Search Legislation

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Trefniadau Pryderon, Cwynion ac Iawn) (Cymru) (Diwygio) 2011

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2011 Rhif 1706 (Cy.192)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Trefniadau Pryderon, Cwynion ac Iawn) (Cymru) (Diwygio) 2011

Gwnaed

11 Gorffennaf 2011

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

12 July 2011

Yn dod i rym

3 Awst 2011

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 1, 11(2)(d) ac 11(3) o Fesur Gwneud Iawn am Gamweddau'r GIG (Cymru) 2008(1).

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Trefniadau Pryderon, Cwynion ac Iawn) (Cymru) (Diwygio) 2011, a deuant i rym ar 3 Awst 2011.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i wasanaethau a ddarperir fel rhan o'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru.

(3Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y prif Reoliadau” (“the principal Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Trefniadau Pryderon, Cwynion ac Iawn) (Cymru) 2011(2).

Diwygio'r prif Reoliadau

2.—(1Yn rheoliad 1(2) yn lle “1 Hydref 2011” rhodder “1 Ebrill 2012”.

(2Yn lle rheoliad 52(5) rhodder: “Ni fydd cwynion ynghylch gwasanaethau a ddarparwyd gan gyrff GIG Lloegr, cyrff GIG yr Alban neu gyrff GIG Gogledd Iwerddon, fel y'u diffinnir yn rheoliad 34, cyn 1 Ebrill 2012 yn cael eu hystyried o dan Ran 7 o'r Rheoliadau hyn.”.

Lesley Griffiths

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

11 Gorffennaf 2011

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Trefniadau Pryderon, Cwynion ac Iawn) (Cymru) 2011 (“y prif Reoliadau”).

Mae rheoliad 2(1) yn gohirio'r dyddiad y daw Rhan 7 o'r prif Reoliadau i rym, o 1 Hydref 2011 tan 1 Ebrill 2012. Mae Rhan 7 o'r prif Reoliadau yn ymdrin â'r modd y mae iawn i'w ddarparu pan fo Ymddiriedolaeth GIG yng Nghymru neu Fwrdd Iechyd Lleol yng Nghymru yn ymuno mewn trefniant i ddarparu gwasanaethau iechyd gyda chorff GIG yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon.

Mae rheoliad 2(2) yn amnewid rheoliad 52(5) newydd yn y prif Reoliadau, i adlewyrchu'r dyddiad newydd y daw Rhan 7 i rym a chymhwyso'r trefniadau iawn trawsffiniol yn y Rhan honno i wasanaethau sydd wedi eu darparu ar neu ar ôl 1 Ebrill 2012.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni thybiwyd bod angen cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o gostau a buddion tebygol cydymffurfio â'r Rheoliadau hyn.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources