Search Legislation

Gorchymyn Deddf Democratiaeth Leol, Datblygu Economaidd ac Adeiladu 2009 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2011

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2011 Rhif 1514 (Cy.178) (C.57)

ADEILADU, CYMRU

Gorchymyn Deddf Democratiaeth Leol, Datblygu Economaidd ac Adeiladu 2009 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2011

Wedi'i wneud

17 Mehefin 2011

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 149(1) o Ddeddf Democratiaeth Leol, Datblygu Economaidd ac Adeiladu 2009(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi a dehongli

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Democratiaeth Leol, Datblygu Economaidd ac Adeiladu 2009 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2011.

(2Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Democratiaeth Leol, Datblygu Economaidd ac Adeiladu 2009.

Rhychwant a chymhwyso'r darpariaethau sy'n dod i rym

2.  Mae adran 138 o'r Ddeddf yn dod i rym i'r graddau y mae'n rhychwantu Cymru a Lloegr o ran contractau adeiladu sy'n ymwneud â gwneud gwaith adeiladu yng Nghymru yn unol ag erthygl 3.

Darpariaethau sy'n dod i rym drannoeth gwneud y Gorchymyn hwn

3.  Mae adran 138 o'r Ddeddf yn dod i rym ar y diwrnod ar ôl i'r Gorchymyn hwn gael ei wneud er mwyn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud gorchmynion.

John Griffiths

Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, un o Weinidogion Cymru

17 Mehefin 2011

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

I'r graddau y mae'r rheiny'n rhychwantu Cymru a Lloegr, mae'r Gorchymyn hwn yn cychwyn darpariaethau yn Rhan 8 o Ddeddf Democratiaeth Leol, Datblygu Economaidd ac Adeiladu 2009 (p.20) (“Deddf 2009”) o ran contractau adeiladu sy'n ymwneud â gwneud gwaith adeiladu yng Nghymru. Nid yw'n cychwyn y darpariaethau hyn o ran contractau adeiladu eraill sy'n cael eu cychwyn gan orchmynion cychwyn ar wahân.

Mae Rhan 8 o Ddeddf 2009 yn diwygio Rhan 2 o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996 (p.53) (“Deddf 1996”).

Mae darpariaethau Rhan 8 o Ddeddf 2009 y deuir â hwy i rym gan y Gorchymyn hwn (lle bo'n gymwys o ran Cymru) wedi'u cynnwys yn adran 138, sy'n rhoi pŵer newydd sy'n caniatáu i Weinidogion Cymru anghymhwyso unrhyw rai neu'r cyfan o ddarpariaethau Rhan 2 o Ddeddf 1996.

Mae erthygl 3 yn dwyn i rym, ar y diwrnod ar ôl i'r Gorchymyn hwn gael ei wneud, y ddarpariaeth sy'n galluogi Gweinidogion Cymru i wneud gorchmynion o dan y pŵer y mae adran 138 o Ddeddf 2009 yn ei fewnosod yn Neddf 1996.

Nodyn Orchymyn Cychwyn Blaenorol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

I'r graddau y maent yn rhychwantu Cymru a Lloegr, mae'r darpariaethau a ganlyn yn Neddf 2009 wedi'u dwyn i rym o ran Cymru gan orchmynion cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.

DarpariaethDyddiad CychwynRhif yr O.S
Adran 69 (rhan)25.11.20092009/3087
Adran 7125.11.20092009/3087
Adran 8425.11.20092009/3087
Adran 8625.11.20092009/3087
Adran 8725.11.20092009/3087

Mae amryw o ddarpariaethau Deddf 2009 wedi'u dwyn i rym i'r graddau y maent yn rhychwantu Cymru a Lloegr gan yr Ysgrifennydd Gwladol o ran contractau adeiladu eraill drwy'r Offerynnau Statudol a ganlyn: O.S. 2009/3087, O.S. 2009/3318 ac O.S. 2010/881.

Gweler hefyd adran 148 ynglŷn â'r darpariaethau a ddaeth i rym wrth i Ddeddf 2009 gael ei phasio.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources