- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
Offerynnau Statudol Cymru
DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU
Gwnaed
25 Hydref 2011
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
27 Hydref 2011
Yn dod i rym
21 Tachwedd 2011
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) (Diwygio) 2011.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 21 Tachwedd 2011 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “Rheoliadau 2004” yw Rheoliadau'r Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) 2004(3).
2. Mae Rheoliadau 2004 wedi eu diwygio fel a ganlyn;
3. Yn rheoliad 2(1)(4)—
(a)Hepgorer y diffiniad o “y Cynulliad” (“the Assembly”);
(b)hepgorer y diffiniad o “gwastraff trefol a gasglwyd” (“collected municipal waste”);
(c)yn y mannau priodol mewnosoder—
“ystyr “gwastraff trefol a gasglwyd” (“collected municipal waste”) yw gwastraff trefol a gasglwyd gan awdurdod lleol(5);
ystyr “gwastraff trefol pydradwy a gasglwyd” (“biodegradable collected municipal waste”) yw gwastraff trefol pydradwy a gasglwyd gan awdurdod lleol(6);”;
(ch)hepgorer y diffiniadau o—“awdurdod casglu gwastraff” (“waste collection authority”) ac “awdurdod gwaredu gwastraff” (“waste disposal authority”).
4. Ym mhob man y mae'n digwydd yn rheoliadau 2, 11, 15 a 16 yn lle “y Cynulliad” (“the Assembly”) rhodder “Gweinidogion Cymru” (“the Welsh Ministers”).
5. Yn y mannau a ganlyn yn lle “gwastraff trefol” (“municipal waste”) rhodder “gwastraff trefol a gasglwyd” (“collected municipal waste”)—
(a)rheoliad 6(1)(b) ac (c);
(b)yn yr ail fan y mae'n digwydd yn rheoliad 14(2)(i);
(c)rheoliad 14(2)(ii).
6. Ym mhob man y mae'n digwydd yn lle “gwastraff trefol pydradwy” (“biodegradable municipal waste”) rhodder “gwastraff trefol pydradwy a gasglwyd” (“biodegradable collected municipal waste”).
7. Yn lle rheoliad 8 rhodder—
Bernir bod chwe deg un y cant o'r swm o wastraff trefol a gasglwyd yn wastraff trefol pydradwy a gasglwyd.”.
John Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, un o Weinidogion Cymru
25 Hydref 2011
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae Deddf Gwastraff a Masnachu Allyriadau 2003 (“Deddf GAMA”) yn sefydlu system o dargedau ar gyfer lleihau maint y gwastraff trefol pydradwy sy'n cael ei anfon ar gyfer tirlenwi ym mhob rhanbarth o'r DU ac yn y DU yn gyfan. Mae hyn yn rhoi effaith i rwymedigaethau'r DU o dan erthygl 5(2) o Gyfarwyddeb y Cyngor 1999/31/EC ar dirlenwi gwastraff (OJ Rhif L 182, 17.7.1999, t. 1).
Cesglir a gwaredir gwastraff trefol pydradwy gan awdurdodau lleol a chan y sector preifat. Mae'r targedau yn gymwys i'r ddau ohonynt.
Fel rhan o'r drefn i sicrhau bod y targedau'n cael eu bodloni, mae Deddf GAMA yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ddyrannu lwfansau i awdurdodau lleol yn eu swyddogaeth fel awdurdodau gwaredu gwastraff. Caniateir i awdurdodau lleol dirlenwi un dunnell o wastraff trefol pydradwy ar gyfer pob lwfans a ddelir ganddynt. Ceir y rheolau manwl ar sut y mae'r system o lwfansau'n gweithio yn Rheoliadau'r Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru ) 2004 (O.S. 2004/1490 (Cy. 155)). Nid yw'r Cynllun hwnnw'n gymwys i wastraff a waredwyd gan y sector preifat.
Defnyddir y term “biodegradable municipal waste” (“gwastraff trefol pydradwy”) yn Neddf GAMA i gyfeirio at y gwastraff y mae'r Cynllun Lwfansau Tirlenwi yn ei gwmpasu ac i gyfeirio at y categori ehangach o wastraff y mae'r targedau'n ei gwmpasu. Mae Deddf GAMA yn cael ei diwygio er mwyn gwahaniaethu rhwng y ddau. Gwneir y diwygiadau hyn gan Reoliadau Deddf Gwastraff a Masnachu Allyriadau 2003 (Diwygio) 2011 (O.S. 2011/2499) a fydd yn dod i rym ar yr un adeg y daw'r Rheoliadau hyn i rym. Dangosir y gwahaniaeth drwy gyflwyno'r term “gwastraff trefol pydradwy a gasglwyd gan awdurdod lleol” i gyfeirio at y gwastraff y mae'r Cynllun Lwfansau Tirlenwi yn ymwneud ag ef. Gwneir diwygiad cysylltiedig i gyflwyno'r term “gwastraff trefol a gasglwyd gan awdurdod lleol” i wahaniaethu rhwng gwastraff trefol a gasglwyd gan awdurdodau lleol wrth wastraff trefol nas casglwyd gan awdurdodau lleol.
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau'r Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) 2004 fel bod y termau newydd hefyd yn cael eu defnyddio yn Rheoliadau 2004. Diwygiadau technegol yw'r rhain a fydd yn cael effaith niwtral ar awdurdodau lleol a'r sector busnes a'r sector gwirfoddol.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd hi'n anghenrheidiol i wneud asesiad effaith rheoleiddiol o ran costau a manteision tebygol cydymffurfio â'r Rheoliadau hyn.
2003 p. 33. Mae diwygiadau i adran 24 o'r Ddeddf nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.
Trosglwyddwyd y swyddogaethau hyn i Weinidogion Cymru gan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi. Mae diwygiadau i Atodlen 11 nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.
O.S. 2004/1490 (Cy. 155); diwygiwyd gan O.S.2005/1820 (Cy.148) Atodlen 2 paragraffau 5 i 8) ac O.S. 2011/971 (Cy.141) rheoliad 3.
Mae diwygiadau i reoliad 2(1) nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.
I gael ystyr “local authority collected municipal waste” gweler adran 21(4) o'r Ddeddf.
I gael ystyr “biodegradable local authority collected municipal waste” gweler adran 21(2)(b) o'r Ddeddf.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:
The data on this page is available in the alternative data formats listed: