- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
26. Rhaid i gynllun a gynhelir gan awdurdod lleol o dan adran 48(1) o Ddeddf 1998 ymdrin â'r materion sy'n gysylltiedig ag ariannu ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod a nodir yn Atodlen 4 i'r Rheoliadau hyn.
27. At ddibenion paragraff 1(7) o Atodlen 14 i Ddeddf 1998 (dull rhagnodedig i gyhoeddi cynlluniau) rhaid i gynllun gael ei gyhoeddi gan yr awdurdod lleol dan sylw wrth iddo ddod i rym fel y'i diwygiwyd o dan yr Atodlen honno drwy—
(a)rhoi copi i gorff llywodraethu a phennaeth pob ysgol a gynhelir gan yr awdurdod; a
(b)trefnu bod copi ar gael er mwyn cyfeirio ato ar bob adeg resymol yn ddi-dâl—
(i)ym mhrif swyddfa addysg yr awdurdod; a
(ii)ym mhob ysgol a gynhelir gan yr awdurdod neu ar wefan a gynhelir gan yr awdurdod y gall y cyhoedd fynd ati.
28.—(1) Os bydd awdurdod lleol yn cyflwyno cynigion i ddiwygio ei gynllun i'w fforwm ysgolion ar gyfer cymeradwyaeth ganddynt yn unol â pharagraff 2A o Atodlen 14 i Ddeddf 1998, caiff y fforwm ysgolion—
(a)cymeradwyo unrhyw gynigion o'r fath;
(b)cymeradwyo unrhyw gynigion o'r fath yn ddarostyngedig i addasiadau; neu
(c)gwrthod cymeradwyo unrhyw gynigion o'r fath.
(2) Os bydd y fforwm ysgolion yn cymeradwyo unrhyw ddiwygiadau i'r cynllun, caiff bennu'r dyddiad y mae unrhyw gynllun diwygiedig i ddod i rym.
(3) Os bydd y fforwm ysgolion yn gwrthod cymeradwyo cynigion a gyflwynir o dan baragraff 2A o Atodlen 14 i Ddeddf 1998, neu'n cymeradwyo bod unrhyw gynigion o'r fath yn ddarostyngedig i addasiadau nad ydynt yn dderbyniol i'r awdurdod lleol, caiff yr awdurdod wneud cais i Weinidogion Cymru am gymeradwyaeth o gynigion o'r fath.
(4) Caiff Gweinidogion Cymru—
(a)cymeradwyo unrhyw gynigion o'r fath;
(b)cymeradwyo unrhyw gynigion o'r fath yn ddarostyngedig i addasiadau; neu
(c)gwrthod cymeradwyo unrhyw gynigion o'r fath.
(5) Os bydd Gweinidogion Cymru yn cymeradwyo unrhyw ddiwygiadau i'r cynllun, cânt bennu'r dyddiad y mae unrhyw gynllun diwygiedig i ddod i rym.
(6) Ni chaiff unrhyw gynllun diwygiedig ddod i rym oni chymeradwywyd ef gan y fforwm ysgolion neu gan Weinidogion Cymru yn unol â'r rheoliad hwn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: