fesur 2010, yn yr amgylchiadau a ddisgrifir [F2yn erthyglau 3 i 7 ac 16 o’r Gorchymyn hwn.] LL+C

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I2Ergl. 2 mewn grym ar 1.4.2011, gweler ergl. 1(1)

3.—(1Nid yw person sy'n gofalu am blentyn yn gweithredu fel gwarchodwr plant os yw'r person hwnnw—LL+C

(i)yn rhiant neu'n berthynas i'r plentyn; neu,

(ii)yn rhiant maeth ar gyfer y plentyn.

(2Yn yr erthygl hon, mae “rhiant maeth” (“foster parent”) yn cynnwys person y lleolwyd plentyn gydag ef, gan awdurdod lleol neu sefydliad gwirfoddol, neu berson sy'n maethu plentyn yn breifat.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Ergl. 3 mewn grym ar 1.4.2011, gweler ergl. 1(1)

4.  Nid yw person yn gweithredu fel gwarchodwr plant os nad yw'r cyfnod, neu gyfanswm y cyfnodau, yn ystod unrhyw un diwrnod pan fo'r person yn gofalu am blant yn fwy na dwy awr.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I4Ergl. 4 mewn grym ar 1.4.2011, gweler ergl. 1(1)

5.—(1Pan fo person sy'n cael ei gyflogi —LL+C

(a)(i)i ofalu am blentyn neu grŵp o siblingiaid ar gyfer rhieni (“y rhieni cyntaf”), neu

(ii)i ofalu am ail blentyn neu grŵp o siblingiaid ar gyfer rhieni (“yr ail rieni”) yn ychwanegol at y plant y gofelir amdanynt ar gyfer y rhieni cyntaf, a

(b)yn gofalu am y plant o dan sylw yn gyfan gwbl neu'n bennaf yng nghartref neu gartrefi'r rhieni cyntaf neu'r ail rieni,

nid yw'n gweithredu fel gwarchodwr plant.

(2Yn yr erthygl hon—

(a)ystyr “cael ei gyflogi” (“employed”) yw cael ei gyflogi naill ai o dan gontract cyflogaeth neu o dan gontract ar gyfer gwasanaethau;

(b)mae “rhiant” (“parent”) yn cynnwys person sy'n berthynas i'r plentyn;

(c)mae “grŵp o siblingiaid” (“sibling group”) yn cynnwys hanner-brodyr a hanner-chwiorydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Ergl. 5 mewn grym ar 1.4.2011, gweler ergl. 1(1)

6.  Nid yw person yn gweithredu fel gwarchodwr plant os yw'r person hwnnw yn gofalu am y plentyn am gyfnod nad yw'n cychwyn tan ar ôl 6pm ar unrhyw un diwrnod ac sy'n dod i ben cyn 2am y diwrnod canlynol.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I6Ergl. 6 mewn grym ar 1.4.2011, gweler ergl. 1(1)

7.—(1Nid yw person yn gweithredu fel gwarchodwr plant os yw'r person hwnnw yn gofalu am blentyn neu blant fel rhan o'r broses o fod yn gyfaill i rieni'r plentyn hwnnw neu'r plant hynny ac os na chaiff unrhyw daliad ei wneud am y gwasanaeth.LL+C

(2Yn yr erthygl hon ystyr “taliad” (“payment”) yw taliad o arian neu'r hyn sy'n werth arian ond nad yw'n cynnwys darparu nwyddau neu wasanaethau.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Ergl. 7 mewn grym ar 1.4.2011, gweler ergl. 1(1)

RHAN 3LL+CEithriadau gofal dydd i blant

8.  Nid yw person, sy'n darparu gofal i blant [F3o dan ddeuddeng oed] mewn mangre annomestig, yn darparu gofal dydd at ddibenion Mesur 2010 yn yr amgylchiadau a ddisgrifir [F4yn erthyglau 9 i 16 o’r Gorchymyn hwn.] LL+C

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I8Ergl. 8 mewn grym ar 1.4.2011, gweler ergl. 1(1)

9.  Nid yw person yn darparu gofal dydd pan ddarperir y gofal gan y person hwnnw yn y fangre o dan sylw ar nifer llai na 6 o ddiwrnodau mewn unrhyw flwyddyn galendr, a bod y person hwnnw wedi hysbysu Gweinidogion Cymru mewn ysgrifen cyn defnyddio'r fangre o dan sylw am y tro cyntaf yn y flwyddyn honno.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I9Ergl. 9 mewn grym ar 1.4.2011, gweler ergl. 1(1)

10.  Nid yw person yn darparu gofal dydd os nad yw'r cyfnod neu gyfanswm y cyfnodau pan ofelir am blant mewn mangre, yn ystod unrhyw un diwrnod, yn hwy na dwy awr.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I10Ergl. 10 mewn grym ar 1.4.2011, gweler ergl. 1(1)

11.  Nid yw person yn darparu gofal dydd os darperir y gofal i blentyn [F5sy’n cael gwasanaeth cartref gofal, o fewn ystyr Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, mewn lle y darperir gwasanaethau o’r fath ynddo yn gyfan gwbl neu’n bennaf i blant ac y mae person wedi ei gofrestru o dan Ran 1 o’r Ddeddf honno mewn cysylltiad ag ef].LL+C

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I11Ergl. 11 mewn grym ar 1.4.2011, gweler ergl. 1(1)

[F611A.  Nid yw person yn darparu gofal dydd pan ddarperir y gofal i blentyn sy’n cael gwasanaeth llety diogel (o fewn ystyr Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016) mewn man lle y darperir gwasanaethau o’r fath ac y mae person wedi ei gofrestru mewn cysylltiad ag ef o dan Ran 1 o’r Ddeddf.]LL+C

12.  Nid yw person yn darparu gofal dydd pan ddarperir y gofal i blentyn a letyir mewn—LL+C

(a)[F7lle y darperir gwasanaeth cartref gofal ynddo, o fewn ystyr Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, yn gyfan gwbl neu’n bennaf i bersonau sy’n 18 oed neu drosodd],

(b)ysbyty fel claf, neu

(c)[F8lle y darperir gwasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd ynddo, o fewn ystyr Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016],

yn rhan o weithgarwch y sefydliad o dan sylw, naill ai gan ddarparwr y sefydliad yn uniongyrchol neu gan berson a gyflogir ar ran y darparwr.

13.—(1Nid yw person yn darparu gofal dydd pan ddarperir y gofal mewn gwesty, tŷ llety neu sefydliad cyffelyb arall, i blentyn sy'n aros yn y sefydliad hwnnw—LL+C

(a)pan fo'r ddarpariaeth yn digwydd yn unig rhwng 6 pm a 2 am; a

(b)pan na fo'r person, neu yn ôl y digwydd, unrhyw unigolyn sy'n cael ei gyflogi ganddo, sy'n darparu'r gofal yn gwneud hynny i fwy na dau gleient gwahanol ar yr un pryd.

(2At ddibenion is-baragraff (1)(b), ystyr “cleient” (“client”) yw person y darperir gofal i blentyn ar ei gais (neu bersonau, ar eu cais ar y cyd).

Gwybodaeth Cychwyn

I13Ergl. 13 mewn grym ar 1.4.2011, gweler ergl. 1(1)

14.—(1Nid yw person yn darparu gofal dydd pan ddarperir y gofal i blant mewn ysgol, a'r ddarpariaeth o ofal yn digwydd yn achlysurol mewn cysylltiad â darparu addysg.LL+C

(2yn yr erthygl hon ystyr “ysgol” (“school”) yw—

(i)ysgol a gynhelir o fewn yr ystyr a roddir i “maintained school” yn adran 39 o Ddeddf Addysg 2002(2); [F9neu]

(ii)ysgol annibynnol; F10...

F10(iii). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

15.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), nid yw person yn darparu gofal dydd pan fo'n hyfforddi neu'n dysgu mewn gweithgaredd o fath a restrir ym mharagraff (3) ac mae unrhyw ofal a ddarperir iddo yn digwydd yn achlysurol mewn cysylltiad â'r hyfforddi neu'r dysgu hwnnw.LL+C

(2Nid yw'r eithriad yn yr erthygl hon yn gymwys —

(a)os yw'r plant islaw 5 oed ac yn bresennol am fwy na phedair awr y dydd; neu—

(b)os yw'r person yn cynnig hyfforddi neu ddysgu mewn mwy na dau o'r mathau o weithgaredd a restrir ym mharagraff (3).

(3Y mathau o weithgaredd yw—

(a)chwaraeon;

(b)celfyddydau perfformio;

(c)celfyddydau a chrefftau;

(ch)cymorth ar gyfer astudiaethau ysgol neu waith cartref;

(d)astudiaethau crefyddol neu ddiwylliannol.

Gwybodaeth Cychwyn

I15Ergl. 15 mewn grym ar 1.4.2011, gweler ergl. 1(1)

[F1116.(1) Nid yw person yn darparu gwasanaeth gwarchod plant neu ofal dydd os ac i’r graddau—LL+C

(a)mai dim ond darparu gwasanaeth ieuenctid i bobl ifanc sydd wedi cyrraedd un ar ddeg oed y mae’r person; a

(b)bod unrhyw ofal a ddarperir yn digwydd yn achlysurol mewn cysylltiad â darparu’r gwasanaeth ieuenctid hwnnw.

(2) Yn yr erthygl hon ystyr “gwasanaeth ieuenctid” (“youth service”) yw gweithgaredd o fath a restrir ym mharagraff (3).

(3) At ddibenion paragraff (2), y mathau o weithgaredd yw’r rhai—

(a)sy’n annog, yn galluogi neu’n cynorthwyo pobl ifanc sydd wedi cyrraedd un ar ddeg oed i gymryd rhan yn effeithiol:

(i)mewn gweithgareddau hamdden;

(ii)mewn addysg a hyfforddiant;

(iii)ym mywyd eu cymunedau; a

(b)pan na fo’n ofynnol i’r person ifanc dalu am gymryd rhan mewn gweithgaredd o’r fath neu pan fo’n ofynnol iddo dalu swm nominal yn unig am wneud hynny.]

Huw Lewis

Y Dirprwy Weinidog dros Blant o dan awdurdod y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, ar ran Gweinidogion Cymru

25 Tachwedd 2010

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn pennu eithriadau i'r hyn sy'n gynwysedig yn y diffiniadau o “gwarchod plant” neu “gofal dydd i blant” at ddibenion Rhan 2 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (“Mesur 2010”).

Mae adrannau 21 a 23 o Fesur 2010, yn eu trefn, yn gwneud yn ofynnol bod gwarchodwr plant a pherson sy'n darparu gofal dydd i blant yn cofrestru gyda Gweinidogion Cymru. Mae adran 19(2) a (3) yn diffinio “gwarchod plant” a “gofal dydd i blant”. Mae adran 19(4) a (5) yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru bennu amgylchiadau pan fydd person, y byddai ei weithgarwch fel arall yn dod o fewn un o'r diffiniadau, wedi ei eithrio o'r diffiniad hwnnw ac o ganlyniad na fydd yn ofynnol iddo gofrestru.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources