Search Legislation

Rheoliadau'r Hawl i Reoli (Manylion a Ffurflenni Rhagnodedig) (Cymru) 2011

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Hawl i Reoli (Manylion a Ffurflenni Rhagnodedig) (Cymru) 2011 a deuant i rym ar 30 Tachwedd 2011.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran mangreoedd yng Nghymru.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002;

ystyr “landlord”, (“landlord”) o ran mangre RTM, yw person sy'n landlord o dan brydles ar y cyfan o'r fangre neu unrhyw ran ohoni(1);

ystyr “mangre RTM” (“RTM premises”) yw mangre y mae cwmni Hawl i Reoli (“cwmni RTM”) yn bwriadu caffael yr hawl i reoli mewn perthynas â hi(2);

ystyr “trydydd parti” (“third party”), mewn perthynas â mangre RTM, yw person sy'n barti i brydles ar y cyfan o'r fangre neu unrhyw ran ohoni heblaw fel landlord neu denant(3).

Cynnwys ychwanegol yr hysbysiad sy'n gwahodd cymryd rhan

3.—(1Rhaid i hysbysiad sy'n gwahodd cymryd rhan gynnwys, yn ychwanegol at y datganiadau a'r wybodaeth y cyfeirir atynt yn adran 78(2)(a) i (c) o Ddeddf 2002 (hysbysiad yn gwahodd cymryd rhan), y manylion a grybwyllir ym mharagraff (2).

(2Dyma'r manylion y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)—

(a)rhif cofrestredig y cwmni RTM(4), cyfeiriad ei swyddfa gofrestredig ac enwau ei gyfarwyddwyr ac, os yw hynny'n gymwys, enw ei ysgrifennydd;

(b)enw'r landlord ac enw unrhyw drydydd parti;

(c)datganiad y bydd y cwmni RTM, yn ddarostyngedig i'r eithriadau a grybwyllir yn is-baragraff (d), yn gyfrifol am y canlynol, os bydd y cwmni'n caffael yr hawl i reoli—

(i)cyflawni dyletswyddau'r landlord o dan y brydles; a

(ii)arfer pwerau'r landlord o dan y brydles,

o ran gwasanaethau, trwsio, cynnal a chadw, gwelliannau, yswiriant a rheoli;

(ch)datganiad y caiff y cwmni RTM orfodi cyfamodau tenant na chawsant eu trosglwyddo, yn ddarostyngedig i'r eithriad a grybwyllir yn is-baragraff (d)(ii), os bydd y cwmni'n caffael yr hawl i reoli(5);

(d)datganiad na fydd y cwmni RTM, os bydd yn caffael yr hawl i reoli, yn gyfrifol am gyflawni dyletswyddau'r landlord nac am arfer pwerau'r landlord o dan y brydles—

(i)ynglŷn â mater sy'n ymwneud yn unig â rhan o'r fangre sy'n fflat neu'n uned arall nad yw'n ddarostyngedig i brydles sy'n cael ei dal gan denant cymwys(6); neu

(ii)ynglŷn ag ailfynediad neu fforffediad;

(dd)datganiad y bydd gan y cwmni RTM, os bydd yn caffael yr hawl i reoli, swyddogaethau o dan y darpariaethau statudol y cyfeirir atynt yn Atodlen 7 i Ddeddf 2002;

(e)datganiad bod y cwmni RTM yn bwriadu neu, yn ôl fel y digwydd, nad yw'n bwriadu, penodi asiant rheoli; ac—

(i)os yw yn bwriadu gwneud hynny, datganiad—

(aa)o enw a chyfeiriad yr asiant rheoli arfaethedig (os ydynt yn hysbys); a

(bb)os yw hyn yn wir, mai'r person yw asiant rheoli'r landlord; neu

(ii)os nad yw'n bwriadu gwneud hynny, y cymwysterau neu'r profiad (os oes rhai) sydd gan aelodau presennol y cwmni RTM mewn perthynas â rheoli eiddo preswyl;

(f)datganiad y gall person sy'n aelod neu sydd wedi bod yn aelod o'r cwmni RTM fod yn atebol am gostau a dynnwyd gan y landlord ac eraill o ganlyniad i'r hysbysiad, os bydd y cwmni'n rhoi hysbysiad hawlio(7);

(ff)datganiad sy'n cynghori'r sawl sy'n cael yr hysbysiad (yn gwahodd cymryd rhan) i geisio cymorth proffesiynol os nad yw'n llwyr ddeall diben neu oblygiadau'r hysbysiad; ac

(g)yr wybodaeth a ddarperir yn y nodiadau i'r ffurflen a nodir yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn.

Cynnwys ychwanegol hysbysiad hawlio

4.  Yn ychwanegol at y manylion sy'n ofynnol o dan adran 80(2) i (7) (cynnwys hysbysiad hawlio) o Ddeddf 2002, rhaid i hysbysiad hawlio gynnwys—

(a)datganiad bod person—

(i)nad yw'n dadlau â hawlogaeth y cwmni RTM i gaffael yr hawl i reoli(8); a

(ii)sy'n barti rheoli o dan gontract rheoli(9) sy'n bodoli yn union cyn y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad hawlio,

yn gorfod rhoi hysbysiad, yn unol ag adran 92 o Ddeddf 2002 (dyletswyddau i roi hysbysiad o gontractau), i'r cwmni RTM ac i'r person sy'n barti contractiwr(10);

(b)datganiad bod gan landlordiaid o dan brydlesau ar y cyfan neu unrhyw ran o'r fangre y mae'r hysbysiad hawlio yn berthnasol iddi hawlogaeth i fod yn aelodau o'r cwmni RTM o'r dyddiad caffael(11) ymlaen;

(c)datganiad nad yw'r hysbysiad wedi'i annilysu gan unrhyw anghywirdeb mewn unrhyw fanylion sy'n ofynnol o dan adran 80(2) i (7) o Ddeddf 2002 neu'r rheoliad hwn, ond y caiff person sydd o'r farn bod unrhyw fanylion sydd yn yr hysbysiad hawlio yn anghywir—

(i)nodi'r manylion dan sylw i'r cwmni RTM a roddodd yr hysbysiad; a

(ii)dangos ym mha fodd y bernir eu bod yn anghywir;

(ch)datganiad sy'n cynghori person sy'n cael yr hysbysiad ond nad yw'n llwyr ddeall diben yr hysbysiad i geisio cymorth proffesiynol; a

(d)yr wybodaeth a ddarperir yn y nodiadau i'r ffurflen a nodir yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn.

Cynnwys ychwanegol gwrth-hysbysiad

5.  Rhaid i wrth-hysbysiad gynnwys (yn ychwanegol at y datganiad y cyfeirir ato yn adran 84(2)(a) a (b) (gwrth-hysbysiadau) o Ddeddf 2002)—

(a)datganiad y caiff y cwmni RTM, os cafodd y cwmni un gwrth-hysbysiad neu fwy sy'n cynnwys datganiad a grybwyllir yn adran 84(2)(b) o Ddeddf 2002, wneud cais i dribiwnlys prisio lesddaliad am benderfyniad bod gan y cwmni, ar y dyddiad y rhoddwyd yr hysbysiad o hawliad, hawlogaeth i gaffael yr hawl i reoli'r fangre a bennwyd yn yr hysbysiad hawlio;

(b)datganiad nad yw'r cwmni RTM, os yw wedi cael un gwrth-hysbysiad neu fwy sy'n cynnwys datganiad a grybwyllir yn adran 84(2)(b) o Ddeddf 2002, yn caffael yr hawl i reoli'r fangre a bennwyd yn yr hysbysiad hawlio oni bai—

(i)y penderfynir yn derfynol(12) pan wneir cais i dribiwnlys prisio lesddaliad fod gan y cwmni hawlogaeth i gaffael yr hawl i reoli'r fangre; neu

(ii)bod y person a roddodd y gwrth-hysbysiad, neu'r personau a roddodd y gwrth-hysbysiadau, yn cytuno, mewn ysgrif, fod gan y cwmni yr hawlogaeth honno; ac

(c)yr wybodaeth a ddarperir yn y nodiadau i'r ffurflen a nodir yn Atodlen 3 i'r Rheoliadau hyn.

Cynnwys ychwanegol hysbysiad contractiwr

6.—(1Rhaid i hysbysiad contractiwr(13) gynnwys (yn ychwanegol at y manylion y cyfeirir atynt yn adran 92(3)(a) i (d) (dyletswyddau i roi hysbysiadau o gontractau) o Ddeddf 2002) ddatganiad yn cynghori'r person y rhoddir yr hysbysiad iddo i gysylltu â'r cwmni RTM yn y cyfeiriad a roddir yn yr hysbysiad os yw'n dymuno darparu i'r cwmni RTM wasanaethau y mae wedi'u darparu, fel y parti contractiwr i'r parti rheolwr o dan y contract; a

(2yr wybodaeth a ddarperir yn y nodiadau i'r ffurflen a nodir yn Atodlen 4 i'r Rheoliadau hyn.

Cynnwys ychwanegol hysbysiad contract

7.  Rhaid i hysbysiad contract(14) gynnwys (yn ychwanegol at y manylion y cyfeirir atynt yn adran 92(7)(a) o Ddeddf 2002)—

(a)cyfeiriad y person sy'n barti contractiwr, neu'n barti is-gontractiwr(15), o dan y contract y rhoddir manylion amdano yn yr hysbysiad;

(b)datganiad sy'n cynghori'r cwmni RTM y dylai gysylltu â'r parti contractiwr, neu'r parti is-gontractiwr, yn y cyfeiriad a roddir yn yr hysbysiad, os yw'n dymuno defnyddio'r gwasanaethau y mae'r parti contractiwr, neu'r parti is-gontractiwr, wedi'u darparu i'r parti rheolwr o dan y contract hwnnw; ac

(c)yr wybodaeth a ddarperir yn y nodiadau i'r ffurflen a nodir yn Atodlen 5 i'r Rheoliadau hyn.

Ffurf yr hysbysiadau

8.—(1Rhaid i hysbysiadau sy'n gwahodd cymryd rhan fod yn y ffurf a nodir yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn neu mewn ffurf sydd â'r un effaith ar yr amod ei bod yn cynnwys yr holl fanylion rhagnodedig fel y'u nodir yn rheoliad 3.

(2Rhaid i hysbysiadau hawlio fod yn y ffurf a nodir yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn neu mewn ffurf sydd â'r un effaith ar yr amod ei bod yn cynnwys yr holl fanylion rhagnodedig fel y'u nodir yn rheoliad 4.

(3Rhaid i wrth-hysbysiadau fod yn y ffurf a nodir yn Atodlen 3 i'r Rheoliadau hyn neu mewn ffurf sydd â'r un effaith ar yr amod ei bod yn cynnwys yr holl fanylion rhagnodedig fel y'u nodir yn rheoliad 5.

(4Rhaid i hysbysiadau contractiwr fod yn y ffurf a nodir yn Atodlen 4 i'r Rheoliadau hyn neu mewn ffurf sydd â'r un effaith ar yr amod ei bod yn cynnwys yr holl fanylion rhagnodedig fel y'u nodir yn rheoliad 6.

(5Rhaid i hysbysiadau contract fod yn y ffurf a nodir yn Atodlen 5 i'r Rheoliadau hyn neu mewn ffurf sydd â'r un effaith ar yr amod ei bod yn cynnwys yr holl fanylion rhagnodedig fel y'u nodir yn rheoliad 7.

Dirymu a darpariaethau trosiannol

9.—(1Mae Rheoliadau'r Hawl i Reoli (Manylion a Ffurf Rhagnodedig) (Cymru) 2004(16) (“Rheoliadau 2004”) wedi'u dirymu.

(2Trinnir unrhyw hysbysiad a gyflwynir o dan Reoliadau 2004 ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym neu ar ôl hynny fel pe bai wedi'i gyflwyno o dan y Rheoliadau hyn.

Huw Lewis

Y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth, un o Weinidogion Cymru

5 Tachwedd 2011

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources