Search Legislation

Gorchymyn Y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu wrth Dderbyn i'r Cyfnod Sylfaen) (Cymru) 2011

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2011 Rhif 1947 (Cy.213)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu wrth Dderbyn i'r Cyfnod Sylfaen) (Cymru) 2011

Gwnaed

29 Gorffennaf 2011

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

4 Awst 2011

Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2)

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 108(2)(b)(iii), (5), (6), (9) ac (11) a 210 o Ddeddf Addysg 2002(1) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2), yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu wrth Dderbyn i'r Cyfnod Sylfaen) (Cymru) 2011.

(2Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar—

(a)1 Medi 2011 ar gyfer ysgolion a gynhelir yng Nghymru ac ysgolion meithrin a gynhelir yng Nghymru; a

(b)1 Medi 2012 ar gyfer sefydliadau yng Nghymru lle y darperir addysg feithrin o dan y trefniadau a grybwyllir yn adran 98(2)(b) o Ddeddf 2002 ac yr addysgir y cyfnod sylfaen.

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “addysgwr” (“practitioner”) yw unrhyw berson sy'n addysgu'r cyfnod sylfaen mewn lleoliad cyfnod sylfaen;

ystyr “asesiad cyfnod sylfaen” (“foundation phase assessment”) yw asesiad o gyrhaeddiad disgybl gan addysgwr ar sail arsylwi gan yr addysgwr, gan gynnwys asesiad o lefel cyrhaeddiad y plentyn mewn perthynas â'r meysydd datblygiadol;

ystyr “awdurdod lleol perthnasol” (“relevant local authority”) yw'r awdurdod lleol yng Nghymru y cynhelir neu yr ariennir lleoliad cyfnod sylfaen ganddo;

ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Addysg 2002;

ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw unrhyw ddiwrnod ac eithrio dydd Sadwrn, dydd Sul neu ddiwrnod sy'n ŵyl banc o fewn yr ystyr a roddir i “bank holiday” gan adran 1 o Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971(3);

ystyr “y ddogfen asesu” (“the assessment document”) yw'r ddogfen “Proffil asesu datblygiad plentyn Cyfnod Sylfaen: Ffurflen gofnodi” a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru ym Mai 2011;

ystyr “y ddogfen proffil” (“the profile document”) yw'r ddogfen “Proffil asesu datblygiad plentyn Cyfnod Sylfaen”(4) a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru ym Mai 2011;

ystyr “lleoliad cyfnod sylfaen” (“foundation phase setting”) yw ysgol a gynhelir, ysgol feithrin a gynhelir neu sefydliad lle y darperir addysg feithrin o dan y trefniadau a grybwyllir yn adran 98(2)(b) o Ddeddf 2002 ac yr addysgir y cyfnod sylfaen;

ystyr “meysydd datblygiadol” (“developmental areas”) yw'r meysydd datblygiadol canlynol a bennir yn y ddogfen proffil—

(i)

personol, cymdeithasol ac emosiynol;

(ii)

siarad a gwrando;

(iii)

darllen ac ysgrifennu;

(iv)

didoli, trefnu a rhifo;

(v)

ymagwedd at ddysgu, meddwl a rhesymu; a

(vi)

corfforol;

ystyr “perchennog”(“proprietor”) yw—

(a)

pan fo'r lleoliad cyfnod sylfaen yn ysgol a gynhelir neu'n ysgol feithrin a gynhelir, corff llywodraethu'r ysgol honno; a

(b)

mewn perthynas ag unrhyw leoliad cyfnod sylfaen arall, y person neu gorff sy'n gyfrifol am reoli'r lleoliad cyfnod sylfaen;

ystyr “person cyfrifol” (“responsible person”) yw pennaeth ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir, neu'r person sy'n gyfrifol am ddarparu addysg feithrin mewn lleoliad cyfnod sylfaen o dan y trefniadau a grybwyllir yn adran 98(2)(b) o Ddeddf 2002; ac

ystyr “rhif unigryw'r disgybl” (“unique pupil number”) yw cyfuniad o rifau a ddyrennir i ddisgybl drwy ddefnyddio fformiwla a bennir gan Weinidogion Cymru, ac sy'n benodol i'r disgybl hwnnw.

Asesiad cyfnod sylfaen

3.—(1Rhaid i'r person cyfrifol wneud trefniadau ar gyfer cynnal asesiad cyfnod sylfaen gan addysgwr, mewn perthynas â phob disgybl yn y cyfnod sylfaen (yn ddarostyngedig i baragraff (2)).

(2Nid yw'r ddyletswydd ym mharagraff (1) yn gymwys mewn perthynas â disgybl sydd wedi ei asesu yn unol â Rheoliadau Addysg (Asesu Sylfaenol) (Cymru) 1999(5).

(3Diben yr asesu yw canfod lefel cyrhaeddiad y disgybl mewn perthynas â phob un o'r meysydd datblygiadol.

(4Rhaid i ganlyniadau'r asesiad gael eu cofnodi gan yr addysgwr mewn dogfen asesu a chofnod cyrhaeddiad.

(5Rhaid i'r cofnod cyrhaeddiad gynnwys canlyniadau'r asesiad cyfnod sylfaen ynghyd â datganiad cryno, gan yr addysgwr, o lefel cyrhaeddiad y disgybl mewn perthynas â'r meysydd datblygiadol.

Amseru'r asesu

4.—(1Os yw disgybl wedi ei dderbyn i'r cyfnod sylfaen wedi i'r Gorchymyn hwn ddod i rym, rhaid cwblhau'r asesiad cyfnod sylfaen—

(a)cyn diwedd y cyfnod o 30 diwrnod gwaith wedi i'r disgybl gael ei dderbyn gyntaf i'r cyfnod sylfaen; neu

(b)cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol os, yn eithriadol ac am resymau y tu hwnt i reolaeth y person cyfrifol, na ellir cwblhau'r asesiad o fewn y cyfnod a ddiffinnir yn is-baragraff (a).

(2Os oedd disgybl wedi ei dderbyn gyntaf i'r cyfnod sylfaen cyn i'r Gorchymyn hwn ddod i rym, rhaid cwblhau'r asesiad cyfnod sylfaen ar gyfer y disgybl hwnnw cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.

Pwerau atodol Gweinidogion Cymru

5.  Caiff Gweinidogion Cymru wneud unrhyw ddarpariaeth sy'n rhoi effaith lawn i ddarpariaethau'r Gorchymyn hwn neu'n ychwanegu atynt rywfodd arall (ac eithrio darpariaeth sy'n rhoi neu'n gosod swyddogaethau fel a grybwyllir yn adran 108(6) o Ddeddf 2002) ac sy'n ymddangos yn hwylus iddynt.

Dyletswyddau'r perchennog

6.  Mae gan berchennog lleoliad cyfnod sylfaen y dyletswyddau a bennir yn Rhan 1 o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn.

Dyletswyddau personau cyfrifol

7.  Mae gan berson cyfrifol lleoliad cyfnod sylfaen y dyletswyddau a bennir yn Rhan 2 o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn.

Dyletswyddau awdurdodau lleol perthnasol

8.  Mae gan bob awdurdod lleol perthnasol y dyletswyddau a bennir yn Rhan 3 o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn.

Leighton Andrews

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru.

29 Gorffennaf 2011

Erthyglau 6, 7 ac 8

YR ATODLENDyletswyddau mewn perthynas ag asesiadau

Rhan 1Dyletswyddau perchnogion

1.  I'r graddau y rhoddir dyletswyddau i'r person cyfrifol, neu y'u gosodir arno, mewn perthynas ag asesiadau a gyflawnir yn unol ag erthyglau 3 a 4, rhaid i'r perchennog arfer swyddogaethau'r person hwnnw yn gyffredinol gyda golwg ar sicrhau y cydymffurfir ag unrhyw ofynion a osodir ar y person cyfrifol gan y Gorchymyn hwn.

Rhan 2Dyletswyddau personau cyfrifol

2.  Rhaid i'r person cyfrifol ddarparu i riant pob disgybl y cwblhawyd asesiad cyfnod sylfaen mewn perthynas ag ef yn y lleoliad cyfnod sylfaen hwnnw—

(a)copi o'r cofnod cyrhaeddiad; a

(b)os gofynnir amdano gan y rhiant, copi o'r ddogfen asesu.

3.  Rhaid i'r person cyfrifol hysbysu'r awdurdod lleol perthnasol, mewn ysgrifen—

(a)ynglŷn â phob disgybl yn y lleoliad cyfnod sylfaen a asesir yn unol ag erthyglau 3 a 4, bod yr asesiad cyfnod sylfaen wedi ei gynnal, a chanlyniadau'r asesiad hwnnw; a

(b)ynglŷn â phob disgybl yn y lleoliad cyfnod sylfaen na chynhaliwyd asesiad cyfnod sylfaen ohono yn unol ag erthyglau 3 a 4, na chynhaliwyd yr asesiad a'r rheswm pam na wnaed hynny.

4.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fo disgybl a aseswyd yn unol ag erthyglau 3 a 4 yn peidio â mynychu un lleoliad cyfnod sylfaen (“yr hen leoliad cyfnod sylfaen”) ac yn dechrau mynychu lleoliad cyfnod sylfaen arall (“y lleoliad cyfnod sylfaen newydd”).

(2Rhaid i berson cyfrifol y lleoliad cyfnod sylfaen newydd hysbysu person cyfrifol yr hen leoliad cyfnod sylfaen fod y disgybl wedi peidio â mynychu'r hen leoliad cyfnod sylfaen, a rhoi cyfeiriad y lleoliad cyfnod sylfaen newydd.

(3Pan gaiff yr hysbysiad, rhaid i berson cyfrifol yr hen leoliad cyfnod sylfaen hysbysu person cyfrifol y lleoliad cyfnod sylfaen newydd o'r materion canlynol, mewn ysgrifen—

(a)canlyniadau unrhyw asesiad cyfnod sylfaen a gyflawnwyd mewn perthynas â'r disgybl yn yr hen leoliad cyfnod sylfaen yn unol ag erthyglau 3 a 4; neu

(b)os na chynhaliwyd unrhyw asesiad cyfnod sylfaen mewn perthynas â'r disgybl yn yr hen leoliad cyfnod sylfaen yn unol â'r erthyglau hynny, y rheswm pam na chynhaliwyd asesiad o'r fath.

5.—(1Rhaid i hysbysiad sy'n ofynnol gan baragraff 3 gael ei roi ddim hwyrach na 10 diwrnod gwaith ar ôl y dyddiad y cyflawnir yr asesiad sy'n ofynnol gan erthyglau 3 a 4.

(2Rhaid i hysbysiad sy'n ofynnol gan baragraff 4(2) gael ei roi ddim hwyrach na 15 diwrnod gwaith wedi i'r disgybl ddechrau mynychu'r lleoliad cyfnod sylfaen newydd.

(3Rhaid i hysbysiad sy'n ofynnol gan baragraff 4(3) gael ei roi ddim hwyrach na 15 diwrnod gwaith ar ôl cael hysbysiad gan y lleoliad cyfnod sylfaen newydd.

(4Rhaid i unrhyw hysbysiad nas rhoddir yn unol â'r gofynion perthnasol yn is-baragraffau (1), (2) neu (3) gael ei roi cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol wedyn.

6.  Rhaid i hysbysiad sy'n ofynnol gan baragraff 3(a) neu gan baragraff 4(3)(a) gynnwys yr wybodaeth ganlynol mewn perthynas â'r asesiad y mae'n ymwneud ag ef—

(a)enw a chyfeiriad y lleoliad cyfnod sylfaen; a

(b)rhif yr ysgol (pan fo'n gymwys).

7.  Rhaid i hysbysiad sy'n ofynnol gan baragraff 3(a) neu baragraff 4(3)(a) gynnwys yr wybodaeth ganlynol mewn perthynas â'r disgybl y mae'n ymwneud ag ef—

(a)ei enw cyntaf;

(b)ei enw(au) pellach (os yn gymwys);

(c)ei gyfenw;

(ch)rhif unigryw'r disgybl (os yw'n hysbys);

(d)ei ryw;

(dd)ei ddyddiad geni;

(e)mis a blwyddyn yr asesiad;

(f)canlyniadau'r asesiad cyfnod sylfaen a gynhaliwyd yn unol ag erthygl 3 a 4 ym mhob un o'r meysydd datblygiadol (ond rhaid i'r cyfryw wybodaeth beidio â chynnwys copi o'r ddogfen asesu); ac

(ff)y dyddiad y derbyniwyd y disgybl gyntaf i'r cyfnod sylfaen.

8.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan yw'n ofynnol bod person cyfrifol yn rhoi hysbysiad o dan baragraff 3(b) neu baragraff 4(3)(b), nad oes asesiad cyfnod sylfaen wedi ei gynnal mewn perthynas â disgybl.

(2Os hysbyswyd y person cyfrifol fod asesiad cyfnod sylfaen wedi ei gynnal mewn perthynas â disgybl mewn lleoliad cyfnod sylfaen blaenorol, rhaid i'r person cyfrifol gynnwys copi o'r hysbysiad cynharach hwnnw, ac eithrio pan fo is-baragraff (3) yn gymwys .

(3Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys yn unig—

(a)os yw'r hysbysiad yn ofynnol gan is-baragraff 3(b), a

(b)os yw'r lleoliad cyfnod sylfaen y mae'r hysbysiad yn ofynnol ar ei gyfer, a'r lleoliad cyfnod sylfaen blaenorol ar yr adeg yr aseswyd y disgybl, yn lleoliad cyfnod sylfaen a gâi ei gynnal neu ei ariannu gan yr un awdurdod lleol.

9.—(1Rhaid i'r person cyfrifol gynnig cyfle rhesymol i riant disgybl, y cynhaliwyd asesiad mewn perthynas ag ef yn y lleoliad cyfnod sylfaen, drafod canlyniadau'r asesiad gydag addysgwr yn y lleoliad cyfnod sylfaen.

(2Rhaid gwneud y cynnig cyn diwedd y tymor ysgol y cynhaliwyd yr asesiad cyfnod sylfaen ynddo, a rhaid i'r person cyfrifol sicrhau bod unrhyw drafodaeth a gynhelir o ganlyniad yn digwydd yn ystod y tymor hwnnw neu cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl diwedd y tymor hwnnw.

Rhan 3Dyletswyddau awdurdodau lleol perthnasol

10.  Rhaid i bob awdurdod lleol perthnasol gael a chadw'r hysbysiadau a roddir iddynt o dan Rannau 1 a 2 o'r Atodlen hon.

11.  O fewn 14 diwrnod gwaith ar ôl cael cais ysgrifenedig gan Weinidogion Cymru, rhaid i awdurdod lleol perthnasol ddarparu i Weinidogion Cymru, ar ffurf y gellir ei darllen gan beiriant, drwy wefan rhyngrwyd ddiogel a ddarperir at y diben hwnnw gan Weinidogion Cymru, y cyfryw rai o'r hysbysiadau a roddwyd iddo o dan Rannau 1 a 2 o'r Atodlen hon ag y gofynnir amdanynt gan Weinidogion Cymru.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

O dan adran 108(2)(b)(iii) o Ddeddf Addysg 2002 caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, bennu pa bynnag drefniadau asesu yr ystyriant yn briodol ar gyfer y cyfnod sylfaen. Mae'r Gorchymyn hwn yn pennu'r trefniadau hynny. Daw darpariaethau'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Medi 2011 ar gyfer y disgyblion hynny yr addysgir y cyfnod sylfaen iddynt mewn ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir, ac ar 1 Medi 2012 ar gyfer yr holl ddisgyblion eraill yr addysgir y cyfnod sylfaen iddynt mewn lleoliad cyfnod sylfaen gwahanol (erthygl 2).

Mae'r Gorchymyn hwn yn darparu bod rhaid i asesiad cyfnod sylfaen gael ei gynnal gan addysgwr mewn perthynas â phob disgybl yn y cyfnod sylfaen, ac eithrio disgybl sydd wedi ei asesu yn unol â Rheoliadau Addysg (Asesu Sylfaenol) (Cymru) 1999. Mae'r Gorchymyn hwn yn pennu'r diben o gynnal asesiadau o'r fath (erthygl 3) ac yn gosod y terfynau amser ar gyfer cynnal yr asesiadau (erthygl 4).

Mae'r Gorchymyn hwn yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud darpariaeth sy'n rhoi effaith i ddarpariaethau'r Gorchymyn hwn, neu'n ychwanegu atynt rywfodd arall (erthygl 5).

Mae'r Gorchymyn hwn hefyd yn pennu dyletswyddau perchennog lleoliad cyfnod sylfaen (erthygl 6 a'r Atodlen), dyletswyddau'r person cyfrifol (erthygl 7 a'r Atodlen) a dyletswyddau awdurdodau lleol perthnasol (erthygl 8 a'r Atodlen) mewn perthynas â'r trefniadau asesu.

(1)

2002 p.32. Diwygiwyd is-adran (2) o adran 108 gan adran 21(1) a (7)(a) o Fesur Addysg (Cymru) 2009 (mccc 5). Diwygiwyd is-adran (6) o adran 108 gan O.S. 2010/1158 ac is-adran (11) gan baragraffau 11 i 13 o'r Atodlen i Fesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009 (mccc 1).

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan yr adrannau hynny i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).

(4)

Rhifau ISBN 978 0 7504 6158 0 a 978 0 7504 6159 7.

(5)

O.S. 1999/1188 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2010/1142 (Cy.101).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources