Search Legislation

Rheoliadau'r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Paragraff 6

 Help about opening options

Alternative versions:

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 31/03/2021.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau'r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

Achos 5: Cynhyrchion cyfansawddLL+C

6.—(1Cynhyrchion cyfansawdd a deunyddiau bwyd a restrir yn Atodiad II i Benderfyniad y Comisiwn 2007/275/EC.

(2Cynhyrchion cyfansawdd nad ydynt yn cynnwys cig neu gynhyrchion cig, pan fo llai na hanner y cynnyrch yn gynnyrch wedi ei brosesu sy'n dod o anifeiliaid, ar yr amod bod cynhyrchion o'r fath—

(a)yn sefydlog ar gyfer y silff mewn tymheredd amgylchynol neu eu bod, wrth gael eu gweithgynhyrchu, yn amlwg wedi bod drwy broses gyflawn o goginio neu driniaeth â gwres drwy gyfanrwydd eu sylweddau, fel bod unrhyw gynnyrch amrwd wedi ei annatureiddio;

(b)wedi eu dynodi'n glir y bwriedir iddynt gael eu bwyta gan bobl;

(c)wedi eu pacio'n ddiogel neu wedi eu selio mewn cynwysyddion glân; ac

(ch)bod dogfen fasnachol yn mynd gyda hwynt a'u bod wedi eu labelu mewn iaith swyddogol Aelod-wladwriaeth, fel bod y ddogfen honno a'r labelu gyda'i gilydd yn rhoi gwybodaeth ar natur, ansawdd a nifer y pecynnau o'r cynhyrchion cyfansawdd, gwlad eu tarddiad, y gweithgynhyrchydd a'r cynhwysyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 3 para. 6 mewn grym ar 19.10.2011, gweler rhl. 1

Back to top

Options/Help