Search Legislation

Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) (Diwygio) 2010

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) (Diwygio) 2010, maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 24 Mawrth 2010.

Diwygio Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) 2008

2.  Diwygir Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) 2008(1) yn unol â rheoliadau 3 i 11.

Diwygio Rhan 1

3.—(1Diwygir Rhan 1 (Rhagarweiniad) fel a ganlyn.

(2Yn lle rheoliad 6 (dehongli), rhodder—

Dehongli

6.  Yn y Rheoliadau hyn—

  • mae i “amaethyddiaeth” yr ystyr a roddir i “agriculture” yn adran 109(3) o Ddeddf Amaethyddiaeth 1947;

  • ystyr “ardal amaethyddol” (“agricultural area”) yw unrhyw dir amaethyddol a ddefnyddir at ddibenion amaethyddol;

  • ystyr “yr Asiantaeth” (“the Agency”) yw Asiantaeth yr Amgylchedd;

  • ystyr “cais i randdirymu” (“derogation application”) yw cais ar gyfer rhanddirymiad;

  • mae “cnwd â galw mawr am nitrogen” (“crop with high nitrogen demand”) yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt, porfa, tatws, betys siwgr, indrawn, gwenith, rêp had olew, haidd, bresych, rhyg a rhygwenith;

  • ystyr “cynllun gwrteithio” (“fertilisation plan”) yw cynllun a gafodd ei baratoi o dan reoliad 14(1)(c) neu gynlluniau eraill tebyg y mae'n ofynnol eu cael o dan Atodlen 4;

  • ystyr “da byw” (“livestock”) yw unrhyw anifail (gan gynnwys dofednod) a bennir yn Atodlen 1;

  • ystyr “da byw nad ydynt yn pori” (“non-grazing livestock”) yw unrhyw anifail a bennir yn Nhabl 2 yn Atodlen 1;

  • ystyr “da byw sy'n pori” (“grazing livestock”) yw unrhyw anifail a bennir yn Nhabl 1 yn Atodlen 1;

  • ystyr “daliad” (“holding”) yw'r holl dir sydd o fewn parth perygl nitradau ynghyd â'i adeiladau cysylltiedig sydd ar gael i'r meddiannydd ac sy'n cael eu defnyddio i dyfu cnydau mewn pridd neu fagu da byw at ddibenion amaethyddol;

  • ystyr “daliad a randdirymwyd” (“derogated holding”) yw daliad y rhoddwyd rhanddirymiad ar ei gyfer;

  • ystyr “dofednod” (“poultry”) yw dofednod a bennir yn Atodlen 1;

  • ystyr “ewtroffig” (“eutrophic”) yw dŵr sydd wedi'i gyfoethogi gan gyfansoddion nitrogen, sy'n peri i algâu a ffurfiau uwch ar fywyd planhigol dyfu'n gyflymach, gan darfu mewn modd annymunol ar gydbwysedd yr organeddau sy'n bresennol yn y dŵr ac ar ansawdd y dŵr o dan sylw;

  • ystyr “gwrtaith ffosffad” (“phosphate fertiliser”) yw unrhyw sylwedd sy'n cynnwys un neu fwy o gyfansoddion ffosffad a ddefnyddir ar dir i wella twf y llystyfiant ac mae'n cynnwys tail organig;

  • ystyr “gwrtaith ffosffad a weithgynhyrchwyd” (“manufactured phosphate fertiliser”) yw unrhyw wrtaith ffosffad (ac eithrio tail organig) sydd wedi'i weithgynhyrchu drwy broses ddiwydiannol;

  • ystyr “gwrtaith nitrogen” (“nitrogen fertiliser”) yw unrhyw sylwedd sy'n cynnwys un neu fwy o gyfansoddion nitrogen a ddefnyddir ar dir i wella twf y llystyfiant ac mae'n cynnwys tail organig;

  • ystyr “gwrtaith nitrogen a weithgynhyrchwyd” (“manufactured nitrogen fertiliser”) yw unrhyw wrtaith nitrogen (ac eithrio tail organig) sydd wedi'i weithgynhyrchu drwy broses ddiwydiannol;

  • ystyr “porfa” (“grass”) yw—

    (a)

    glaswelltir parhaol neu laswelltir dros dro (ystyr dros dro yw am gyfnod llai na phedair blynedd);

    (b)

    yr hyn a geir rhwng hau'r borfa ac aredig y borfa; ac

    (c)

    gan gynnwys cnydau wedi'u hau o dan y borfa,

    ond nid yw'n cynnwys glaswelltir sydd a 50% neu ragor o feillion;

  • mae “pridd tenau” (“shallow soil”) yn bridd y mae ei ddyfnder yn llai na 40 cm;

  • ystyr “pridd tywodlyd” (“sandy soil”) yw unrhyw bridd sy'n gorwedd ar dywodfaen, ac unrhyw bridd arall—

    (a)

    pan fo yn yr haen hyd at ddyfnder o 40 cm—

    (i)

    mwy na 50 y cant yn ôl pwysau o ronynnau y mae eu diamedr o 0.06 i 2 mm,

    (ii)

    llai na 18 y cant yn ôl pwysau o ronynnau y mae eu diamedr yn llai na 0.02 mm, a

    (iii)

    llai na 5 y cant yn ôl pwysau o garbon organig; a

    (b)

    pan fo, yn yr haen o ddyfnder 40 i 80 cm—

    (i)

    mwy na 70 y cant yn ôl pwysau o ronynnau y mae eu diamedr o 0.06 i 2mm,

    (ii)

    llai na 15 y cant yn ôl pwysau o ronynnau y mae eu diamedr yn llai na 0.02 mm, a

    (iii)

    llai na 5 y cant yn ôl pwysau o garbon organig;

  • ystyr “rhanddirymiad” (“derogation”) yw rhanddirymiad o derfyn y cyfanswm o nitrogen mewn tail da byw y gellir ei ddodi ar dir bob blwyddyn fel a ddarperir ym mharagraff 2(b) o Atodiad III o Gyfarwyddeb y Cyngor 91/676/EEC a roddwyd gan Benderfyniad y Comisiwn 2009/431/EEC(2) a roddwyd gan yr Asiantaeth neu, ar apêl, gan y panel apelau ar gais i randdirymu o dan reoliad 13B;

  • ystyr “slyri” (“slurry”) yw carthion a gynhyrchir gan dda byw (ac eithrio dofednod) tra bônt mewn buarth neu adeilad (gan gynnwys unrhyw sarn, dŵr glaw neu olchiadau a gymysgwyd gyda'r carthion hynny) ac y mae eu tewdra yn caniatáu iddynt gael eu pwmpio neu eu gollwng drwy ddisgyrchiant (yn achos carthion sydd wedi'u gwahanu i'w ffracsiynau hylifol a'u rhai solet, y ffracsiwn hylifol yw'r slyri);

  • mae “taenu” (“spreading”) yn cynnwys dodi arwyneb y tir, chwistrellu i mewn i'r tir neu gymysgu â haenau arwyneb y tir ond nid yw'n cynnwys dyddodi carthion yn uniongyrchol ar y tir gan anifeiliaid;

  • ystyr “tail organig” (“organic manure”) yw unrhyw wrtaith nitrogen neu wrtaith ffosffad sy'n dod o ffynonellau anifail, planhigyn neu ddynol ac mae'n cynnwys tail da byw;

  • ystyr “tir y mae'r risg o oferu drosto yn isel” (“land that has a low run-off risk”) yw tir—

    (a)

    y mae ei oleddf cyfartalog yn llai na 3º;

    (b)

    nad oes ganddo ddraeniau tir (ac eithrio pibell anhydraidd sydd wedi'i selio); ac

    (c)

    sydd o leiaf 50 o fetrau o gwrs dŵr neu ddyfrffos sy'n arwain at gwrs dŵr..

Diwygio Rhan 3

4.—(1Diwygir Rhan 3 (Cyfyngu ar ddodi tail organig) fel a ganlyn.

(2Ar ddechrau paragraff (1) o reoliad 12 (dodi tail da byw — y terfyn o ran cyfanswm y nitrogen ar gyfer yr holl ddaliad), mewnosoder “Ac eithrio pan fo'r meddiannydd wedi cael rhanddirymiad,”.

Mewnosod Rhan 3A newydd

5.  Ar ôl Rhan 3 (Cyfyngu ar ddodi tail organig), mewnosoder—

RHAN 3ARhanddirymu

Cais i randdirymu

13A.(1) Caiff meddiannydd unrhyw ddaliad neu unrhyw berson ar ran y meddiannydd (“y ceisydd”) wneud cais i'r Asiantaeth am randdirymiad os cafodd 80% neu fwy o'r ardal amaethyddol ei hau â phorfa.

(2) Rhaid cyflwyno cais i randdirymu—

(a)erbyn 30 Ebrill 2010 am randdirymiad 2010;

(b)o ran cais ar gyfer unrhyw flwyddyn ar ôl 2010, rhwng y dyddiadau 1 Hydref a 31 Rhagfyr yn y flwyddyn galendr o flaen honno y gwneir y cais ar ei chyfer.

(3) Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi'r dull a'r ffurf y mae'n rhaid i'r cais gael ei wneud ynddynt.

(4) Rhaid i'r Asiantaeth ganiatáu neu wrthod cais i randdirymu cyn gynted ag y bo'n ymarferol a hysbysu'r ceisydd o'r penderfyniad yn ysgrifenedig ac, os bydd yr Asiantaeth yn gwrthod cais i randdirymu, rhaid iddi ar yr un pryd roi rhesymau dros wrthod.

(5) Rhaid i'r Asiantaeth wrthod cais i randdirymu os yw o'r farn y byddai caniatáu rhanddirymiad yn cael effaith andwyol ar gyfanrwydd–

(a)safle Ewropeaidd; neu

(b)safle morol alltraeth Ewropeaidd,

pan fo'r safleoedd hynny'n wedi bod yn ddarostyngedig i asesiad priodol o dan reoliad 48 o Reoliadau Cadwraeth (Cynefinoedd Naturiol, &c.) 1994(3).

(6) Pan fo'r Asiantaeth wedi gwrthod caniatáu'r cais i randdirymu, caiff y ceisydd apelio yn unol â'r weithdrefn a osodir yn rheoliad 13B.

(7) Pan fo'r Asiantaeth wedi caniatáu'r cais i randdirymu, rhaid i'r Asiantaeth ddynodi'r daliad y mae'r rhanddirymiad yn gymwys ar ei gyfer yn ddaliad a randdirymwyd am y flwyddyn galendr y gwnaed y cais ar ei chyfer.

(8) Rhaid i'r meddiannydd gadw cofnod o'r cais i randdirymu a'r penderfyniad.

(9) Yn y rheoliad hwn—

(a)ystyr “safle morol alltraeth Ewropeaidd” yw safle morol alltraeth Ewropeaidd o fewn ystyr rheoliad 15 (ystyr safle morol alltraeth Ewropeaidd) o Reoliadau Cadwraeth Morol Alltraeth (Cynefinoedd Naturiol, &c.) 2007(4); a

(b)ystyr “safle Ewropeaidd” yw safle Ewropeaidd o fewn ystyr rheoliad 10 (ystyr safle Ewropeaidd) o Reoliadau Cadwraeth (Cynefinoedd Naturiol, &c.) 1994.

Apelio yn erbyn gwrthod cais i randdirymu

13B.(1) Pan fo'r Asiantaeth wedi gwrthod cais i randdirymu, caiff y ceisydd drwy hysbysiad apelio yn erbyn y penderfyniad i banel annibynnol a benodwyd gan Weinidogion Cymru at ddibenion y Rheoliadau hyn (“y panel apelau ar gyfer cais i randdirymu”).

(2) Rhaid i apêl yn erbyn gwrthod cais i randdirymu gael ei chyflwyno o fewn 30 o ddiwrnodau sy'n dechrau drannoeth dyddiad y gwrthod.

(3) Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi'r dull a'r ffurf y mae'n rhaid i'r cais gael ei wneud ynddynt.

Trafodion y panel apelau ar gyfer cais i randdirymu

13C.(1) Rhaid i'r panel apelau ar gyfer cais i randdirymu gael ei ffurfio o odrif o bersonau, heb fod yn llai na thri pherson, a dod i benderfyniad drwy fwyafrif syml.

(2) Rhaid i'r panel apelau ar gyfer cais i randdirymu ystyried yr apêl a phenderfynu p'un ai caniatáu'r apêl ai peidio.

(3) Rhaid i'r panel apelau ar gyfer cais i randdirymu ddod i benderfyniad yn seiliedig ar ddogfennau a gyflwynwyd iddo gan yr apelydd a'r Asiantaeth, oni fydd yn penderfynu fod arno angen gwybodaeth ychwanegol i ffurfio barn, ac os felly caiff—

(a)gofyn i'r apelydd, neu'r Asiantaeth, ddarparu deunyddiau ychwanegol; a

(b)mewn amgylchiadau eithriadol caiff gynnal gwrandawiad llafar.

(4) Mewn gwrandawiad llafar mae gan yr apelydd a'r Asiantaeth yr hawl i ymddangos.

(5) Rhaid i bob parti ysgwyddo ei gostau ei hun.

Effaith canfyddiadau panel apelau ar gyfer cais i randdirymu

13CH.(1) Os bydd y panel apelau ar gyfer cais i randdirymu yn caniatáu'r apêl, rhaid i'r daliad y mae'r cais i randdirymu yn gymwys iddo gael ei ddynodi gan yr Asiantaeth fel daliad a randdirymwyd am y flwyddyn galendr honno.

(2) Rhaid i'r panel apelau ar gyfer cais i randdirymu—

(a)hysbysu'r Asiantaeth, y ceisydd a Gweinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, o'i ganfyddiadau; a

(b)os gwrthodir yr apêl, rhoi'r rhesymau dros wrthod.

Daliadau a randdirymwyd

13D.  Mae Atodlen 4 yn cael effaith o ran daliadau a randdirymwyd..

Diwygio Rhan 4

6.—(1Diwygir Rhan 4 (Y gofynion ar gyfer cnydau) fel a ganlyn.

(2Yn lle paragraff (3) o reoliad 15 (Yr wybodaeth ychwanegol sydd i'w chofnodi yn ystod y flwyddyn), rhodder—

(3) Cyn taenu gwrtaith nitrogen a weithgynhyrchwyd, rhaid i'r meddiannydd gofnodi—

(a)faint sydd ei hangen; a

(b)y dyddiad a drefnwyd ar gyfer taenu (mis)..

(3Yn rheoliad 16 (cyfanswm y nitrogen sydd i'w daenu ar ddaliad)—

(a)yn lle paragraff (a), rhodder—

(a)y nitrogen o wrtaith nitrogen a weithgynhyrchwyd, a;

(b)yn lle paragraff (b) rhodder—

(b)y nitrogen sydd ar gael i'r cnwd ei amsugno o dail da byw yn y tymor tyfu y caiff ei daenu ynddo, wedi'i gyfrifo yn unol â rheoliad 17,;

(c)ar ôl “a daenir ar y cnydau canlynol” hepgorer “, wedi'i gyfrifo'n unol â rheoliad 17,”; ac

(ch)yn lle troednodyn (d), rhodder—

(d)Mae hyn yn cynnwys unrhyw nitrogen a ddodir fel esemptiad i'r cyfnod gwaharddedig ar gyfer gwrtaith nitrogen a weithgynhyrchwyd. Ceir cynyddu'r swm a ganiateir hyd at 30 kg yr hectar am bob hanner tunnell y mae'r cynnyrch a ddisgwylir yn uwch na'r cynnyrch safonol..

Diwygio Rhan 5

7.—(1Diwygir Rhan 5 (Rheoli'r broses o daenu gwrtaith nitrogen) fel a ganlyn.

(2Yn lle rheoliad 20 (taenu gwrtaith a weithgynhyrchwyd wrth ymyl dŵr wyneb), rhodder—

Taenu gwrtaith a weithgynhyrchwyd wrth ymyl dŵr wyneb

20.  Ni chaiff neb daenu gwrtaith nitrogen a weithgynhyrchwyd o fewn 2 fetr o ddŵr wyneb..

(3Yn lle rheoliad 22 (rheoli'r modd y mae gwrtaith nitrogen yn cael ei daenu), rhodder—

Rheoli'r modd y mae gwrtaith nitrogen yn cael ei daenu

22.(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i unrhyw berson sy'n taenu slyri ddefnyddio cyfarpar taenu sydd â thafliad taenu sy'n llai na 4 metr o'r ddaear.

(2) Gellir defnyddio cyfarpar taenu sydd â thafliad taenu sy'n fwy na 4 metr o'r ddaear ar dir y mae'r risg o oferu drosto yn isel pan fydd cyfarpar o'r fath yn gallu cyflawni cyfartaledd cyflymder dodi slyri heb fod yn fwy na 2 filimedr yr awr pan fydd wrthi'n gweithredu'n ddi-dor.

(3) Rhaid i unrhyw berson sy'n taenu gwrtaith nitrogen wneud hynny mewn modd sydd mor gywir â phosibl..

Diwygio Rhan 6

8.—(1Diwygir Rhan 6 (Cyfnodau gwaharddedig ar gyfer taenu gwrtaith nitrogen) fel a ganlyn.

(2Yn lle paragraff (a) o reoliad 27 (esemptiadau ar gyfer daliadau organig), rhodder—

(a)ar gnydau a bennir yn y tabl yn Atodlen 3 (cnydau a ganiateir am y cyfnod gwaharddedig), neu.

Diwygio Rhan 8

9.  Ym mharagraff (2) o reoliad 42 (cofnodion o daenu gwrtaith nitrogen) o Ran 8 (Cyfrifiadau a chofnodion), o flaen “a weithgynhyrchwyd” mewnosoder “nitrogen”.

Diwygio'r Atodlenni

10.  Yn lle Atodlenni 1 i 3, rhodder cynnwys yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.

Diwygio Rheoliadau Cadwraeth (Cynefinoedd Naturiol, &c.) 1994

11.—(1Diwygir Rheoliadau Cadwraeth (Cynefinoedd Naturiol &c.) 1994(5) fel a ganlyn.

(2Ar ôl rheoliad 84D (rhanddirymiadau o dan Reoliadau Atal Llygredd Nitradau 2008), mewnosoder—

Derogations under the Nitrate Pollution Prevention (Wales) Regulations 2008

84E.(1) Regulations 48 (assessment of implications for European site) and 49 (considerations of overriding public interest) apply in relation to the granting of a derogation under Part 3A of the Nitrate Pollution Prevention (Wales) Regulations 2008(6).

(2) Where regulations 48 and 49 apply, the competent authority may, if they consider any adverse effects of the plan or project on the integrity of a European site or European offshore marine site would be avoided if the derogation were subject to conditions, grant the derogation, subject to those conditions..

Elin Jones

Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

1 Mawrth 2010

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources