Search Legislation

Rheoliadau Cyllido Ysgolion (Cymru) 2010

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

RHAN 1 —Cyflwyniad

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyllido Ysgolion (Cymru) 2010 a deuant i rym ar 1 Medi 2010.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â blynyddoedd ariannol sy'n cychwyn ar neu ar ôl 1 Ebrill 2011.

(3Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dirymu

2.  Dirymir Rheoliadau Cyllidebau AALl, Cyllidebau Ysgolion a Chyllidebau Ysgolion Unigol (Cymru) 2003(1), Rheoliadau Cyfrannau Cyllideb Ysgolion (Cymru) 2004(2) a Rheoliadau Addysg (Cynlluniau Ariannol AALl) (Cymru) 2004(3) mewn perthynas â blynyddoedd ariannol sy'n cychwyn ar neu ar ôl 1 Ebrill 2011.

Dehongli

3.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw awdurdod addysg lleol yng Nghymru;

  • ystyr “cyfnod cyllido” (“funding period”) yw blwyddyn ariannol;

  • ystyr “y Cynllun Plant a Phobl Ifanc” (“the Children and Young People’s Plan”) yw cynllun sy'n ofynnol o dan reoliadau a wneir o dan adran 26 o Ddeddf Plant 2004(4);

  • ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996(5);

  • ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(6);

  • ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Dysgu a Medrau 2000(7);

  • ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Addysg 2002(8);

  • ystyr “dosbarth meithrin” (“nursery class”) yw dosbarth sy'n cael addysg lawnamser neu ran-amser sy'n addas yn gyfan gwbl neu'n bennaf i blant nad ydynt wedi cyrraedd oedran ysgol gorfodol;

  • ystyr “ysgol a gynhelir” (“maintained school”) yw ysgol gymunedol, ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol, ysgol arbennig gymunedol, ysgol arbennig sefydledig neu ysgol feithrin a gynhelir.

(2Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriad (sut bynnag y mae wedi'i eirio) at ysgol feithrin a gynhelir, ysgol gymunedol, ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol neu ysgol arbennig gymunedol neu ysgol arbennig sefydledig, yn cynnwys ysgol newydd (o fewn ystyr adran 72(3) o Ddeddf 1998) a fydd, ar ôl gweithredu cynigion ar gyfer sefydlu'r ysgol o dan unrhyw ddeddfiad, yn ysgol o'r fath ac yn un a chanddi gorff llywodraethu dros dro.

(3Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriad at gorff llywodraethu yn cynnwys corff llywodraethu dros dro ar ysgol newydd sy'n dod o fewn paragraff (2).

(4Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriad at ysgol gynradd neu ysgol uwchradd yn golygu ysgol gynradd neu ysgol uwchradd sydd (neu a fydd) yn ysgol gymunedol, yn ysgol sefydledig neu'n ysgol wirfoddol.

(5Yn y Rheoliadau hyn nid yw cyfeiriad (sut bynnag y mae wedi'i eirio) at ysgolion a gynhelir gan awdurdod lleol yn cynnwys ysgolion nad ydynt yn ysgolion a gynhelir fel y'u diffinnir ym mharagraff (1).

(6Yn y Rheoliadau hyn, oni nodir fel arall, mae cyfeiriadau at wariant yn gyfeiriadau at y gwariant hwnnw yn net o—

(a)holl grantiau penodedig perthnasol;

(b)holl ffioedd, taliadau ac incwm perthnasol; ac

(c)cyllid a dderbynnir gan Weinidogion Cymru o ran taliad unedol cynllun PFI.

(7Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad at grant penodedig yn gyfeiriad at unrhyw grant a delir i awdurdod lleol o dan amodau sy'n gosod cyfyngiadau ar ddibenion penodol yr awdurdod y caniateir defnyddio'r grant ond nid yw'n cynnwys—

(a)unrhyw grant a wneir gan Weinidogion Cymru o ran cyllido chweched dosbarth; neu

(b)unrhyw grant penodedig a ddefnyddir i gefnogi gwariant drwy gyllideb ysgolion unigol.

(8Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad at daliad unedol cynllun PFI yn gyfeiriad at daliad sy'n daladwy i awdurdod lleol o dan drafodiad ariannol preifat.

(9Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad at drafodiad ariannol preifat yn gyfeiriad at drafodiad fel y'i diffinnir gan reoliad 16 o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf ) 1997(9).

(10Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad at wariant cyfalaf yn golygu gwariant y mae awdurdod lleol yn bwriadu ei gyfalafu yn eu cyfrifon yn unol ag arferion priodol sef yr arferion cyfrifyddu hynny—

(a)y mae'n ofynnol i awdurdod eu dilyn yn rhinwedd unrhyw ddeddfiad, neu

(b)yr ystyrir eu bod yn gyffredinol, i'r graddau y maent yn gyson ag unrhyw ddeddfiad o'r fath, p'un ai drwy gyfeiriad at unrhyw God cyhoeddedig a gydnabyddir yn gyffredinol neu fel arall, yn arferion cyfrifyddu priodol i'w dilyn wrth gadw cyfrifon awdurdodau lleol, naill ai'n gyffredinol neu yn ôl y disgrifiad o dan sylw.

(11Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriadau at CERA yn gyfeiriadau at wariant cyfalaf y mae awdurdod lleol yn disgwyl iddo gael ei dalu o gyfrif refeniw'r awdurdod o fewn ystyr adran 22 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003(10).

(12Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriadau at wariant a eithrir yn gyfeiriadau at y dosbarthiadau neu ddisgrifiadau canlynol o wariant—

(a)gwariant cyfalaf heblaw CERA;

(b)gwariant at ddibenion adran 26 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984(11) (trefniadau ar gyfer hebrwng wrth groesfannau ysgol); ac

(c)gwariant a dynnir gan yr awdurdod lleol o dan adran 51A o Ddeddf 1998(12) (gwariant a dynnir at ddibenion cymunedol).

RHAN 2 —Cyllideb AALl, Cyllideb Ysgolion a Chyllideb Ysgolion Unigol

Cyllideb AALl

4.—(1Rhagnodir y dosbarthiadau neu'r disgrifiadau o wariant awdurdod lleol a bennir yn Atodlen 1 at ddibenion adran 45A(1) o Ddeddf 1998 a phenderfynu ar gyllideb AALl awdurdod lleol, ac eithrio i'r graddau y mae gwariant o'r fath yn wariant a eithrir neu'n dod o fewn paragraff (2).

(2Daw gwariant o fewn y paragraff hwn os yw'n wariant—

(a)sydd, yn rhinwedd cynllun yr awdurdod (o fewn ystyr adran 48(5) o Ddeddf 1998) neu unrhyw ddeddfiad, i'w dynnu o gyfran ysgol o'r gyllideb; neu

(b)sy'n dod o fewn is-baragraff (1) o baragraff 1 o Atodlen 2.

Penderfyniad cychwynnol cyllideb ysgolion

5.—(1Cyn 14 Chwefror yn union cyn dechrau cyfnod cyllido rhaid i awdurdod lleol—

(a)gwneud penderfyniad cychwynnol ar ei gyllideb ysgolion ar gyfer y cyfnod cyllido hwnnw; a

(b)hysbysu ei benderfyniad i Weinidogion Cymru, i gorff llywodraethu pob ysgol a gynhelir ganddo.

(2Os bydd awdurdod lleol yn ailbenderfynu ei gyllideb ysgolion, rhaid iddo hysbysu'r ailbenderfyniad hwnnw i Weinidogion Cymru ac i gorff llywodraethu pob ysgol a gynhelir ganddo o fewn 28 o ddiwrnodau ar ôl ailbenderfynu.

Cyllideb ysgolion

6.—(1Rhagnodir y dosbarthiadau neu'r disgrifiadau o wariant awdurdod lleol a bennir ym mharagraff (2) at ddibenion adran 45A(2) o Ddeddf 1998 a phenderfynu ar gyllideb ysgolion awdurdod lleol.

(2Dyma'r dosbarthiadau neu'r disgrifiadau o wariant awdurdod lleol—

(a)gwariant ar ddarparu a chynnal a chadw ysgolion a gynhelir ac ar addysg y disgyblion a gofrestrwyd yn yr ysgolion hynny;

(b)gwariant ar addysg disgyblion mewn ysgolion annibynnol, ysgolion arbennig nas cynhelir, unedau cyfeirio disgyblion, yn y cartref ac yn yr ysbyty, ac ar unrhyw drefniadau eraill ar gyfer darparu addysg gynradd ac uwchradd i ddisgyblion heblaw mewn ysgolion a gynhelir gan awdurdod lleol; ac

(c)pob gwariant arall a dynnir mewn cysylltiad â swyddogaethau'r awdurdod mewn perthynas â darparu addysg gynradd ac uwchradd, i'r graddau nad yw gwariant o'r fath yn dod o fewn paragraff (a) neu (b),

ond dim ond i'r graddau nad yw gwariant o'r fath—

(a)yn dod o fewn dosbarth neu ddisgrifiad o wariant a ragnodir gan reoliad 4 at ddibenion adran 45A(1) o Ddeddf 1998 a phenderfynu ar gyllideb AALl awdurdod lleol, a

(b)yn wariant a eithrir.

Cyllideb ysgolion unigol

7.  Cyn 14 Chwefror yn union cyn dechrau cyfnod cyllido, rhaid i awdurdod lleol ddidynnu o'i gyllideb ysgolion unrhyw un neu'r cyfan o'r dosbarthiadau neu'r disgrifiadau o wariant cynlluniedig a nodir yn Atodlen 2, yn gyfan gwbl neu'n rhannol, er mwyn cyrraedd ei gyllideb ysgolion unigol ar gyfer y cyfnod cyllido hwnnw.

RHAN 3 —Cyfrannau ysgolion o'r gyllideb

Dyrannu cyllideb ysgolion unigol

8.—(1Rhaid i awdurdod lleol ddyrannu ym mhob cyfnod cyllido yn unol â'r Rhan hon o'r Rheoliadau hyn, y cyfan o'i gyllideb ysgolion unigol ar gyfer y cyfnod cyllido hwnnw fel cyfrannau'r ysgolion a gynhelir ganddo o'r gyllideb.

(2Ar y cychwyn nid oes raid i awdurdod lleol ddyrannu'r cyfan o'i gyllideb ysgolion unigol ar ffurf cyfrannau o'r gyllideb ar ddechrau cyfnod cyllido, ac yn lle hynny caniateir iddo ddal ei afael ar swm ar gyfer ailbenderfyniadau neu gywiro gwallau ond rhaid i'r swm hwnnw gael ei ddefnyddio at y diben hwnnw neu gael ei ddosbarthu i ysgolion yn unol â gofynion paragraff (1) cyn diwedd y cyfnod cyllido hwnnw.

Amseru a hysbysu penderfyniad cychwynnol ar gyfrannau ysgolion o'r gyllideb

9.—(1Cyn 31 Mawrth yn union cyn dechrau cyfnod cyllido, rhaid i awdurdod lleol—

(a)gwneud penderfyniad cychwynnol ar swm cyfran ysgol o'r gyllideb ar gyfer y cyfnod cyllido hwnnw, a

(b)hysbysu cyrff llywodraethu'r ysgolion a gynhelir ganddo o gyfran pob ysgol o'r gyllideb ar gyfer y cyfnod cyllido hwnnw.

(2Rhaid i'r hysbysiad a roddir o dan baragraff (1)(b) gynnwys esboniad ar sut y penderfynwyd cyfran yr ysgol o'r gyllideb ac amcangyfrif o gyfrannau'r ysgol o'r gyllideb ar gyfer y ddau gyfnod cyllido sy'n dilyn ond nid yw'r amcangyfrif hwnnw'n rhwymo'r awdurdod o ran y penderfyniadau gwirioneddol a wneir ganddo ar gyfer y ddau gyfnod cyllido sy'n dilyn.

Y fformiwla ar gyfer penderfynu cyfrannau o'r gyllideb

10.—(1Rhaid i awdurdod lleol benderfynu cyn dechrau cyfnod cyllido, ac ar ôl yr ymgynghori y cyfeirir ato yn rheoliad 11, y fformiwla y bydd yn ei defnyddio i benderfynu cyfrannau ysgolion o'r gyllideb yn y cyfnod cyllido hwnnw gan roi sylw i'r ffactorau, y meini prawf a'r gofynion a nodir yn y Rhan hon o'r Rheoliadau hyn.

(2Rhaid i awdurdod lleol roi sylw i'r ffaith ei bod yn ddymunol i fformiwla o'r fath fod yn syml, yn wrthrychol, yn fesuradwy, yn rhagweladwy o ran ei heffaith ac wedi'i mynegi'n glir.

(3Ni chaiff awdurdod lleol ddefnyddio ffactorau neu feini prawf yn ei fformiwla sy'n rhoi lwfans, yn gyfan gwbl neu'n rhannol, ar gyfer unrhyw swm a ddyrennir i'r ysgol o unrhyw grant a delir i'r awdurdod gan Weinidogion Cymru.

(4Yn ddarostyngedig i reoliad 25 (trefniadau ychwanegol a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru) rhaid i awdurdod lleol ddefnyddio'r fformiwla a benderfynwyd o dan baragraff (1) ym mhob penderfyniad ac ailbenderfyniad o gyfrannau o'r gyllideb.

Ymgynghori

11.—(1O ran ei fformiwla ar gyfer cyfnod cyllido, yn ychwanegol at ymgynghori â'r fforwm ysgolion ar gyfer ei ardal, rhaid i awdurdod lleol ymgynghori â chorff llywodraethu a phennaeth pob ysgol y mae'n ei chynnal am unrhyw newidiadau arfaethedig i'r ffactorau a'r meini prawf a gymerwyd i ystyriaeth, neu'r dulliau, yr egwyddorion a'r rheolau a fabwysiadwyd yn ei fformiwla yn y cyfnod cyllido blaenorol (gan gynnwys unrhyw ffactorau, meini prawf, dulliau, egwyddorion neu reolau newydd).

(2Nid yw paragraff (1) yn gymwys i newidiadau a wneir yn unol â rheoliadau 8(2), 19(4) neu 22.

(3Rhaid bod ymgynghori o dan y rheoliad hwn yn digwydd mewn digon o amser i ganiatáu i'r canlyniad gael ei gymryd i ystyriaeth wrth benderfynu fformiwla'r awdurdod ac wrth wneud penderfyniad cychwynnol ar gyfrannau ysgolion o'r gyllideb.

(4Rhaid i awdurdod lleol hysbysu pob un o'r rhai yr ymgynghorwyd â hwy o ganlyniad yr ymgynghori.

Ysgolion newydd

12.—(1Rhaid i ysgol newydd gael cyllideb ddirprwyedig o'r dyddiad pan fydd yr ysgol yn derbyn disgyblion gyntaf.

(2Ond caiff fforwm ysgolion awdurdod lleol ar gais yr awdurdod—

(a)amrywio'r dyddiad hwnnw i un a gynigir gan yr awdurdod,

(b)ei amrywio i ddyddiad gwahanol, neu

(c)gwrthod amrywio'r dyddiad.

(3Os yw'r fforwm ysgolion yn amrywio'r dyddiad i un gwahanol neu'n gwrthod ei amrywio, caiff yr awdurdod lleol wneud cais i Weinidogion Cymru i amrywio'r dyddiad.

(4Caiff Gweinidogion Cymru—

(a)amrywio'r dyddiad hwnnw i un a gynigir gan yr awdurdod,

(b)ei amrywio i ddyddiad gwahanol, neu

(c)gwrthod amrywio'r dyddiad.

Niferoedd disgyblion

13.—(1Wrth benderfynu cyfrannau o'r gyllideb ar gyfer ysgolion meithrin ac ysgolion cynradd ac uwchradd a gynhelir ganddynt, rhaid i awdurdod lleol gymryd i ystyriaeth yn ei fformiwla nifer y disgyblion cofrestredig yn yr ysgolion hynny ar unrhyw ddyddiadau a benderfynir gan yr awdurdod, a'r nifer hwnnw wedi'i bwysoli os yw'r awdurdod o'r farn bod hynny'n briodol yn unol â pharagraff (7).

(2At ddibenion paragraff (1), nid yw nifer y disgyblion cofrestredig yn cynnwys—

(a)disgyblion y mae grant yn daladwy ar eu cyfer i'r awdurdod gan Weinidogion Cymru o dan adran 36 o Ddeddf 2000;

(b)disgyblion mewn lleoedd y mae'r awdurdod yn cydnabod eu bod wedi'u cadw ar gyfer plant ag anghenion addysgol arbennig neu (ac eithrio pan fo'r awdurdod lleol yn dewis peidio ag arfer ei ddisgresiwn o dan reoliad 15 mewn perthynas â phlant mewn dosbarthiadau meithrin) ar gyfer plant mewn dosbarthiadau meithrin.

(3Pan fo'r awdurdod yn penderfynu un dyddiad yn unig at ddibenion paragraff (1), rhaid iddo fod yn ddyddiad sy'n dod—

(a)cyn dechrau'r cyfnod cyllido o dan sylw; a

(b)yn y flwyddyn ysgol y digwydd dechrau'r cyfnod cyllido o dan sylw ynddi.

(4Pan fo'r awdurdod yn penderfynu ar fwy nag un dyddiad at ddibenion paragraff (1), yna—

(a)rhaid i un o'r dyddiadau hynny fodloni paragraff (3);

(b)o ran y dyddiad arall neu'r dyddiadau eraill—

(i)ni chaiff unrhyw ddyddiad fod yn gynt na dechrau'r flwyddyn ysgol y mae'r cyfnod cyllido o dan sylw yn digwydd ynddi, a

(ii)caiff yr awdurdod benderfynu dyddiad neu ddyddiadau sydd yn y dyfodol ac amcangyfrif nifer y disgyblion cofrestredig yn yr ysgol ar y dyddiad hwnnw neu'r dyddiadau hynny.

(5Nid yw'r cyfyngiadau ar y dyddiadau ym mharagraffau (3) a (4) yn gymwys o ran disgyblion mewn dosbarthiadau meithrin neu ddosbarthiadau derbyn y mae'r awdurdod yn cymryd i ystyriaeth o dan baragraff (1).

(6Caiff awdurdod, wrth benderfynu cyfrannau o'r gyllideb ar gyfer ysgolion arbennig, neu ar gyfer ysgolion cynradd neu uwchradd gyda lleoedd y mae'r awdurdod yn eu cydnabod fel rhai sydd wedi'u cadw ar gyfer plant ag anghenion addysgol arbennig neu ar gyfer plant mewn dosbarthiadau meithrin, gymryd i ystyriaeth yn ei fformiwla—

(a)nifer y disgyblion cofrestredig yn yr ysgolion arbennig hynny; neu

(b)nifer y disgyblion yn y lleoedd hynny sydd wedi'u cadw mewn ysgolion cynradd neu uwchradd;

ar y dyddiad neu'r dyddiadau y penderfynwyd arnynt at ddibenion paragraff (1) (wedi'i bwysoli os yw'r awdurdod o'r farn bod hynny'n briodol yn unol â pharagraff (7)).

(7Caiff awdurdod lleol bwysoli niferoedd disgyblion yn ôl unrhyw un neu bob un o'r ffactorau canlynol—

(a)oedran, gan gynnwys pwysoliad yn ôl cyfnod allweddol neu grŵp blwyddyn;

(b)a yw disgybl yn cael addysg feithrin gan ysgol;

(c)yn achos disgyblion o dan bump oed, eu hunion oedran wrth gael eu derbyn i'r ysgol;

(ch)yn achos disgyblion o dan bump oed, yr oriau y maent yn bresennol;

(d)anghenion addysgol arbennig;

(dd)a yw disgybl mewn ysgol yn mynychu sefydliad hefyd o fewn y sector addysg bellach; a

(e)a yw disgybl yn cael ei addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.

(8Yn ddarostyngedig i baragraff (9)—

(a)os bydd ysgol gynradd yn gweithredu polisi o dderbyn plant i ddosbarthiadau meithrin neu ddosbarthiadau derbyn yn nhymor yr haf, a

(b)os bydd yn derbyn disgyblion i'r cyfryw ddosbarthiadau yn nhymor yr haf yn union ar ôl y dyddiad neu'r dyddiadau y penderfynwyd arnynt o dan baragraff (1),

caiff awdurdod lleol benderfynu nifer sy'n cynrychioli nifer y disgyblion a gaiff eu derbyn yn y tymor haf hwnnw, a chymryd y cyfryw nifer i ystyriaeth yn ei fformiwla.

(9O ran awdurdod lleol, wrth iddo benderfynu'r nifer o ddisgyblion y bydd yn ei gymryd i ystyriaeth o dan baragraff (8)—

(a)rhaid iddo beidio â phenderfynu unrhyw nifer sy'n fwy na nifer y disgyblion a dderbyniwyd yn nhymor yr haf yn union cyn y dyddiad neu'r dyddiadau a benderfynwyd o dan baragraff (1), a

(b)rhaid iddo wneud unrhyw benderfyniad o'r fath cyn dechrau'r cyfnod cyllido pan fydd y disgyblion yn cael eu derbyn.

(10Rhaid i awdurdod lleol gynnwys darpariaeth yn ei fformiwla a fyddai'n ei alluogi i addasu nifer y disgyblion cofrestredig a ddefnyddir i benderfynu cyfran ysgol o'r gyllideb pan fo'n briodol gwneud hynny er mwyn cymryd i ystyriaeth, yn gyfan gwbl neu'n rhannol, waharddiad parhaol disgybl o'r ysgol neu dderbyn disgybl yn dilyn gwaharddiad parhaol y disgybl hwnnw o ysgol arall a gynhelir gan awdurdod lleol.

Niferoedd disgyblion : Cofrestru Deuol

14.  Pan fo disgybl, yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 434 o Ddeddf 1996(13), yn ddisgybl cofrestredig mewn mwy nag un ysgol, yna rhaid trin y disgybl hwnnw fel un sy'n ddisgybl llawnamser ym mhob ysgol o'r fath oni bai bod yr awdurdod yn darparu'n bendant fel arall yn ei fformiwla.

Lleoedd

15.—(1Wrth benderfynu ac ailbenderfynu cyfrannau o'r gyllideb caiff awdurdod lleol ystyried yn ei fformiwla nifer y lleoedd y mae'n dymuno eu cyllido mewn—

(a)ysgolion arbennig;

(b)ysgolion cynradd neu uwchradd gyda lleoedd y mae'r awdurdod yn cydnabod eu bod wedi'u cadw ar gyfer plant ag anghenion addysgol arbennig;

(c)ysgolion cynradd gyda lleoedd y mae'r awdurdod yn cydnabod eu bod wedi'u cadw ar gyfer plant mewn dosbarthiadau meithrin; neu

(ch)ysgolion meithrin a gynhelir.

(2Wrth benderfynu ac ailbenderfynu cyfrannau o'r gyllideb caiff awdurdod lleol ystyried yn ei fformiwla natur unrhyw anghenion addysgol arbennig pan fydd yn cyllido lleoedd mewn ysgolion arbennig neu leoedd y mae'r awdurdod yn cydnabod eu bod wedi'u cadw ar gyfer plant ag anghenion addysgol arbennig mewn ysgolion cynradd neu uwchradd.

(3Rhaid i awdurdod lleol ddarparu, os bydd unrhyw leoedd mewn ysgolion arbennig yn cael eu cymryd i ystyriaeth yn unol â pharagraff (1), na fydd y nifer yn llai na nifer y disgyblion cofrestredig yn yr ysgol ar y dyddiad neu'r dyddiadau a benderfynir at ddibenion rheoliad 13(1).

Ysgolion o ddisgrifiad penodol

16.  Pan fo awdurdod lleol yn didynnu o'i gyllideb ysgolion wariant cynlluniedig sy'n ymwneud ag ysgolion a gynhelir o ddisgrifiad penodol, rhaid iddo gynnwys ffactorau neu feini prawf yn ei fformiwla o ran y gwariant cynlluniedig hwnnw, mewn perthynas ag ysgolion a gynhelir nad ydynt yn dod o fewn y disgrifiad hwnnw.

Cyllid gwahaniaethol

17.  Rhaid i awdurdod lleol beidio â defnyddio yn ei fformwla unrhyw ffactorau neu feini prawf sy'n gwahaniaethu rhwng ysgolion yn ôl eu categori o dan Ddeddf 1998 ac eithrio lle bo gwahaniaethau yn swyddogaethau cyrff llywodraethu ysgolion o wahanol gategorïau yn cyfiawnhau gwahaniaethu o'r fath.

Ffactorau neu feini prawf ychwanegol

18.—(1Yn ddarostyngedig i reoliadau 16 a 17, caiff awdurdod lleol, wrth benderfynu cyfrannau ysgolion o'r gyllideb, gymryd i ystyriaeth yn ei fformiwla, yn ôl yr hyn sy'n briodol yn ei farn, unrhyw un neu bob un o'r ffactorau neu'r meini prawf a nodir yn Atodlen 3, fel y darperir ar ei gyfer yn yr Atodlen honno.

(2Rhaid i awdurdod lleol, wrth benderfynu cyfrannau o'r gyllideb ar gyfer ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd y mae'n eu cynnal, gymryd i ystyriaeth yn ei fformiwla ffactor neu ffactorau a seiliwyd ar fynychder amddifadedd cymdeithasol ymhlith disgyblion sydd wedi'u cofrestru ym mhob ysgol o'r fath.

(3Nid yw ffactor sydd wedi'i gynnwys mewn fformiwla awdurdod yn unol â pharagraff 19 o Atodlen 3, at ddiben paragraff (2), yn ffactor a seiliwyd ar fynychder amddifadedd cymdeithasol ymhlith disgyblion sydd wedi'u cofrestru mewn ysgol.

(4Oni nodir yn wahanol yn Atodlen 3, ni chaniateir i'r ffactorau neu'r meini prawf a nodir yn yr Atodlen honno gael eu cymryd i ystyriaeth gan awdurdod lleol ar sail y gost wirioneddol neu amcangyfrifedig.

(5Pan fo awdurdod lleol yn cymryd i ystyriaeth ffactorau neu feini prawf newydd yn ei fformiwla neu'n dileu ffactorau o'i fformiwla neu'n penderfynu ar fformiwla sy'n sylweddol wahanol neu'n gyfan gwbl wahanol i'r cyfnod cyllido blaenorol, caniateir iddo wneud unrhyw ddarpariaeth drosiannol y mae'n credu ei bod yn rhesymol.

Cyllid ar gyfer disgyblion dros oedran ysgol gorfodol

19.—(1Yn ddarostyngedig i reoliad 21 (addasu cyfran o'r gyllideb) rhaid i'r gyfran o'r gyllideb ar gyfer ysgol uwchradd neu ysgol arbennig sy'n darparu addysg addas ar gyfer gofynion personau dros oedran ysgol gorfodol gynnwys swm (“y Swm”) o ran disgyblion yr ysgol honno sydd dros oedran ysgol gorfodol.

(2Rhaid i'r Swm gynnwys, ar sail net—

(a)dyraniad gan yr awdurdod lleol ar gyfer darpariaeth yr ysgol honno i ddisgyblion dros oedran ysgol gorfodol yn unol ag amodau'r grant sy'n daladwy i'r awdurdod lleol gan Weinidogion Cymru o dan adran 36 o Ddeddf 2000 (“y Grant”);

(b)unrhyw swm y mae'r awdurdod lleol yn ei ddarparu ar gyfer addysg disgyblion dros oedran addysg gorfodol.

(3I'r graddau nad yw'r Swm yn ddarostyngedig i'r amodau yn y Grant, rhaid i awdurdod lleol, wrth benderfynu cyfrannau o'r gyllideb ddefnyddio ffactor sy'n dyrannu cyllid ar gyfer disgyblion dros oedran addysg gorfodol.

(4Rhaid ailbenderfynu cyfran yr ysgol o'r gyllideb ar gyfer cyfnod cyllido cyn diwedd y cyfnod cyllido hwnnw os yw'r awdurdod yn cael hysbysiad ysgrifenedig gan Weinidogion Cymru o ddyraniad y Grant neu ddyraniad diwygiedig o'r Grant.

Ad-drefnu ysgol

20.—(1Yn achos ysgol a gynhelir sydd—

(a)yn ysgol newydd y cyfeiriwyd ati yn rheoliad 3(2);

(b)yn ysgol (ac eithrio ysgol newydd) nad yw cynigion ar gyfer ei sefydlu o dan unrhyw ddeddfiad wedi'u gweithredu'n llawn;

(c)yn ysgol sy'n destun cynigion ar gyfer newid rhagnodedig o dan Bennod 2 o Ran 2 o Ddeddf 1998 neu adran 113A o Ddeddf 2000;

(ch)yn ysgol feithrin a gynhelir sydd i'w therfynu yn y cyfnod cyllido o dan sylw,

rhaid i'r awdurdod lleol gynnwys ffactorau neu feini prawf yn ei fformiwla a fyddai'n ei alluogi i benderfynu cyfran yr ysgol o'r gyllideb er mwyn cymryd i ystyriaeth anghenion penodol yr ysgol; ac yn benodol, os bydd y cyfnod cyllido o dan sylw yn dod cyn y cyfnod cyllido y mae ysgol yn derbyn disgyblion gyntaf, caiff benderfynu mai sero yw swm y gyfran o'r gyllideb.

(2At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae cynigion ar gyfer sefydlu ysgol wedi'u gweithredu'n llawn pan fydd nifer y disgyblion sy'n cael eu derbyn i'r ysgol ym mhob grŵp oedran wedi cyrraedd, ym marn yr awdurdod lleol—

(a)y nifer hwnnw o ddisgyblion a nodwyd, pan gafodd cynigion ar gyfer sefydlu'r ysgol eu cyhoeddi, fel y nifer o ddisgyblion i'w derbyn i bob grŵp oedran pan fyddai'r cynigion wedi'u gweithredu'n llawn; neu

(b)os na nodwyd unrhyw nifer o'r fath, y nifer hwnnw y caiff yr awdurdod ei benderfynu.

Addasu cyfran o'r gyllideb

21.—(1I'r graddau yr oedd cyfran ysgol o'r gyllideb am gyfnod cyllido—

(a)wedi'i phenderfynu yn ôl amcangyfrif o nifer y disgyblion cofrestredig yn yr ysgol ar ddyddiad neu ddyddiadau penodol; a

(b)bod gwahaniaethau rhwng nifer amcangyfrifedig y disgyblion ar y dyddiad hwnnw neu'r dyddiadau hynny a nifer gwirioneddol y disgyblion yn yr ysgol ar y dyddiad hwnnw neu'r dyddiadau hynny heb gael eu cymryd i ystyriaeth mewn ailbenderfyniad ar gyfran yr ysgol o'r gyllideb ar gyfer y cyfnod cyllido hwnnw,

rhaid i'r awdurdod lleol benderfynu cyfran yr ysgol honno o'r gyllideb ar gyfer y cyfnod cyllido sy'n dilyn er mwyn cymryd y gwahaniaethau hynny i ystyriaeth.

(2Caiff awdurdod lleol benderfynu cyfran ysgol o'r gyllideb ar gyfer cyfnod cyllido fel y gellir cymryd i ystyriaeth unrhyw newid arall yn ystod y cyfnod cyllido blaenorol yn y data y penderfynwyd cyfran yr ysgol o'r gyllideb ar gyfer y cyfnod cyllido blaenorol drwy gyfeirio ato, os na chymrwyd y newidiadau hynny i ystyriaeth wrth ailbenderfynu cyfran yr ysgol o'r gyllideb ar gyfer y cyfnod cyllido blaenorol hwnnw.

(3Caiff awdurdod lleol addasu nifer y disgyblion cofrestredig a ddefnyddir i benderfynu cyfran ysgol o'r gyllideb ar gyfer cyfnod cyllido pan fo'n briodol gwneud hynny er mwyn cymryd i ystyriaeth, yn gyfan gwbl neu'n rhannol—

(a)unrhyw ostyngiad neu gynnydd yng nghyfran yr ysgol o'r gyllideb am y cyfnod cyllido blaenorol sy'n codi o wahardd disgybl yn barhaol o'r ysgol neu dderbyn i'r ysgol ddisgybl a waharddwyd yn barhaol o ysgol arall a gynhelir; neu

(b)unrhyw gynnydd yng nghyfran yr ysgol o'r gyllideb am y cyfnod cyllido blaenorol sy'n codi o gynnydd mewn niferoedd disgyblion yn ystod y cyfnod cyllido hwnnw.

(4Rhaid i awdurdod lleol gynnwys yn ei fformiwla ffactorau neu feini prawf sy'n bodloni gofynion y rheoliad hwn.

Disgyblion a waharddwyd neu a dderbyniwyd ar ôl gwaharddiad

22.—(1Os bydd disgybl yn cael ei wahardd yn barhaol o ysgol a gynhelir gan awdurdod lleol yn ystod cyfnod cyllido, rhaid i'r awdurdod ailbenderfynu cyfran yr ysgol o'r gyllideb ar gyfer y cyfnod cyllido hwnnw yn unol â pharagraff (2).

(2Mae cyfran yr ysgol o'r gyllideb i'w gostwng â'r swm A × (B/52) ac—

  • A yw'r swm, yn y cyfnod cyllido y mae'r gwaharddiad parhaol yn dod yn effeithiol ynddo, yn ôl penderfyniad yr awdurdod yn unol â'r Rheoliadau hyn sydd i'w briodoli am y cyfnod cyllido llawn i ddisgybl cofrestredig sydd o'r un oedran ac y mae ganddo'r un nodweddion â'r disgybl o dan sylw mewn ysgolion cynradd neu uwchradd a gynhelir gan yr awdurdod;

  • At ddibenion y diffiniad hwn y swm sydd i'w briodoli i ddisgybl cofrestredig yw cyfanswm y symiau a benderfynwyd yn unol â fformiwla'r awdurdod neu reoliad 25 yn ôl niferoedd disgyblion yn hytrach nag yn ôl nifer y lleoedd yn yr ysgol neu unrhyw ffactor arall neu feini prawf eraill nad ydynt yn dibynnu ar niferoedd disgyblion; a

  • B yw nifer yr wythnosau cyflawn sydd ar ôl yn y cyfnod cyllido o'u cyfrifo o'r dyddiad perthnasol:

  • AC EITHRIO os yw'r gwaharddiad parhaol yn dod yn effeithiol ar neu ar ôl 1 Ebrill mewn blwyddyn ysgol ac ar ei diwedd y mae disgyblion, sydd o'r un oedran neu'r un grŵp oedran â'r disgybl o dan sylw, yn ymadael fel rheol â'r ysgol honno cyn cael eu derbyn i ysgol arall a chanddi ddisgyblion o ystod oedran gwahanol, B yw nifer yr wythnosau cyflawn sydd ar ôl yn y flwyddyn ysgol honno o'u cyfrifo o'r dyddiad perthnasol.

(3Pan fo disgybl a gafodd ei wahardd yn barhaol o ysgol a gynhelir yn cael ei dderbyn yn ystod yr un cyfnod cyllido i ysgol a gynhelir gan awdurdod lleol (“yr ysgol sy'n derbyn”), rhaid i'r awdurdod ailbenderfynu cyfran yr ysgol sy'n derbyn o'r gyllideb yn unol â pharagraff (4).

(4Mae cyfran yr ysgol o'r gyllideb i'w chynyddu â swm na chaniateir iddo fod yn llai na'r swm D × (E/F) a—

  • D yw'r swm y mae'r awdurdod yn ei ddefnyddio i ostwng cyfran yr ysgol o'r gyllideb y gwaharddwyd y disgybl yn barhaol ohoni neu y byddai wedi'i ddefnyddio i'w gostwng petai'r ysgol honno wedi'i chynnal gan yr awdurdod;

  • E yw nifer yr wythnosau cyflawn sydd ar ôl yn y cyfnod cyllido y mae'r disgybl yn ddisgybl cofrestredig ynddi yn yr ysgol sy'n derbyn;

  • F yw nifer yr wythnosau cyflawn sy'n weddill yn y cyfnod cyllido o'u cyfrif o'r dyddiad perthnasol.

(5At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr y dyddiad perthnasol yw'r ystyr a ragnodir mewn rheoliadau a wneir o dan adran 494 o Ddeddf 1996(14).

(6Os caiff disgybl sydd wedi'i wahardd yn barhaol ei dderbyn yn ôl yn ddiweddarach gan gorff llywodraethu'r ysgol neu gan banel apêl a gyfansoddwyd o dan reoliadau a wnaed o dan adran 52 o Ddeddf 2002(15), rhaid cynyddu cyfran yr ysgol o'r gyllideb gan swm nad yw'n llai nag G × (H/I) ac—

  • G yw'r swm y mae'r awdurdod wedi'i ddefnyddio i ostwng cyfran yr ysgol o'r gyllideb;

  • H yw nifer yr wythnosau cyflawn sy'n weddill yn y cyfnod cyllido y caiff y disgybl ei dderbyn yn ôl ynddo; ac

  • I yw nifer yr wythnosau cyflawn sy'n weddill yn y cyfnod cyllido o'u cyfrif o'r dyddiad perthnasol.

(7Mae paragraffau (1) a (2) hefyd yn gymwys os yw disgybl yn gadael ysgol a gynhelir am resymau heblaw gwaharddiad parhaol, ac y mae'n derbyn addysg sy'n cael ei gyllido gan awdurdod lleol heblaw mewn ysgol a gynhelir gan yr awdurdod hwnnw.

Canran o gyllid “sy'n cyfeirio at niferoedd disgyblion”

23.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), wrth benderfynu ac ailbenderfynu cyfrannau o'r gyllideb ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd, rhaid i awdurdod lleol sicrhau bod ei fformiwla yn darparu bod o leiaf 70 y cant o swm ei gyllideb ysgolion unigol yn cael ei ddyrannu mewn un neu ragor o'r dulliau canlynol—

(a)yn unol â rheoliad 13(1) neu (6);

(b)yn unol ag unrhyw ffactorau neu feini prawf eraill gan ddefnyddio niferoedd disgyblion sy'n darparu ar gyfer yr un cyllid i ddisgyblion o'r un oedran ni waeth beth fo natur yr ysgol y maent yn mynd iddi;

(c)i leoedd mewn ysgolion cynradd y mae'r awdurdod yn eu cydnabod fel rhai sydd wedi'u cadw ar gyfer plant mewn dosbarthiadau meithrin;

(ch)ar gyfer plant ag anghenion addysgol arbennig nad oes ganddynt ddatganiadau o anghenion addysgol arbennig ond hyd at 5 y cant yn unig o'r cyfanswm a ddyrannwyd gan yr awdurdod i ysgolion cynradd ac uwchradd o'i gyllideb ysgolion unigol;

(d)i leoedd mewn ysgolion cynradd neu uwchradd y mae'r awdurdod yn eu cydnabod fel rhai sydd wedi'u cadw ar gyfer plant ag anghenion addysgol arbennig;

(dd)ar gyfer disgyblion â datganiadau o anghenion addysgol arbennig pan fo cyllid ar gyfer disgyblion o'r fath yn ffurfio rhan o gyllidebau dirprwyedig ysgolion.

(2At ddibenion y rheoliad hwn, rhaid peidio â chynnwys yng nghyllideb ysgolion unigol awdurdod lleol gyfrannau ysgolion o'r gyllideb sy'n darparu addysg ar gyfer disgyblion dros oedran ysgol gorfodol yn unig, cyfrannau ysgolion arbennig o'r gyllideb nac unrhyw ran o'r gyllideb ysgolion unigol y daliwyd gafael arni yn unol â rheoliad 8(2) at ddibenion ailbenderfyniadau neu gywiro gwallau.

Cywiro gwallau

24.  Caiff awdurdod lleol ailbenderfynu ar unrhyw bryd yn ystod cyfnod cyllido gyfran ysgol o'r gyllideb am y cyfnod cyllido hwnnw er mwyn cywiro gwall mewn penderfyniad neu ailbenderfyniad o dan y Rheoliadau hyn, p'un a yw'n codi o wall ynglŷn â nifer y disgyblion cofrestredig yn yr ysgol neu fel arall.

Trefniadau ychwanegol a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru

25.  Caiff Gweinidogion Cymru, pan fo'n ymddangos iddynt ei bod yn hwylus i wneud hynny, awdurdodi awdurdod lleol i benderfynu neu ailbenderfynu cyfrannau o'r gyllideb, ar unrhyw adeg ac i'r graddau hynny y gallant eu pennu, yn unol â threfniadau a gymeradwywyd ganddynt yn lle'r trefniadau y darparwyd ar eu cyfer mewn mannau eraill yn y Rheoliadau hyn.

RHAN 4 —Cynlluniau Ariannol

Y cynnwys sy'n ofynnol mewn cynlluniau

26.  Rhaid i gynllun a gynhelir gan awdurdod lleol o dan adran 48(1) o Ddeddf 1998 ymdrin â'r materion sy'n gysylltiedig ag ariannu ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod a nodir yn Atodlen 4 i'r Rheoliadau hyn.

Dull cyhoeddi

27.  At ddibenion paragraff 1(7) o Atodlen 14 i Ddeddf 1998 (dull rhagnodedig i gyhoeddi cynlluniau) rhaid i gynllun gael ei gyhoeddi gan yr awdurdod lleol dan sylw wrth iddo ddod i rym fel y'i diwygiwyd o dan yr Atodlen honno drwy—

(a)rhoi copi i gorff llywodraethu a phennaeth pob ysgol a gynhelir gan yr awdurdod; a

(b)trefnu bod copi ar gael er mwyn cyfeirio ato ar bob adeg resymol yn ddi-dâl—

(i)ym mhrif swyddfa addysg yr awdurdod; a

(ii)ym mhob ysgol a gynhelir gan yr awdurdod neu ar wefan a gynhelir gan yr awdurdod y gall y cyhoedd fynd ati.

Cymeradwyaeth gan y fforwm ysgolion neu Weinidogion Cymru o gynigion i ddiwygio cynlluniau

28.—(1Os bydd awdurdod lleol yn cyflwyno cynigion i ddiwygio ei gynllun i'w fforwm ysgolion ar gyfer cymeradwyaeth ganddynt yn unol â pharagraff 2A o Atodlen 14 i Ddeddf 1998, caiff y fforwm ysgolion—

(a)cymeradwyo unrhyw gynigion o'r fath;

(b)cymeradwyo unrhyw gynigion o'r fath yn ddarostyngedig i addasiadau; neu

(c)gwrthod cymeradwyo unrhyw gynigion o'r fath.

(2Os bydd y fforwm ysgolion yn cymeradwyo unrhyw ddiwygiadau i'r cynllun, caiff bennu'r dyddiad y mae unrhyw gynllun diwygiedig i ddod i rym.

(3Os bydd y fforwm ysgolion yn gwrthod cymeradwyo cynigion a gyflwynir o dan baragraff 2A o Atodlen 14 i Ddeddf 1998, neu'n cymeradwyo bod unrhyw gynigion o'r fath yn ddarostyngedig i addasiadau nad ydynt yn dderbyniol i'r awdurdod lleol, caiff yr awdurdod wneud cais i Weinidogion Cymru am gymeradwyaeth o gynigion o'r fath.

(4Caiff Gweinidogion Cymru—

(a)cymeradwyo unrhyw gynigion o'r fath;

(b)cymeradwyo unrhyw gynigion o'r fath yn ddarostyngedig i addasiadau; neu

(c)gwrthod cymeradwyo unrhyw gynigion o'r fath.

(5Os bydd Gweinidogion Cymru yn cymeradwyo unrhyw ddiwygiadau i'r cynllun, cânt bennu'r dyddiad y mae unrhyw gynllun diwygiedig i ddod i rym.

(6Ni chaiff unrhyw gynllun diwygiedig ddod i rym oni chymeradwywyd ef gan y fforwm ysgolion neu gan Weinidogion Cymru yn unol â'r rheoliad hwn.

Leighton Andrews

Y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru

16 Mawrth 2010

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources