Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2010

Enwi a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2010 a deuant i rym ar 13 Ebrill 2010.

Diwygio Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006

2.—(1Mae Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006(1) wedi eu diwygio'n unol â'r paragraffau canlynol.

(2Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli), yn lle'r cyfeiriadau at offerynnau'r UE sy'n ymddangos yn union ar ôl y diffiniad o “mangre”, rhodder y cyfeiriadau canlynol yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor—

  • Mae i'r ymadroddion “Penderfyniad 2006/766” (“Decision 2006/766”), “Penderfyniad 2009/951” (“Decision 2009/951”), “Cyfarwyddeb 2004/41” (“Directive 2004/41”), “Rheoliad 178/2002” (“Regulation 178/2002”), “Rheoliad 852/2004” (“Regulation 852/2004”), “Rheoliad 853/2004” (“Regulation 853/2004”), “Rheoliad 854/2004” (“Regulation 854/2004”), “Rheoliad 882/2004” (“Regulation 882/2004”), “Rheoliad 1688/2005” (“Regulation 1688/2005”), “Rheoliad 2073/2005” (“Regulation 2073/2005”), “Rheoliad 2074/2005” (“Regulation 2074/2005”), “Rheoliad 2075/2005” (“Regulation 2075/2005”), “Rheoliad 2076/2005” (“Regulation 2076/2005”), “Rheoliad 1662/2006” (“Regulation 1662/2006”), “Rheoliad 1663/2006” (“Regulation 1663/2006”), “Rheoliad 1664/2006” (“Regulation 1664/2006”), “Rheoliad 1666/2006” (“Regulation 1666/2006”), “Rheoliad 1791/2006” (“Regulation 1791/2006”), “Rheoliad 479/2007” (“Regulation 479/2007”), “Rheoliad 1243/2007” (“Regulation 1243/2007”), “Rheoliad 1244/2007” (“Regulation 1244/2007”), “Rheoliad 1245/2007” (“Regulation 1245/2007”), “Rheoliad 1246/2007” (“Regulation 1246/2007”), “Rheoliad 1441/2007” (“Regulation 1441/2007”), “Rheoliad 439/2008” (“Regulation 439/2008”), “Rheoliad 1250/2008” (“Regulation 1250/2008”), “Rheoliad 146/2009” (“Regulation 146/2009”), “Rheoliad 219/2009” (“Regulation 219/2009”), “Rheoliad 596/2009” (“Regulation 596/2009”), a “Rheoliad 669/2009” (“Regulation 669/2009”) yr ystyron a roddir iddynt yn ôl eu trefn yn Atodlen 1;.

(3Yn lle rheoliad 17 (tramgwyddau a chosbau) rhodder y rheoliad a ganlyn—

Tramgwyddau a chosbau

17.(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (4) i (8), bydd unrhyw berson sy'n mynd yn groes i unrhyw un o'r darpariaethau Cymunedol penodedig neu sy'n methu cydymffurfio ag unrhyw un neu rai ohonynt yn euog o dramgwydd.

(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn yn agored—

(a)o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn uwch na'r uchafswm statudol; neu

(b)o'i gollfarnu ar dditiad, i garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na dwy flynedd, i ddirwy neu i'r ddau.

(3) Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan reoliad 15 yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol neu i garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na thri mis, neu i'r ddau.

(4) Ar yr amod yr ydys wedi cydymffurfio â gofynion Atodlen 3, ni fernir bod person wedi mynd yn groes i Erthygl 4(2) o Reoliad 852/2004 neu wedi methu â chydymffurfio â hi, o'i darllen gyda pharagraff 4 o Bennod IV o Atodiad II i'r Rheoliad hwnnw (swmp-ddeunyddiau bwyd ar ffurf hylif, gronynnau neu bowdr i'w cludo mewn daliedyddion a/neu gynwysyddion/tanceri sydd wedi eu neilltuo ar gyfer cludo deunyddiau bwyd).

(5) Ar yr amod yr ydys wedi cydymffurfio â gofynion Atodlen 3A, ni fernir bod person wedi mynd yn groes i Erthygl 3(1) neu 4(1)(a) o Reoliad 853/2004 neu wedi methu â chydymffurfio ag un o'r Erthyglau hynny, o'i darllen yn y naill achos neu'r llall gyda pharagraff 5 o Bennod II o Adran I o Atodiad III i'r Rheoliad hwnnw (gweithredwyr busnes bwyd i sicrhau bod gan ladd-dai lle y mae carnolion domestig yn cael eu cigydda gyfleusterau cloadwy i storio cig y daliwyd gafael arno mewn oergell a chyfleusterau cloadwy ar wahân i storio cig y datganwyd ei fod yn anffit i'w fwyta gan bobl).

(6) Ar yr amod yr ydys wedi cydymffurfio â gofynion Atodlen 3B, ni fernir bod person wedi mynd yn groes i Erthygl 3(1) neu 4(1)(a) o Reoliad 853/2004 neu wedi methu â chydymffurfio ag un o'r Erthyglau hynny, o'i darllen yn y naill achos neu'r llall gyda pharagraff 5 o Bennod II o Adran II o Atodiad III i'r Rheoliad hwnnw (gweithredwyr busnes bwyd i sicrhau bod gan ladd-dai lle y mae dofednod neu lagomorffiaid yn cael eu cigydda gyfleusterau cloadwy i storio cig y daliwyd gafael arno mewn oergell a chyfleusterau cloadwy ar wahân i storio cig y datganwyd ei fod yn anffit i'w fwyta gan bobl).

(7) Ar yr amod yr ydys wedi cydymffurfio â gofynion Atodlen 3C, ni fernir bod person wedi mynd yn groes i Erthygl 3(1) neu 4(1)(a) o Reoliad 853/2004 neu wedi methu â chydymffurfio ag un o'r Erthyglau hynny, o'i darllen yn y naill achos neu'r llall gyda pharagraff 6 o Bennod II o Adran I o Atodiad III i'r Rheoliad hwnnw (gweithredwyr busnes bwyd i sicrhau bod gan ladd-dai lle y mae carnolion domestig yn cael eu cigydda le ar wahân gyda chyfleusterau priodol i olchi, glanhau a diheintio cyfryngau cludo da byw onid yw'r awdurdod cymwys yn caniatáu iddynt beidio â chael lleoedd o'r fath a bod lleoedd a chyfleusterau sydd wedi eu hawdurdodi'n swyddogol i'w cael wrth law).

(8) Ar yr amod yr ydys wedi cydymffurfio â gofynion Atodlen 3Ch, ni fernir bod person wedi mynd yn groes i Erthygl 3(1) neu 4(1)(a) o Reoliad 853/2004 neu wedi methu â chydymffurfio ag un o'r Erthyglau hynny, o'i darllen yn y naill achos neu'r llall gyda pharagraff 6(b) o Bennod II o Adran II o Atodiad III i'r Rheoliad hwnnw (gweithredwyr busnes bwyd i sicrhau bod gan ladd-dai lle y mae dofednod neu lagomorffiaid yn cael eu cigydda le ar wahân gyda chyfleusterau priodol i olchi, glanhau a diheintio cyfryngau cludo onid oes lleoedd a chyfleusterau sydd wedi eu hawdurdodi'n swyddogol i'w cael wrth law)..

(4Yn lle Atodlen 1 (diffiniadau o ddeddfwriaeth Gymunedol), rhodder yr Atodlen (diffiniadau o ddeddfwriaeth UE) a osodir yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn.

(5Yn union ar ôl Atodlen 3 (swmpgludo olewau hylifol neu frasterau hylifol ar longau mordwyol a swmpgludo siwgr crai dros y môr) mewnosoder yr Atodlenni a osodir yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn.

Gwenda Thomas

Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

18 Mawrth 2010