Search Legislation

Rheoliadau Adroddiad Pennaeth i Rieni a Disgyblion sy'n Oedolion (Cymru) 2011

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Adroddiad pennaeth i rieni a disgyblion sy'n oedolion

3.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (5) rhaid i bennaeth pob ysgol a gynhelir, drefnu bod adroddiad ysgrifenedig ar gael, bob blwyddyn ysgol, yn unol â'r rheoliad hwn, sy'n cynnwys yr wybodaeth a ragnodir yn y rheoliad hwn.

(2Dyma'r personau rhagnodedig y mae'n rhaid trefnu bod yr adroddiad ar gael iddynt—

(a)pob disgybl sy'n oedolyn; neu

(b)rhiant pob disgybl sy'n oedolyn (os yw'r pennaeth o'r farn bod amgylchiadau arbennig sy'n ei gwneud yn briodol); neu

(c)rhiant pob disgybl yn achos pob disgybl arall a gofrestrwyd yn yr ysgol.

(3Rhaid i'r adroddiad gynnwys yr wybodaeth am gyflawniadau addysgol y disgybl neu'r disgybl sy'n oedolyn y trefnir bod yr adroddiad ar gael iddo neu i'w riant a'r wybodaeth sy'n ymwneud â'r disgybl hwnnw a nodir—

(a)ym mharagraff 1 o Ran 1 o'r Atodlen, pan fo'r disgybl hwnnw yn y cyfnod sylfaen;

(b)ym mharagraffau 2, 3 a 4 o Ran 1 o'r Atodlen a Rhan 2 o'r Atodlen, pan fo'r disgybl hwnnw yng nghyfnod allweddol dau, tri a phedwar;

(c)yn Rhan 3 o'r Atodlen pan gofnodwyd enw'r disgybl hwnnw ar gyfer unrhyw gymwysterau perthnasol a gymeradwywyd ar lefel FfCC 3 neu'n uwch na hynny; ac

(ch)yn Rhan 4 o'r Atodlen.

(4Yn achos y disgyblion sydd wedi eu cofrestru yn yr ysgol, rhaid cynnwys yn yr adroddiad, yr wybodaeth ysgol gymharol ddiweddaraf mewn perthynas â pherfformiad yr ysgol mewn asesiadau statudol ar gyfer y cyfnod sylfaen a chyfnodau allweddol a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru ar Fenter Cyfnewid Data Cymru.

(5Nid oes dim yn y rheoliad hwn yn atal yr wybodaeth a bennir ym mharagraffau (3) a (4) rhag cael ei chynnwys mewn mwy nag un adroddiad ar yr amod, yn ddarostyngedig i baragraff (7), bod yn rhaid i'r pennaeth anfon yr wybodaeth honno bob blwyddyn ysgol drwy'r post neu fel arall cyn diwedd tymor yr haf.

(6Rhaid i'r cyfnod, y mae adroddiad sy'n cynnwys unrhyw wybodaeth a bennir ym mharagraff (3) yn ymwneud ag ef, ddechrau ym mhob achos gyda'r diweddaraf o'r canlynol—

(a)y dyddiad y derbyniwyd y disgybl i'r ysgol; neu

(b)diwedd y cyfnod yr oedd yr adroddiad diwethaf ar faterion o'r fath a wnaed yn unol â'r Rheoliadau hyn yn ymwneud ag ef.

(7Pan na fo unrhyw un o'r manylion sy'n angenrheidiol i ddarparu'r wybodaeth a bennir ym mharagraff (8) wedi dod i law'r pennaeth tan ar ôl diwedd tymor yr haf, rhaid i'r pennaeth drefnu bod y wybodaeth honno ar gael cyn gynted ag y bo'n ymarferol a sut bynnag heb fod yn hwyrach na'r 30 Medi canlynol.

(8Dyma'r wybodaeth—

(a)manylion y cymwysterau perthnasol a gymeradwywyd ac a enillwyd gan ddisgybl; a

(b)yr wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraffau 1 a 2(4) o'r Atodlen.

(9At ddibenion y rheoliad hwn ystyr “disgybl sy'n oedolyn” yw disgybl 18 oed neu drosodd ar yr adeg y trefnir bod yr adroddiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1) ar gael ac nad yw'n bwriadu ymadael â'r ysgol erbyn diwedd y flwyddyn ysgol.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources