- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Dr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi'i Botelu (Cymru) (Diwygio) 2010 a deuant i rym ar 9 Ebrill 2010.
2. Diwygir Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi'i Botelu (Cymru) 2007(1) yn unol â rheoliadau 3 to 10.
3. Ym mharagraff (1) of reoliad 2 (dehongli)—
(a)yn union ar ôl y diffiniad o “techneg awdurdodedig i ocsidio aer a gyfoethogwyd ag osôn” mewnosoder y diffiniad canlynol—
“ystyr “triniaeth awdurdodedig ag alwmina actifedig” (“authorised activated alumina treatment”) yw—
triniaeth i ddŵr mwynol naturiol a dŵr ffynnon gydag alwmina actifedig er mwyn tynnu fflworid ohono, sydd wedi ei hawdurdodi yn unol ag Atodlen 1A; neu
yn achos dŵr mwynol naturiol neu ddŵr ffynnon a ddygir i mewn i Gymru o ran arall o'r Deyrnas Unedig neu o wladwriaeth arall yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, triniaeth sy'n cydymffurfio ag Erthyglau 1 i 3 o Reoliad 115/2010;”;
(b)yn union ar ôl y diffiniad o “potel” mewnosoder y diffiniad canlynol—
“ystyr “Rheoliad 115/2010” (“Regulation 115/2010”) Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 115/2010 sy'n pennu'r amodau ar gyfer defnyddio alwmina actifedig i dynnu fflworid o ddŵr mwynol naturiol a dŵr ffynnon(2);”;
(c)yn y diffiniad o “techneg awdurdodedig i ocsidio aer a gyfoethogwyd ag osôn” yn lle'r geiriau ““techneg awdurdodedig i ocsidio aer a gyfoethogwyd ag osôn”” rhodder ““techneg ocsidio awdurdodedig gydag aer a gyfoethogwyd ag osôn”
4. Yn lle paragraff (1) o reoliad 6 (triniaethau i ddŵr mwynol naturiol ac ychwanegiadau ato) rhodder y paragraff canlynol—
“(1) O ran dŵr mwynol naturiol yn ei gyflwr wrth y tarddiad, ni chaiff neb—
(a)roi iddo unrhyw driniaeth ac eithrio —
(i)techneg ocsidio awdurdodedig gydag aer a gyfoethogwyd ag osôn,
(ii)gwahanu ei elfennau ansefydlog, megis cyfansoddion haearn a sylffwr, drwy hidlo neu ardywallt, pa un a ocsigeneiddir ef yn gyntaf ai peidio, i'r graddau nad yw'r driniaeth yn newid cyfansoddiad y dŵr o ran yr ansoddau hanfodol sy'n rhoi iddo ei briodoleddau,
(iii)dileu'r carbon deuocsid rhydd yn llwyr neu'n rhannol drwy ddulliau cyfan gwbl ffisegol, neu
(iv)triniaeth awdurdodedig ag alwmina actifedig; neu
(b)ychwanegu dim ato ac eithrio cyflwyno neu ailgyflwyno carbon deuocsid i gynhyrchu dŵr mwynol naturiol eferw.”.
5. Yn union ar ôl paragraff (2) o reoliad 10 (potelu dŵr ffynnon a datblygu ffynhonnau dŵr ffynnon) mewnosoder y paragraff canlynol—
“(2A) Ni chaiff neb beri i unrhyw ddŵr, a driniwyd ag alwmina actifedig i dynnu fflworid ohono, gael ei botelu mewn potel sydd wedi'i marcio neu'i labelu fel “dŵr ffynnon” onid yw'r driniaeth honno yn driniaeth awdurdodedig ag alwmina actifedig.”.
6. Yn lle paragraff (3) o reoliad 16 (gorfodi) rhodder y paragraffau canlynol—
“(3) Rhaid i bob awdurdod perthnasol, o fewn ei ardal, gyflawni archwiliadau cyfnodol ar unrhyw driniaeth awdurdodedig ag alwmina actifedig, y rhoddwyd yr awdurdodiad ar ei chyfer gan yr awdurdod hwnnw yn unol ag Atodlen 1A er mwyn sicrhau y parheir i fodloni gofynion yr Atodlen honno.
(4) Rhaid i bob awdurdod bwyd, o fewn ei ardal, weithredu a gorfodi'r Rheoliadau hyn.
(5) At y dibenion o gyflawni'r swyddogaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (4) mewn perthynas â dŵr yfed a dŵr ffynnon wedi'i botelu, rhaid i bob awdurdod bwyd—
(a)yn ddarostyngedig i baragraff (6), fonitro ansawdd unrhyw ddŵr o'r fath yn rheolaidd, er mwyn gwirio—
(i)a yw'n bodloni gofynion Cyfarwyddeb 98/83,
(ii)a yw'n cynnwys crynodiad neu werth ar gyfer unrhyw baramedr sydd uwchlaw'r crynodiad neu'r gwerth rhagnodedig,
(iii)a yw'n cynnwys crynodiad neu werth ar gyfer priodwedd, elfen, sylwedd neu organeb a bennir yn Atodlen 9 (fel y'i darllenir ynghyd â'r Nodiadau i'r Atodlen honno) sydd uwchlaw'r crynodiad neu'r gwerth a bennir yn yr Atodlen honno mewn perthynas â'r briodwedd, elfen, sylwedd neu organeb dan sylw, fel y'i mesurir yn ôl yr uned mesur a bennir felly,
(iv)pan fo awdurdod bwyd, yn unol ag is-baragraff (iii), yn canfod bod y dŵr dan sylw yn cynnwys crynodiad neu werth ar gyfer Clostridium perfringens (gan gynnwys sborau) sydd uwchlaw'r crynodiad neu'r gwerth a bennir mewn perthynas ag ef yn Atodlen 9 (fel y'i darllenir ynghyd â Nodyn 2 i'r Atodlen honno), a oes unrhyw berygl i iechyd dynol, sy'n codi o bresenoldeb micro-organebau pathogenig yn y dŵr, a
(v)pan fo diheintio yn rhan o baratoi neu ddosbarthu'r dŵr dan sylw, a yw'r driniaeth ddiheintio a roddir yn effeithlon, ac a gedwir yr halogi gan sgil-gynhyrchion diheintio mor isel ag y bo modd heb amharu ar effaith y diheintio.
(b)er mwyn cydymffurfio ag is-baragraff (a)—
(i)monitro yn rheolaidd drwy wiriadau y paramedrau, priodweddau, elfennau, sylweddau ac organebau a bennir yn Atodlen 10, (fel y'i darllenir ynghyd â'r Nodiadau i'r Atodlen honno), a
(ii)monitro drwy archwiliad mewn perthynas ag unrhyw baramedr a'r priodweddau, elfennau, sylweddau ac organebau a bennir yn Atodlen 9, (fel y'i darllenir ynghyd â'r Nodiadau i'r Atodlen honno);
(c)at ddibenion is-baragraff (b), cyflawni unrhyw samplu a dadansoddi yn unol â'r amlderau lleiaf perthnasol a bennir yn Atodlen 11; ac
(ch)cyflawni monitro ychwanegol mewn perthynas ag unrhyw briodwedd, elfen, sylwedd neu organeb nad yw'n baramedr nac yn briodwedd, elfen, sylwedd neu organeb a bennir yn Atodlen 9, os oes rheswm gan yr awdurdod bwyd i amau y gall fod yn bresennol yn y dŵr dan sylw mewn maint neu nifer sy'n achosi perygl posibl i iechyd dynol.
(6) Rhaid cyflawni'r gwiriadau a'r monitro y cyfeirir atynt ym mharagraff (5)(a), (b) ac (ch) gan ddefnyddio samplau sy'n gynrychiadol o ansawdd y dŵr dan sylw a ddefnyddir drwy gydol y flwyddyn y cymerir y samplau ynddi.”.
7. Yn lle rheoliad 20 (tramgwyddau a chosbau) rhodder y rheoliad canlynol—
20.—(1) Mae person yn euog o dramgwydd ac yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy na fydd yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol os yw'r person hwnnw—
(a)yn mynd yn groes i reoliad 5, 6(1), 7(1), (3) neu (4), 8, 9, 10, 11, 12, 13, 14, 15 neu 22(3);
(b)yn peidio â chydymffurfio ag unrhyw ddarpariaeth o Reoliad 115/2010 a bennir ym mharagraff (2); neu
(c)yn cyflawni triniaeth awdurdodedig ag alwmina actifedig sydd â'i heffaith yn ddiheintiol.
(2) Y darpariaethau yw—
(a)Erthygl 1.2 (gofyniad bod triniaethau awdurdodedig ag alwmina actifedig yn cael eu cyflawni yn unol â'r gofynion technegol a bennir yn yr Atodiad);
(b)y frawddeg gyntaf o Erthygl 2 (gofyniad bod maint y gweddillion a ryddheir i ddŵr mwynol naturiol neu ddŵr ffynnon o ganlyniad i unrhyw driniaeth awdurdodedig ag alwmina actifedig mor isel ag y bo'n ddichonadwy yn dechnegol yn unol â'r arferion gorau, ac nad yw'n achosi risg i iechyd y cyhoedd);
(c)yr ail frawddeg o Erthygl 2 (gofyniad bod gweithredwyr, er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â'r frawddeg gyntaf o Erthygl 2, yn cyflawni ac yn monitro'r camau prosesu critigol a bennir yn yr Atodiad);
(ch)Erthygl 3.1 (gofyniad i hysbysu'r awdurdodau cymwys ynghylch gweithredu triniaeth awdurdodedig ag alwmina actifedig, dri mis, o leiaf, cyn defnyddio'r driniaeth); a
(d)Erthygl 4 fel y'i darllenir ynghyd ag ail baragraff Erthygl 5 (gofyniad, yn ddarostyngedig i ddarpariaeth drosiannol, bod y label ar ddŵr mwynol naturiol neu ddŵr ffynnon y rhoddwyd unrhyw driniaeth awdurdodedig ag alwmina actifedig iddo, yn cynnwys gwybodaeth benodedig, yn agos at y datganiad o'r cyfansoddiad dadansoddol).”.
8. Yn union ar ôl Atodlen 1 (amodau ar gyfer trin dŵr mwynol naturiol a dŵr ffynnon gydag aer a gyfoethogwyd ag osôn), mewnosoder yr Atodlen a bennir yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn.
9. Yn union ar ôl Atodlen 8 (Mynegiadau labelu ar gyfer dŵr mwynol naturiol a meini prawf ar gyfer eu defnyddio) ychwaneger yr Atodlenni a bennir yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn.
10. Diwygir testun Cymraeg y prif Reoliadau fel a ganlyn—
(1) Yn rheoliad 2(1) yn y diffiniad o “dŵr yfed”, yn lle'r geiriau ““dŵr ffynnon”” yn is-baragraff (b) rhodder y geiriau ““spring water””;
(2) Yn rheoliadau 2(1), 6(1)(a)(i), 8(2)(ch), 10(2), 11(3)(c) ac 16(2), yn lle'r geiriau “techneg awdurdodedig i ocsidio aer a gyfoethogwyd ag osôn” ym mha le bynnag y digwyddant, rhodder y geiriau “techneg ocsidio awdurdodedig gydag aer a gyfoethogwyd ag osôn”;
(3) Yn rheoliad 8(1)(dd), yn lle'r geiriau ““gall fod yn ddiwretig”” rhodder ““may be diuretic”” ac yn lle'r geiriau ““gall fod yn garthydd”” rhodder ““may be laxative””;
(4) Yn rheoliad 8(1)(e), yn lle'r geiriau ““mae'n ysgogi treuliad”” rhodder ““stimulates digestion””, ac yn lle'r geiriau ““gall hyrwyddo'r swyddogaethau hepato-bustlog”” rhodder ““may facilitate the hepato-biliary functions””;
(5) Yn rheoliad 9(1), yn lle'r cyfeiriad cyntaf at y geiriau ““dŵr mwynol naturiol”” rhodder y geiriau ““natural mineral water””;
(6) Yn rheoliad 10(1), yn lle'r geiriau “neu “dŵr ffynnon”” rhodder ““spring water””;
(7) Yn rheoliad 11(1), (2), (3) yn lle'r geiriau ““dŵr ffynnon”” rhodder y geiriau ““spring water”” ym mha le bynnag y digwyddant ac eithrio ym mhennawd y rheoliad;
(8) Yn rheoliad 12 yn lle ““dŵr ffynnon”” rhodder y geiriau ““spring water”” ym mha le bynnag y digwyddant ac eithrio ym mhennawd y rheoliad;
(9) Yn rheoliad 14(a)(ii) a (b)(ii), yn lle'r geiriau ““dŵr mwynol”” rhodder ““mineral water””;
(10) Ym mharagraff 5(3) o Atodlen 4 yn lle'r geiriau ““dŵr ffynnon”” rhodder ““spring water””.
Gwenda Thomas
Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
11 Mawrth 2010
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: