
Print Options
PrintThe Whole
Instrument
PrintThe Whole
Part
PrintThis
Section
only
Statws
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
Y pŵer i garthu
24.—(1) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r Gorchymyn hwn, caiff y Comisiynwyr, o bryd i'w gilydd, ddyfnhau, carthu, sgwrio, glanhau, newid a gwella gwely, glannau a sianelau'r harbwr a'i ddynesfeydd, a chânt ffrwydro unrhyw graig o fewn yr ardal honno.
(2) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r Gorchymyn hwn, bydd unrhyw ddeunydd (ac eithrio unrhyw longddrylliad o fewn yr ystyr a roddir i “wreck” yn Rhan 9 o Ddeddf Llongau Masnach 1995()) a godir wrth garthu neu a symudir ymaith o bryd i'w gilydd yn eiddo i'r Comisiynwyr, a chânt ei ddefnyddio, ei feddiannu neu'i waredu fel y tybiant yn briodol.
(3) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r Gorchymyn hwn, ni cheir dyddodi unrhyw ddeunyddiau a garthwyd islaw lefel y penllanw, ac eithrio yn y cyfryw fannau, ac yn unol â'r cyfryw amodau a chyfyngiadau, a gymeradwyir neu a ragnodir gan Weinidogion Cymru.
Back to top