- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU
Gwnaed
29 Mawrth 2011
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
31 Mawrth 2011
Yn dod i rym
1 Mehefin 2011
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2011 a deuant i rym ar 1 Mehefin 2011.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2. Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “y prif Reoliadau” (“the principal Regulations”) yw Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002(3);
ystyr “y Rheoliadau Cofrestru” (“the Registration Regulations”) yw Rheoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002(4).
3.—(1) Mae'r prif Reoliadau wedi eu diwygio'n unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.
(2) Yn rheoliad 2 (dehongli) mewnosoder yn y man priodol yn ôl trefn yr wyddor—
““cymhwyster angenrheidiol” (“required qualification”) yw cymhwyster a gynhwysir mewn rhestr a gedwir gan Weinidogion Cymru at ddibenion y Rheoliadau hyn;”.
(3) Yn rheoliad 7 (ffitrwydd y darparydd cofrestredig)—
(a)yn lle paragraff (3)(c) rhodder y canlynol—
“(c)bod gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol ar gael ar gyfer yr unigolyn mewn perthynas â'r materion perthnasol a bennir ym mharagraff (4).”;
(b)ailrifer y ddarpariaeth bresennol ym mharagraff (4) a (5) yn baragraff (5) a (6) yn y drefn honno;
(c)ar ôl paragraff (3) mewnosoder y canlynol—
“(4) Dyma'r materion y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (3)—
(a)pan fo'r unigolyn yn rheoli neu'n bwriadu rheoli'r cartref gofal—
(i)ac eithrio pan fo paragraff (5) yn gymwys, mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1 i 6 o Atodlen 2;
(ii)pan fo paragraff (5) yn gymwys —
(aa)mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1 a 3 i 6 o Atodlen 2, a
(bb)bod hysbysiad wedi dod i law o dan adran 113E(4)(a) o Ddeddf yr Heddlu 1997 yn datgan nad yw'r unigolyn wedi ei gynnwys ar restr o oedolion penodedig (o fewn ystyr adran 113E o'r Ddeddf honno)(5);
(b)pan na fo'r unigolyn yn rheoli nac yn bwriadu rheoli'r cartref gofal —
(i)ac eithrio pan fo paragraff (5) yn gymwys, mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1 i 5 a 6 o Atodlen 2;
(ii)pan fo paragraff (5) yn gymwys—
(aa)mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1, 3 i 5 a 6 o Atodlen 2, a
(bb)bod hysbysiad wedi dod i law o dan adran 113E(4)(a) o Ddeddf yr Heddlu 1997 nad yw'r unigolyn wedi ei gynnwys ar restr o oedolion penodedig (o fewn ystyr adran 113E o'r Ddeddf honno).”.
(4) Yn lle paragraff (3) o reoliad 8 (penodi rheolwr), rhodder—
“(3) Os yw'r darparydd cofrestredig yn bwriadu rheoli'r cartref gofal, rhaid i'r unigolyn hwnnw—
(a)cydymffurfio â'r gofynion a bennir yn rheoliad 9 (ffitrwydd y rheolwr cofrestredig); a
(b)hysbysu swyddfa briodol Llywodraeth Cynulliad Cymru ar unwaith am y dyddiad y mae'r gwaith rheoli hwnnw i ddechrau.”.
(5) Yn rheoliad 9 (ffitrwydd y rheolwr cofrestredig)—
(a)ym mharagraff (2)—
(i)yn is-baragraff (b)(ii), yn lle “medrau a'r profiad” rhodder “cymwysterau, y medrau a'r profiad”, a
(ii)yn is-baragraff (c), yn lle “paragraff (3)” ym mhob man lle y mae'n digwydd, rhodder “paragraff (7)”;
(b)ailrifer y ddarpariaeth bresennol ym mharagraff (3) yn baragraff (7);
(c)ar ôl paragraff (2) mewnosoder—
“(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), mae cyfeiriad at gymwysterau, medrau a phrofiad yn cynnwys gofyniad bod rhaid i'r person feddu ar gymhwyster angenrheidiol.
(4) Pan fo person, nad yw'n dal cymhwyster angenrheidiol, wedi ei benodi'n rheolwr cartref gofal cyn 1 Mehefin 2011, nid yw'r person hwnnw'n ffit i reoli cartref gofal onid yw'n ennill cymhwyster angenrheidiol heb fod yn hwyrach na—
(a)1 Hydref 2011; neu
(b)unrhyw ddyddiad diweddarach y bydd Gweinidogion Cymru yn cytuno ei fod yn rhesymol o dan yr holl amgylchiadau.
(5) Nid oes dim ym mharagraff (3) neu (4) sy'n effeithio ar unrhyw ofyniad i reolwr feddu ar gymwysterau neu fedrau eraill neu brofiad arall sy'n berthnasol i'r materion a nodwyd ym mharagraff (2)(b).
(6) Nid yw person yn ffit i reoli cartref gofal onid yw wedi ei gofrestru'n rheolwr cartref gofal gyda Chyngor Gofal Cymru heb fod yn hwyrach na–
(a)1 Hydref 2011; neu
(b)unrhyw ddyddiad diweddarach y bydd Gweinidogion Cymru yn cytuno ei fod yn rhesymol o dan yr holl amgylchiadau.”.
(6) Yn rheoliad 19 (ffitrwydd y gweithwyr)—
(a)ym mharagraff (2)(ch)(i), yn lle “1 i 6” rhodder “1 i 5 a 6”;
(b)ym mharagraff (2)(ch)(ii), yn lle “1 a 3 i 6” rhodder “1, 3 i 5 a 6”;
(c)ym mharagraff (5)(a) yn lle “3 i 6”, rhodder “3 i 5 a 6”.
(7) Yn Atodlen 2 (yr wybodaeth a'r dogfennau sydd i fod ar gael mewn perthynas â phersonau sy'n rhedeg neu'n rheoli cartrefi gofal neu'n gweithio ynddo)—
(a)ym mharagraff 5, ar ôl “perthnasol” mewnosoder “neu angenrheidiol”;
(b)ar ôl paragraff 5, mewnosoder—
“(5A) Pan fo'n berthnasol, tystiolaeth ddogfennol am gofrestriad gyda Chyngor Gofal Cymru.”.
4.—(1) Mae'r Rheoliadau Cofrestru wedi eu diwygio'n unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.
(2) Yn Atodlen 1 (yr wybodaeth sydd i'w darparu mewn cais am gofrestriad fel person sy'n rhedeg sefydliad neu asiantaeth), yn Rhan 1 (gwybodaeth am y ceisydd)—
(a)ar ôl paragraff 1(b) mewnosoder—
“(ba)where the establishment is a care home, whether the applicant is registered with the Care Council for Wales and, if so, details of his or her registration;”;
(b)ar ôl paragraff 2(c), mewnosoder—
“(ca)where the establishment is a care home, whether the responsible individual is registered with the Care Council for Wales and, if so, details of his or her registration;”.
(3) Yn Atodlen 3 (yr wybodaeth a'r dogfennau sydd i'w darparu mewn cais am gofrestriad fel rheolwr sefydliad neu asiantaeth), yn Rhan 1 (gwybodaeth), ar ôl paragraff 2A, mewnosoder—
“(2B) Where the establishment is a care home, details of the applicant’s registration with the Care Council for Wales.”.
Gwenda Thomas
Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
29 Mawrth 2011
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002 i'w gwneud yn ofynnol i'r person sy'n rheoli cartref gofal feddu ar lefel gymhwyster sy'n ofynnol er mwyn ymgymryd â'r rôl honno ac iddo fod wedi ei gofrestru gyda Chyngor Gofal Cymru.
Maent yn gwneud diwygiadau canlyniadol hefyd i Reoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002.
2000 p.14 (“Deddf 2000”). Mae'r pwerau hyn yn arferadwy gan yr “appropriate Minister”; mae'r term hwn wedi ei ddiffinio yn adran 121(1) o'r Ddeddf, mewn perthynas â Chymru, i olygu Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan y Ddeddf i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32). Gweler adran 121(1) o'r Ddeddf i gael y diffiniadau o “prescribed” a “regulations”.
Gweler adran 22(9) o'r Ddeddf am y gofyniad i ymgynghori.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: