Search Legislation

Gorchymyn Mesur Tai (Cymru) 2011 (Cychwyn Rhif 1) 2011

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2011 Rhif 2475 (Cy.267) (C.89)

TAI, CYMRU

Gorchymyn Mesur Tai (Cymru) 2011 (Cychwyn Rhif 1) 2011

Gwnaed

17 Hydref 2011

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 90(2) o Fesur Tai (Cymru) 2011(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur Tai (Cymru) 2011 (Cychwyn Rhif 1) 2011 ac mae'n gymwys o ran Cymru.

(2Yn y Gorchymyn hwn—

18 Hydref 2011 yw “y dyddiad cychwyn cyntaf” (“the first commencement date”);

2 Rhagfyr 2011 yw “yr ail ddyddiad cychwyn” (“the second commencement date”); ac

ystyr “y Mesur” (“the Measure”) yw Mesur Tai (Cymru) 2011.

Cychwyn darpariaethau penodol yn Rhan 2 o'r Mesur (Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig) ar y dyddiad cychwyn cyntaf

2.  Mae darpariaethau canlynol Rhan 2 o'r Mesur, a'r Atodlen iddo, yn dod i rym ar y dyddiad cychwyn cyntaf.

Pennod 1 (Perfformiad)

(a)Adran 35 (Safonau perfformiad) at ddiben ymgynghori ynghylch gosod safonau perfformiad o dan adran 33A o Ddeddf Tai 1996;

(b)Adran 36 (Canllawiau ar safonau perfformiad) at ddiben ymgynghori ynghylch dyroddi canllawiau ar safonau perfformiad o dan adran 33B o Ddeddf Tai 1996;

(c)Adran 37 (Ymgynghori ynghylch safonau a chanllawiau);

(ch)Adran 39 (Canllawiau ynghylch cwynion); a

(d)Adran 40 (Ymgynghori).

Pennod 2 (Ymgymeriadau gwirfoddol)

(dd)Y Bennod gyfan.

Pennod 3 (Rheoleiddio)

(e)Y Bennod gyfan, ac eithrio adran 42 (Methu â rhoi hysbysiad i feddianwyr).

Pennod 4 (Gorfodi)

(f)Adrannau 50 a 51 (Pwerau gorfodi);

(ff)Adran 52 (Hysbysiad gorfodi: seiliau ar gyfer rhoi hysbysiad) ac eithrio i'r graddau y mae'n ymwneud â safonau sy'n gymwys o dan adran 33A o Ddeddf Tai 1996;

(g)Adrannau 53 i 56 (Hysbysiad gorfodi — darpariaethau pellach);

(ng)Adran 57 (Cosb: Seiliau ar gyfer rhoi cosb) ac eithrio i'r graddau y mae'n ymwneud â safonau sy'n gymwys o dan adran 33A o Ddeddf Tai 1996;

(h)Adrannau 58 i 63 (Cosb — darpariaethau pellach);

(i)Adran 64 (Iawndal: Seiliau ar gyfer dyfarnu iawndal) ac eithrio i'r graddau y mae'n ymwneud â safonau sy'n gymwys o dan adran 33A o Ddeddf Tai 1996;

(j)Adrannau 65 i 71 (Iawndal — darpariaethau pellach);

(l)Adran 72 (Tendr rheoli) ac eithrio i'r graddau y mae'n ymwneud â safonau sy'n gymwys o dan adran 33A o Ddeddf Tai 1996;

(ll)Adrannau 73 i 75 (Rheoli etc. — darpariaethau pellach);

(m)Adran 76 (Penodi rheolwr ar landlord cymdeithasol cofrestredig) ac eithrio i'r graddau y mae'n ymwneud â safonau sy'n gymwys o dan adran 33A o Ddeddf Tai 1996; ac

(n)Adrannau 77 i 82 (Rheoli etc. — darpariaethau pellach).

Pennod 5 (Darpariaethau Amrywiol a Chyffredinol)

(o)Adrannau 83 i 87 (Penodi rheolwr dros dro ar Ansolfedd, Symud swyddogion o swydd, Penodi swyddogion newydd, Elusennau sydd “wedi cael cymorth cyhoeddus” a Mân ddiffiniadau); a

(p)Adran 88 (Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol) i'r graddau y mae'n ymwneud â'r darpariaethau yn yr Atodlen i'r Mesur sy'n cael eu cychwyn gan yr erthygl hon.

Yr Atodlen (Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol)

(ph)Paragraffau 1 i 3; ac

(r)Paragraffau 9 i 20.

Cychwyn gweddill y darpariaethau yn Rhan 2 o'r Mesur (Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig) ar yr ail ddyddiad cychwyn

3.  Mae'r darpariaethau canlynol yn Rhan 2 o'r Mesur, a'r Atodlen iddo, yn dod i rym ar yr ail ddyddiad cychwyn.

Pennod 1 (Perfformiad)

(a)Adran 35 (Safonau perfformiad) at bob diben sy'n weddill;

(b)Adran 36 (Canllawiau ar safonau perfformiad) at bob diben sy'n weddill; ac

(c)Adran 38 (Gwybodaeth o ran lefelau perfformiad).

Pennod 3 (Rheoleiddio)

(ch)Adran 42 (Methu â rhoi hysbysiad i feddianwyr).

Pennod 4 (Gorfodi)

(d)Adran 52 (Hysbysiad gorfodi: seiliau ar gyfer rhoi hysbysiad) at y dibenion sy'n weddill;

(dd)Adran 57 (Cosb: Seiliau ar gyfer rhoi cosb) at y dibenion sy'n weddill;

(e)Adran 64 (Iawndal: Seiliau ar gyfer dyfarnu iawndal) at y dibenion sy'n weddill;

(f)Adran 72 (Tendr rheoli) at y dibenion sy'n weddill; ac

(ff)Adran 76 (Penodi rheolwr ar landlord cymdeithasol cofrestredig) at y dibenion sy'n weddill.

Pennod 5 (Darpariaethau Amrywiol a Chyffredinol)

(g)Adran 88 (Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol) i'r graddau y mae'n ymwneud â'r darpariaethau yn yr Atodlen i'r Mesur sy'n cael eu cychwyn gan yr erthygl hon.

Yr Atodlen (Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol)

(ng)Paragraffau 4 i 8.

Huw Lewis

Y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth, un o Weinidogion Cymru

17 Hydref 2011

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn, a wnaed gan Weinidogion Cymru, yn cychwyn y rhan fwyaf o Ran 2 (Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig) o Fesur Tai (Cymru) 2011 (“y Mesur”) ar 18 Hydref 2011 (“y dyddiad cychwyn cyntaf”) a'r gweddill yn dod i rym ar 2 Rhagfyr 2011 (“yr ail ddyddiad cychwyn”).

Hwn yw'r Gorchymyn Cychwyn cyntaf sy'n cael ei wneud o dan y Mesur.

Daeth Rhan 3 (Darpariaethau Atodol a Darpariaethau Terfynol) o'r Mesur i rym, yn unol ag adran 90(2), o 10 Gorffennaf 2011 ymlaen (deufis ar ôl i'r Mesur gael ei gymeradwyo gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor).

Mae Rhan 2 o'r Mesur yn diwygio Rhan 1 o Ddeddf Tai 1996 ac Atodlen 1 iddi.

Mae effaith yr adrannau sy'n cael eu dwyn i rym ar y dyddiad cychwyn cyntaf fel a ganlyn:

Mae Pennod 1 o Ran 2 o'r Mesur yn ymwneud â pherfformiad Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig. Mae adrannau 35 a 36 o Bennod 1 yn cael eu dwyn i rym yn rhannol at ddibenion ymgynghori ynghylch gosod safonau perfformiad o dan adran 33A o Ddeddf Tai 1996 a dyroddi canllawiau ar safonau perfformiad o dan adran 33B o Ddeddf Tai 1996. Mae adrannau 35 a 36 yn cael eu dwyn i rym yn llawn ar yr ail ddyddiad cychwyn.

Mae Pennod 2 wedi ei chychwyn ac yn gwneud darpariaeth i Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig roi, ac i Weinidogion Cymru dderbyn, ymgymeriadau gwirfoddol yn lle dulliau gorfodi eraill.

Mae Pennod 3 wedi ei chychwyn, ac eithrio adran 42 sy'n dod i rym ar yr ail ddyddiad cychwyn, ac yn gwneud darpariaeth ar gyfer arolygon ac arolygiadau.

Mae Pennod 4 wedi ei chychwyn ac eithrio pan fo darpariaethau'n ymwneud â'r safonau perfformiad sydd i'w gosod o dan Bennod 1. Mae Pennod 4 yn gwneud darpariaeth i Weinidogion Cymru gymryd camau gorfodi yn erbyn Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig.

Mae Pennod 5 wedi ei chychwyn ac yn cynnwys darpariaethau amrywiol gan gynnwys penodi rheolwr dros dro, symud swyddogion o swydd, a mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol. Mae'r rhan fwyaf o'r mân ddiwygiadau a'r diwygiadau canlyniadol yn yr Atodlen i'r Mesur yn dod i rym ar y dyddiad cychwyn cyntaf a'r gweddill yn dod i rym ar yr ail ddyddiad cychwyn pan fydd gweddill Penodau 1 a 4 yn dod i rym.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources