- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
76.—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i gais a wneir i gorff llywodraethu ffederasiwn am i ysgol ffederal (“yr ysgol berthnasol”) adael y ffederasiwn.
(2) Rhaid gwneud y cais mewn ysgrifen a rhaid ei lofnodi gan—
(a)dau neu ragor o lywodraethwyr;
(b)un rhan o bump o rieni'r disgyblion cofrestredig yn yr ysgol berthnasol;
(c)dwy ran o bump o'r staff y telir iddynt am weithio yn yr ysgol berthnasol;
(ch)yr awdurdod lleol;
(d)ymddiriedolwyr yr ysgol berthnasol; neu
(dd)corff sydd â'r hawl i benodi llywodraethwyr sefydledig i gorff llywodraethu'r ffederasiwn.
(3) Rhaid i gorff llywodraethu'r ffederasiwn hysbysu'r canlynol ynghylch y cais—
(a)pob awdurdod lleol perthnasol;
(b)pennaeth y ffederasiwn a phenaethiaid pob un o'r ysgolion ffederal;
(c)pan fo'r ysgol berthnasol yn ysgol sefydledig neu wirfoddol sydd â sefydliad crefyddol, unrhyw ymddiriedolwyr ymddiriedolaeth sy'n ymwneud â'r ysgol berthnasol ac, yn achos ysgol yr Eglwys yng Nghymru neu'r Eglwys Gatholig Rufeinig, yr awdurdod esgobaethol priodol, neu'r corff crefyddol priodol yn achos pob ysgol arall o'r fath;
(ch)yr holl staff y telir iddynt am weithio yn yr ysgol berthnasol;
(d)pob person y gwyddant ei fod yn rhiant disgybl cofrestredig yn yr ysgol berthnasol;
(dd)pob undeb llafur y gwyddant fod ganddo aelodau sy'n cael eu cyflogi i weithio mewn unrhyw un o'r ysgolion; ac
(e)pa bynnag bersonau eraill a ystyrir yn briodol gan gorff llywodraethu'r ffederasiwn.
(4) Rhaid i'r hysbysiad o dan baragraff (3) gael ei roi o fewn y cyfnod o bum niwrnod gwaith clir sy'n cychwyn ar y dyddiad y cafwyd y cais.
(5) Ystyrir bod corff llywodraethu ffederasiwn wedi cael cais o dan baragraff (1) os rhoddwyd neu anfonwyd y cais at gadeirydd neu glerc corff llywodraethu'r ffederasiwn.
(6) Ymhen dim llai na phedwar diwrnod ar ddeg clir wedi i gorff llywodraethu ffederasiwn roi hysbysiad o'r cais yn unol â pharagraff (3) rhaid i'r corff llywodraethu ystyried y cais a'r holl ymatebion a gafwyd gan y personau yr anfonwyd hysbysiad o'r cais atynt, a rhaid iddo benderfynu–
(a)yn ddarostyngedig i baragraff (9), a ddylai'r ysgol berthnasol adael y ffederasiwn, ac os felly, ar ba ddyddiad y dylai wneud hynny (“y dyddiad dadffedereiddio”) (“the de-federation date”);
(b)a ddylid diddymu'r ffederasiwn ac, os felly, ar ba ddyddiad; neu
(c)a ddylai'r ysgol berthnasol beidio â gadael y ffederasiwn.
(7) Nid yw penderfyniad o'r fath yn effeithiol onid yw'r mater wedi ei bennu fel eitem o fusnes ar yr agenda ar gyfer y cyfarfod, ac oni roddwyd hysbysiad o'r cyfarfod yn unol â rheoliad 54(4).
(8) Rhaid i gorff llywodraethu ffederasiwn roi hysbysiad o'i benderfyniad o dan baragraff (6) o fewn pum niwrnod gwaith clir i'r personau hynny y cyfeirir atynt ym mharagraff (3).
(9) Rhaid i'r dyddiad dadffedereiddio a bennir gan y corff llywodraethu beidio â bod yn gynharach na 125 diwrnod ar ôl y diwrnod y rhoddir hysbysiad o benderfyniad y corff llywodraethu o dan baragraff (8).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: