Search Legislation

Rheoliadau Cig Dofednod (Cymru) 2011

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Rheoliad 2(1)

ATODLEN 1DARPARIAETHAU CIG DOFEDNOD EWROPEAIDD, Y CAIFF EU TORRI ARWAIN AT DDYRODDI HYSBYSIAD CYDYMFFURFIO

RHAN 1DARPARIAETHAU'R RHEOLIAD CMO SENGL

Colofn 1Colofn 2Colofn 3
Darpariaeth berthnasol o'r Rheoliad CMO SenglDarpariaethau i'w darllen gyda'r darpariaethau o'r Rheoliad CMO Sengl a grybwyllir yng ngholofn 1Deunydd pwnc
Erthygl 113(3), yr is-baragraff cyntaf, i'r graddau y mae'n ymwneud â marchnata cig dofednodErthygl 116 o'r Rheoliad CMO Sengl a Rhan B o Atodiad XIV i'r Rheoliad hwnnw, a Rheoliad y Comisiwn

Gwaharddiad ar farchnata cig dofednod ac eithrio yn unol â'r safonau marchnata a bennir yn Rhan B o Atodiad XIV i'r Rheoliad CMO Sengl a Rheoliad y Comisiwn.

Graddio ansawdd.

Pwynt III(1) o Ran B o Atodiad XIVErthygl 7 o Reoliad y Comisiwn
Pwynt III(2) o Ran B o Atodiad XIV

Rheoliad 4 o'r Rheoliadau hyn a Phwynt II(2) o Ran B o Atodiad XIV i'r Rheoliad CMO Sengl mewn perthynas â chig dofednod ffres

Pwynt II(3) o Ran B o Atodiad XIV i'r Rheoliad CMO Sengl mewn perthynas â chig dofednod wedi ei rewi

Pwynt II(4) o Ran B o Atodiad XIV i'r Rheoliad CMO Sengl mewn perthynas â chig dofednod wedi ei rewi'n gyflym

Pwynt II(6) o Ran B o Atodiad XIV i'r Rheoliad CMO Sengl mwn perthynas â pharatoi cig dofednod ffres

Marchnata cig dofednod a pharatoadau cig dofednod mewn cyflwr ffres, wedi eu rhewi neu wedi eu rhewi'n gyflym.

RHAN 2DARPARIAETHAU RHEOLIAD Y COMISIWN

Colofn 1Colofn 2Colofn 3
Darpariaeth berthnasol o Reoliad y ComisiwnDarpariaethau i'w darllen gyda'r darpariaethau o Reoliad y Comisiwn grybwyllir yng ngholofn 1Deunydd pwnc
Erthygl 3(1)Erthygl 3(2), (3) a (4) o Reoliad y ComisiwnCyflwyno carcasau dofednod.
Erthygl 3(4), yr is-baragraff cyntafErthygl 3(1) o Reoliad y ComisiwnCyfansoddiad y syrth pan gyflwynir carcas dofednod i'w farchnata ynghyd â syrth.
Erthygl 3(4), yr ail is-baragraffErthygl 3(1) o Reoliad y ComisiwnLabelu carcas dofednod a gyflwynir i'w farchnata ynghyd â syrth pan nad yw'r syrth yn cynnwys un neu ragor o'r galon, y gwddf, y lasog neu'r afu.
Erthygl 3(5)Pwyntiau III(1) a (2) o Ran B o Atodiad XIV i'r Rheoliad CMO SenglDynodiadau sydd i'w dangos ar ddogfennau masnachol penodedig.
Erthygl 4(1)Erthyglau 1 a 3(1) o Reoliad y Comisiwn ac Atodiad I i'r Rheoliad hwnnwYr enwau y mae'n rhaid gwerthu cig dofednod odanynt.
Erthygl 4(2)Erthyglau 1(1) a (2) ac 11 o Reoliad y ComisiwnGofyniad na fydd termau atodol yn camarwain y defnyddiwr.
Erthygl 5(1)Erthyglau 1 ac 11 o Reoliad y ComisiwnCyfyngiad ar ddefnyddio enwau er mwyn osgoi dryswch rhwng yr enwau yn Erthygl 1 o Reoliad y Comisiwn (ynglŷn â mathau a chyflwyniadau o gig dofednod), a'r dynodiadau a ddarperir ar eu cyfer yn Erthygl 11 o Reoliad y Comisiwn (ynglŷn â dulliau o ffermio, yr oedran cigydda a hyd y cyfnod pesgi).
Erthygl 5(2)Erthygl 5(3), (4) a (6) o Reoliad y Comisiwn, fel y'i darllenir, yn achos Erthygl 5(4), gydag Erthygl 5(5) o'r Rheoliad hwnnwGofynion ychwanegol ynglŷn â labelu, cyflwyno a hysbysebu cig dofednod a fwriedir ar gyfer y defnyddiwr olaf.
Erthygl 6Pwynt II(3) o Ran B o Atodiad XIV i'r Rheoliad CMO SenglY tymheredd y mae'n rhaid storio a chadw cig dofednod wedi ei rewi.
Erthygl 7(1)Pwynt III(I) o Ran B o Atodiad XIV i'r Rheoliad CMO SenglCriteria sydd i'w cymhwyso wrth raddio carcasau a thoriadau cig dofednod fel rhai dosbarth A neu B.
Erthygl 7(2)Erthygl 7(1) o Reoliad y ComisiwnCriteria ychwanegol ar gyfer graddio carcasau a thoriadau cig dofednod fel rhai dosbarth A.
Erthygl 10Atodiad III i Roliad y ComisiwnTermau i ddisgrifio'r dull a ddefnyddiwyd i oeri cig dofednod.
Erthygl 11(1), yr is-baragraff cyntafYr ail is-baragraff o Erthygl 11(1) o Reoliad y Comisiwn ac Atodiadau IV a V i'r Rheoliad hwnnwTermau i ddisgrifio mathau penodol o ddulliau ffermio.
Erthygl 11(1), y trydydd is-baragraffIs-baragraff cyntaf o Erthygl 11(1) o Reoliad y ComisiwnDynodiad foie gras.
Erthygl 11(2)Pedwerydd indent o Erthygl 1(1)(a) ac Erthygl 11(1) o Reoliad y Comisiwn ac Atodiad V(b), (c) neu (d) i'r Rheoliad hwnnwDefnyddio dynodiadau ynglŷn ag oedran cigydda a hyd y cyfnod pesgi.
Erthygl 12(1)Erthygl 11 o Reoliad y ComisiwnCofrestru cynhyrchwyr a lladd-dai gan ddefnyddio'r termau marchnata arbennig a grybwyllir yn Erthygl 11(1) ynglŷn â dulliau ffermio, a rhwymedigaeth berthynol ar ladd-dai o ran cadw cofnodion.
Erthygl 12(2)Erthygl 12(1) o Reoliad y ComisiwnCadw cofnodion gan gynhyrchwyr, drwy ddefnyddio'r termau marchnata arbennig a grybwyllir yn Erthygl 11(1) ynglŷn â dulliau ffermio.
Erthygl 12(3)Erthygl 11(1)(a) o Reoliad y ComisiwnCadw cofnodion gan weithgynhyrchwyr a chyflenwyr bwyd anifeiliaid, o gyfansoddiad y bwyd anifeiliaid a gyflenwir i gynhyrchwyr sy'n cynhyrchu adar i'w marchnata gan ddefnyddio'r term marchnata arbennig mewn perthynas â bwyd anifeiliaid (“fed with ....% ....”) (“bwydwyd â ... ... ... ... % ... ... ... ....”).
Erthygl 12(4)Erthygl 11(1)(d) ac (e) o Reoliad y ComisiwnCadw cofnodion gan ddeorfeydd sy'n cyflenwi mathau o adar sy'n prifio'n araf i gynhyrchwyr adar “traditional free range” (“maes traddodiadol”) ac adar “free-range — total freedom” (“maes — rhyddid llwyr”).
Erthygl 14, y paragraff cyntafErthygl 10 ac 11 o Reoliad y ComisiwnGwahardd mewnforio cig dofednod sy'n dwyn rhai dynodiadau opsiynol ynglŷn â'r dull o oeri neu rai mathau o ffermio, onid yw'n dod gyda thystysgrif swyddogol.
Erthygl 15(1)Atodiadau VI a VII i Reoliad y ComisiwnGwahardd marchnata ieir wedi eu rhewi neu'u rhewi'n gyflym pan fo'r cynhwysiad dŵr yn uwch na'r gwerthoedd sy'n dechnegol anochel.
Erthygl 16(1)Atodiadau VI a IX i Reoliad y ComisiwnGwiriadau ar garcasau o ran cynhwysiad dŵr.
Erthygl 16(1), yr ail is-baragraffAtodiadau VI ac XI i Reoliad y ComisiwnGwneud yr addasiadau technegol angenrheidiol pan fo'r cynhwysiad dŵr uwchlaw'r lefel a ganiateir.
Erthygl 16(2)Erthygl 15(1) o Reoliad y Comisiwn ac Atodiadau VI a VII i'r Rheoliad hwnnwGwiriadau cynhwysiad dŵr ar ieir wedi eu rhewi ac ieir wedi eu rhewi'n gyflym.
Erthygl 16(3)Erthyglau 16(1) a (2) o Reoliad y Comisiwn ac Atodiadau VI, VII a IX i'r Rheoliad hwnnwCynyddu amlder y gwiriadau cynhwysiad dŵr ar ieir wedi eu rhewi ac ieir wedi eu rhewi'n gyflym.
Erthygl 16(4)Erthygl 16(1) a (2) o Reoliad y Comisiwn ac Atodiadau VI i IX i'r Rheoliad hwnnw.Gwiriadau cynhwysiad dŵr ar garcasau ieir wedi eu hoeri ag aer.
Erthygl 16(6)Atodiad X i Reoliad y ComisiwnMarchnata ieir wedi eu rhewi ac ieir wedi eu rhewi'n gyflym o dan oruchwyliaeth pan fo'r cynhwysiad dŵr yn uwch na'r gwerthoedd sy'n dechnegol anochel.
Erthygl 20(1)Atodiad VIII i Reoliad y ComisiwnGwaharddiad ar farchnata rhai toriadau cig dofednod os yw'r cynhwysiad dŵr yn uwch na'r gwerthoedd sy'n dechnegol anochel.
Erthygl 20(2)(a)Erthyglau 16(1) a 20(1) o Reoliad y Comisiwn, ac Atodiad IX i'r Rheoliad hwnnwGwiriadau cynhwysiad dŵr mewn lladd-dai ar garcasau ieir a thyrcïod a fwriedir i'w defnyddio mewn toriadau cig dofednod.
Erthygl 20(2), yr ail is-baragraffErthygl 20(2)(a) a (3) o Reoliad y Comisiwn ac Atodiadau VI i IX i'r Rheoliad hwnnwGwiriadau cynhwysiad dŵr ar doriadau cig dofednod wedi eu hoeri ag aer.
Erthygl 20(3)Erthygl 20(1) o Reoliad y Comisiwn, ac Atodiad VIII i'r Rheoliad hwnnwGwiriadau cynhwysiad dŵr ar doriadau cig dofednod mewn ffatrïoedd torri.
Erthygl 20(4) i'r graddau y mae'n cymhwyso Erthygl 16(3) o Reoliad y ComisiwnErthygl 16(1) a (2) o Reoliad y Comisiwn ac Atodiadau VI, VII a IX i'r Rheoliad hwnnwCynyddu amlder y gwiriadau cynhwysiad dŵr ar doriadau cig dofednod.
Erthygl 20(4) i'r graddau y mae'n cymhwyso Erthygl 16(6) o Reoliad y ComisiwnAtodiad X i Reoliad y ComisiwnMarchnata toriadau cig dofednod penodedig o dan oruchwyliaeth pan fo'r cynhwysiad dŵr yn uwch na'r gwerthoedd sy'n dechnegol anochel.

Rheoliad 3

ATODLEN 2DARPARIAETHAU RHEOLIAD Y COMISIWN, Y MAE EU TORRI YN DRAMGWYDD

Colofn 1Colofn 2Colofn 3
Darpariaeth berthnasol o Reoliad y ComisiwnDarpariaethau i'w darllen gyda'r darpariaethau o Reoliad y Comisiwn a grybwyllir yng ngholofn 1Deunydd pwnc
Erthygl 4(2)Erthyglau 1(1) a (2) ac 11 o Reoliad y ComisiwnGofyniad na fydd termau atodol yn camarwain y defnyddiwr.
Erthygl 5(2)Erthygl 5(3), (4) a (6) o Reoliad y Comisiwn, fel y'i darllenir, yn achos Erthygl 5(4), gydag Erthygl 5(5) o'r Rheoliad hwnnwGofynion ychwanegol ynglŷn â labelu, cyflwyno a hysbysebu cig dofednod a fwriedir ar gyfer y defnyddiwr olaf.
Erthygl 11(1), yr is-baragraff cyntafYr ail is-baragraff o Erthygl 11(1) o Reoliad y Comisiwn, ac Atodiadau IV a V i'r Rheoliad hwnnwTermau i ddisgrifio mathau penodol o ddulliau ffermio.
Erthygl 11(1), y trydydd is-baragraffIs-baragraff cyntaf Erthygl 11(1) o Reoliad y ComisiwnDynodiad foie gras.

Rheoliad 8(3)

ATODLEN 3FFIOEDD AM WIRIADAU CYNHWYSIAD DŵR

1.  Yn yr Atodlen hon—

  • ystyr “gwiriad cynhwysiad dŵr Erthygl 16(1)” (“Article 16(1) water content check”) yw gwiriad o'r math a grybwyllir yn is-baragraff cyntaf Erthygl 16(1) o Reoliad y Comisiwn;

  • ystyr “gwiriad cynhwysiad dŵr Erthygl 16(2)” (“Article 16(2) water content check”) yw gwiriad o'r math a grybwyllir yn Erthygl 16(2) o Reoliad y Comisiwn;

  • ystyr “gwiriad cynhwysiad dŵr Erthygl 16(3)” (“Article 16(3) water content check”) yw gwiriad o'r math a grybwyllir yn ail is-baragraff Erthygl 16(3) o Reoliad y Comisiwn;

  • ystyr “gwiriad cynhwysiad dŵr Erthygl 20(2)” (“Article 20(2) water content check”) yw gwiriad o'r math a grybwyllir ym mharagraff (a) o is-baragraff cyntaf Erthygl 20(2) o Reoliad y Comisiwn;

  • ystyr “gwiriad cynhwysiad dŵr Erthygl 20(3)” (“Article 20(3) water content check”) yw gwiriad o'r math a grybwyllir yn Erthygl 20(3) o Reoliad y Comisiwn;

  • ystyr “gwiriad cynhwysiad dŵr Erthygl 20(4)” (“Article 20(4) water content check”) yw gwiriad o'r math a grybwyllir yn ail is-baragraff Erthygl 16(3) o Reoliad y Comisiwn, fel un sy'n gymwys i doriadau cig dofednod yn rhinwedd Erthygl 20(4) o'r Rheoliad hwnnw.

2.  Mae'r tabl canlynol yn pennu'r ffioedd sy'n daladwy mewn perthynas â gwiriadau cynhwysiad dŵr a gyflawnir gan yr Asiantaeth—

GwiriadFfi (£)
Gwiriad cynhwysiad dŵr Erthygl 16(1)42
Gwiriad cynhwysiad dŵr Erthygl 16(2)297.02
Gwiriad cynhwysiad dŵr Erthygl 16(3)297.02
Gwiriad cynhwysiad dŵr Erthygl 20(2)42
Gwiriad cynhwysiad dŵr Erthygl 20(3)207.02
Gwiriad cynhwysiad dŵr Erthygl 20(4)207.02

3.  Mae pob ffi sy'n daladwy o dan yr Atodlen hon yn daladwy i'r Asiantaeth o fewn 28 diwrnod wedi i'r Asiantaeth roi i'r gweithredwr anfoneb sy'n gofyn am dalu'r ffi, sy'n cychwyn gyda'r diwrnod y ceir yr anfoneb.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources