Search Legislation

Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cychwyn Darpariaethau Deddfau'r Cynulliad, Darpariaethau Trosiannol ac Arbed ac Addasiadau) 2011

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Close

Print Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2011 Rhif 1011 (Cy.150) (C.42)

Y GYFRAITH GYFANSODDIADOL

DATGANOLI

Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cychwyn Darpariaethau Deddfau'r Cynulliad, Darpariaethau Trosiannol ac Arbed ac Addasiadau) 2011

Gwnaed

30 Mawrth 2011

Yn dod i rym

5 Mai 2011

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 105(2) a (3) a 157(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006(1), yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, dehongli a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cychwyn Darpariaethau Deddfau'r Cynulliad, Darpariaethau Trosiannol ac Arbed ac Addasiadau) 2011.

(2Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Llywodraeth Cymru 2006.

(3Mae erthygl 8 o'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru yn unig.

Cychwyn

2.  Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 5 Mai 2011.

Darpariaethau Deddfau'r Cynulliad

3.  Daw darpariaethau Deddfau'r Cynulliad(2) i rym ar y dyddiad a bennir yn erthygl 2.

Diwygio adran 106 o'r Ddeddf

4.—(1Yn adran 106 o'r Ddeddf (Effaith cychwyn darpariaethau Deddfau'r Cynulliad ar Fesurau) yn lle is-adran (2), rhodder—

(2) But that does not affect—

(a)the continuing operation, on and after that day, of any Assembly Measure enacted before that day, or

(b)the continuing operation, after the enactment of the Measure, of any Assembly Measure enacted in accordance with section 106A.

(3) Subsection (1) is subject to section 106A.

(2Ar ôl yr adran 106 o'r Ddeddf, mewnosoder—

Enactment of proposed Assembly Measures

106A.(1) This section applies if, immediately before the coming into force of the Assembly Act provisions, one or more proposed Assembly Measures have been passed by the Assembly but have not been approved by Her Majesty in Council (“the proposed Measures”).

(2) Part 3 continues to have effect, for the purposes of enabling the proposed Measures to be enacted, until an Order in Council in respect of every such Measure has been published by the Clerk in accordance with section 102(6)..

Diwygio adran 115 o'r Ddeddf

5.—(1Mae adran 115 o'r Ddeddf (Cydsyniad Brenhinol) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Ar ôl is-adran (4), mewnosoder—

(4A) The Keeper of the Welsh Seal (see section 116(2)) must make arrangements to send the Letters Patent to the National Library of Wales..

(3Ar ôl is-adran (5), mewnosoder—

(5A) On the copy of the Act of the Assembly on which the Clerk writes the date of Royal Assent the Clerk must write—

(a)the calendar year, and

(b)any prefix and number which has been assigned to that Act of the Assembly.

(5B) The information written on the Act of the Assembly in pursuance of subsection (5A) forms part of the Act.

(5C) The copy of the Act of the Assembly on which the date of Royal Assent and the information in subsection (5A) is written is to be known as the official print of the Act.

(5D) The Clerk must make a copy of the official print and certify it as a true copy.

(5E) The Clerk must send the certified copy to the Queen’s Printer and the official print to the National Library of Wales.

(5F) The National Library of Wales must ensure that the official prints and Letters Patent it receives are preserved and open to public inspection at all reasonable times..

Diwygio adran 7(8) a (9) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000

6.—(1Mae adran 7 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000(3) (Pŵer i addasu deddfiadau ynghylch cynlluniau etc: Cymru) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Yn is-adran (8), yn lle “a Measure” rhodder “an Act”.

(3Yn is-adran (9), hepgorer o “section 94(4)” hyd at ddiwedd yr is-adran honno a rhodder yn eu lle—

  • section 108(4) of the Government of Wales Act 2006 (Legislative competence) has effect as if paragraph (a) were omitted..

Diwygio adran 123(6) o Ddeddf Trafnidiaeth Leol 2008

7.  Yn adran 123(6) o Ddeddf Trafnidiaeth Leol 2008(4) (Gwybodaeth), yn y diffiniad o “Welsh trunk road charging scheme”, yn lle “Assembly Measure relating to matter 10.1 in Part 1 of Schedule 5 to the Government of Wales Act 2006 (c. 32)” rhodder—

  • Act of the National Assembly for Wales, relating to the imposition of charges in respect of the use or keeping of motor vehicles on Welsh trunk roads..

Diwygio rheoliad 2(4) o Reoliadau Cyffuriau a Reolir (Goruchwylio Rheolaeth a Defnydd) (Cymru) 2008

8.  Yn rheoliad 2(4) o Reoliadau Cyffuriau a Reolir (Goruchwylio Rheolaeth a Defnydd) (Cymru) 2008(5) (Dehongli), ar ôl “Mesur” mewnosoder “neu Ddeddf”, ac ar ôl “tano” mewnosoder “neu oddi tani”.

Diwygio adran 41 o Ddeddf Diwygio Cyfansoddiadol 2005

9.  Yn adran 41(4)(a) o Ddeddf Diwygio Cyfansoddiadol 2005(6) (Perthynas â llysoedd eraill) hepgorer “96,”.

Carwyn Jones

Y Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru

30 Mawrth 2011

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

1.  Mae'r Gorchymyn hwn yn cychwyn darpariaethau Deddfau'r Cynulliad yn Rhan 4 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) (“y Ddeddf”) ac yn gwneud darpariaethau trosiannol ac arbed ac addasiadau mewn perthynas â chychwyn y Rhan honno. Mae hefyd yn diddymu deddfwriaeth benodol a fydd yn ddiangen pan ddaw'r Gorchymyn i rym.

2.  Mae erthygl 2 yn pennu'r dyddiad y daw'r Gorchymyn i rym, ac mae erthygl 3 yn cychwyn darpariaethau Deddfau'r Cynulliad, er mwyn caniatáu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru basio Deddfau'r Cynulliad.

3.  Mae erthygl 4 yn gwneud darpariaeth drosiannol er mwyn i Ran 3 o'r Ddeddf barhau i gael effaith mewn perthynas â Mesurau arfaethedig y Cynulliad, a fydd wedi eu pasio gan y Cynulliad pan ddaw'r Gorchymyn hwn i rym, ond heb eu cymeradwyo gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor. Pwrpas y ddarpariaeth hon yw sicrhau y bydd modd i Fesurau arfaethedig y Cynulliad, a gânt eu pasio gan y Cynulliad cyn diddymu'r Cynulliad ar 1 Ebrill 2011, barhau i gael eu cymeradwyo gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor, o dan y darpariaethau perthnasol yn Rhan 3 fel y gallant ddod yn gyfraith.

4.  Mae erthygl 5(2) yn mewnosod darpariaeth yn adran 115 o'r Ddeddf, i'r perwyl bod rhaid i Geidwad y Sêl Gymreig anfon y Breinlythyrau i Lyfrgell Genedlaethol Cymru.

5.  Mae erthygl 5(3) yn mewnosod darpariaeth yn adran 115 o'r Ddeddf i sicrhau y gwneir print swyddogol o Ddeddf Cynulliad, a bod rhaid i Glerc y Cynulliad ysgrifennu'r flwyddyn galendr ac unrhyw ragddodiad a rhif a neilltuir i'r Ddeddf ar y copi hwnnw. Mae'n darparu hefyd bod rhaid i Glerc y Cynulliad wneud copi ardystiedig o'r print swyddogol ac anfon y copi hwnnw at Argraffydd y Frenhines. Rhaid i'r Clerc drefnu ar gyfer anfon y print swyddogol o bob Deddf Cynulliad i Lyfrgell Genedlaethol Cymru.

6.  Mae erthygl 5(3) hefyd yn mewnosod darpariaeth yn adran 115 o'r Ddeddf i sicrhau bod pob print swyddogol o Ddeddf Cynulliad, a'r Breinlythyrau mewn perthynas â hi, yn cael eu diogelu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru ac yn agored i'w harchwilio gan y cyhoedd.

7.  Mae erthygl 6 yn addasu Deddf Llywodraeth Leol 2000 (p.22). Mae adran 7(8) wedi ei diwygio i gynnwys cyfeiriad at Ddeddfau'r Cynulliad ac mae adran 7(9) yn disodli'r cyfeiriad at adran 94(4) o'r Ddeddf â chyfeiriad at adran 108(4) o'r Ddeddf honno.

8.  Mae erthygl 7 yn addasu'r diffiniad o “Welsh trunk road charging scheme” yn adran 123(6) o Ddeddf Trafnidiaeth Leol 2008 (p.26) fel bod yr ymadrodd hwnnw yn cyfeirio at gynlluniau a wneir gan, neu o dan, Ddeddfau'r Cynulliad.

9.  Mae erthygl 8 yn addasu rheoliad 2(4) o Reoliadau Cyffuriau a Reolir (Goruchwylio Rheolaeth a Defnydd) (Cymru) 2008 (O.S. 2008/3239) i gynnwys cyfeiriad at Ddeddfau'r Cynulliad.

10.  Mae erthygl 9 yn diwygio adran 41 o Ddeddf Diwygio Cyfansoddiadol 2005 (p.4) i dynnu'r cyfeiriadau at adran 96.

(2)

Mae'r term “Assembly Act provisions (“darpariaethau Deddfau'r Cynulliad”) wedi ei ddiffinio yn adran 103(8) o'r Ddeddf, ac mae'n golygu adrannau 107, 108 a 110 i 115 o'r Ddeddf.

(5)

O.S. 2008/3239 (Cy.286) y gwnaed diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Gorchymyn hwn.

Back to top

Options/Help