Search Legislation

Rheoliadau Adrodd ar Brisiau Cynhyrchion Llaeth (Cymru) 2011

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2011 Rhif 1009 (Cy.149)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

Rheoliadau Adrodd ar Brisiau Cynhyrchion Llaeth (Cymru) 2011

Gwnaed

29 Mawrth 2011

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

31 Mawrth 2011

Yn dod i rym

21 Ebrill 2011

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi(1) at ddibenion gwneud rheoliadau o dan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) o ran polisi amaethyddol cyffredin yr Undeb Ewropeaidd.

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer diben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972, ac mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i'r cyfeiriadau at offeryn Undeb Ewropeaidd, yn y Rheoliadau hyn, gael eu dehongli fel cyfeiriadau at yr offeryn Undeb Ewropeaidd hwnnw fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Adrodd ar Brisiau Cynhyrchion Llaeth (Cymru) 2011. Maent yn dod i rym ar 21 Ebrill 2011 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “cynhyrchion llaeth” (“milk products”) yw'r cynhyrchion hynny a restrir yn Erthygl 2(3)(a) o Reoliad y Comisiwn, ac Atodiadau 1.A ac 1.B iddo;

  • ystyr “proseswr llaeth” (“milk processor”) yw person sy'n rhedeg sefydliad sy'n gweithgynhyrchu cynhyrchion llaeth; ac

  • ystyr “Rheoliad y Comisiwn” (“Commission Regulation”) yw Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 479/2010 sy'n gosod rheolau ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007 o ran hysbysiadau gan Aelod-wladwriaethau i'r Comisiwn yn y sector llaeth a chynhyrchion llaeth(3) fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd.

Darparu gwybodaeth ar brisiau cynhyrchion llaeth

3.—(1Rhaid i broseswr llaeth ddarparu i Weinidogion Cymru yr wybodaeth honno sy'n ymwneud â phrisiau cynhyrchion llaeth y caiff Gweinidogion Cymru drwy hysbysiad ei gwneud yn ofynnol at ddibenion Erthyglau 2 a 3 o Reoliad y Comisiwn.

(2Caiff yr hysbysiad y cyfeirir ato o dan baragraff (1) ei gwneud yn ofynnol i'r proseswr llaeth ddarparu'r wybodaeth y gofynnwyd amdani ar sail reolaidd, a phennu pryd ac ym mha fformat y mae'n rhaid darparu'r wybodaeth.

Tramgwyddau

4.—(1Bydd unrhyw berson sy'n methu â chydymffurfio â hysbysiad y cyfeirir ato yn rheoliad 3(1) yn euog o dramgwydd, ac yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.

(2Os yw corff corfforaethol yn euog o dramgwydd o dan baragraff (1) ac os profir bod y tramgwydd wedi ei wneud drwy gydsyniad neu ymoddefiad, neu wedi ei briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran—

(a)unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu berson arall tebyg yn y corff corfforaethol, neu

(b)unrhyw berson a oedd yn honni ei fod yn gweithredu mewn unrhyw swyddogaeth o'r fath,

mae'r person hwnnw yn euog o'r tramgwydd yn ogystal â'r corff corfforaethol.

(3At ddibenion paragraff (2), ystyr “cyfarwyddwr” mewn perthynas â chorff corfforaethol y mae ei faterion yn cael eu rheoli gan ei aelodau, yw aelod o'r corff corfforaethol.

Dirymu

5.  Mae Rheoliadau Adrodd ar Brisiau Cynhyrchion Llaeth (Cymru) 2005(4) wedi eu dirymu.

Elin Jones

Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

29 Mawrth 2011

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn disodli Rheoliadau Adrodd ar Brisiau Cynhyrchion Llaeth (Cymru) 2005 (“Rheoliadau 2005”) a wnaeth ddarpariaeth yng Nghymru ar gyfer gweithredu erthygl 6 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 562/2005 (OJ Rhif L95, 14.4.2005, t.11) sy'n gosod rheolau ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1255/1999 o ran cyfathrebiadau rhwng yr Aelod-wladwriaethau a'r Comisiwn yn y sector llaeth a chynhyrchion llaeth fel y'i diwygiwyd o bryd i'w gilydd.

Cafodd Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 562/2005 ei ddiddymu o 1 Awst 2010 ymlaen a'i ddisodli gan Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 479/2010 sy'n gosod rheolau ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007 o ran hysbysiadau gan Aelod-wladwriaethau i'r Comisiwn yn y sector llaeth a chynhyrchion llaeth fel y'i diwygiwyd o bryd i'w gilydd. Cafodd Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1255/1999 ei ddiddymu o 1 Gorffennaf 2008 a'i ddisodli gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1234/2007.

Mae'r Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i broseswyr llaeth ddarparu i Weinidogion Cymru unrhyw wybodaeth ynglŷn â phrisiau cynhyrchion llaeth penodol a all fod yn ofynnol gan Weinidogion Cymru drwy hysbysiad (rheoliad 3). Mae methu â chydymffurfio â gofyniad o'r fath yn dramgwydd sy'n dwyn cosb ar gollfarn ddiannod o ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol (rheoliad 4).

Cafodd asesiad effaith rheoleiddiol llawn ar yr effaith ar gostau busnes ei lunio mewn perthynas â Rheoliadau 2005 a gellir cael copïau gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ. Nid oes asesiad effaith rheoleiddiol llawn pellach wedi ei lunio ar gyfer yr offeryn hwn, gan na ragwelir y bydd yn effeithio o gwbl ar y sector preifat na'r sector gwirfoddol.

(2)

1972 p.68. Mewnosodwyd paragraff 1A yn Atodlen 2 gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p.51).

(3)

OJ Rhif L 135, 2.6.2010, t.26, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 1041/2010 (OJ Rhif L 299, 17.11.2010, t.4).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources