Print Options
PrintThe Whole
Instrument
PrintThis
Testun rhagarweiniol
only
Newidiadau dros amser i: Testun rhagarweiniol
Timeline of Changes
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Statws
Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 31/03/2021.
Newidiadau i ddeddfwriaeth:
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau'r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Changes to Legislation
Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.
Offerynnau Statudol Cymru
2011 Rhif 2379 (Cy.252)
ANIFEILIAID, CYMRU
Rheoliadau'r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
28 Medi 2011
Yn dod i rym
19 Hydref 2011
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi() at ddibenion gwneud Rheoliadau o dan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972() mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin yr Undeb Ewropeaidd.
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn yr adran honno ac fe ymddengys i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i'r cyfeiriadau at offerynnau yr Undeb Ewropeaidd yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn gael eu dehongli fel cyfeiriadau at yr offerynnau hynny fel y'u diwygiwyd o dro i dro.
Yn unol ag adran 56(1) o Ddeddf Cyllid 1973(), mae'r Trysorlys yn cydsynio â gwneud y Rheoliadau hyn.
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi.
Back to top